penblwydd hapus i grŵp strôc caergybi!...hydref 2016 penblwydd hapus i grŵp strôc caergybi!...
TRANSCRIPT
-
Hydref 2016
Penblwydd Hapus i
Grŵp Strôc Caergybi!
Cafodd Ernie Pritchard ei strôc ar 18
Chwefror 1995. Arferai fod yn swyddog
adnoddau dynol yn RAF Fali ar Ynys Môn,
gyda rhyw 240 o sifiliaid dan ei adain;
roedd wrth ei fodd â’r swydd ac mae’n hi-
raethu amdani o hyd.
Nid oedd fyth yn ddyn i eistedd yn llonydd
am yn hir, felly penderfynodd ddechrau
Grŵp Strôc ac, ym mis Medi, dyna a
wnaeth. Dechreuodd y Grŵp yn y Ganolfan
Allymestyn yng Nghaergybi gyda chwe ae-
lod. Erbyn hyn, 20 mlynedd yn ddiwedda-
rach, mae gan y Grŵp ryw 25 o aelodau ac,
yn gwbl haeddiannol, mae’n hynod falch
o’i lwyddiant ers cyhyd. Rheswm hen ddi-
gon da dros gael parti! Felly, daeth bron i
ddeg ar hugain o ffrindiau, gofalwyr a go-
roeswyr strôc i fwynhau cinio bendigedig
yng Ngwesty Bae Trearddur ddydd Merch-
er, 14 Medi. Roedd yr haul yn tywynnu,
cafwyd ambell ddiod a rhannwyd hanesion
o ddewrder a phendantrwydd.
Ar gyfer y flwyddyn arbennig hon, roedd
Ernie wedi’i ethol yn unfrydol yn Gadei-
rydd, ond mae’n cydnabod y cyfraniad ar-
bennig a wnaed gan ei ragflaenydd, Eirwen
Mills. Gynt yn Gadeirydd, yn Drysorydd ac
yn Ysgrifennydd ar hyn o bryd, prin yw’r
rolau nad yw Eirwen wedi ymgymryd â
nhw yn gysylltiedig â llwyddiant parhaus y
Uchod: Ellen Roberts (Trysorydd Cyntaf), Ernie
Pritchard and Eirwen Mills
-
grŵp hwn ers ei strôc ei hun yn 2006.
Dynes brysur tu hwnt yw Eirwen ac ar gefn
beic modur, gyda'i gŵr Chris, mae hi hefyd
yn helpu mewn siopau elusennol a hi yw’r
sbardun ar gyfer llawer o’r teithiau a’r dig-
wyddiadau sy’n cael eu cyflawni gan y
grŵp.
Cyfeiriodd Ernie ac Eirwen ill dau at y
caredigrwydd a’r haelioni a ddangoswyd
tuag atynt gan drigolion Môn, ac yn ar-
bennig at y ddeuawd codi arian, y fam a’r
ferch Margaret Williams a Lisa Bates. Mae’r
ddwy gefnogwr diflino hyn wedi sicrhau
bod cynifer o weithgareddau’r grŵp yn
bosibl trwy godi symiau aruthrol o arian
trwy amrywiaeth fawr o heriau dyfeisgar.
Wrth iddynt gyflwyno siec arall fyth i’r
Grŵp, fe wnaeth pawb gymeradwyo a
chydnabod eu cyfraniad
Daeth y dathliad i ben trwy drafod cynhyr-
chu calendr Nadolig, y trefniadau ar gyfer
y cinio Nadolig a llawer o syniadau ar
gyfer y flwyddyn nesaf. Yn egnïol, yn
ddyfeisgar, gyda chefnogwyr gwirioneddol
ysbrydoledig, dymunwn bob llwyddiant
iddynt ar gyfer yr ugain mlynedd nesaf!
Uchod: Ernie, Lisa a Margaret a siec mawr!
Unwaith eto, buom yn ffodus gyda’r
tywydd eleni. O leiaf, roedd diwrnod cyn-
taf Sioe Môn yn braf, braidd yn oer, ac
roedd golwg dda ar ein stondin, er iddi
gael ei chelu braidd gan y stondin drws
nesa’.
Cafwyd cefnogaeth aruthrol gan John
Heaton a Gwenda, gyda Gwenda’n trefnu
ac yn lapio’r holl anrhegion ar gyfer y raffl.
Diolch yn fawr i chi am eich holl waith, ry-
dym yn ei werthfawrogi’n fawr.
Ar y cyfan, daeth 55,000 o bobl ar gy-
fartaledd i’r Sioe a gwnaethom yr un nifer
o brofion pwysedd gwaed â’r llynedd.
Cafodd Llinos ei gwahodd ar raglen radio,
ar “MON FM” y tro hwn. Mae’r cyfleoedd
hyn i siarad am strôc a gwaith y
Gymdeithas gyda chynulleidfa ehangach
yn amhrisiadwy a chymaint yw profiad
Llinos fel bod y cyfryngau yn cysylltu â hi,
yn hytrach na ninnau’n cysylltu â’r cyfryn-
gau, gan wneud bywyd yn haws o lawer
wrth i ni weithio mor galed i dynnu sylw
pobl at ein gweithgareddau a sut gallwn
helpu.
Sioe Môn 2016
-
Grŵp Porthmadog
yn derbyn her
Boccia Ydych chi’n cofio amdanom ni’n sôn am
Boccia tua blwyddyn yn ôl? “Botcha” yw’r
ynganiad ac mae’n fath o fowls sy’n cael ei
chwarae gyda’r un amcan, sef cael eich pêl
chi agosaf at y jac; y prif wahaniaeth yw
bod pob cystadleuydd yn eistedd.
Daeth dau dîm o Grŵp Strôc Porthmadog
Dave Hill i gymryd rhan yn y twrnamaint, a
gynhaliwyd ym man cyfarfod arferol y
grŵp, sef Canolfan Glaslyn. Roedd cyn-
rychiolwyr yno o nifer o sefydliadau eraill
ac roedd y brif neuadd yn brysur tu hwnt.
Ar ôl cael rhai cyfarwyddiadau sylfaenol a
sesiwn gynhesu digon egnïol, aeth y timau
ati i gymryd eu tro yng ngemau’r rownd
gyntaf. Wrth gwrs, hanfod yr hwyl yw
cymryd rhan ond, os ennill yw’r nod go
iawn, does dim o’i le ar drafod tactegau!
Wrth i’r tensiwn gynyddu, aeth pob tîm ati
i wella’u chwarae, gyda chefnogaeth arfer-
ol yr hyfforddwr.
Yn y pen draw, rhaid i ni bob amser dder-
byn mai penderfyniad y beirniaid sy’n
mynd â hi, hyd yn oed pan fydd hi’n am-
lwg y cawsom ni gam!
O ganlyniad, mae’n rhaid i ni ddatgan na
wnaeth yr un o’n timau dewr gyrraedd y
rownd gynderfynol, ond cafwyd diwrnod
arbennig a byddai’n wych petawn ni’n gallu
annog grwpiau strôc eraill i ddod i ymuno â
ni’r flwyddyn nesaf ….. amdani!
-
Roedd Shriek for Stroke, a gynhaliwyd
ddydd Sadwrn, 22 Hydref, yn llwyddiant
ysgubol. Cyrhaeddodd saith gwirfod-
dolwr dewr ac Emma Kay o’r Gymdeithas
i Gastell Bodelwyddan i gamu i’r tywyll-
wch. Ar ôl taith gychwynnol, yna
gweithdy byr a wnaeth gyflwyno rhai te-
clynnau ymchwilio’r goruwchnaturiol i’r
grŵp, diffoddwyd y goleuadau a chy-
chwynnodd yr antur.
Symudodd gwydr ar ei ben ei hun,
cafodd rhai symudiadau diesboniad eu
canfod ar y camerâu gweld yn y nos,
nodwyd cyswllt ar y recordwyr EVP (gol.
Na finnau, chwaith!) a chafodd rhywun ei
wthio, rhyw fymryn, ond ei wthio, ar
Codi arswyd ar nos
Sadwrn!
waelod y grisiau. Daeth yr hysteria tua 5.00
y bore, yn bennaf oherwydd y diffyg
cwsg...ni flasodd coffi a theisennau crwst
gystal erioed!
Fu’r ymdrech yn werth chweil? Heb amheu-
aeth. Nid yn unig y cafwyd hwyl, ond mae’r
noson wedi codi’r swm anhygoel o £1,700
hyd yn hyn gan olygu sicrwydd, os oedd
angen, y bydd rhyw ddigwyddiad tebyg
mewn lleoliad arall flwyddyn nesaf. Diolch i
Emma am drefnu’r digwyddiad a diolch i
bob enaid dewr a gymerodd ran.
Ymunodd Philippa
Davies â’r
Gymdeithas Strôc yn
Awst 2015 fel
Swyddog Statudol
Codi Arian ar gyfer
gogledd a chanolbarth Cymru. Mae’r tori-
adau di ben draw yn y cyfnod hwn o gynni
wedi golygu iddi orfod chwilio am gyllid gan
amrywiaeth eang o ffynonellau er mwyn i ni
Dod i adnabod
chi...
barhau i gynnig y gofal a’r cymorth gorau y
gallwn i oroeswyr strôc, eu teuluoedd a’u
gofalwyr.
Yn wreiddiol, fe wnaeth Philippa astudio’n
filfeddyg, ond dywed fod cyfarfod â’i gŵr,
Gareth, wedi newid ei blaenoriaethau. Mae
hi bellach yn byw ar fferm yng Ngheredi-
gion gyda Gareth a’u dau o blant, ac yn
treulio’i horiau hamdden yn helpu ar y
fferm a choginio i’r teulu, a gwylio dramâu
teledu pan gaiff hi gyfle.
Mae’n frwd iawn am yr Eidal, y golygfeydd,
y ffordd o fyw ac, wrth gwrs, mae’r gwin a’r
bwyd yn bur dda hefyd!
-
Mae’n bleser gennym ddatgan bod nifer y
Pwyntiau Gwybodaeth yn cynyddu’n raddol.
Erbyn hyn, mae un yng Nghanolfan Cunliffe,
sef man cyfarfod grŵp Roy Griffith yn
Wrecsam, ac mae’n gobeithio y bydd mwy i
ddod.
Rydym wedi clywed am un achlysur pan
oedd perchennog siop wedi adnabod un o’i
gwsmeriaid rheolaidd a holi a oedd popeth
yn iawn gan nad oedd wedi’i weld yn ddi-
weddar.
Roedd y ffermwr oedrannus, a oedd yng
nghwmni ei fab ar y pryd, wedi dweud
wrtho ei fod wedi dioddef strôc a bod ef a’i
deulu’n ei chael hi’n anodd iawn ymdopi,
mewn gwirionedd. Rhoddwyd ein taflenni
iddynt yn syth a ffoniodd y mab y rhif ar y
daflen - roedd y mab ei hun ymhell dros ei
50 oed. Yr wythnos ganlynol, daeth y mab
yn ôl i’r siop ac, o holi sut oedd ei dad a’r
teulu erbyn hyn, dywedodd “Rwy wedi sor-
tio’r cyfan nawr. Mae popeth yn iawn”.
Rydym yn falch iawn o hynny, yn helpu i roi
bywyd yn ôl ar ben ffordd eto. Cymorth
lleol, diffwdan gan bobl roeddent yn eu
hadnabod, yn caniatáu i ni ymwneud â nhw
ac addasu’r cymorth yn ôl y gofyniad uni-
gol. Gwych!
Gofynnwyd i ni gyflwyno’r syniad hwn i
gynhadledd staff Cymru’r Gymdeithas
Strôc, felly, rydym yn gobeithio bydd y fen-
ter hon a ddyfeisiwyd yng ngogledd Cymru
yn tyfu ledled y wlad gyfan a, hwyrach, y tu
hwnt. Cawn weld a chewch wybod!
Pwyntiau Gwybodaeth
y Gymdeithas Strôc
Dyma lun o staff swyddfa ym Macclesfield
gyda’r cacennau a bobwyd ganddynt i
gefnogi’r Gymdeithas Strôc.
Fe wnaethant godi £142.00, felly mae’n
rhaid bod pawb yn y swyddfa fechan honno
wedi rhoi rhywbeth – tipyn o gamp.
Dal d’afael... Macclesfield? Dydy Maccles-
field ddim yng ngogledd Cymru. Nac ydyw,
ond mi rydw i, a’m merch i drefnodd y cy-
fan!
Cefnogaeth o Macclesfield
Ac os dyna hi am y tro…
Oddi wrth bob un ohonom yn y Gymdeithas Strôc yng ngogledd Cymru, Nadolig Llawen a
Blwyddyn Newydd Dda i chi oll, ac edrychwn ymlaen at weld pawb eto yn 2017.
-
Calendr digwyddiadau
The Big Welsh Woolly Jumper
Dydd Sadwrn 4 Mawrth 2017
Ymunwch â ni i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yng
Nghymru mewn ffordd unigryw a chwblhau naid yn
Maes Awyr Tilstock .
Resolution Run
Dydd Sul 19 Mawrth 2017
Beth am ddechrau meddwl am eich cydraniad
Blwyddyn Newydd yn gynnar a cofrestrwch ar gyfer
ein Resolution Run 2017!
Ewch i stroke.org.uk/5kp
Am fwy o fanylion am unrhyw ddigwyddiadau ar y dudalen hon
cysylltwch â ni trwy anfon ebost i [email protected] neu
galwch 01745 508632
Taith gerdded noddedig
16-20 Medi 2017
Mae Gwyliau Cerdded Clywdian wedi dewis ni fel eu
Elusen y Flwyddyn am 2017. Am fwy o fanylion ac i
gofrestru cysylltwch a Bob Eckersall ar 01745 890453
Digwyddiadau allanol 2017
6 Mai - Sialens Bala Taith Gerdded Noddedig 1-3 Medi - Anglesey Ultra Marathon
20-21 Mai - Slatesman Triathlon 19 Tachwedd - Conwy Half Marathon
-
Cofiwch…
Mae’r Gymdeithas Strôc yma i’ch helpu
chi, ac rydym ni eisiau gwneud yn siŵr
eich bod chi’n cymryd mantais o’r cyfan
sydd gennym i’w gynnig.
Ffoniwch ein Llinell gymorth (0303 3033
100) os oes gennych chi unrhyw ymholi-
adau – mae ar gyfer pawb, nid dim ond y
rheiny sydd wedi dioddef strôc yn ddi-
weddar.
Ymunwch â sgwrs TalkStroke ar-lein a
sgwrsio â phobl eraill â phrofiadau tebyg
i’ch rhai chi. Ewch i stroke.org.uk/
talkstroke.
Dilynwch ni ar Twitter @StrokeWales a
Instagram a hoffwch ni ar Facebook trwy
fynd i dudalen Stroke Association Wales,
i ddysgu am yr holl fentrau cyffrous rydym
ni’n gysylltiedig â nhw.
Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am beth
sy’n digwydd trwy ddarllen Club Togeth-
er; anfonir gopïau o’r rhain at eich grŵp
bob tri mis. Cofiwch anfon eich straeon i
Rebecca Chamberlain.
Cysylltwch â swyddfa Gogledd Cymru yn
Llanelwy i siarad â’r tîm sydd bob amser
yn hapus i sgwrsio. Ffoniwch 01745
508524
Oes gennych chi rywbeth i’w ddweud
wrthym?
Da iawn! Anfonwch neges e-bost at
[email protected] neu ffoniwch
David ar 01352 721089
Tan y tro nesaf!