ddylen ni encilio?resources.hwb.wales.gov.uk/.../ddylen_ni_encilio.pdf · o waddod ac wedi cyflymu...

5
1 Y Cylchgrawn Daearyddol DDYLEN NI ENCILIO? A m ganrifoedd, rydyn ni wedi gwarchod morlin Prydain rhag erydiad a llifogydd. Mewn rhai lleoedd, mae’r morlin hyd yn oed wedi cael ei ymestyn, gyda chorsydd a chilfachau llanw bas wedi’u hadennill o’r môr. Ond mae hyn i gyd ar fin newid. Mae rheoli arfordirol yn wynebu heriau mawr yn yr 21ain ganrif. Bydd newid yn yr hinsawdd yn codi lefelau’r môr, yn achosi stormydd mwy pwerus ac yn cyflymu erydiad. Rheoli arfordirol a chynlluniau rheoli traethlin Yng Nghymru a Lloegr, y gell waddod ydy uned sylfaenol rheoli arfordirol. Rhannau o’r morlin sy’n naturiol a hunangynhaliol o ran symudiad tywod a graean bras ydy celloedd gwaddod. Mae eu ffiniau yn cyd-daro â nodweddion ffisegol mawr fel morydau a phentiroedd. O fewn celloedd gwaddod, mae gwaddodion yn cael eu storio mewn traethau, barrau alltraeth, twyni, morfeydd heli a fflatiau llaid, ac yn cael eu trosglwyddo rhwng storfeydd gan donnau, ceryntau a gwyntoedd. Mae cynlluniau rheoli traethlin (CRhT) yn ffurfio sail i gynllunio a rheoli arfordiroedd. Ar hyn o bryd, mae 22 CRhT ar gael ar gyfer morlin Cymru a Lloegr, ac maen nhw’n cael eu hadolygu a’u diweddaru’n rheolaidd. Mae CRhT yn amlinellu strategaethau ar gyfer hydoedd byr o draethlinau a adwaenir fel ardaloedd rheoli ac unedau polisi. Gan fod y cyfrifoldeb am amddiffyn arfordiroedd yn rhan o waith cynghorau dosbarth yn ogystal ag Asiantaeth yr Amgylchedd, mae grwpiau arfordirol yn cydgysylltu polisïau rhwng awdurdodau arforol cyfagos. Strategaethau rheoli arfordirol Yr athroniaeth sydd wrth wraidd y CRhT ydy bod yn rhaid i strategaethau tymor hir ar gyfer yr arfordir fod yn gynaliadwy ac mae’n rhaid iddynt weithio gyda phrosesau naturiol. I’r perwyl yma, mae un o dair strategaeth reoli yn cael ei gweithredu ar gyfer pob ardal reoli ac uned bolisi: l dal y llinell l dim ymyriad gweithredol l adliniad rheoledig Mae ‘dal y llinell’ yn golygu cynnal neu hyd yn oed gryfhau amddiffynfeydd caled presennol, fel ym Mae Robin Hood (Ffigur 1). Mae’r polisi hwn yn berthnasol i aneddiadau arfordirol mwy ac i isadeileddau pwysig fel priffyrdd, gorsafoedd pw ˆ er, terfynellau nwy a phurfeydd olew. Mae cyhoeddiadau diweddar, sy’n gyson â’r polisi Mae lefelau moroedd sy’n codi a newid yn yr hinsawdd yn golygu bod lefelau presennol amddiffynfeydd arfordirol yn hollol anghynaliadwy. Mae Michael Raw yn cwestiynu a ydy gadael rhai rhannau o forlin Prydain i drugaredd y môr yn beth mor ddrwg â hynny mewn gwirionedd. © iStockphoto

Upload: others

Post on 29-Aug-2020

2 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: DDYLEN NI ENCILIO?resources.hwb.wales.gov.uk/.../ddylen_ni_encilio.pdf · o waddod ac wedi cyflymu erydiad. Yn drydydd, gyda lefelau moroedd yn codi a newid yn yr hinsawdd, fydd hi

1 Y Cylchgrawn Daearyddol

DDYLEN NI ENCILIO?

Am ganrifoedd, rydyn ni wedi gwarchod morlin Prydain rhag erydiad a llifogydd. Mewn rhai

lleoedd, mae’r morlin hyd yn oed wedi cael ei ymestyn, gyda chorsydd a chilfachau llanw bas wedi’u hadennill o’r môr. Ond mae hyn i gyd ar fin newid. Mae rheoli arfordirol yn wynebu heriau mawr yn yr 21ain ganrif. Bydd newid yn yr hinsawdd yn codi lefelau’r môr, yn achosi stormydd mwy pwerus ac yn cyflymu erydiad.

Rheoli arfordirol a chynlluniau rheoli traethlin

Yng Nghymru a Lloegr, y gell waddod ydy uned sylfaenol rheoli arfordirol. Rhannau o’r morlin sy’n naturiol a hunangynhaliol o ran symudiad tywod a graean bras ydy celloedd gwaddod. Mae eu ffiniau yn cyd-daro â nodweddion ffisegol mawr fel morydau a

phentiroedd. O fewn celloedd gwaddod, mae gwaddodion yn cael eu storio mewn traethau, barrau alltraeth, twyni, morfeydd heli a fflatiau llaid, ac yn cael eu trosglwyddo rhwng storfeydd gan donnau, ceryntau a gwyntoedd.

Mae cynlluniau rheoli traethlin (CRhT) yn ffurfio sail i gynllunio a rheoli arfordiroedd. Ar hyn o bryd, mae 22 CRhT ar gael ar gyfer morlin Cymru a Lloegr, ac maen nhw’n cael eu hadolygu a’u diweddaru’n rheolaidd. Mae CRhT yn amlinellu strategaethau ar gyfer hydoedd byr o draethlinau a adwaenir fel ardaloedd rheoli ac unedau polisi. Gan fod y cyfrifoldeb am amddiffyn arfordiroedd yn rhan o waith cynghorau dosbarth yn ogystal ag Asiantaeth yr Amgylchedd, mae grwpiau arfordirol yn cydgysylltu polisïau rhwng awdurdodau arforol cyfagos.

Strategaethau rheoli arfordirol

Yr athroniaeth sydd wrth wraidd y CRhT ydy bod yn rhaid i strategaethau tymor hir ar gyfer yr arfordir fod yn gynaliadwy ac mae’n rhaid iddynt weithio gyda phrosesau naturiol. I’r perwyl yma, mae un o dair strategaeth reoli yn cael ei gweithredu ar gyfer pob ardal reoli ac uned bolisi:l dal y llinelll dim ymyriad gweithredoll adliniad rheoledig

Mae ‘dal y llinell’ yn golygu cynnal neu hyd yn oed gryfhau amddiffynfeydd caled presennol, fel ym Mae Robin Hood (Ffigur 1). Mae’r polisi hwn yn berthnasol i aneddiadau arfordirol mwy ac i isadeileddau pwysig fel priffyrdd, gorsafoedd pwer, terfynellau nwy a phurfeydd olew. Mae cyhoeddiadau diweddar, sy’n gyson â’r polisi

Mae lefelau moroedd sy’n codi a newid yn yr hinsawdd yn golygu bod lefelau presennol amddiffynfeydd arfordirol yn hollol anghynaliadwy. Mae Michael Raw yn cwestiynu a ydy gadael rhai rhannau o forlin Prydain i drugaredd y môr yn beth mor ddrwg â hynny mewn gwirionedd.

© iS

tock

phot

o

Page 2: DDYLEN NI ENCILIO?resources.hwb.wales.gov.uk/.../ddylen_ni_encilio.pdf · o waddod ac wedi cyflymu erydiad. Yn drydydd, gyda lefelau moroedd yn codi a newid yn yr hinsawdd, fydd hi

2 Y Cylchgrawn Daearyddol

DDYLEN NI ENCILIO?

hwn, yn cynnwys rhwystr llifogydd £50 miliwn ar gyfer Ipswich, ac amddiffynfeydd arfordirol newydd yn Jaywick ger Clacton er mwyn gwarchod 2,600 o gartrefi sy’n sefyll bron ar lefel y môr.

Ar hyd morlinau lle cynigir ‘dim ymyriad gweithredol’, mae prosesau naturiol fel erydiad, dyddodiad, trawsgludo gwaddod a llifogydd yn digwydd yn ddirwystr, waeth beth fo’r costau economaidd. Mae’r polisi hwn yn weithredol ar hyd morlin Prydain fwy neu lai i gyd, lle nad oes perygl o erydiad na llifogydd. Fel y gwelwn, fodd bynnag, mae’r polisi hwn yn ddadleuol lle mae ‘gwneud dim’ yn golygu gadael eiddo i drugaredd y môr (Ffigur 2).

Mae’r trydydd polisi, ‘adliniad rheoledig’, hyd yn oed yn fwy dadleuol na ‘dim ymyriad gweithredol’. Mae’n aml yn golygu datgymalu amddiffynfeydd presennol a symud y morlin yn ôl, gan ganiatáu i ardaloedd gael eu gorlifo gan y môr. Felly, mewn gwirionedd, mae’r mater o ‘encilio’ yn canoli ar y polisi dwbl o ‘dim ymyriad gweithredol’ ac ‘adliniad rheoledig’.

Y dadleuon

Er mwyn ateb y cwestiwn ‘ddylen ni encilio?’, rhaid i ni werthuso’r dadleuon dros ‘dim ymyriad gweithredol’ ac ‘adliniad rheoledig’. Does yna ddim amheuaeth nad ydy polisïau o’r fath yn ddadleuol a’u bod yn cael lle amlwg yn y cyfryngau. Yn 2008, corddwyd dadl gan Natural England pan gyhoeddodd y byddai 15 km o amddiffynfeydd arfordirol rhwng Eccles a Winterton yn Norfolk yn anghynaliadwy o fewn 20-50 mlynedd. Roedd eu hopsiwn

dewisol, ‘adliniad rheoledig’ yn golygu colli chwe phentref, pedwar llyn dwr croyw a phum eglwys ganoloesol. Ar hyn o bryd, mae’n anodd gweld sut y gall penderfyniad o’r fath, a fyddai’n gorlifo dros 100 km2 ac yn achosi newid eithafol i ddaearyddiaeth gogledd-ddwyrain Norfolk (Ffigur 3), fod yn dderbyniol. O ran y cyhoedd, byddai hyn yn enciliad rhy bell yn ôl.

Ychydig gilometrau i’r gogledd o Eccles, mae pentref Happisburgh wedi dod yn gyfystyr ag erydiad arfordirol a rheoli arfordirol digydymdeimlad. Ers 1990, mae Happisburgh wedi colli 25 ty i erydiad, gydag o leiaf hanner dwsin arall dan fygythiad ar hyn o bryd. Fodd bynnag, yr hyn sydd wedi cythruddo’r pentrefwyr fwyaf ydy’r newid

ym mholisi rheoli arfordirol. Hyd at 1990, roedd y pentref yn cael ei amddiffyn gan linell o wrthgloddiau wrth droed y clogwyni. Cafodd y gwrthgloddiau eu rhannol ddinistrio mewn storm y flwyddyn honno, a phenderfynwyd peidio â’u hatgyweirio. Roedd hyn yn gwrthdroi’r polisi blaenorol, gan gondemnio’r pentref i farwolaeth araf. Mae’r erydu trawiadol i’r clogwyni o glai meddal a graean eisoes wedi cerfio bae bychan i’r de o’r pentref. Mae grwp gweithredu lleol wedi lobïo’r llywodraeth (Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig) a Chyngor Dosbarth Gogledd Norfolk i atgyweirio’r gwrthgloddiau. Fodd bynnag, mae’r CRhT yn cefnogi’r polisi ‘dim ymyriad gweithredol’ ac mae’r mater yn aros heb ei ddatrys.

Ffigur 1 Amddiffynfeydd arfordirol caled: morglawdd ym Mae Robin Hood

Ffigur 2 Tai yn Birling Gap, rhan o glogwyni’r ‘Seven Sisters’ yn Nwyrain Sussex wedi ei gadael i drugaredd y môr

© iS

tock

phot

o

© F

reeF

oto.

com

Ffigur 3 GDd Norfolk: effaith ‘adliniad rheoledig’ arfaethedig

G

Eccles

Sea Palling Ardal llifogydd tebygol

Morglawdd newydd

Morglawdd newydd

Waxham

Horsey

Hickling

>10 m

>10 m>5 m

>5 m

>5 mPotter Higham

5 kmHappisburgh

Page 3: DDYLEN NI ENCILIO?resources.hwb.wales.gov.uk/.../ddylen_ni_encilio.pdf · o waddod ac wedi cyflymu erydiad. Yn drydydd, gyda lefelau moroedd yn codi a newid yn yr hinsawdd, fydd hi

3 Y Cylchgrawn Daearyddol

DDYLEN NI ENCILIO?

Mewn achosion o’r fath, mae pryder preswylwyr lleol, sydd â’u cartrefi a’u bywoliaeth dan fygythiad, yn gwbl ddealladwy. Eto i gyd, mae’r achos dros ‘dim ymyriad gweithredol’ yn un pwerus iawn. Mae yna dair dadl rymus. Yn gyntaf, mae adeiladu amddiffynfeydd yn tarfu ar gyflenwad a symudiad gwaddod yn y gylchfa arfordirol, gan deneuo traethau a chynyddu’r perygl o erydiad a llifogydd mewn mannau eraill. Yn ail, dydy hanes ymyriad pobl yn y system arfordirol ddim yn galonogol. Arweiniodd mwyngloddio alltraeth am dywod a graean ar ddechrau’r 20ed ganrif yn Hallsands, Dyfnaint nid yn unig at golli’r traeth ond hefyd at ddinistrio’r pentref ei hun. A chafwyd enghreifftiau niferus o lle mae adeiladu grwyni wedi amddifadu traethau ar ochr isaf y drifft o waddod ac wedi cyflymu erydiad. Yn drydydd, gyda lefelau moroedd yn codi a newid yn yr hinsawdd, fydd hi ddim yn gynaliadawy i amddiffyn pob cymuned arfordirol yn y dyfodol. Gwyddom fod 1.7 miliwn o adeiladau yn y DU mewn perygl o lifogydd, a bod gwario ar reoli llifogydd ac erydiad yn 2007-08 wedi bod yn fwy na £600 miliwn, swm fydd yn cynyddu i £2.15 biliwn ar gyfer y cyfnod 2008-10. Pan fo cartrefi ac isadeiledd sydd mewn perygl yn werth llai na chost amddiffynfeydd newydd, mae’r rhesymeg economaidd yn dweud nad ydyn nhw’n werth eu hamddiffyn.

Dylem hefyd gofio, cyn dyfodiad y CRhT, mai ‘dim ymyriad gweithredol’ oedd y polisi derbyniol ar gyfer y rhan helaethaf

o’r 12,000 cilometr o forlin yng Nghymru a Lloegr. Mae’r rhesymau dros hyn yn amlwg. Mae llawer o’r morlin yng ngogledd Lloegr, de-orllewin Lloegr a Chymru wedi’i ffurfio o graig galed ac uwchdir sy’n cael ei ddominyddu gan glogwyni. Yn yr ardaloedd hyn, does yna fawr mwy na chentimetr y flwyddyn o erydiad, a dydy llifogydd ddim yn broblem o gwbl. Hefyd, ychydig iawn o ymyriad pobl fu ar hyd yr arfordiroedd hyn, gan roi iddynt yr olwg ‘naturiol’ mae cymdeithas yn awyddys i’w chadw (Ffigur 5).

Felly, mewn gwirionedd, mae ‘dim ymyriad gweithredol’ yn golygu dim newid polisi ar gyfer y rhan fwyaf o’n morlin. Ac mae’r un peth yn wir am y rhannau o’r arfordir sy’n rhai ‘dal y llinell’: rhaid i ni eu gwarchod am eu bod yn lleoliadau aneddiadau pwysig neu isadeiledd economaidd pwysig.

Mae ‘adliniad rheoledig’ yn achosi mwy o ddadlau gan ei fod yn golygu newid polisi uniongyrchol. Fel arfer, mae’n golygu gwrth-droi polisi ‘dal y llinell’. Hyd yn hyn, mae’r mwyafrif o gynlluniau adlinio wedi digwydd ar dir ffermio yn nwyrain Lloegr, llawer ohono wedi’i adennill o’r môr yn wreiddiol. Mae Freiston Shore yn Swydd Lincoln yn nodweddiadol. Wedi’i adennill yn 1983, roedd system o argloddiau llifogydd yn dal y môr yn ôl. Fodd bynnag, roedd hi’n anodd cyfiawnhau cynnal y rhain ar adeg pan oedd prisiau cnydau’n gostwng a mynyddoedd bwyd yn norm. Yn 2006, penderfynwyd bylchu’r argloddiau a chaniatáu i’r môr orlifo dros yr ardal. Bellach, morfeydd heli a fflatiau llaid, sy’n cael eu gorlifo gan y llanw ddwywaith y dydd, a geir lle roedd tir âr ar un adeg. Heddiw, mae i’r morlin newydd, sydd wedi’i osod tua chilometr i’r mewndir, amddiffyniad naturiol morfeydd heli a fflatiau llaid. Mae’r nodweddion hyn yn rhoi gwasanaeth amddiffyn arfordirol am ddim, a, hefyd, fel bonws, mae’n darparu cynefin newydd gwerthfawr ar gyfer rhydwyr (waders) ac adar gwyllt. Mae Freiston hefyd

© iS

tock

phot

o

© iS

tock

phot

o

Ffigur 4 Amddiffynfeydd arfordirol meddal yn Cley Next the Sea: morfa heli a gwelyau cyrs

Ffigur 5 Morlin clogwynog naturiol, lle mae cyfraddau erydu araf a dim perygl o lifogydd yn golygu bod ‘dim ymyriad gweithredol’ yn annadleuol

Page 4: DDYLEN NI ENCILIO?resources.hwb.wales.gov.uk/.../ddylen_ni_encilio.pdf · o waddod ac wedi cyflymu erydiad. Yn drydydd, gyda lefelau moroedd yn codi a newid yn yr hinsawdd, fydd hi

4 Y Cylchgrawn Daearyddol

DDYLEN NI ENCILIO?

wedi dod yn atynfa boblogaidd ar gyfer gwylwyr adar a phobl sy’n caru natur.

Mae dadl arall o blaid encilio yn ymwneud â gwasgfa arfordirol. Wrth i lefel y môr godi, byddai morfeydd heli, fflatiau llaid a fflatiau tywod fel arfer yn mudo i’r mewndir (Ffigur 4). Mae amddiffynfeydd caled fel morgloddiau yn atal hyn rhag digwydd. Yn hytrach, mae morfeydd heli a fflatiau llaid, sydd wedi’u dal rhwng morgloddiau a lefelau moroedd sy’n codi, yn cael eu herydu. Heb amddiffyniad naturiol morfeydd heli a fflatiau llaid, mae amddiffynfeydd caled yn cael eu dinoethi i ymosodiad uniongyrchol y tonnau, a gall olygu y bydd yn anghynaliadwy eu cynnal a’u cadw. O ystyried eu cost, dydy hyn ddim yn syndod. Mae morgloddiau fel

arfer yn costio £5,000 y metr i’w hadeiladu a’u cynnal. Fodd bynnag, lleiheir hyn i ddim ond £400 y metr os cânt eu gosod y tu ôl i forfa heli – arbediad enfawr.

Casgliad

Mae enciliad arfordirol ar waith, ond, ar hyn o bryd, enciliad pwyllog, arfaethedig sy’n berthnasol i rannau cymharol fychan o’r morlin ydyw. Does yna’r un awgrym y bydd ardaloedd gwledig mawr sy’n agos at lefel y môr, fel y Ffens, nac aneddiadau arfordirol mawr yn cael eu gadael i drugaredd y môr. Mae’r dadleuon dros encilio yn rhai economaidd ac amgylcheddol. Yn y dyfodol, bydd newid yn yr hinsawdd yn gwneud y gost o gynnal lefelau presennol yr amddiffynfeydd arfordirol

yn anghynaliadwy. Oherwydd adnoddau cyfyngedig, rhaid rhoi’r flaenoriaeth i warchod aneddiadau mwy ac isadeiledd hanfodol. Ond nid dadleuon economaidd yn unig mo’r rhai o blaid encilio. Bydd encilio yn ffafrio amddiffynfeydd meddal fel traethau a morfeydd heli. Ac mae amddiffynfeydd meddal yn gynaliadwy, yn rhoi amddiffyniad arfordirol am ddim, ac ar yr un pryd, yn hunanaddasadwy. Yn olaf, bydd encilio yn llesol iawn i fywyd gwyllt. Mae gwlyptiroedd arfordirol sy’n cynnal corsydd, gwelyau cyrs a fflatiau llaid wedi crebachu’n frawychus dros y canrifoedd. Maen nhw bellach yn ailymddangos, gan sicrhau cynefinoedd gwerthfawr ar gyfer adar brodorol a mudol, a chyfleoedd newydd ar gyfer adloniant a hamdden.

ADOLYGIADPwyntiau allweddol

l Bydd newid yn yr hinsawdd yn cynyddu costau cynnal a chadw amddiffynfeydd arfordirol Prydain.

l Bydd cynnal lefelau presennol yr amddiffynfeydd arfordirol yn anghynaliadwy yn y dyfodol.

l Bydd rhai rhannau o’r morlin sy’n cael eu hamddiffyn gan amddiffynfeydd caled ar hyn o bryd yn cael eu gadael, wrth i bolisïau rheoli newid o fod yn rhai ‘dal y llinell’ i rai ‘dim ymyriad gweithredol’ ac ‘adliniad rheoledig’.

l Mae rheoli arfordirol yn amcanu at weithio gyda phrosesau naturiol a, lle bo’n bosibl, yn hyrwyddo amddiffynfeydd arfordirol meddal.

l Bydd polisïau o ‘dim ymyriad gweithredol’ ac ‘adliniad rheoledig’ yn llesol i’r amgylchedd arfordirol a bywyd gwyllt.

Munud i feddwll Pa mor bryderus ddylen ni fod ynglyn â lefelau moroedd sy’n codi ac effeithiau newid yn yr hinsawdd ar yr arfordir?

l Beth ydy anfanteision systemau amddiffyn arfordirol sy’n seiliedig ar adeileddau caled?

l Beth ydy manteision adeileddau amddiffyn meddal?

l Ddylen ni fod yn ofalus cyn ymyrryd yn system waddod yr arfordir?

l Ydy’r enillion ecolegol o ‘adliniad rheoledig’ yn gorbwyso’r colledion economaidd?

Cyd-destunMae’r erthygl hon yn archwilio materion sy’n ymwneud â pholisïau cyfredol rheoli arfordirol yn y DU. Fodd bynnag, o fewn y cyd-destun hwn mae yna nifer o faterion perthynol:

l a ddylai cymunedau arfordirol, sydd dan fygythiad erydiad neu lifogydd, gael eu hamddiffyn neu eu digolledu gan y llywodraeth;

l rhwymedigaethau rhyngwladol Prydain i amddiffyn amgylcheddau a chynefinoedd arfordirol;

l a fydd cefnu ar dir ffermio cynhyrchiol, trwy gynlluniau o ‘adliniad rheoledig’, yn annoeth yn y tymor hir o ystyried rhagolygon o brinder bwyd byd-eang; a

l lefelau moroedd sy’n codi a’r goblygiadau ar gyfer sefydliadau economaidd hanfodol fel gorsafoedd pwer.

Page 5: DDYLEN NI ENCILIO?resources.hwb.wales.gov.uk/.../ddylen_ni_encilio.pdf · o waddod ac wedi cyflymu erydiad. Yn drydydd, gyda lefelau moroedd yn codi a newid yn yr hinsawdd, fydd hi

5 Y Cylchgrawn Daearyddol

YMATEBCymathiad1. Disgrifio ac egluro’r polisïau allweddol ar gyfer rheoli arfordirol sy’n cael eu cynnwys mewn cynlluniau rheoli traethlin.

2. Egluro sut mae ymyriad pobl mewn amgylcheddau arfordirol yn aml yn tarfu ar y system waddod.

3. Amlinellu’r dadleuon amgylcheddol dros ‘encilio’.

4. Beth ydy ‘gwasgfa arfordirol’ a pham mae’n broblem?

Gwerthusiad1. Trafodwch y farn y dylai deiliaid tai, yn wyneb difrod neu ddinistr i’w cartrefi oherwydd erydiad arfordirol neu lifogydd arfordirol, gael eu digolledu gan y trethdalwr.

CYNLLUN ATEB

l Rhaid i bobl sy’n dewis byw ar forlinau lle mae perygl mawr o erydiad a llifogydd dderbyn eu cyfrifoldeb personol.

l Os ydy pobl yn rhoi’r gorau i’r egwyddor o gyfrifoldeb personol, gall hyn arwain at nifer mawr o geisiadau yn ymwneud â pheryglon naturiol eraill.

l Os ydy polisïau rheoli arfordirol wedi newid, gan olygu bod pergyl i gymuned oherwydd erydiad neu lifogydd, gall fod yna achos am iawndal.

l Lle mae gwaith peirianneg arfordirol wedi tarfu ar y system waddod ac wedi cynyddu’r perygl o erydiad neu lifogydd, gall fod yna achos am iawndal.

l Ychydig iawn o gymunedau arfordirol sydd dan fygythiad di-oed oherwydd erydiad.

2. ‘Mae codi amddiffynfeydd caled yn y gylchfa arfordirol yn achosi cymaint o broblemau â’r rhai mae’n eu datrys.’ Rhowch enghreifftiau a thrafodwch.

3. ‘Lle ceir gwrthdaro yn y gylchfa arfordirol rhwng cadwraeth a buddiannau economaidd, dylai rhagdybiaeth y rhai sy’n gwneud y penderfyniadau fod o blaid y cyntaf.’ Trafodwch.

4. A fyddai colli tir yng ngogledd-ddwyrain Norfolk oherwydd adliniad rheoledig o unrhyw bwys? (Ffigur 3)

DDYLEN NI ENCILIO?

Estyniad

1. Ymchwiliwch i’r cynigion ar gyfer adliniad rheoledig yn Cley a Salthouse yng ngogledd Norfolk. Dechreuwch ar wefan Natural England:

http://www.eclife.naturalengland.org.uk/project_details/good_practice_guide/shingleCRR/shingleguide/ Annexes/Annex07Cley/Index.htm

2. Ymchwiliwch i erydiad arfordirol yn Happisburgh yng ngogledd-ddwyrain Norfolk. Dechreuwch eich ymchwil ar: http://www.happisburgh.org.uk/

3. Gan gyfeirio at y cynllun rheoli traethlin diweddaraf (CRhT2), ymchwiliwch i’r materion economaidd ac amgylcheddol cyfredol ar forlin o’ch dewis yng Nghymru a Lloegr.