· web viewmae diwedd yr wythnos yn hollol wahanol – mae’r lolfa’n llawn ffermwyr bob dydd...
TRANSCRIPT
UNED 16
Patrymau craidd
CYMHARU ANSODDEIRIAU 2 (Comparison of adjectives 2)
Y RADD EITHAF (The Superlative: the biggest, the best))
Tal > Talach > Tala
Drud > Drutach > Druta
Hen > Hŷn > Hyna
Mawr > Mwy > Mwya
Diddorol > Mwy diddorol > Mwya diddorol
Drwg > Gwaeth > Gwaetha
Da > Gwell > Gorau
ac ati
Fi ydy’r hyna
Fo ydy’r gorau / Hi ydy’r orau
Y Cwrs Pellach ydy’r cwrs mwya diddorol
[Yn y Cwrs Wlpan, mae’r patrymau yma’n codi yn Uned 31]
Hefyd yn yr uned:
GWRANDO: 1. Dau frawd a chwaer
2. Newyddion
DARLLEN: Tafarnau Gorau Cymru
YSGRIFENNU: Ysgrifennwch ddisgrifiad o dafarn neu dŷ bwyta (ar batrwm Adran D)
325
A. PROC I’R COF
1. Y gorau a’r gwaetha
Pa un ydy’r diwrnod gorau yn yr wythnos?gwaetha
Pa un ydy’r amser gorau o’r dydd?gwaetha
Pa un ydy’r amser gorau o’r flwyddyn?gwaetha
Be’ ydy’r peth gorau am eich tŷ chi?gwaetha
Be’ oedd y peth gorau am y tŷ / ardal lle oeddech chi’n byw o’r blaen?gwaetha
Pa un oedd eich pwnc gorau yn yr ysgol?gwaetha
Pa un oedd y gwyliau gorau gaethoch chi erioed? gwaetha
Pa un oedd y rhaglen orau ar y teledu ers talwm ?waetha
Be’ fydd y peth gorau fydd yn digwydd yn ystod y mis nesa ?gwaetha
Be’ fasai’r anrheg orau i chi ar eich pen-blwydd?waetha
Be’ fasai’r swydd orau i chi ?waetha
Be’ ydy’r peth gorau am Gymru?gwaetha
Be’ ydy’r peth gorau am yr ardal yma?gwaetha
Be’ ydy’r peth gorau am y cwrs yma?gwaetha
326
2. Oera, poetha, ac ati
Prawf! Faint o’r geiriau dach chi’n eu cofio?
oer > oera
poeth >
tal >
cryf >
byr >
trwm >
tenau >
braf >
clir >
cynnes >
cynnar >
drud >
rhad >
caled >
teg >
pwysig >
gwlyb >
diflas >
diddorol >
digri >
brawychus >
gwyntog >
ifanc >
hen >
cyflym > cyflyma /
agos > agosa /
hawdd >
uchel >
isel >
mawr >
bach >
drwg >
da >
Mae’r atebion ar y dudalen nesa.
327
Atebion
oer > oera
poeth > poetha
tal > tala
cryf > cryfa
byr > byrra
trwm > tryma
tenau > teneua
braf > brafia
clir > cliria
cynnes > cynhesa
cynnar > cynhara
drud > druta
rhad > rhata
caled > caleta
teg > teca
pwysig > pwysica
gwlyb > gwlypa
diflas > mwya diflas
diddorol > mwya diddorol
digri > mwya digri
brawychus > mwya brawychus
gwyntog > mwya gwyntog
ifanc > fenga
hen > hyna
cyflym > cyflyma / cynta
agos > agosa / nesa
hawdd > hawsa
uchel > ucha
isel > isa
mawr > mwya
bach > lleia
drwg > gwaetha
da > gorau
D.S. Y patrwm ydy:
Fi ydy’r hynaSiân ydy’r fengaNhw ydy’r tîm cryfaElvis oedd y gorau
Mae treiglad meddal efo enwau benywaidd: Fo ydy’r tala / Hi ydy’r dalaAnn ydy’r orau
328
Y flwyddyn yma ydy’r bwysica3. Trafodwch
Pa wy ydy’r mwya / lleia? Pa dŵr ydy’r tala?
Blackpool Shard
Pwy ydy’r fenga / hyna?Pa gath ydy’r dewa / deneua?
Pa gar ydy’r druta / cyflyma?
Pa un ydy’r agosa / pella?
Imfoto / Shutterstock.com Radu Bercan / Shutterstock.com
Pa ddillad ydy’r druta / mwya ffasiynol?
360b / Shutterstock.com 360b / Shutterstock.com
Pa ffordd ydy’r fyrra / gyflyma / fwya diddorol?
329
4. Atebwch
Pwy ydy’r hyna yn eich teulu chi?
Pwy ydy’r fenga yn eich teulu chi?
Pwy ydy’r tala yn eich teulu chi?
Pwy ydy’r gorau / gwaetha yn eich teulu chi am godi yn y bore?
am ganu?
am dynnu lluniau?
Pa un ydy’r siop orau / rata / fwya cyfleus ar gyfer prynu llysiau a ffrwythau?
ar gyfer prynu cig?
ar gyfer prynu dillad?
Pa un ydy’r swyddfa bost / dafarn / feddygfa / sinema agosa at eich tŷ chi?
Pa un ydy’r lle dela / mwya diddorol yn yr ardal?
Pa un ydy’r llyfr mwya diddorol dach chi wedi’i ddarllen yn ddiweddar?
Pa un ydy’r ffordd gyflyma i fynd o’r ardal yma i Gaerdydd?
Pa un ydy’r haf brafia / gaea caleta dach chi’n ei gofio?
Pa un ydy’r mynydd / tŵr ucha dach chi wedi’i ddringo?
Pa un ydy’r profiad mwya cyffrous / mwya brawychus dach chi wedi’i gael wrth ddysgu neu siarad Cymraeg?
Be’ ydy’r peth pwysica yn eich bywyd chi ar hyn o bryd?
330
Taflen Waith 1
1. Cyfieithwch
I am the oldest _______________________________________
She’s the best _______________________________________
They’re the worst _______________________________________
Which one is the most interesting? _______________________________________
I was the youngest in the group _______________________________________
Pavarotti was the best singer ever _______________________________________
We were the fastest in the race _______________________________________
I will be the best in the class one day _______________________________________
2. Llenwch y bylchau
Fi ydy’r __________________ yn y teulu am _______________________________.
_______________________ ydy’r lle ________________ yng Nghymru.
_______________________ ydy’r lle ________________ dw i wedi bod.
_______________________ ydy’r llyfr _________________ dw i wedi’i ddarllen.
Fy ________________ ydy’r person _________________ dw i’n ei nabod.
Pan ôn i yn yr ysgol, fi ___________ y ______________ yn y dosbarth.
_______________ oedd y pwnc ___________________ yn yr ysgol.
_______________________ ___________ y rhaglen orau ar y teledu ers talwm.
Mewn 100 mlynedd, _________________ fydd y wlad _______________ yn y byd.
_________________________ ydy’r peth ________________ am ddysgu Cymraeg.
331
B. YMESTYN
i. Newid y patrwm
Dw i’n hŷn na ti Fi ydy’r hyna
Mae o’n dalach na ti Fo ydy’r tala
Mae hi’n gryfach na fo Hi ydy’r gryfa
Maen nhw’n waeth na ni Nhw ydy’r gwaetha
Roeddet ti’n agosach na fi Ti oedd yr agosa
Roedden ni’n fwy swnllyd na nhw Ni oedd y mwya swnllyd
Mi fydda i’n well na phawb arall Fi fydd y gorau / yr orau
ii. Atebion
Wyt ti’n fengach na dy frawd? Ydw / Nac ydw
Ti ydy’r fenga? Ia / Naci
Ydy’r rhieni’n waeth na’r plant? Ydyn / Nac ydyn
Y rhieni ydy’r gwaetha? Ia / Naci
Oedd y croesair yn haws na’r swdocw? Oedd / Nac oedd
Y croesair oedd yr hawsa? Ia / Naci
Fydd y trên yn fwy cyfleus na’r bws? Bydd / Na fydd
Y trên fydd y mwya cyfleus? Ia / Naci
iii. Mai
Pa un ydy’r rhata? Dw i’n meddwl mai hwn ydy’r rhata
Pa un ydy’r dela? Dw i’n meddwl mai’r un coch ydy’r dela
Pa dîm ydy’r gorau? Dw i’n meddwl mai Wrecsam ydy’r gorau
Pa grŵp oedd y gorau yn y chwedegau? Dw i’n meddwl mai’r Beatles oedd y gorau
Hwn ydy’r rhata? Naci, dw i’n meddwl mai hwnna ydy’r rhata
Yr un coch ydy’r dela? Naci, dw i’n meddwl mai’r un glas ydy’r dela
Wrecsam ydy’r tîm gorau? Naci, dw i’n meddwl mai Abertawe ydy’r tîm
gorau
Y Beatles oedd y grŵp gorau? Naci, dw i’n meddwl mai’r Rolling Stones
oedd y grŵp gorau
332
iv. Atebwch efo Dw i’n meddwl mai....
1. Pa un ydy’r dre fwya?
a) Aberystwyth b) Bangor c) Llandudno
2. Pa un ydy’r ynys leia?
a) Madeira b) Menorca c) Ynys Môn
3. Pa un ydy’r ci mwya cyffredin ar Ynysoedd Prydain?
a) Alsatian b) Labrador c) Cocker Spaniel
4. Pa un ydy’r ffilm hyna?
a) Jaws b) Rocky c) Star Wars
5. Pa un oedd yr enw Cymraeg mwya poblogaidd ar hogyn yn 2013-14?
a) Gruffudd b) Osian c) Tomos
6. Pa un ydy’r afon hira?
a) Clwyd b) Conwy c) Ystwyth
7. Pa un ydy’r mynydd ucha yn Ewrop?
a) Elbrus b) Mont Blanc c) Matterhorn
8. Pa albwm oedd gwerthwr mwya’r ugeinfed ganrif?
a) Grease b) Thriller c) Dark Side of the Moon
Ar ôl gwneud eich dewis, triwch ymarfer y patrwm cymharol, e.e. After making your choice, try practising the comparative pattern, e.g.
Mae Aberystwyth yn fwy na Bangor / Roedd Osian yn fwy poblogaidd na Tomos
(Mae’r atebion ar ddiwedd yr uned)
333
Taflen Waith 2
1. Atebwch efo mai:
Pa un ydy’r tŷ bwyta gorau yn yr ardal?
_____________________________________________________________________
Pa un ydy’r atyniad (attraction) twristaidd mwya diddorol yn yr ardal?
_____________________________________________________________________
Pwy oedd yr athro gorau / athrawes orau pan oeddech chi yn yr ysgol?
_____________________________________________________________________
Pwy oedd y perfformiwr gorau i chi ei weld erioed?
_____________________________________________________________________
Be’ ydy’r peth caleta wrth ddysgu Cymraeg?
_____________________________________________________________________
2. Atebwch No a dilynwch y patrwm:
Mae Siân yn dalach na Siôn. Nac ydy, Siôn ydy’r tala
Mae Bangor yn ddelach na Chonwy
_____________________________________________________________________
Mae’r moron yn rhatach na’r tatws
_____________________________________________________________________
Rwyt ti’n hŷn na fi
_____________________________________________________________________
Roedd gaea 2010 yn waeth na gaea 1963
_____________________________________________________________________
Roedd ffilmiau Laurel and Hardy yn fwy digri na ffilmiau Chaplin
_____________________________________________________________________
334
Y Cwrs Wlpan ydy’r cwrs gorau
_____________________________________________________________________
335
Geirfa’r uned b = benywaidd/feminineg = gwrywaidd/masculine
atyniad (g) - attraction
brawychus - scary, frightening
croesair (g) - crossword
cyfleus - convenient
cyffredin - common
chwedegau - sixties
digri - funny
hwn (g) - this one
hwnna (g) - that one
poblogaidd - popular
swnllyd - noisy
tenau - thin
Geirfa’r ddeialog
Hwntw - South-Walian
lliw haul (g) - suntan
Penrhyn Gŵyr - Gower Peninsula
yn bendant - definitely
dŵad yn - to become
dacw - there’s (pointing to someone/something)
genod (b) - girls
cyfan - whole
335
C. DEIALOG
Mae Alun a John yn cyfarfod ar y stryd.
A. Alun? Be’ wyt ti’n wneud yn fama?
B. Dw i adra ar wyliau am gwpl o ddyddiau. Mae’n braf bod yn ôl yn y gogledd eto.
A. Sut mae pethau’n mynd yng Nghaerdydd, felly?
B. Ardderchog. Caerdydd ydy’r ddinas fwya cyffrous yn y wlad.
A. Ond roeddet ti’n arfer deud mai Bangor oedd y ddinas fwya cyffrous! Wyt ti’n
dechrau troi’n Hwntw?
B. Nac ydw, siŵr.
A. Mmm.... Rwyt ti’n edrych yn dda, beth bynnag. Lle gest ti’r lliw haul ‘na?
B. Mi aethon ni i Benrhyn Gŵyr penwythnos diwetha. Dyna lle mae’r traethau dela yn
Ewrop.
A. Penrhyn Gŵyr? Naci, siŵr. Mae pawb yn gwybod mai traethau Penrhyn Llŷn ydy’r
traethau dela. Rwyt ti’n bendant yn dechrau troi’n Hwntw.
B. Nac ydw, siŵr. Ond rhaid i mi ddeud mod i wedi dŵad yn hoff iawn o gwrw Brains.
A. Cwrw Brains? Be’ am Mŵs Piws? Roeddet ti’n arfer deud mai Mŵs Piws oedd y
cwrw gorau yn y byd. Rwyt ti wedi troi’n Hwntw.
B. Naddo, siŵr. A, dacw Mari, fy nghariad i. Mae hi’n dŵad o’r Barri.
A. Hogan Hwntw? Be’ ddigwyddodd i Esyllt o Wersyllt? Roeddet ti’n arfer deud mai
genod y Gogledd oedd y genod gorau.
B. Mae genod y Gogledd yn grêt, ond Mari ydy’r hogan orau yng Nghymru gyfan.
A. Aros funud. Dw i’n ei nabod hi. Mari o’r Barri! Roedd hi yn y coleg efo fi.
Rwyt ti’n iawn am unwaith. Mari ydy’r hogan orau yng Nghymru gyfan!
336
CH. GWRANDO
1. Dau frawd a chwaer
Geirfa
gau - falseaml - oftenegnïol - energeticdiweddar - recenttywyll - darktebyg - similargolau - light, fair
bwriadu - to intendaddysg (b) - educationbalch - glad, pleasedswnio - to soundymarfer corff (g) - P.E.bywyd (g) - lifediog - lazy
Gwrandewch ar y tri siaradwr, yna penderfynwch ydy’r brawddegau’n wir neu gau:
GWIR GAU
a) Mae Eifion yn hŷn na Gwenda
b) Mae Eifion yn gweld Gwenda’n amlach
na mae o’n gweld Bryn
c) Mae Eifion yn byw’n bellach o Lanrwst na Bryn
ch) Mae Gwenda’n hapusach yn ei gwaith na Eifion
d) Mae Eifion yn fwy egnïol na Bryn
dd) Bryn ydy’r hyna o’r tri
e) Cartre Gwenda ydy’r un pella o Lanrwst
f) Eifion wnaeth symud tŷ’n fwya diweddar
ff) Gwenda ydy’r un dywylla o’r tri
g) Bryn ydy’r un mwya tebyg i’w mam nhw337
2. Newyddion
Geirfa
olew (g) - oilgostwng - to reducediswyddo - to sackcanrif (b) - centurydymchwel - to demolishuchder (g) - heightsiomedig - disappointingrhan (b) - part
pencampwriaeth (b) - championshipeiliad (g) - secondyn llwyr - completelytymheredd (g) - temperaturedisgleirio - to shineuchafbwynt (g) - highlight,
maximum
a) Atebwch y cwestiynau
Eitem 1
O faint mae prisiau olew wedi gostwng yn y blynyddoedd diwetha?
_____________________________________________________________________
Faint oedd pris petrol a diesel mewn rhai ardaloedd dros y penwythnos?
_____________________________________________________________________
Faint o weithwyr sy’n mynd i golli eu gwaith?
_____________________________________________________________________
Eitem 2
Pa mor uchel oedd y bloc y fflatiau yn y Rhyl?
_____________________________________________________________________
Be’ ddigwyddodd i’r bloc o fflatiau dros y penwythnos?
_____________________________________________________________________
Pam does neb wedi byw yno ers pum mlynedd?
_____________________________________________________________________
Pa mor uchel ydy’r bloc o fflatiau yn y Fflint?
_____________________________________________________________________
338
Eitem 3
Pa ffilm enillodd y wobr am y ffilm orau yn seremoni’r Oscars?
_____________________________________________________________________
Pwy enillodd y wobr am yr actor gorau?
_____________________________________________________________________
Faint o weithiau mae o wedi ennill Oscar rŵan?
_____________________________________________________________________
Eitem 4
Lle mae Pencampwriaethau Athletau’r Byd yn cael eu cynnal?
_____________________________________________________________________
Ym mha ras redodd Manon Lewis?
_____________________________________________________________________
Pwy enillodd y ras?
_____________________________________________________________________
Lle orffennodd Manon?
_____________________________________________________________________
Eitem 5
Sut mae’r tywydd wedi bod yn ddiweddar?
_____________________________________________________________________
Sut fydd y tywydd heddiw?
_____________________________________________________________________
Sut fydd y tywydd dros y penwythnos?
_____________________________________________________________________
339
b) Llenwch y bylchau yn y brawddegau yma
Eitem 1
Prisiau petrol a diesel dros y penwythnos oedd y prisiau __________________ ers
2009.
Mae incwm y cwmni olew ar ei lefel __________________ ers dechrau’r ganrif.
Eitem 2
Y bloc o fflatiau yn y Rhyl __________________ y bloc __________________ yng
Ngogledd Cymru o’r blaen.
Y bloc o fflatiau yn y Fflint _________________’r bloc _________________ rŵan.
Eitem 3
Ddim The Cambrian Triangle ydy’r ffilm __________________ .
Josh Norton __________________’r actor __________________.
Roedd llawer o bobl yn gobeithio __________________ Ioan Rhys fasai’r actor
__________________.
Eitem 4
Mi redodd Manon Lewis ei hamser __________________ erioed.
Olga Pinigina ydy’r rhedwraig __________________ dros 800 metr.
Eitem 5
Y mis diwetha __________________ y mis __________________ ers deg mlynedd.
Y mis diwetha, mi gaethon ni’r eira __________________ ers 1963.
Dydd Sadwrn nesa __________________ y diwrnod __________________ erioed
ym mis Chwefror.
340
D. DARLLEN: Tafarnau Gorau Cymru
Geirfa
adnewyddu - to renovate
cymeriad (g) - character
parchus - respectable
arbenigedd (g) - speciality
lledr (g) - leather
llaw (b) /dwylo - hand / hands
bwriadu - to intend
mae’n debyg - apparently
cyffredin - ordinary
ansawdd (g) - quality
hwyliau da - high spirits
cynghrair (b) - league
gwerthiant (g) - sales
bywyd gwyllt (g) - wildlife
cefndir (g) - background
awyrgylch (g) - atmosphere
cartrefol - homely
bragdy (g) - brewery
blasu - to taste
bwydlen (b) - menu
safle (g) - site
cynnyrch (g) - produce
pwyllgor (g) - committee
syched (g) - thirst
Y Llong ydy’r dafarn hyna yn yr ardal (agorwyd hi ym 1824) a’r agosa at yr hen harbwr. Mae lluniau o’r hen longau yn y lolfa ac un hen ffotograff gwych ar draws y wal gefn o’r harbwr fel roedd o ym 1871. Cafodd y dafarn ei hadnewyddu ym 1987, ond dydy hi ddim wedi colli ei chymeriad o gwbl.
Fel arfer, mae pobl hŷn y dre mewn un bar a’r bobl ifanc yn y bar arall. Mae dewis da o gwrw, ac yn ôl un yfwr parchus o Leeds, dyma’r peint
gorau o Toppler’s y tu allan i’r ddinas honno.
Mae tŷ bwyta prysur i fyny’r grisiau ac mae bwyd ar gael yno ddydd a nos. Arbenigedd y chef ydy bwydydd o Malaysia ac mae’r prisiau’n rhesymol iawn.
Mae’r staff i gyd yn siarad Cymraeg ac mae’r croeso’n gynnes. Ond un pwynt pwysig os dach chi’n gyrru beic modur: chewch chi ddim mynd i mewn i’r dafarn os dach chi’n gwisgo lledr.
341
Y LLONG
Y Goron ydy’r dafarn fwya yng nghanol y dre. Mae hi wedi newid dwylo yn aml yn ystod y blynyddoedd diwetha, ond mae’r tafarnwr newydd wedi setlo’n dda ac yn bwriadu aros yma am amser hir, meddai fo. Mi fydd y bobl leol yn falch iawn o glywed hynny: doedd y ddau dafarnwr diwetha ddim yn boblogaidd o gwbl, mae’n debyg!
Mae hi’n ddistaw yn y dafarn ar ddechrau’r wythnos fel arfer. Mae tipyn o bobl yn dod yno i fwyta ond does dim llawer yn dod allan i yfed. Bwyd tafarn cyffredin sy ar gael – pysgod a sglodion, pei a sglodion, byrgar a sglodion, ac ati – ond mae’r prisiau’n rhad iawn ac mae’r ansawdd yn dda.
Mae diwedd yr wythnos yn hollol wahanol – mae’r lolfa’n llawn ffermwyr bob dydd Gwener ar ôl y farchnad, mae’r tŷ bwyta’n brysur bob nos Wener a nos Sadwrn ac mae hi’n swnllyd iawn yn y bar cefn lle mae’r bobl ifanc lleol yn gwylio’r chwaraeon ar y sgrîn fawr. Ond noson brysura’r wythnos ydy nos Iau – y noson ddartiau. Pawb mewn hwyliau da a brechdanau gorau’r gynghrair ar gael am ddim i bawb ar ddiwedd y noson hefyd.
Maen nhw’n deud mai hon ydy’r dafarn lle mae’r gwerthiant mwya o Lager Wrecsam yn y wlad.
Mae Yr Afr yn dafarn hyfryd yng nghanol y wlad, efo gardd gwrw yn y cefn lle dach chi’n medru mwynhau eich diod wrth wylio’r bywyd gwyllt o gwmpas y llyn a’r golygfeydd o’r mynyddoedd yn y cefndir.
Does ‘na ddim cerddoriaeth na sgrîn fawr yn y dafarn, felly mae’r awyrgylch yn gartrefol a braf. Mae dewis ardderchog o gwrw go iawn o fragdai lleol yn y dafarn, ac mae’r dafarnwraig yn trefnu nosweithiau blasu gwin o dro i dro hefyd.
Mae’r tŷ bwyta’n llawn bob dydd a nos, a rhaid i chi ffonio ymlaen llaw i gadw bwrdd i fod yn siŵr o gael lle. Mae llawer o ddewis ar y fwydlen, ac mae popeth yn cael ei goginio ar y safle gan ddefnyddio’r cynnyrch lleol
gorau. Mae’r prisiau’n ddrutach nag mewn tafarnau eraill yn yr ardal, ond dach chi’n siŵr o gael gwerth eich pres!
Mae llawer o grwpiau gwahanol yn cyfarfod yn y dafarn: pwyllgor y Clwb Cŵn, pwyllgor y Clwb Rygbi, Clwb Dysgwyr (mae’r dafarnwraig wedi dysgu Cymraeg ei hun ac yn siarad Cymraeg trwy’r amser efo’r cwsmeriaid), Clwb Bridge, ac ati, ac mae aelodau Merched y Wawr yn dod yma am sgwrs ar ôl eu cyfarfodydd ac aelodau Côr y Bont yn dod i dorri eu syched ar ôl ymarfer.
342
Y GORON
YR AFR
1. Pam mae Y Llong yn enw addas (suitable) ar y dafarn?
_____________________________________________________________________
2. Beth ydy’r gwahaniaeth rhwng y ddau far yn Y Llong?
_____________________________________________________________________
3. Ym mha ffordd mae bwydlen Y Llong yn wahanol i dafarnau eraill?
_____________________________________________________________________
4. Ym mha ffordd mae tafarnwr newydd Y Goron yn wahanol i’r tafarnwyr diwetha?
_____________________________________________________________________
5. Ym mha ffordd mae dechrau a diwedd yr wythnos yn wahanol yn Y Goron?
_____________________________________________________________________
6. Pa fath o fwyd sy ar gael yn Y Goron?
_____________________________________________________________________
7. Pam mae hi’n swnllyd yn y bar cefn yn Y Goron?
_____________________________________________________________________
8. Pam mae nos Iau yn noson dda yn Y Goron?
_____________________________________________________________________
9. Ym mha ffordd mae safle Yr Afr yn wahanol i’r ddwy dafarn arall?
_____________________________________________________________________
10. Ym mha ffordd mae’r cwrw yn Yr Afr yn wahanol i’r cwrw yn y ddwy dafarn arall?
_____________________________________________________________________
343
11. Beth sy’n arbennig am y bwyd yn Yr Afr?
_____________________________________________________________________
12. Pryd a pham mae aelodau Côr y Bont yn dŵad i Yr Afr?
_____________________________________________________________________
13. Pa dafarn ydy’r un hyna? _____________________
Pa dafarn ydy’r un fwya yng nghanol y dre? _____________________
Pa dafarn ydy’r un bella o ganol y dre? _____________________
Pa dafarn ydy’r un fwya swnllyd? _____________________
Pa dafarn ydy’r un orau am fwyd ffres? _____________________
Pa dafarn ydy’r un orau am fwyd ecsotig? _____________________
Pa dafarn ydy’r un lleia croesawgar i feicwyr modur? _____________________
Pa dafarn ydy’r un fwya poblogaidd efo ffermwyr? _____________________
Bwyd pa dafarn ydy’r druta? _____________________
Brechdanau pa dafarn ydy’r gorau? _____________________
14. I ba dafarn fasech chi’n licio mynd? Pam?
_____________________________________________________________________
YSGRIFENNU
Ysgrifennwch ddisgrifiad o dafarn neu dŷ bwyta (ar batrwm y disgrifiadau uchod)
344
DD. GRAMADEG (Er gwybodaeth)
1. Cymharu ansoddeiriau (2)Comparison of adjectives (2)
Y Radd Eithaf (Superlative, i.e. best, biggest, most exciting, etc.)
oer oerach oerapoeth poethach poetha
cryf cryfach cryfabyr byrrach byrratrwm trymach tryma
drud drutach drutarhad rhatach rhata
teg tecach tecapwysig pwysicach pwysica
gwlyb gwlypach gwlypa
cynnes cynhesach cynhesacynnar cynharach cynhara
tenau teneuach teneua
braf brafiach brafiaclir cliriach cliria
ifanc fengach fenga_________________________________________________________________
hawdd haws hawsa
hen hŷn hyna
isel is isa
mawr mwy mwya
drwg gwaeth gwaetha_________________________________________________________________
bach llai lleia
uchel uwch ucha
da gwell gorau_________________________________________________________________
diddorol mwy diddorol mwya diddorol345
swnllyd mwy swnllyd mwya swnllyd
346
D.S. a) Mae ’na bwyslais yn y patrwm bob tro (Emphatic pattern):
Fi ydy’r hynaFo ydy’r mwyaHi ydy’r orauBlaenau ydy’r lle gwlypaY Goron ydy’r dafarn orau
Mae’r patrwm yn wahanol i’r cymharol:The pattern is different to the comparative:
Dw i’n hŷn na ti I am older than you> Fi ydy’r hyna I am the oldest
Mae’r Goron yn rhatach na’r Afr The Crown is cheaper than The Goat > Y Goron ydy’r rhata The Crown is the cheapest
Roeddet ti’n well na fo You were better than him> Ti oedd y gorau / yr orau You were the best
b) Mae’r ferf yn y trydydd person unigol bob tro (third person singular):
Fi ydy’r hynaFi oedd y fengaNi ydy’r mwya swnllydNhw oedd y gwaethaChi fydd y gorau
c) Mae ’na Dreiglad Meddal efo’r benywaidd (feminine)
Hi ydy’r dalaAnn ydy’r fwya talentogTafarn y Llong oedd yr orau
Ond dydy ll a rh ddim yn treiglo ar ôl y:
Hi ydy’r lleiaTafarn y Llong oedd y rhata
347
ch) Yr ateb i osodiadau neu gwestiynau efo pwyslais ydy Ia / Naci:The answers to emphatic statements and questions are Ia / Naci:
Hi ydy’r bos IaFi ydy’r fenga NaciNi ydy’r dosbarth mwya swnllyd IaTafarn y Llong ydy’r rhata? IaE.T. oedd y ffilm orau? NaciChi fydd y gorau? Ia
2. MAI
Ar ôl dw i’n meddwl, ella, dw i’n siwr, ac ati, dach chi’n defnyddio bod fel arfer, e.e.
Dw i’n meddwl bod y bwyd yn ddaElla bod Ann yn sâl
Ond efo pwyslais yn y patrwm (emphatic pattern), rhaid defnyddio MAI, e.e.
Hi ydy’r bos > Dw i’n siwr mai hi ydy’r bos
Fi ydy’r fenga > Dw i’n meddwl mai fi ydy’r fenga
Tafarn yr Afr ydy’r rhata > Maen nhw’n deud mai Tafarn yr Afr ydy’r rhata
Star Wars oedd y ffilm orau > Naci, dw i’n meddwl mai E.T. oedd y ffilm orau
Sylwch bod ‘na frawddeg gyflawn ar ôl MAI bob tro. Dydy hynny ddim yn wir efo BOD. Note that there is always a complete sentence after MAI. That is not the case when BOD is used.
Mae Siân yn well na Siôn > Dw i’n meddwl bod Siân yn well na Siôn
Siân ydy’r orau > Dw i’n meddwl mai Siân ydy’r orau
348
GEIRFA UNED 16
apparently mae’n debyg
atmosphere awyrgylch (g)
attraction atyniad (g)
background cefndir (g)
become, to dŵad yn
brewery bragdy (g)
century canrif (b)
championship pencampwriaeth (b)
character cymeriad (g)
committee pwyllgor (g)
common cyffredin
completely yn llwyr
convenient cyfleus
crossword croesair (g)
dark tywyll
definitely yn bendant
demolish, to dymchwel
disappointing siomedig
education addysg (b)
energetic egnïol
false gau
frightening brawychus
funny digri
girls genod (b)
glad balch
Gower Peninsula Penrhyn Gŵyr
hands dwylo
height uchder (g)
high spirits hwyliau da
highlight uchafbwynt (g)
homely cartrefol
intend, to bwriadu
lazy diog
349
league cynghrair (b)
leather lledr (g)
life bywyd (g)
light golau
maximum uchafbwynt (g)
menu bwydlen (b)
noisy swnllyd
often aml
oil olew (g)
ordinary cyffredin
P.E. ymarfer corff (g)
part rhan (b)
pleased balch
popular poblogaidd
produce cynnyrch (g)
quality ansawdd (g)
recent diweddar
reduce, to gostwng
renovate, to adnewyddu
respectable parchus
sack, to diswyddo
sales gwerthiant (g)
scary brawychus
second eiliad (g)
shine, to disgleirio
similar tebyg
site safle (g)
sixties chwedegau
sound, to swnio
South-Walian Hwntw
speciality arbenigedd (g)
suntan lliw haul (g)
taste, to blasu
temperature tymheredd (g)
350
that one (m) hwnna (g)
there’s (pointing) dacw
thin tenau
thirst syched (g)
this one (m) hwn (g)
whole cyfan
wildlife bywyd gwyllt (g)
351
Atebion Tud. 333
1. Llandudno2011: Llandudno 20,701, Aberystwyth 18,965, Bangor 15,575
2. MenorcaMenorca 702 km2, Ynys Môn 720 km2, Madeira 801 km2
3. Labrador1. Labrador, 2. Cocker Spaniel, 4. Alsatian
4. JawsJaws 1975, Rocky 1976, Star Wars 1977
5. Tomos1. Tomos, 3. Osian, 4. Gruffudd
6. ClwydClwyd 55 km, Conwy 43 km, Ystwyth 33 km
7. ElbrusElbrus 5642m, Mont Blanc 4807m, Matterhorn 4479m
8. ThrillerThriller 72 miliwn, Dark Side of the Moon 42 miliwn, Grease 40 miliwn