garddio ar gyfer peillwyr gardening for ......is a major cause for concern. pollinators are diverse,...

7
GARDDIO AR GYFER PEILLWYR GARDENING FOR POLLINATORS

Upload: others

Post on 10-Jun-2020

4 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: GARDDIO AR GYFER PEILLWYR GARDENING FOR ......is a major cause for concern. Pollinators are diverse, including bumblebees, hoverflies, solitary bees, butterflies and honeybees. The

GARDDIO AR GYFER PEILLWYRGARDENING FOR POLLINATORS

Natasha de Vere

Page 2: GARDDIO AR GYFER PEILLWYR GARDENING FOR ......is a major cause for concern. Pollinators are diverse, including bumblebees, hoverflies, solitary bees, butterflies and honeybees. The

Mae pryfed sy’n ymweld â blodau yn beillwyr hanfodol y bwyd rydym yn ei fwyta ac mae’r dirywiad yn eu niferoedd a’u hiechyd yn achos pryder mawr. Mae peillwyr yn amrywiol gan gynnwys cacwn, pryfed hofran, gwenyn unigol, ieir bach yr haf a gwenyn mêl. Wrth i ni golli cynefinoedd llawn blodau, newid yn yr hinsawdd a’r defnydd o blaleiddiaid, cafwyd e�aith fawr ar ein peillwyr gwyllt a’r rhai a reolir.

Mae gerddi yn dod yn gynyddol bwysig fel llochesi pwysig i beillwyr a bywyd gwyllt. Bydd y llyfryn hwn yn cynnig awgrymiadau ar sut i ddenu mwy o beillwyr i’ch gardd.

Flower visiting insects are vital pollinators of the food we eat and their dramatic decline and loss of health is a major cause for concern. Pollinators are diverse, including bumblebees, hoverflies, solitary bees, butterflies and honeybees. The loss of flower-rich habitat, climate change and pesticide use has had a major impact on both our wild and managed pollinators.

Gardens are becoming increasingly important refuges for pollinators and other wildlife. This booklet provides some tips on how you can attract more pollinators to your garden.

Pete

r Will

iam

s

‘MAE GERDDI YN DOD YN GYNYDDOL BWYSIG FEL LLOCHESI PWYSIG I

BEILLWYR A BYWYD GWYLLT ERAILL.’

‘GARDENS ARE BECOMING INCREASINGLY IMPORTANT REFUGES FOR POLLINATORS

AND OTHER WILDLIFE.’

Page 3: GARDDIO AR GYFER PEILLWYR GARDENING FOR ......is a major cause for concern. Pollinators are diverse, including bumblebees, hoverflies, solitary bees, butterflies and honeybees. The

Dewis planhigion Achub Peillwyr

Dewiswch amrywiaeth o blanhigion ar gyfer eich gardd sy’n blodeuo o ddechrau’r gwanwyn hyd at yn hwyr yn yr hydref. Mae nifer o beillwyr, gan gynnwys breninesau gwenyn a gwenyn turio yn ymddangos yn yn y gwanwyn ac yn dibynnu ar blanhigion a choed sy’n blodeuo’n gynnar i’w cadw i fynd. Mae planhigion sy’n blodeuo’n hwyr yn yr hydref hefyd yn hynod o bwysig am nad oes llawer o flodau ar gael bryd hynny.

Cofiwch gynnwys blodau o wahanol siapiau a meintiau er mwyn denu amrywiaeh o beillwyr. Mae gan gacwn dafodau sy’n gallu ymestyn i mewn i flodau tiwbiog megis llin y lly�ant, ond mae tafodau pryfed hofran yn fyrrach ac yn addas ar gyfer blodau mwy gwastad ac agored, megis milddail. Choose Pollinator Saving Plants

Choose a range of plants for your garden, flowering from early spring through to late autumn. Many pollinators, including queen bumblebees and mining bees emerge in spring and depend upon early flowering plants and trees to keep them going. Late autumn flowering plants are also vitally important, as this can be a time when few flowers are available.

Include flowers of di�erent shapes and sizes to attract a range of di�erent pollinators. Bumblebees have tongues that can reach into longer-tubed flowers liked toadflax, whereas hoverflies have shorter tongues and need open flatter flowers, such as yarrow.

Natasha de Vere

Aled

Lly

wel

yn

Page 4: GARDDIO AR GYFER PEILLWYR GARDENING FOR ......is a major cause for concern. Pollinators are diverse, including bumblebees, hoverflies, solitary bees, butterflies and honeybees. The

Dim mwy o fawn na phlaleiddiaid

Wrth ddewis ble i brynu eich planhigion, sicrhewch eu bod yn ddiogel ar gyfer peillwyr a’u bod wedi’u tyfu mewn compost heb fawn. Mae rhai planhigion a werthir mewn canolfannau garddio yn cynnwys gweddillion pryfleiddiaid synthetig sy’n niweidiol iawn i iechyd pryfed. Mae cloddio am fawn ar gyfer garddwriaeth yn parhau i ddinistrio ardaloedd helaeth o ecosystem sydd mewn perygl ac sy’n cymryd canrifoedd i’w �urfio. Ceisiwch osgoi ddefnyddio compost mawn a phryfleiddiaid yn eich gardd chi hefyd.

I’ch helpu i ganfod �ordd arall, mae prosiect Tyfu’r Dyfodol yr Ardd Fotaneg wedi datblygu Cynllun Sicrwydd Achub Peillwyr. Yn ein canolfan arddio, chwiliwch am blanhigion sydd â’r logo Achub Peillwyr – mae ein hymchwil DNA wedi profi eu bod yn cefnogi peillwyr a chânt eu cynhyrchu’n gynaliadwy gan dyfwyr o Gymru heb ddefnyddio mawn na phryfleiddiaid synthetig.

Go peat and pesticide free

When choosing where to buy your plants, ensure that they are safe for pollinators and that the plants are grown in peat-free compost. Some plants sold in garden centres contain residues of synthetic insecticides which are very damaging to insect health. Peat extraction for horticulture continues to destroy vast areas of an endangered ecosystem which takes centuries to form. Avoid using peat compost and insecticides in your own garden too.

To help you find an alternative, the Growing the Future project at the Botanic Garden has developed a Saving Pollinators Assurance Scheme. In our Plant Sales, look out for plants displaying the Saving Pollinators logo – they are proven to support pollinators by our DNA research and are sustainably produced by Wales-based growers without the use of peat and synthetic insecticides.

Aled Llywelyn

Page 5: GARDDIO AR GYFER PEILLWYR GARDENING FOR ......is a major cause for concern. Pollinators are diverse, including bumblebees, hoverflies, solitary bees, butterflies and honeybees. The

Creu cynefinoedd bywyd gwyllt

Un �ordd o ddarparu dilyniant blodau yw troi eich lawnt yn ddôl fechan. Bydd torri’r lawnt yn llai aml yn caniatáu i blanhigion peillio pwysig, megis dant y llew a meillion, flodeuo. I reoli eich dôl fechan, gallwch dorri rhannau o’r lawnt ar adegau gwahanol fel eu bod yn blodeuo ar adegau gwahanol. Gadewch ardal o wair hir dros y gaeaf ar gyfer pryfed sy’n gaeafgysgu ac ardaloedd o bridd moel er mwyn i wenyn unigol nythu ynddynt.

Create wildlife habitats

One way to provide a succession of flowers is to turn your lawn into a mini meadow. Mowing less frequently will allow important pollinator plants such as dandelion and clover to flower. To manage your mini meadow, you can mow it in patches so that di�erent areas are in flower at di�erent times. Leave an area of long grass over winter for hibernating insects and patches of bare soil for solitary bees to nest in.

Creu gwestai gwenyn

Mae gwestai gwenyn, sef strwythur llawn tyllau, yn gallu bod yn lle gwych i wenyn unigol fridio. Rhowch un ar wal sy’n wynebu’r de, fetr uwchben y ddaear yn gynnar yn y gwanwyn a gwyliwch beth fydd yn digwydd. Gallwch hefyd greu pentwr o bren a gadael deiliach fel lloches am fod amrywiaeth o bryfetach yn defnyddio pren marw ar gyfer gaeafgysgu a nythu.

Introduce bee hotels

Bee hotels, a structure full of cavities, can provide a great place for solitary bees to breed. Place it on a south facing wall a metre above ground in early spring and watch what happens. You can also create log piles and leave leaf litter for shelter as a wide variety of insects use deadwood for hibernation and nesting.

Kevin McGinn

Abigail Lowe

Page 6: GARDDIO AR GYFER PEILLWYR GARDENING FOR ......is a major cause for concern. Pollinators are diverse, including bumblebees, hoverflies, solitary bees, butterflies and honeybees. The

Cynyddu �ynonellau dŵr

Mae’n rhaid i beillwyr yfed fel ni. Mae dysgl fas gyda cherrig wedi’i llenwi â dŵr yn ber�aith i bryfetach gael hoe ac yfed ohoni. Mae rhai pryfed hofran yn dodwy eu wyau mewn pyllau bas gyda’r larfa yn datblygu mewn dŵr. Felly gallwch greu lagŵn pryfed hofran trwy gymryd bwced o ddŵr a’i lenwi gyda phriciau a deunydd planhigion.

Increase water sources

Pollinators need to drink like we do. A shallow water-filled dish with stones is perfect for insects to rest and drink from. Some hoverfly species lay their eggs in shallow pools with the larvae developing in water. You can create a hoverfly lagoon by taking a bucket of water and filling it with sticks and plant material.

Natasha de Vere

Aled Llywelyn

Page 7: GARDDIO AR GYFER PEILLWYR GARDENING FOR ......is a major cause for concern. Pollinators are diverse, including bumblebees, hoverflies, solitary bees, butterflies and honeybees. The

ACHUB PEILLWYR Mae gwyddonwyr Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn defnyddio barcodio DNA i astudio pa blanhigion mae gwenyn mêl, pryfed hofran, cacwn a gwenyn unigol yn ymweld â hwy. Mae’r wybodaeth newydd hon yn helpu garddwyr fel chi i ddiogelu pryfed peillio – edrychwch am ein logo Cynllun Sicrwydd Achub Peillwyr ar blanhigion gardd rydych yn ystyried eu prynu.

SAVING POLLINATORSNational Botanic Garden of Wales scientists are using DNA barcoding to investigate which plants honeybees, hoverflies, bumblebees and solitary bees visit. This new knowledge is helping gardeners like you to conserve pollinating insects – look for our Saving Pollinators Assurance Scheme logo on garden plants that you’re thinking of buying.

Gwnaed y Cynllun Sicrwydd Achub Peillwyr yn bosibl drwy Tyfu’r Dyfodol, prosiect pum mlynedd yn cefnogi garddwriaeth yng Nghymru.The Saving Pollinators Assurance Scheme has been made possible through Growing the Future, a five-year project supporting horticulture within Wales.

Natasha de Vere