Yn Hanfodol Eleni! Ein Cynhadledd Gymunedol ac Arfer Da
a Gwobrau Cyfranogiad!
Mae TPAS Cymru wedi cynnal y Gwobrau Cyfranogiad yn flynyddol ers dros 20 mlynedd. Eleni mae gennym fersiwn well sy'n hanfodol i Denantiaid a Swyddogion sy'n gweithio mewn tai a chymunedau
Cynhadledd yn ystod y Dydd
Yn canolbwyntio ar ragoriaeth wrth greu cymunedau gwych. Mae gennym ystod wych o siaradwyr ac astudiaethau achos i'w rhannu, ac i'ch ysbrydoli â syniadau i fynd adref gyda chi.
Bydd y pynciau a drafodir yn cynnwys:
• Datblygu prosiect ‘Trosglwyddo Asedau Cymunedol’
• ‘Adeiladu’ cymunedau iach
• ABCD ar waith
Rhagor o fanylion ar y dudalen nesaf
Gwobrau Cyfranogiad Gyda'r Nos
Gyda'r nos, ymunwch â ni am ddiodydd, adloniant a phryd tri chwrs wrth i ni gydnabod a dathlu'r enghreifftiau gorau o gyfranogiad tenantiaid ar draws Tai Cymdeithasol Cymru.
Mae hwn yn ddigwyddiad sy'n sefyll allan yng nghalendr tenantiaid. P'un a ydych wedi cael eich enwebu, neu dim ond eisiau rhwydweithio, bydd hon yn noson wych i'w fynychu.
Cynhadledd Undydd yr Haf
'Creu Cymunedau Gwych!'10am - 4pm. Darperir lluniaeth a chinio bwffe poeth
Bydd y gynhadledd undydd gyffrous yma yn edrych ar enghreifftiau o arfer gorau cyfredol yn y dulliau o ‘Greu Cymunedau Gwych’. Bwriedir i'r digwyddiad hwn ysgogi, ysbrydoli a hysbysu'r rheiny sy'n mynychu. Rydym wedi trefnu amserlen brysur o siaradwyr arbenigol ac astudiaethau achos o arfer da o’r sector dai a
thu hwnt, er mwyn sbarduno syniadau a sgyrsiau.
Yn cynnwys:
Yr Athro Calvin Jones, Prifysgol Caerdydd
Archwilio'r 'gwerth' o weithredu cymunedol wrth ddatblygu economïau lleol, mynd i'r afael â thlodi a chreu swyddi a chyfleoedd hyfforddiant i breswylwyr.
'Y Shed’ – Datblygu prosiect ‘trosglwyddo asedau cymunedol’
Gwrandewch sut mae Grŵp Cynefin yn cefnogi cymuned leol trwy brosiect ‘trosglwyddo asedau cymunedol’ i drawsnewid hen sied nwyddau rheilffyrdd segur Gradd 2, i fod yn ased cymunedol bywiog a gynlluniwyd i ddarparu cyflogaeth, cyfleoedd ar gyfer gwirfoddoli a dysgu, yn ogystal â gwarchod y dreftadaeth leol.
Cymuned ar Waith
Mae Fforwm Cymunedol Penparcau yn sefydliad gymunedol sy'n ymgysylltu'n weithredol â'u cymuned leol i ddatblygu gweithgareddau a chyfleusterau cymunedol cynaliadwy a chynhwysol er lles pawb. Cewch glywed popeth am yr hyn a gyflawnwyd ganddynt, gan gynnwys eu taith o uchafbwyntiau ac isafbwyntiau i adeiladu a chwblhau eu Canolbwynt Cymunedol eu hunain a'r gwahaniaeth y mae wedi ei wneud.
ABCD ar waith
Mae Grŵp Tai Coastal yn defnyddio datblygu cymunedol yn seiliedig ar asedau i ategu eu dull o ymgysylltu â gwaith cymunedol. Darganfyddwch beth mae hyn yn ei olygu yn ymarferol wrth i ni glywed am enghreifftiau o brosiectau cymunedol "sy'n canolbwyntio ar yr hyn sy'n gryf ac nid yr hyn sy'n anghywir".
‘Adeiladu’ Cymunedau Iach
Edrych ar y ffordd y mae cymunedau, iechyd a gofal cymdeithasol yn gallu cymryd rhan ganolog wrth ddylunio ac adeiladu datblygiadau tai newydd. Bydd Linc Cymru yn rhannu eu profiadau o gynllunio datblygiad newydd a sut maent wedi llwyddo wrth gynnwys y gymuned leol yn ei ddyluniad
Y Loteri Fawr: o syniad i weithredu
Mae'r Loteri Fawr wedi ariannu dros 1,200 o fudiadau cymunedol a gwirfoddol ledled Cymru ac yn credu y dylai pobl fod ar y blaen wrth wella eu bywydau a'u cymunedau. Bydd y Loteri Fawr yn rhannu astudiaethau achos o'r ystod o brosiectau cymunedol y maent wedi'u hariannu yn ogystal â chynnig rhai awgrymiadau o’r hyn y dylai cymunedau (a’r hyn na ddylent) eu gwneud wrth gyflwyno ceisiadau.
Seremoni Wobrwyo Gyda'r Nos
6.30pm - hanner nos Gwydryn o Fizz,
Canapes a chinio tri chwrs!Ar ôl diwrnod hwyliog yn gweld y cyfan sydd gan ‘Creu Cymunedau Gwych' i’w
gynnig, ymlaciwch ac ymunwch â ni ar gyfer ein Strafagansa Wobrwyol. Treuliwch y noson yn mwynhau pryd o fwyd tri chwrs blasus a ddilynir gan ein
seremoni wobrwyo. Mae hwn yn gyfle gwych i ddathlu’r gwaith gwych sy’n digwydd o fewn Tai Cymru - dydych chi byth yn gwybod, fe allech chi fod yn un
o’r enillwyr! Ar ôl ein seremoni wobrwyo, treuliwch y noson yn sgwrsio gyda chynrychiolwyr o’r un anian a dawnsiwch drwy’r nos yn ein disgo.
Ynglŷn â’r lleoliad...
Y fan a'r lle delfrydol!
Eleni bydd ein digwyddiad Gwobrau Cyfranogiad yn cael ei gynnal yng ngwesty'r Park Inn, sydd wedi ei leoli yng nghanol dinas Caerdydd. Mae lleoliad y gwesty yn gyfleus i rai o
atyniadau gorau dinas Caerdydd, gan gynnwys Stadiwm y Mileniwm a Chastell Caerdydd, llai na 4 cilomedr i ffwrdd. Gall gwesteion hefyd gerdded i Ganolfan Dewi Sant neu i John
Lewis, sydd llai na 2 munud i ffwrdd. Mae lleoliad y gwesty yng nghanol dinas Caerdydd yn cynnig mynediad heb ei ail i'r ardal fusnes, ynghyd â Phrifysgol De Cymru. Amser rhydd?
Ewch am dro drwy'r gerddi addurniadol ym Mharc y Rhath, neu bicied i mewn i un o'r bariau ffasiynol ar lannau Bae Caerdydd
Cysylltiadau Trafnidiaeth
Gorsaf fws Caerdydd Canolog - 0.5 cilomedr
Gorsafoedd Trên Caerdydd Canolog a Stryd y Frenhines - 0.5 cilomedr
Maes Awyr Caerdydd - 30 cilomedr
Maes Awyr Bryste - 70 cilomedr