modiwl 4: cwrdd ag anghenion unigolion
DESCRIPTION
Modiwl 4: Cwrdd ag anghenion unigolion. Cwrdd ag anghenion unigolion. Beth mae hyn yn ei olygu?. Nid yr un fydd anghenion pawb sydd ag angen gofal. Edrychwch ar y delweddau hyn ac awgrymwch ym mha ffyrdd y bydd angen gofal ar yr unigolion hyn. Modiwl 4: Cwrdd ag anghenion unigolion. - PowerPoint PPT PresentationTRANSCRIPT
Modiwl 4: Cwrdd ag anghenion unigolion
Cwrdd ag anghenion unigolion
Nid yr un fydd anghenion pawb sydd ag angen gofal.
Edrychwch ar y delweddau hyn ac awgrymwch ym mha ffyrdd y bydd angen gofal ar yr unigolion hyn.
Beth mae hyn yn ei olygu?
Modiwl 4: Cwrdd ag anghenion unigolion
Pam mae cynllunio gofal yn bwysig?
Anghenion gofal
Mae cynllunio gofal yn rhoi sylw i holl anghenion yr unigolion sy'n gallu effeithio ar iechyd a lles, er enghraifft anghenion meddygol. A allwch feddwl am bum angen arall? Defnyddiwch y delweddau i'ch helpu a chliciwch ar bob un wedyn i weld ein hawgrymiadau.
personol
economaidd
addysgoliechyd meddwl
cefndir ethnig a diwylliannol
Drwy ystyried amgylchiadau ehangach yr unigolyn, gellir personoli cynllunio gofal ar ei gyfer.
Modiwl 4: Cwrdd ag anghenion unigolion
? ?
meddygol
Y cylch cynllunio gofal: beth mae'n ei gynnwys
Atgyfeirio
Asesu
Cynllunio Gofal
GweithreduMonitro
Adolygu/Gwerthuso
Trafodwch beth mae pob cam yn ei olygu a chliciwch ar y blychau wedyn i gael mwy o wybodaeth. Gall gweithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol
proffesiynol wneud hyn, neu unigolyn neu ei ofalwr.
Mae hyn yn pennu'r cymorth y mae ar yr unigolyn ei angen.
Cynhychu cynllun gofal sy'n nodi pwy fydd yn gwneud beth a pha bryd, a'r gwasanaethau y bydd yn eu defnyddio.
Cyflawni'r cynllun gofal.
Gwirio i sicrhau bod yr unigolyn yn cael y gofal cywir, ar yr adeg gywir ac yn y lle cywir.
Trafod effeithiolrwydd y cynllun gofal ac a ddylai'r gofal barhau, gael ei wella neu ei leihau.
Modiwl 4: Cwrdd ag anghenion unigolion
Atgyfeirio
Asesu
Cynllunio Gofal
GweithreduMonitro
Adolygu/Gwerthuso
Trafodwch sut mae pob cam yn cael ei gyflawni a chliciwch ar y blychau wedyn i gael mwy o wybodaeth. Dros y ffôn, drwy'r e-bost neu lythyr i'r
gwasanaethau cymdeithasol neu feddyg teulu.
Yn achos gofal cymdeithasol, gwneir hyn yn y cartref fel arfer lle bydd cyfweliad â'r unigolyn ac arsylwir arno'n cyflawni set o dasgau ymarferol. Yn achos gofal iechyd, bydd hyn yn digwydd mewn ysbyty fel arfer.
Bydd tîm amlddisgyblaethol yn cwrdd, ac yn ymgynghori â'r unigolyn a'r gofalwr.
Bydd y rheini sydd wedi'u henwi yn y cynllun gofal yn cyflawni'r tasgau sydd wedi'u nodi ar eu cyfer.
Ymweld â'r cartref, galwadau ffôn, llythyrau, holiaduron, arsylwi a chofnodi unrhyw gwynion.
Adolygir pob cynllun gofal o fewn y chwe wythnos gyntaf ac o leiaf unwaith y flwyddyn. Bydd cyfarfodydd ymysg y tîm amlddisgyblaethol a hefyd â'r unigolyn a'i deulu.
Y cylch cynllunio gofal: y ffordd o'i gyflawni
Modiwl 4: Cwrdd ag anghenion unigolion
Rhoi'r cynllun gofal ar waith
Nawr gwyliwch y clip fideo hwn am Gladys, menyw oedrannus sydd â chynllun gofal sy'n ei galluogi i aros gartref.
Wrth wylio'r clip, meddyliwch am fanteision y cynllun gofal i Gladys.
Cliciwch yma i gael tabl gwag i'w lenwi wrth wylio'r fideo.Cliciwch yma i gael tabl sy'n cynnwys rhai syniadau enghreifftiol i'w cymharu â'ch rhai chi.
Modiwl 4: Cwrdd ag anghenion unigolion
Pwy allai gael ei atgyfeirio ar gyfer asesu?
Pobl â nam ar y synhwyrau
Pobl ag anableddau corfforol
Pobl ag anghenion iechyd meddwl
Pobl hŷn ag anghenion gofal
Pwy?
Pobl sy'n camddefnyddio sylweddau
Pobl ag anableddau dysgu
Gofalwyr sydd ag angen cymorth
Gellir atgyfeirio unigolion sydd ag amrywiaeth o anghenion iechyd neu gymdeithasol. Defnyddiwch y lluniau isod i'ch helpu a chliciwch ar bob un wedyn i weld ein hawgrymiadau.
Modiwl 4: Cwrdd ag anghenion unigolion
Beth mae asesu'n ei gynnwys?
Edrychwch ar y delweddau hyn a thrafodwch beth allai asesu ei olygu.
Mae asesu'n golygu ystyried galluoedd yr unigolyn yn fanwl er mwyn pennu ei anghenion gofal.
Cliciwch yma i weld enghraifft o restr wirio ar gyfer asesu.
Modiwl 4: Cwrdd ag anghenion unigolion
Pwy sy'n cymryd rhan wrth asesu?Mae nifer o ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn cymryd rhan yn y broses cynllunio gofal ochr yn ochr â'r unigolyn a'i ofalwr. Cofnodwch rai enghreifftiau yma a chliciwch ar y blychau isod wedyn i weld ein hawgrymiadau.
Gofal IechydGofal Iechyd Gofal Cymdeithasol
Gofal Cymdeithasol
Modiwl 4: Cwrdd ag anghenion unigolion
Mewn practisau meddygon teulu: nyrsys practisMewn ysbytai: nyrsys arbenigolMewn cartrefi: Metronau cymunedol, rheolwyr achosion a gweithwyr gofal cymdeithasol.
Gweithiwr cymdeithasol neu weithwyr eraill gan gynnwys therapydd galwedigaethol.
Pa ofal sy'n cael ei roi drwy gynllun gofal?
Cymorth i wneud tasgau byw pob dydd:
Gofal IechydGofal Iechyd
Gofal CymdeithasolGofal Cymdeithasol
Cofnodwch enghreifftiau yma ac wedyn cliciwch ar y blychau isod i weld ein hawgrymiadau.
• Hylendid personol• Golchi a smwddio• Coginio• Glanhau
• Siopa• Mynd i mewn ac allan o'r
gwely• Cludiant• Offer anabledd ac
addasiadau yn y cartref
Modiwl 4: Cwrdd ag anghenion unigolion
Anghenion gofal iechyd cyffredinol:
• Gofal lliniarol• Ffisiotherapi
• Meddyginiaeth
• Gwirio pwysedd gwaed• Newid gorchuddion/cathetrau
Urddas a hylendid
(1 clic)
Diogelwch a sicrwydd
(2 glic)
Gofal iechyd(3 chlic)
Dewiswch chwe ymyriad isod y gellid eu cynnwys yn y cynlluniau gofal ar y dde. Cliciwch i amlygu'r lliw sy'n cyfateb i'r cynllun gofal.
System intercom
Gwirio pwysedd gwaed
Sedd toiled uwch
Casglu presgripsiynau
Cymorth i wisgo
Rhoi meddyginiaeth
Rhoi pigiadau
Golchi dilladGosod peiriant
codi o'r bathDarparu padiau anymataliaeth
Canllaw diogelwch ar y gwely
Darparu cyllyll a ffyrc wedi'u haddasu
Newid gorchuddion
Hebrwng i bractis meddyg teulu
Larwm galw am gymorth
Gosod cawod cerdded i mewn
Ymweliadau gan weithwyr gofal
penodedigGosod lifft grisiau
Ymyriadau
Modiwl 4: Cwrdd ag anghenion unigolion
Prif nodweddion y cynllun gofal
Cliciwch yma i weld cynllun gofal gwag enghreifftiol.
Trafodwch brif nodweddion y cynllun gofal gan gofio ateb y cwestiynau canlynol: Beth? Pwy? Pa bryd? Wedyn cliciwch i weld ein hawgrymiadau.
• Pa ofal neu offer y mae eu hangen.• Pwy sy'n gyfrifol am ddarparu'r gofal, gwasanaeth neu offer hyn.
• Enwau'r bobl allweddol sy'n gysylltiedig a sut i gysylltu â nhw.
• Pwy sy'n gyfrifol am sicrhau bod y cynllun gofal wedi'i gyflawni.
• Pa bryd mae disgwyl i'r gwasanaethau ddechrau.• Dyddiad adolygu.
Cliciwch yma i weld cynllun gofal enghreifftiol wedi'i lenwi.
Modiwl 4: Cwrdd ag anghenion unigolion
Mae tair mantais wedi'u rhestru isod. A allwch feddwl am bump arall? Cofnodwch eich syniadau ac wedyn cliciwch i weld ein hawgrymiadau.
Mantais 3Mantais 2Mantais 1Gwneud diagnosis cywir.
Dewis o driniaethau wedi'i benderfynu gan grŵp o arbenigwyr, yn hytrach nag un meddyg.
Gofal wedi'i gydgysylltu'n well a dilyniant gwell.
• Llai o oedi wrth gael gofal ac amseroedd aros byrrach.
Mantais 4 Mantais 5
• Cynnig gwybodaeth briodol a chyson.
Manteision cynllunio gofal
Mantais 6
• Ystyried yr holl anghenion gofal.
• Gofal a gwasanaethau wedi'u personoli.
Mantais 7 Mantais 8
• Hyrwyddo annibyniaeth.
Modiwl 4: Cwrdd ag anghenion unigolion
Astudiaethau achos
Mae Stuart yn fachgen 5 oed a gafodd ddiagnosis o barlys yr ymennydd ar ôl damwain. Nawr rhaid iddo ddefnyddio cadair olwyn, mae ei leferydd yn aneglur ac mae arno angen cymorth â phob gweithgarwch byw pob dydd. Mae'n byw gyda'i rieni a dau frawd. Ymchwiliwch i'r ddarpariaeth leol o ofal sydd ar gael i ddiwallu anghenion gofal y teulu.
Edrychwch ar yr astudiaethau achos isod a meddyliwch am anghenion gofal y ddau unigolyn. Trafodwch sut byddai cynlluniau gofal yn cael eu dyfeisio ar eu cyfer.
Cliciwch yma i weld tabl sy'n dangos yr anghenion sydd wedi'u pennu ar gyfer y ddau unigolyn.
Modiwl 4: Cwrdd ag anghenion unigolion
Mae Sophia yn 38 oed. Mae'n briod a chanddi ddau blentyn. Ar ôl darganfod lwmp yn ei bron mae wedi cael diagnosis o ganser. Ymchwiliwch i'r ddarpariaeth leol o ofal sydd ar gael i helpu menywod drwy wneud diagnosis, atal a thrin canser y fron.