draft policy · web viewail-gloriannu dosbarthiad adnoddau yn fwy teg drwy wahanol gyfnodau bywyd:...

8
Datganiad Polisi Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016 Policy Statement National Assembly for Wales Election 2016 September 2015 Final

Upload: vominh

Post on 13-Apr-2018

227 views

Category:

Documents


8 download

TRANSCRIPT

Page 1: DRAFT POLICY · Web viewail-gloriannu dosbarthiad adnoddau yn fwy teg drwy wahanol gyfnodau bywyd: •i osgoi blaenlwytho’r system addysg er mwyn cynnig cyfleoedd ddysgu pan a lle

Datganiad PolisiEtholiad Cynulliad Cenedlaethol

Cymru 2016

Policy Statement National Assembly for Wales

Election 2016

September 2015Final

Page 2: DRAFT POLICY · Web viewail-gloriannu dosbarthiad adnoddau yn fwy teg drwy wahanol gyfnodau bywyd: •i osgoi blaenlwytho’r system addysg er mwyn cynnig cyfleoedd ddysgu pan a lle
Page 3: DRAFT POLICY · Web viewail-gloriannu dosbarthiad adnoddau yn fwy teg drwy wahanol gyfnodau bywyd: •i osgoi blaenlwytho’r system addysg er mwyn cynnig cyfleoedd ddysgu pan a lle

• Mae Cymru angen economi lewyrchus a chymunedau cynaliadwy.

• Nawr yw’r amser i gydnabod grym addysg gydol oes fel ffordd o gyrraedd yr amcanion hyn.

WEA YMCA CC Cymru yw’r unig ddarparwr Addysg Oedolion Cymru-gyfan ac mae mewn sefyllfa ddelfrydol i lunio a darparu strategaeth gydlynol ar gyfer addysg oedolion yn y gymuned a’r gweithle.

Mae’n hanfodol i drigolion Cymru feithrin y sgil o ddysgu gydol oes er mwyn sicrhau gweithluoedd a chymunedau gwybodus, hyblyg, dyfeisgar ac iach. Bydd y manteision economaidd, cymdeithasol a dinesig o ddatblygu gwir gymuned addysg gydol oes yng Nghymru yn arwyddocaol. Bydd yn ein harfogi gyda’r blaengarwch sydd ei angen arnom i sicrhau cymunedau gwydn, economi sy’n addasu i sefyllfaoedd cyfnewidiol a democratiaeth sy’n ffynnu.Mae addysg oedolion ar hyn o bryd yn cael ei ddarparu drwy raglenni sy’n deillio o sawl Adran o’r Llywodraeth: Llywodraeth Leol, Pobl a Chymunedau, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn ogystal â’r Adran Addysg a Sgiliau. Gyda phrinder adnoddau cyhoeddus ac angen cytunedig i ganolbwyntio ar gyfuno darpariaeth gwasanaethau, mae’n addas gwneud y defnydd gorau o adnoddau arbenigol. Bydd strategaeth gydlynol yn:

• atal dyblygu gweithgareddau• lleihau gwariant ar weinyddu• hybu darparu cyfleoedd dysgu atgyfnerthol ac effeithiol• sicrhau system fodiwlar mwy cost-effeithiol sy’n caniatáu trosglwyddo a

meithrin sgiliau rhwng rhaglenni

Argymhellion PolisiI’r dyfodol gofynnwn i unrhyw lywodraeth yng Nghymru wneud y canlynol:

1. gweithredu strategaeth gyllido newydd ar gyfer addysg oedolion.

Mae addysg oedolion yn gwneud cyfraniad sylweddol i amrediad o amcanion polisi trawsadrannol. Pan fo addysg oedolion yn eang ei gwricwlwm mae’n:

• mynd i’r afael ag anwybodaeth a rhagfarn• hybu Cymru ddwyieithog• meithrin cyd-ddealltwriaeth a goddefgarwch• annog iechyd a lles• ysbrydoli dinasyddiaeth weithredol• hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol a lleihau tlodi• hybu adfywio economaidd

Datganiad Polisi Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016 Page 3 of 8

Page 4: DRAFT POLICY · Web viewail-gloriannu dosbarthiad adnoddau yn fwy teg drwy wahanol gyfnodau bywyd: •i osgoi blaenlwytho’r system addysg er mwyn cynnig cyfleoedd ddysgu pan a lle

2. mabwysiadu’r egwyddor o un corff Cymru-gyfan i gydlynu darpariaeth addysg oedolion ledled Cymru:

• i sicrhau cyfeiriad strategol i Addysg Oedolion ar lefel genedlaethol • i flaenoriaethu model darparu ar sail angen – yn seiliedig ar

negodi gyda dysgwyr i ddiwallu eu hanghenion hwythau, eu cymunedau, cyflogwyr ac undebau llafur

• i hybu darparu Addysg Oedolion yn seiliedig ar bartneriaethau allweddol i facsimeiddio’r ddarpariaeth ar lefel leol a rhanbarthol

• i hyrwyddo arferion da drwy ddarparu trefn sicrhau ansawdd ar gyfer dysgu ac addysgu ledled Cymru

3. ail-gloriannu dosbarthiad adnoddau yn fwy teg drwy wahanol gyfnodau bywyd:

• i osgoi blaenlwytho’r system addysg er mwyn cynnig cyfleoedd ddysgu pan a lle y bydd eu hangen

• i ymateb i boblogaeth sy’n heneiddio aphatrymau cyfnewidiol o waith taledig a di-dâl

• i arfogi oedolion â’r addysg a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ffynnu mewn amgylchedd economaidd heriol

Potensial WEA YMCA CC Cymru

Fel darparwr Addysg Oedolion Cymru-gyfan a gydnabyddir gan Estyn am ei safonau uchel, gall WEA YMCA CC Cymru arwain datblygiadau cydlynol a hwyluso integreiddio dysgu ar draws gwahanol bortffolios polisi.

Mae gennym hanes hir o ddatblygu partneriaethau lleol a rhanbarthol, gan gydweithio ag eraill gan gynnwys Awdurdodau Addysg Leol, Colegau Addysg Bellach a Phrifysgolion. Ar lefel genedlaethol rydym yn cydweithio â TUC Cymru, Grŵp Cartrefi Cymunedol Cymru, Cwmni Adferiad Cymunedol Cymru a’r Gwasanaethau Ieuenctid ar draws y genedl. Rydym yn darparu:

- Rhaglenni Addysg Oedolion sy’n galluogi oedolion i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy, yn cynyddu cyflogadwyedd a rhagolygon gyrfaol, ac yn cyfrannu tuag at ddatblygiad economaidd

- Darpariaeth Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) i alluogi oedolion gyfrannu i’w cymunedau, hyrwyddo cytgord cymunedol a gwella mynediad i’r farchnad lafur drwy wella sgiliau iaith

Datganiad Polisi Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016 Page 4 of 8

Page 5: DRAFT POLICY · Web viewail-gloriannu dosbarthiad adnoddau yn fwy teg drwy wahanol gyfnodau bywyd: •i osgoi blaenlwytho’r system addysg er mwyn cynnig cyfleoedd ddysgu pan a lle

- Addysg Oedolion cyfrwng Cymraeg gan gynnwys ‘gofal cwsmeriaid dwyieithog’ ac ‘ymwybyddiaeth ieithyddol a diwylliannol’

- Cyfleoedd sy’n rhoi ail gyfle i rieni ddysgu – gan ddatblygu modelau ymddwyn i’w plant, cynorthwyo i godi safonau addysg a mynd i’r afael â than gyrhaeddiad, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig

- Cefnogi oedolion i fynd ymlaen i Addysg Bellach ac Uwch – gan ehangu cyfranogiad yn ein prifysgolion a hybu datblygiad sgiliau o lefel uwch ar gyfer adfywio economaidd.

Medi 2015

Datganiad Polisi Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016 Page 5 of 8

Page 6: DRAFT POLICY · Web viewail-gloriannu dosbarthiad adnoddau yn fwy teg drwy wahanol gyfnodau bywyd: •i osgoi blaenlwytho’r system addysg er mwyn cynnig cyfleoedd ddysgu pan a lle

• Wales needs a vibrant economy and sustainable communities.

• Now is the time to recognise the power of lifelong learning as a means of achieving these ends.

WEA YMCA CC Cymru is the only all-Wales Adult Learning provider and is ideally placed to shape and deliver a coherent strategy for community and workplace learning for adults.

It is crucial to nurture the skill of learning over a lifetime to secure informed, flexible, intelligent and healthy workforces and communities. The economic, social and civic advantages of developing a truly lifelong learning society in Wales will be profound. It will give us the cutting edge that we need for our communities to be resilient, for our economy to adapt to changing circumstances, and for our democracy to thrive.

Adult learning is currently offered through programmes stemming from several Government Departments: Local Government, People and Communities, Health and Social Care, as well as the Department for Education and Skills. With limited public resources and an agreed need to focus on integrating service provision, it makes sense to make the best use of expert resources. A coordinated approach will:

prevent duplication of activities reduce expenditure for administration support the delivery of complementary and effective learning

opportunities ensure a more cost-efficient, modular system which allows for the

transfer of skills attainment across programmes

Policy Recommendations Any future Welsh government should:

1. implement a new funding strategy for adult learning.

Adult Learning makes a significant contribution to a range of cross-departmental policy objectives. When underpinned by a broad curriculum offer, adult learning:

• tackles ignorance and prejudice• supports a bilingual Wales• develops understanding and tolerance• encourages health and well-being• inspires active citizenship• promotes social justice and poverty reduction

Policy Statement National Assembly for Wales Election 2016, K. Edwards Page 6 of 8

Page 7: DRAFT POLICY · Web viewail-gloriannu dosbarthiad adnoddau yn fwy teg drwy wahanol gyfnodau bywyd: •i osgoi blaenlwytho’r system addysg er mwyn cynnig cyfleoedd ddysgu pan a lle

• supports economic regeneration

2. endorse a single, all-Wales body for the coordinated delivery of Adult Learning across the whole of Wales:

• to provide strategic direction for Adult Learning at a national level • to prioritise a needs-based delivery model - informed through

negotiation with learners to meet their needs and those of their communities, employers and trade unions

• to support the delivery of Adult Learning based on key partnerships to maximise delivery at local and regional level

• to promote best practice by providing quality assurance for teaching and learning across Wales

3. rebalance the distribution of resources more equitably across the different life stages:

• to avoid the frontloading of the education system in order to provide opportunities for learning when and where they are needed

• to respond to the ageing population and changing patterns of paid and unpaid work

• to equip adults with the learning and skills they need to thrive in a challenging economic environment

WEA YMCA CC Cymru and its potential

As the all-Wales provider of Adult Learning and a body recognised by Estyn for its high quality, WEA YMCA CC Cymru can lead a co-ordinated approach and facilitate the integration of learning across differing policy portfolios. We have a long history of developing local and regional partnerships, working effectively with others including Local Education Authorities, Further Education Colleges and Universities. At a national level, we collaborate with Wales TUC Cymru, The Community Housing Cymru Group, Community Rehabilitation Company Wales and Youth Services across the nation. We deliver:

- Adult Learning programmes which enable adults to develop transferable skills, enhance employability and improve career prospects, and contribute to economic development

- English for Speakers of Other Languages (ESOL) provision for adults to participate in their communities, to encourage community cohesion and improve access to labour market opportunities through improved English language skills

- Welsh medium Adult Learning, including ‘bilingual customer care’ and ‘language and cultural awareness’

- opportunities which provide a second chance for parents to learn – developing role models for their children, helping to raise

Policy Statement National Assembly for Wales Election 2016, K. Edwards Page 7 of 8

Page 8: DRAFT POLICY · Web viewail-gloriannu dosbarthiad adnoddau yn fwy teg drwy wahanol gyfnodau bywyd: •i osgoi blaenlwytho’r system addysg er mwyn cynnig cyfleoedd ddysgu pan a lle

educational standards and addressing under-achievement, especially in areas of deprivation

- support for adults to progress to Further and Higher Education – widening participation in our universities and supporting the development of higher level skills for economic regeneration.

September 2015

Policy Statement National Assembly for Wales Election 2016, K. Edwards Page 8 of 8