y parchedig j. carolau cylch, towyn jones bethel, penarth ... · rhys williams. cafwyd eitem ar y...

4
Y TYST PAPUR WYTHNOSOL YR ANNIBYNWYR CYMRAEG Sefydlwyd 1867 Cyfrol 152 Rhif 50 Rhagfyr 12, 2019 50c. Carolau Cylch, Bethel, Penarth Rydw i’n hoff iawn o siâp cylch – does dim onglau na chorneli pigog, dim diwedd i’r llinell, na dim i amharu ar y llygad. Mae ’na ofod braf o fewn cylch all ddod â thangnefedd a chysur wrth edrych arno neu ein huniaethu ag eraill wrth fod yn rhan ohono. Gall hefyd ein hatgoffa o ddechreuadau newydd neu o gario ’mlaen, ac fe gofiwn fod ein hanadlu corfforol yn un broses hir amgylchol yr ydym yn ei werthfawrogi’n fawr. Cwmpawd Fe gofiaf fy nhad yn dangos imi’n blentyn y modd y gallwn afael mewn pensil yn uwch i fyny na’r arfer, rhoi blaen y min ar y papur a throi’r papur gan gadw’r pensil yn ei unfan – a’r cyfuniad o ddefnyddio llaw a phensil fel cwmpawd yn creu cylch perffaith. Roedd cylchoedd fy nhad ar y papur bob amser yn daclusach na fy rhai i, gan ei fod yn dipyn o giamstar ar dynnu llun, ond roeddwn i wrth fy modd yn ymarfer ac mae’r atgof hwnnw siŵr o fod yn atgyfnerthu fy hoffter o gylchoedd! Cylchu Os ewch chi i chwilio am ddiffiniad symbolaidd y cylch, fe gewch hyd i nifer o eiriau hyfryd i’r glust a’r meddwl megis cyfanrwydd, anfeidredd, tragwyddoldeb a duwdod. Dywedodd Hermes Trismegistus, oedd yn ddoethur Groegaidd, mai ‘Duw yw’r cylch sydd a’i ganolbwynt ymhob man a’i gylchedd yn unlle’ a hynny yn dileu unrhyw linell, na therfyn, na ffin. Rydym fel pobl yn perthyn i nifer o wahanol gylchoedd o fewn ein cymdeithas. Ymysg fy hoff gylchoedd amser hamdden i y mae’r clwb Tenis, clwb Gwawr a chylch llyfryddol; ond yn sicr y pwysicaf imi yw bod yn rhan o gylch y capel. Mewn cylch Fe aethom ati eleni ym Methel Penarth i drefnu ein gwasanaeth carolau ar newydd wedd a’i alw’n ‘Carolau Cylch’. Er bod tuedd ynom i gyd o ymlynu at arferiad, braf weithiau yw torri’r hualau a chreu rhywbeth ffres. Y cam cyntaf ar y dydd oedd gosod y seddi fel bod y capel yn un cylch mawr a phawb yn gweld y canol. Fe fu nifer yn addurno’r capel ac amryw wedi pobi mins peis i gael gyda phaned ar y diwedd. Yn ystod y gwasanaeth cafwyd eitemau amrywiol gan y rhai oedd yn eistedd yn y cylch canolig ac roedd rhwydd hynt i bawb wneud fel ag y mynnon nhw – codi i gymryd rhan yn eu lle, neu sefyll mewn man gwahanol yn y cylch neu wneud ar eu heistedd! Yn eu tro Agorwyd gyda Kevin yn adrodd adnodau o Eseia wedi’u plethu ynghyd a ffanffer utgorn yn seinio tua’r pedwar cyfeiriad gan Dean. Clywsom pam y bu i Alun, Pat, ac Eifion ddewis eu hoff garol, a hefyd hoff ddarlleniadau gan Betsan ac Iris. Cyhoeddwyd y carolau eraill gan Eirlys, Moyra ac Emma a chyfeilio Alwena ar yr organ yn codi’r to! Clywsom osodiad cerdd dant hyfryd Menna o eiriau I. D. Hooson, Medi’n canu ei hunawd yn beraidd gyda gwên i gyfeiliant gitâr, a pharti canu swynol Ysgol Pen y Garth. Fe grëwyd Rap ’Dolig gan ddefnyddio losin M&M’s gyda phlant Bethel a’r ysgol, a’i pherfformio gyda’r gynulleidfa yn taro’u cluniau i greu’r ‘bît’ cefndirol! Ac yn benllanw i’r hwyl fe gafwyd dipyn o chwerthin wrth wylio Betsan, John, Alys, Moi, Medi a Theo yn actio sgets ynghanol y cylch gyda’r neges o gofio rhannu yn cynhesu ein calonnau ar y diwedd wrth gyd-ganu ‘O aed yr hyfryd wawr ar led, goleued ddaear lydan.’ parhad ar y dudalen gefn Y Parchedig J. Towyn Jones 1942–2019 Bu farw’r Parchg J. Towyn Jones yn dawel yn ei gartref Brynsiriol, Caerfyrddin, ar fore Llun 18 Tachwedd yn 77 oed. Roedd yn bartner cariadus i Mags, tad gofalus i Catrin ac Orinda (a Phil), tad-cu annwyl Daniel, Iwan (a Sara), Grace, Sophia ac Emlyn, a hen dad-cu direidus Belle, Bertie, Walter a Rupert. Cynhaliwyd yr angladd yng nghapel Smyrna Llangain, o dan arweiniad ei gyfaill y Parchg Ddr Felix Aubel. Darllenwyd o’r Ysgrythur gan y Parchg Aled Gwyn a darllenwyd ‘Yr Eira yn y Coed’ o waith Cynan gan Daniel Rhys Williams. Cafwyd eitem ar y mandolin gan Ieuan a Steffan Williams, a chyhoeddwyd emyn gan y Parchg Eirian Wyn. Teyrnged Traddodwyd y deyrnged i’r Parchg Towyn Jones: hanesydd, awdur, storïwr, arlunydd ymysg llawer o ddiddordebau eraill, gan y Parchg Felix Aubel. Dyma grynodeb o’r deyrnged. ‘Ganwyd Towyn yng nghartref ei fam, ar Fferm Blaenpistyll, Bwlchygroes, ger Boncath, Sir Benfro, ar 29 Mai 1942. Ef oedd unig blentyn Emrys ac Annie Mary Jones. Magwyd ef yng nghartref ei dad sef fferm Y Lan, ar yr esgair rhwng plwyfi Penboyr a Chilrhedyn. Pan oedd yn ddwy oed, ymosododd Roy, ci defaid y fferm arno. Doedd dim ffôn yn y tŷ a gorfu i’w fam ei gario yn ei breichiau i fferm gyfagos i gael cymorth. Cafodd Towyn ddolur ar ei dalcen, a’r graith yn dod yn fwy amlwg fel yr aeth yn hŷn. Braidd yn eironig, gosododd Towyn lun o Roy, y ci drwg, yn ei stydi yn Brynsiriol gyda’r teitl, ‘Bu bron a’m lladd’. Cysidrai Towyn fod ei ddau gefnder, Glan a Milton Rees, fferm Blaendewifach, Trelech, yn union fel brodyr iddo ac ergyd drom iddo oedd clywed am farwolaeth Glan. Anfonwn y cydymdeimlad mwyaf i Maureen, Milton a’r teulu yn eu profedigaeth. Addysg gynnar Derbyniodd Towyn ei addysg gynnar yn ysgol Penwaun a meddyliai’r byd o’r lle. Fel rhan o ragair ei lyfr, Ysgol Penwaun – Cofnodion Canrif 1880–1980, ysgrifennodd Towyn y geiriau parhad ar dudalen 2

Upload: others

Post on 26-Jan-2021

3 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • Y TYSTPAPUR WYTHNOSOL YR ANNIBYNWYR CYMRAEG

    Sefydlwyd 1867 Cyfrol 152 Rhif 50 Rhagfyr 12, 2019 50c.

    Carolau Cylch,Bethel, Penarth

    Rydw i’n hoff iawn o siâp cylch – doesdim onglau na chorneli pigog, dim diweddi’r llinell, na dim i amharu ar y llygad. Mae’na ofod braf o fewn cylch all ddod âthangnefedd a chysur wrth edrych arno neuein huniaethu ag eraill wrth fod yn rhanohono. Gall hefyd ein hatgoffa oddechreuadau newydd neu o gario ’mlaen,ac fe gofiwn fod ein hanadlu corfforol ynun broses hir amgylchol yr ydym yn eiwerthfawrogi’n fawr.CwmpawdFe gofiaf fy nhad yn dangos imi’n blentyny modd y gallwn afael mewn pensil ynuwch i fyny na’r arfer, rhoi blaen y min ary papur a throi’r papur gan gadw’r pensilyn ei unfan – a’r cyfuniad o ddefnyddiollaw a phensil fel cwmpawd yn creu cylchperffaith. Roedd cylchoedd fy nhad ar ypapur bob amser yn daclusach na fy rhai i,gan ei fod yn dipyn o giamstar ar dynnullun, ond roeddwn i wrth fy modd ynymarfer ac mae’r atgof hwnnw siŵr o fodyn atgyfnerthu fy hoffter o gylchoedd!CylchuOs ewch chi i chwilio am ddiffiniadsymbolaidd y cylch, fe gewch hyd i nifer oeiriau hyfryd i’r glust a’r meddwl megiscyfanrwydd, anfeidredd, tragwyddoldeb aduwdod. Dywedodd Hermes Trismegistus,oedd yn ddoethur Groegaidd, mai ‘Duwyw’r cylch sydd a’i ganolbwynt ymhobman a’i gylchedd yn unlle’ a hynny yndileu unrhyw linell, na therfyn, na ffin.Rydym fel pobl yn perthyn i nifer owahanol gylchoedd o fewn ein cymdeithas.Ymysg fy hoff gylchoedd amser hamdden iy mae’r clwb Tenis, clwb Gwawr a chylchllyfryddol; ond yn sicr y pwysicaf imi ywbod yn rhan o gylch y capel.

    Mewn cylchFe aethom ati eleni ym Methel Penarth idrefnu ein gwasanaeth carolau ar newyddwedd a’i alw’n ‘Carolau Cylch’. Er bodtuedd ynom i gyd o ymlynu at arferiad,braf weithiau yw torri’r hualau a chreurhywbeth ffres. Y cam cyntaf ar y dyddoedd gosod y seddi fel bod y capel yn uncylch mawr a phawb yn gweld y canol. Fefu nifer yn addurno’r capel ac amryw wedipobi mins peis i gael gyda phaned ar ydiwedd. Yn ystod y gwasanaeth cafwydeitemau amrywiol gan y rhai oedd yneistedd yn y cylch canolig ac roedd rhwyddhynt i bawb wneud fel ag y mynnon nhw –codi i gymryd rhan yn eu lle, neu sefyllmewn man gwahanol yn y cylch neuwneud ar eu heistedd!

    Yn eu troAgorwyd gyda Kevin yn adrodd adnodau oEseia wedi’u plethu ynghyd a ffanfferutgorn yn seinio tua’r pedwar cyfeiriad ganDean. Clywsom pam y bu i Alun, Pat, acEifion ddewis eu hoff garol, a hefyd hoffddarlleniadau gan Betsan ac Iris.Cyhoeddwyd y carolau eraill gan Eirlys,Moyra ac Emma a chyfeilio Alwena ar yrorgan yn codi’r to! Clywsom osodiad cerdddant hyfryd Menna o eiriau I. D. Hooson,Medi’n canu ei hunawd yn beraidd gydagwên i gyfeiliant gitâr, a pharti canuswynol Ysgol Pen y Garth. Fe grëwyd Rap

    ’Dolig gan ddefnyddio losin M&M’sgyda phlant Bethel a’r ysgol, a’ipherfformio gyda’r gynulleidfa yntaro’u cluniau i greu’r ‘bît’cefndirol! Ac yn benllanw i’r hwylfe gafwyd dipyn o chwerthin wrthwylio Betsan, John, Alys, Moi, Media Theo yn actio sgets ynghanol ycylch gyda’r neges o gofio rhannuyn cynhesu ein calonnau ar ydiwedd wrth gyd-ganu ‘O aed yrhyfryd wawr ar led, goleued ddaearlydan.’

    parhad ar y dudalen gefn

    Y Parchedig J.Towyn Jones 1942–2019Bu farw’r Parchg J. TowynJones yn dawel yn ei gartrefBrynsiriol, Caerfyrddin, ar fore Llun 18Tachwedd yn 77 oed. Roedd yn bartnercariadus i Mags, tad gofalus i Catrin acOrinda (a Phil), tad-cu annwyl Daniel,Iwan (a Sara), Grace, Sophia ac Emlyn, ahen dad-cu direidus Belle, Bertie, Waltera Rupert. Cynhaliwyd yr angladd yngnghapel Smyrna Llangain, o danarweiniad ei gyfaill y Parchg Ddr FelixAubel. Darllenwyd o’r Ysgrythur gan yParchg Aled Gwyn a darllenwyd ‘Yr Eirayn y Coed’ o waith Cynan gan DanielRhys Williams. Cafwyd eitem ar ymandolin gan Ieuan a Steffan Williams, achyhoeddwyd emyn gan y Parchg EirianWyn. TeyrngedTraddodwyd y deyrnged i’r Parchg TowynJones: hanesydd, awdur, storïwr, arlunyddymysg llawer o ddiddordebau eraill, gan yParchg Felix Aubel. Dyma grynodeb o’rdeyrnged.‘Ganwyd Towyn yng nghartref ei fam, arFferm Blaenpistyll, Bwlchygroes, gerBoncath, Sir Benfro, ar 29 Mai 1942. Efoedd unig blentyn Emrys ac Annie MaryJones. Magwyd ef yng nghartref ei dadsef fferm Y Lan, ar yr esgair rhwngplwyfi Penboyr a Chilrhedyn. Pan oeddyn ddwy oed, ymosododd Roy, ci defaid yfferm arno. Doedd dim ffôn yn y tŷ agorfu i’w fam ei gario yn ei breichiau ifferm gyfagos i gael cymorth. CafoddTowyn ddolur ar ei dalcen, a’r graith yndod yn fwy amlwg fel yr aeth yn hŷn.Braidd yn eironig, gosododd Towyn lun oRoy, y ci drwg, yn ei stydi yn Brynsiriolgyda’r teitl, ‘Bu bron a’m lladd’.Cysidrai Towyn fod ei ddau gefnder, Glana Milton Rees, fferm Blaendewifach,Trelech, yn union fel brodyr iddo ac ergyddrom iddo oedd clywed am farwolaethGlan. Anfonwn y cydymdeimlad mwyaf iMaureen, Milton a’r teulu yn euprofedigaeth.Addysg gynnarDerbyniodd Towyn ei addysg gynnar ynysgol Penwaun a meddyliai’r byd o’r lle.Fel rhan o ragair ei lyfr, Ysgol Penwaun –Cofnodion Canrif 1880–1980,ysgrifennodd Towyn y geiriau

    parhad ar dudalen 2

  • tudalen 2 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Rhagfyr 12, 2019Y TYST

    Y Parchedig J. Towyn Jones 1942–2019 – parhadarwyddocaol iawn: ‘Mynnaf ychwanegu fynheyrnged bersonol i’m hen brifathro, MrGordon Evans, a hynny mewn unfrawddeg. Ni chefais mewn unrhyw ysgolna choleg arall well athro nag ef.’

    Dywedodd Mags wrthyf: ‘ByddaiTowyn yn dweud pob amser yn y cyd-destun hwn ei fod yn rhyfeddu wrth ddeally medrai adrodd ar gof y gerdd “Break,Break, Break” gan Alfred Lord Tennyson,wedi iddo ei dysgu yn y dosbarth bach odan arweiniad Mr Gordon Evans.’

    Dywedodd Orinda wrthyf, ‘Pan oeddDadi’n fachgen bach yn ysgol Penwaun, feofynnwyd i’r plant wneud llun o geffyl. Yroedd e, hyd yn oed yr oed yma ynsylweddoli bod gwneud llun ceffyl yndipyn o gamp. Pan ddaeth yr athro i edrychar y llun, roedd Dadi wedi tynnu llun stably ceffyl gyda llwybr o ddom yn arwain at ydrws. Dyma’r athro yn gofyn, “Ble mae’rceffyl Towyn?” Atebodd yntau, “Mi wn yny stabl?” ’ Wedyn, mynychodd Towynysgol ramadeg Llandysul a choleg celfCaerfyrddin. Roedd e’n teimlo’n euog ei

    Ondyw hi’n bert? Yn wyrdd i gyd, yn ir, acyn drymlwythog o bethe disglair a hyfryd.A phob blwyddyn, wrth ychwanegu addurnbach newydd, mae’r goeden hyfryd yn dodyn goeden gofio, addurniadau awnaethpwyd gan y plant, rhyw bethau bachsbarcli a drosglwyddwyd o un genhedlaethi’r nesaf. Adeg y Nadolig, daeth y goedenyn symbol o’r dathlu adeg y Nadolig.GwreiddiauMae’n debyg mai gwreiddiau paganaiddsydd i’r arfer o ddod â deiliach a gwyrddnimewn i’r tŷ dros y gaeaf, er mwyn llonni’rysbryd yn ystod y dyddiau tywyll. Erbynyr 16eg ganrif roedd Cristnogaeth wedimabwysiadu defnyddio coeden i ddathlu’rNadolig yn Ewrop. Mae’n debyg mai’rdiwygiwr Protestannaidd, Martin Lutheroedd un o’r cyntaf i osod canhwyllau argoeden fythwyrdd. Mae’r cofnod cyntaf ogoeden Nadolig i’w gweld ar ffurf cerflunar adeiladwaith cartref yn Turckheim,Alsace, yn dyddio yn ôl i 1576.BytholwyrddErbyn y 18fed ganrif, roedd coed Nadoligyn gyffredin drwy ogledd Ewrop ac ynenwedig yn y gwledydd Sgandinafaidd, bleroedd coed bythwyrdd yn tyfu. Cawsai’rcoed eu haddurno gyda blodau papur,ffrwythau a chnau, yn ogystal âchanhwyllau. Yn ystod y 19eg, daeth ydosbarth uwch yn hoff iawn o’u coedNadolig ac o dipyn i beth, o’r Almaen aDenmarc (adroddodd Hans ChristianAndersen stori swynol am y goedenNadolig gyntaf yn Nenmarc), i wlad Pwyl,

    Estonia a Latfia, daeth y goeden Nadoligyn rhan annatod o draddodiad yr ŵyl.Gosodent anrhegion o dan ei changhennauhefyd a daeth y goeden yn ffocws ydathliadau yn y tŷ.BrenhinolDaeth y goeden Nadolig i Brydain drwy’rteulu brenhinol. Yr oedd y DywysogesFictoria yn cofio ei theulu Almaenig yndathlu gan ddefnyddio coeden. Ac yna, panbriododd hi â’i chefnder, y TywysogAlbert, daeth yr arfer o gael coedenNadolig yn gyffredin ym Mhrydain, ganfod Albert yn hynod hoff o goed Nadolig.Yna, roedd gan bob cartref gwerth ei halengoeden yn eu parlwr. Lledodd yr arfer iOgledd America o’r Almaen hefyd, arddiwedd y ddeunawfed ganrif ac mae wediaros yn boblogaidd yno fyth ers hynny.

    Erbyn heddiw, dydy hi ddim ynNadolig heb goeden ... ac wrth gwrs, nidoes rhaid mynd i fyny i’r mynydd gydabwyell yn eich llaw i chwilio am sbesimenda i’w dymchwel, achos mae gennym goedNadolig ffug sy’n byw mewn bocs yn yratig am weddill y flwyddyn. MeddwlgarwchWrth i ni feddwl am sut i fod yngaredicach i’r blaned a bod yn fwymeddylgar am sut ydyn ni’n byw einbywydau, mae pobl yn dechrau gofyncwestiynau am ba mor gynaliadwy yw’rholl ddathlu gwyllt a wnawn bobblwyddyn. Mae mwy o erthyglau’n cael euhysgrifennu nawr ynglŷn â sut i drefnu

    anrhegion mwy meddylgar, gwneud pethauyn hytrach na phrynu’n ddifeddwl. Mae’run peth yn wir am ein coed ni. A ddylem nibrynu coeden go iawn bob blwyddyn? Sutfedrwn ni sicrhau ei bod hi’n un ‘werdd’?Ydy hi wedi’i thyfu’n lleol? A oes modd eihailgylchu hi ar ddiwedd yr ŵyl – eidefnyddio fel tanwydd, neu ei malurio ermwyn defnyddio’r sglodion pren fel mulchyn yr ardd? A oes ganddi wreiddiau acfelly a fydd modd ei hailblannu hi? Neu, addylem ni fuddsoddi mewn coeden ffug a’idefnyddio flwyddyn ar ôl blwyddyn acfelly nad oes yr un goeden yn cael ei thorrii ddod i’ch tŷ chi – efallai iddi gael eigwneud o blastig, ond ei bod hi’n goedensy’n cael sawl Nadolig yn ei bywyd hi.

    Pa bynnag ddewis y gwnewch chi,mwynhewch y gwyliau, mwynhewchaddurno’ch coeden ac ychwanegu at yratgofion braf sy’n siŵr o ddigwydd ar yradeg hyfryd hon o’r flwyddyn.

    fod wedi gadael Miss Joyce i lawr,athrawes gelf ydoedd hi, un a weloddbotensial arbennig yn ei waith, a’ihanogodd i fynd ymlaen â’i astudiaethaucelf. Roedd dawn arbennig ganddo iadnabod gwaith arlunydd oddi wrth eiarddull o bell.Derbyn galwadGan fod dylanwad capel ei fagwraeth Soar,Penboyr yn gryf arno, rhoddodd Towyn eifryd ar y weinidogaeth a hyfforddwyd ef argyfer y gwaith yng Ngholeg Coffa’rAnnibynwyr yn Abertawe o 1961–64 o dangyfarwyddyd y Parchedig Ddr PennarDavies. Yn ystod y cyfnod hwn ydechreuodd diddordeb Towyn yn y bydddarlledu, pan gafodd gyfle i gyfweld âphobl ar gyfer rhaglen deledu Heddiw ar yBBC.

    Ordeiniwyd Towyn yn weinidog i IesuGrist yn eglwysi Annibynnol Hebron aNebo, ar y ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a SirBenfro yn 1964. Priododd Jennifer LynneDavies yn 1965 a ganwyd iddynt ddwy

    ferch sef Catrin Angharad Towyn yn 1968 aLowri Orinda Towyn yn 1973. Daeth ynweinidog ar Heol Awst Caerfyrddin yn1974, Smyrna, Llangain yn 1976 ac Elim,Ffynnonddrain yn 1998.

    Bu Towyn yn weinidog cydwybodoliawn dros y tair eglwys ac roedd eibregethau ysgolheigaidd a heriol yn ffrwythparatoi manwl a meddwl craff dadansoddola chreadigol Roedd ganddo’r ddawn brin ifedru cyflwyno ei neges o’r pulpud gydamynegiant bywiog a diddorol a oedd hefydyn cynnwys hiwmor priodol ac eto i gyd ynllawn o’r urddas boneddigaidd oedd mornodweddiadol ohono

    Ar lefel bersonol, rhaid i mi ddweud fymod wedi dysgu mwy am y weinidogaethoddi wrth Towyn nac o unrhyw lyfr. Bu’nffrind selog a chynghorwr doeth i mi erscanol yr 1990au. Roeddwn nid yn unig ynei barchu ac yn ei edmygu ond yn hoffi eigwmni yn fawr iawn hefyd. Mae gennyfatgofion hapus iawn o dreulio sawl nosonddiddorol yn ei gwmni ym Mrynsiriol ynrhoi’r byd yn ei le.

    Felix Aubel(Bydd ail ran y deyrnged hon yn y rhifyn

    nesaf o’r Tyst)

    Y Goeden Nadolig

  • Rhagfyr 12, 2019 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 7Y TYST

    GolygyddolNewyddion Da

    Mae pawb ohonom yn gyfarwydd iawn âchlywed newyddion drwg byth a hefyd. Ynein bywydau teuluol a phersonol, ynfynych cawn ergydion blin ac yn ddyddiolar y cyfryngau niferus cawn ein pledugyda straeon am drychinebau, lladd,anghyfiawnder, digalondid, gwrthdaro,llygredd ac yn y blaen. Mae newyddiondrwg yn cau amdanom fel rhyw nosfeunyddiol ac y mae o reidrwydd yneffeithio ar ein meddyliau a’n hysbryd. Yny Gymraeg mae gennym ddywediad bachpan nad ydym am ddatgelu ffynhonnell eingwybodaeth wrth ei rannu. Dywedwcheich bod chi yn prepian wrth gyfaill, amhyn a’r llall ac y mae o’n ymateb gan ofyn,‘Lle clywaist ti hynny?’ yr ateb hwylus yw,‘Gan bobl y goets fawr!’ Daw’r dywediado’r ffaith fod y goets fawr yn teithio ar hydyr A5 – lôn bost – o Lundain i Gaergybi acfelly yr oedd newyddion yn cael ei ledugan ‘bobl y goets fawr’. Roedd newyddionpwysig, da a drwg felly, yn cymryddyddiau ac weithiau wythnosau i gyrraeddpobl ar lawr gwlad. Ond bellach cawnnewyddion ar drawiad amrant ynuniongyrchol i’n ffonau symudol a

    hwnnw’n aml yn newyddion drwg. Maehyn yn chwyldro cyfryngol na fu ei debyg.Gwir ’ta gau?Ar ben hynny wrth ddilyn y cyfryngau e.e.Facebook, Trydar, Instagram a gwyliorhaglenni newyddion ar y teledu mae wedimynd yn anodd gwybod beth sy’n wir abeth sy’n gelwydd. Er enghraifft yngnghyfnod yr etholiad cyffredinol, maepleidiau yn gwneud pob math oaddewidion am blismyn, athrawon, nyrsysgan awgrymu mai gwlad yr addewid fyddhi ar ôl yr etholiad. Addewidion gwagydynt fynychaf. Mae llawer o bobl ynstumio storïau gan droi’r dŵr i felin eumeddylfryd a’u tueddiadau eu hunain.Felly ni wyddom beth yw’r gwirionedd. Oganlyniad, rhywbeth sy’n angenrheidiolheddiw yw bod pobl yn clywednewyddion da am rywbeth sy’n wirionedda chlywed am addewidion sy’n cael eucyflawni. Diolch i’r drefn, dyma yn unionbeth a gawn yn Efengyl Iesu Grist.Dywedodd yr angel wrth y bugeiliaid ar yNadolig cyntaf:

    ‘Peidiwch bod ofn. Mae gen inewyddion da i chi! Newyddion fydd yngwneud pobl ym mhobman yn llaweniawn.’ Luc 2:10

    GwirioneddYstyr y gair Groeg ‘efengyl’ (ευἀγγελιζ́ω)o’i gyfieithu i’r Gymraeg yw newyddion da.

    (Ystyr Efengyl Mathew, Efengyl Marc ynllythrennol yw ‘newyddion da Mathew’ a‘newyddion da Marc’.) Mae hanes geniIesu yn wirionedd sy’n newyddion da ibawb. Addawodd Duw droeon trwybroffwydi’r Hen Destament y byddaiperson cwbl unigryw yn dod i’r byd felMeseia, Gwaredwr ac Arglwydd e.e. ynEseia 9, 11, 53. Yn Iesu, daeth Duw i’rbyd, gan ddangos ei gariad atom ac iddelio gyda’n llanast. Yn y baban bachyng nghafn bwyta’r anifeiliaid roeddbwletin newyddion da tragwyddol Duw. YrIesu yw’r Meseia, y person y mae Duwwedi ei anfon i’r byd, i baratoi ffordd innifyw mewn perthynas hapus gydag Ef.Mae’r drwg sydd ynom wedi achosiagendor rhyngom a Duw na allwn eidrwsio na’i groesi. Ond mae Iesu’npontio’r agendor. Gwnaeth hyn trwy fywbywyd perffaith ar ein rhan; marw ar yGroes dros ein drygioni ac atgyfodi gangoncro marwolaeth.

    Ynddo Ef daeth teyrnas nefoedd i’r bydmewn ffordd arbennig gan ein dysgu igaru ein gilydd a gofalu am y bregus a’rdiamddiffyn. Yn Iesu mae gwirionedd,maddeuant a chyfiawnder, y mae’r byd aninnau fel Cymry angen ei glywed a’igredu. Llawenhewch y Nadolig hwn yn yNewyddion Da na fydd byth yn darfodnac yn ein siomi. Da yw gallu dweud nadffug newyddion yw hyn. Alun Tudur

    Dafydd Iwan piau’r geiriau yna wrth gwrs ynei gân am D. J. Williams, Abergwaun, ondbobol bach, maen nhw’n ffitio’rhyn sydd gen i i’w ddweud.

    Er bod yna’n agos iflwyddyn bellach ers colliMegan Evans, Tŷ Nant,Brithdir ger Dolgellau, ahynny yn Rhagfyr 2018, deilyr atgofion yn fyw iawn yn ycof am rywun na fedrech chi eihanghofio a dweud y gwir. Mifydda i wrth fy modd bod yng nghwmni poblsy’n gwneud i chi deimlo’n well yn eu gadaelnhw nag oeddech chi o bosib cyn eu gweld, acmi ddweda i, heb flewyn ar dafod mai fellyroedd hi yn fy adnabyddiaeth o Megan.O’r YsguborCafodd fywyd diddorol o’i dyddiau’n un obedwar o blant Ysgubor, Dinas Mawddwydrwy ddyddiau ysgol a choleg Glynllifon, ynyr hufenfa, Rhydymain, a phe tae’r muriauhynny’n gallu siarad, wel ... Wedyn yn ysbytyDolgellau, ac wrth gwrs ar aelwyd Tŷ Nantyng nghwmni ei theulu.

    Ond rhywsut yn ystod y chwarter canrifddiwethaf, mi flagurodd Megan yn arw drwyfod yn rhan o bopeth, ac mi ro’n i wrth fymodd yn gwrando arni’n mynd drwy’i phethauwrth adrodd hanes Côr Bro Meirion yr oeddhi’n aelod tra gwerthfawr ohono ers eisefydlu. Cawn hanes y cyngherddau, y tripiau,

    a’r castiau ... diniwed.Ac er iddi ymroi i’rcanu, roedd clywedambell i stori ddoniolam dro trwstan neuddau (neu dri neu

    bedwar) yn ychwanegu at ei hymroddiad i’r côr.Gwyddai sut i annog eraill i ganu a’u hollgalonnau, ond hefyd gwyddai’n union sut oeddannog yr union rai i fwynhau eu hunain.Gwên nid gwgYr hyn yr o’n i’n ei barchu a’i hoffi yn a thrwyMegan oedd na newidiai, yn unman, i neb. Yr unoedd hi - diymhongar, cadarn a phositif. Gwênfyddai ar ei hwyneb bob amser, a dweud y gwirroedd y wên honno’n un hudolus, yn apelgar. Yrhyn fyddai’n arferol i’w weld ar ei hwyneb hifyddai gwên ac nid gwg. Os deuai gwg i’r golwg,a phur anaml fyddai hynny, deuai’r wên yn ôl i’rgolwg fel haul rhwng cawodydd.CyfrinachauRoedd hi’n un o’r bobl brin hynny, os ca’ iddweud, y medrech chi arllwys eich calon iddi, agwybod bod pob cyfrinach yn berffaith ddiogel.Daw pobl at weinidog ac offeiriad yn eu trogyda’u gofidiau, ac wrth gwrs, braint pob unohonom yw parchu’r ffaith bod pobl yn teimlo feldod a’u problemau atom a’u gollwng wrth eintraed, ac wrth gwrs golyga hynny gadwcyfrinachau. Cofiaf y Dr R. Tudur Jones yndweud wrthym fel egin-weinidogion yn nyddiaucoleg eiriau tebyg i hyn: ‘Os bydd pobol yn doda’u cyfrinachau i chi, ystyriwch hynny’n fraint,ac o ganlyniad i hynny, cadwch y cyfrinachau ynsaff mewn bocs, clowch y bocs a lluchiwch o, a’rgoriad, i eigion y môr.’ Mae’n gyngor da. Ond, ygwir amdani, ar dro, y mae’r esgid yn gallu bod

    ar y droed arall sef bod gweinidog angenarllwys ei ofidiau.Parod i wrandoMi wn i, a diolch amdanynt, fod ynagymdeithasau sy’n ymdrin â’r materion hyn,a’i wneud yn hynod sensitif a gofalus, ondweithiau mae cael clust a llygad sy’ngyfarwydd â’r amgylchiadau yn helpychwanegol. A dyna’r union ble roedd Meganyn ffitio fel maneg i mi, yn arbennig yn ystody chwe blynedd diwethaf. Doeddan ni’n dauyn adnabod ein gilydd ers 1987 ers pan es i’nweinidog ifanc i’r cylch ac aros a byw yn yBrithdir rhwng 1987 ac 1993. Doedd Tŷ Nantyn ddaearyddol agos atom ni? Doedd rhieniyng nghyfraith Megan - Morris a Jean Evans,Gernant, yn edrych ar ôl ‘y gweinidog bach’ne.’ Felly, o gofio’r cefndir yna, a minnauwedi ail-gydio yng ngweinidogaeth y cylch yn2014, does ryfedd bod Tŷ Nant yn aelwyd ymedrwn i droi i mewn iddi ymhob sefyllfa,ym mhob tywydd yn llythrennol felly, ac ermai Megan yn unig oedd ar yr aelwyd bellach,roedd y glust yn feinach o bosib i gri eraill.HiraethAr hyd y blynyddoedd bu chwerthin a chriorhyngom, a bu tynnu coes diddiwedd, ac oes,er bod yna flwyddyn wedi mynd heibio, maegen i andros o hiraeth o hyd amdani, ac mae’na fwlch llydan yn parhau, ond mae’rcyfeillgarwch yn parhau efo aelodau’i theulu –diolch am hynny.

    Na, wnawn ni byth anghofio’r‘wen na phyla amser’ na’r ‘fflam.’ A chewch chi ddim fflam gyfoethocach nafflam cyfeillgarwch. Iwan Llewelyn

    ‘Y Wên na phyla amser, Y fflam na ddiffydd byth ...’

  • Cyhoeddwyd gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac argraffwyd gan Wasg Morgannwg, Uned 13, Ystad Ddiwyd. Heol Milland, Castell-nedd, SA11 1NJ. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost.

    Erthyglau, llythyrau at y Prif Olygydd: Y Parchg Ddr Alun Tudur39 Dorchester Avenue, Pen-y-lan,Caerdydd, CF23 9BSFfôn: 02920 490582E-bost: [email protected]

    Archebion a thaliadau i’r Llyfrfa:Tŷ John Penri, 5 Axis Court, ParcBusnes Glanyrafon, Bro Abertawe

    ABERTAWE SA7 0AJFfôn: 01792 795888

    E-bost: [email protected]

    tudalen 8 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Rhagfyr 12, 2019Y TYST Golygydd

    Y Parchg Iwan Llewelyn JonesFronheulog, 12 Tan-y-Foel,

    Borth-y-gest, Porthmadog, Gwynedd,LL49 9UE

    Ffôn: 01766 513138E-bost: [email protected]

    GolygyddAlun Lenny

    Porth Angel, 26 Teras PictonCaerfyrddin, Sir Gâr, SA31 3BX

    Ffôn: 01267 232577 / 0781 751 9039

    E-bost: [email protected]

    Dalier Sylw!Cyhoeddir y Pedair Tudalen

    Gydenwadol gan Bwyllgor Llywio’rPedair Tudalen ac nid gan Undeb yrAnnibynwyr Cymraeg. Nid oes awnelo Golygyddion Y Tyst ddim âchynnwys y Pedair Tudalen.

    Golygyddion

    LlawenyddCrëwyd awyrgylch rhadlon o gynnesgyda phawb, yn ffyddloniaid acwynebau newydd, yn hafal achyfforddus o fewn y cylch – rhai’ncodi i ganu’r carolau, eraill yn aros yneu seddi. Pe taen ni mewn pantomeimNadolig fe fyddem yn proffesu innibrofi rhyw sbrincyl bach o lwchtylwyth-teg dros y lle, neu efallai maiplu eira Siôn Corn ddaeth o’r awyr,neu hwyrach yn wir mai rhin yr YsbrydGlân a ddaeth drosom. Tybiaf mai’rolaf yw’r un mwyaf tebygol. Diolchein bod yn gallu profi fel y mae moddcyfuno’r carolau traddodiadol (syddmor braf), ac ambell i gerdd gan gewriein llên, gyda cherddi newydd ageitemau ysgafn a’r cyfan yn un cylchmawr o haleliwia yn ein heneidiau!Duw yn fothA thrwy’r Adfent eleni a’r hollgymdeithasu yn ein gwahanolgylchoedd, boed inni roi Duw yn ycanol a rhannu rhin ei gariad bob tro ygallwn a phob cyfle gawn. A chofiwchnad oes rhaid ofni mentro i greutraddodiadau newydd yn ein heglwysiac o fewn ein cylchoedd- mae cariadCrist dal ar waith yn ein plith! ANadolig Llawen a dedwydd ichi un acoll, pan ddaw!

    Siân Meinir

    Carolau Cylch,Bethel, Penarth

    – parhad

    Celf a chânI gofio Megan mewn ffyrdd y byddai hi’ndymuno cynhaliwyd dau ddigwyddiad agafodd gefnogaeth anhygoel, a’r ddauohonynt yn cael eu cynnal yn neuadd eangRhyd-y-main.

    Y cyntaf oedd arddangosfa o dan ofalClwb Crefft Rhyd-y-main ar 12 a 13Hydref. Ymhlith yr arddangosfa o waithcrefft roedd crefftwaith Megan ei hunmewn un gornel amlwg. Yn wir bu i’rdigwyddiad hwn – lle daeth degau o boblynghyd ar hyd y ddau ddiwrnod – yngyfrwng i ddangos talentau di-rif ym mydcrefftwaith a gwnaed elw sylweddol o dros£1,000. Roedd hefyd yn achlysurcymdeithasol gwych lle daeth pobl yno nidyn unig o Feirion ond o sawl sir arall.

    Yna, nos Wener 1 Tachwedd,gorlenwyd y neuadd gan bobl o bob manoedd yn awyddus i wrando ar gôr cymysgMeirion o dan arweiniad Iwan Wyn Parry aHuw Davies yn gyfeilydd. Wrth gwrs, yroedd Megan a’i hwyres yn aelodauffyddlon o’r côr hwn. Cafwyd datganiadaugwefreiddiol gan y côr gydag unawdau adeuawdau o’u plith, a gofynnwyd i’r tenorAled Wyn Davies (Aled Pentre Mawr),Llanbrynmair fod yn rhan o’r noson, acunwaith eto, noson i’w chofio, a gwnaedelw o dros £2,000 tuag at Macmillan aHospis yn y Cartref.

    Byddai, byddai Megan wedi bod yn eihelfen ar y noson, ac ar ran y teulu, diolchi bawb gyfrannodd mewn unrhyw ffordd atyr arddangosfa a’r cyngerdd.

    Iwan Llewelyn

    Rhai o deulu Megan – Carys (merch), ElenWyn (gor-wyres), Sioned (wyres) a

    Heulwen (chwaer)

    Enghraifft o waith cain Megan

    CywiriadYn y Blwyddiadur 2020, yngnghoffâd W. J. Edwards, nodwyd iddoysgrifennu:‘... c[h]ofiant i’r Athro Harri Williams.Yr oedd ar hanner gwaith ar fywydPrifathro Coleg y Normal, JohnPhillips, pan fu farw.’

    Yr hyn ddylai fod yn ysgrifenedigyw’r hyn a welwyd yn Y PedairTudalen 14 Tachwedd 2019 sef:‘... yn ogystal â chwblhau cofiant iJohn Phillips, prifathro cyntaf Coleg yNormal, yr oedd yr Athro HarriWilliams ar ei hanner pan fu farw.’

    ’Nôl ar Y Ffordd!Mae aelodau annibynnol ardal Hendy-gwyn a Sanclêr wedi bod yn cwrdd yn ystod yrwythnosau diwethaf yma i drafod cynllun yr Annibynwyr sef Y Ffordd. Mae yna ddwsin obobl wedi bod yn troi lan yn rheolaidd wrth i ni astudio penodau 1 a 2 o flwyddyn 3 ycynllun. Mewn cyfnod ble mae popeth arall wedi mynd yn dawel iawn yn ein crefydd yngNghymru mae brwdfrydedd pobl at gynllun Y Ffordd yn parhau i fod yn galondid mawr.

    Guto Llywelyn