y selar - awst 09

24
RHIFYN 18 . AWST . 2009 RHIFYN ‘STEDDFOD BALA 2009 CYFWELIAD DERWYDDON DR GONZO BOB PUMP PERL MAGI DODD ADOLYGIADAU A LLAWER MWY y Selar AM DDIM

Upload: y-selar

Post on 15-Mar-2016

302 views

Category:

Documents


9 download

DESCRIPTION

Cylchgrawn yn trin a thrafod y sin roc Gymraeg!

TRANSCRIPT

Page 1: Y Selar - Awst 09

1

RHIFY

N 18

. AW

ST . 2

00

9

RHIFYN ‘STEDDFOD BALA 2009

CYFWELIAD DERWYDDON DR GONZO

BOB

PUMP PERL MAGI DODD

ADOLYGIADAU A LLAWER MWY

y Selar AMDDIM

Page 2: Y Selar - Awst 09
Page 3: Y Selar - Awst 09

3

12

8

4

BOB

PUMP PERL ... MAGI DODD

DERWYDDON DR GONZOGO

LYGY

DDO

L

18RHIFYN 18 . AWST . 2009

DAU

I’W D

ILYN

Wel gyfeillion, mae blwyddyn gron arall wedi mynd

heibio ac mae hi’n ‘Steddfod Genedlaethol unwaith

eto. Ond, nid ‘Steddfod Genedlaethol arferol mo hon,

nage wir, ond ‘Steddfod Bala! Mae ‘na ddeuddeg

mlynedd wedi pasio ers i’r ‘Steddfod ymweld â’r wa’s

ddiwethaf (jyst i neud i rai ohonom ni deimlo’n hen) ...

ond ma hi’n teimlo fel ddoe.

Oes, mae ‘na rywbeth chwedlonol am ‘Steddfod

Bala ’97. Yn bersonol, dyma’r tro cyntaf i mi dreulio

wythnos gyfan mewn ‘Steddfod ... ac am wythnos.

Dyma hefyd y tro cyntaf i gigs Maes-B ymddangos,

a hynny dan reolaeth Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Rhwng Maes-B a stryd fawr orlawn y Bala roedd

yna ryw fwrlwm anhygoel gyda’r hwyr. Bryd hynny,

bandiau fel Iwcs a Doyle, Diffiniad ac Eden oedd yn

headlinio’r gigs, ond mae llawer iawn wedi

newid erbyn hyn wrth gwrs.

Er mor braf ydy rhamantu am y dyddiau a

fu, canolbwyntio ar y presennol a’r dyfodol

mae’r Selar, a gyda llu o fandiau ifanc

cyffrous yn perfformio yn gigs Maes-B a

gigs Cymdeithas yr Iaith eleni, mae siawns

dda y bydd Bala ’09 yn ‘Steddfod i’w

chofio hefyd. Mwynhewch ... a chofiwch,

pori mae’r fuwch er pigo y gwybed.

OWAIN S

GOLYGYDDOwain Schiavone ([email protected])

DYLUNYDDDylunio GraffEG ([email protected])

MARCHNATAEllen Davies ([email protected])

CYFRANWYRGwilym Dwyfor, Leusa Fflur, Dewi Snelson, Lowri Johnston, Hefin Jones, Leusa Fflur, Telor Roberts, Ceri Phillips, Barry Chips, Magi Dodd

Ariennir Y Selar gan grant Cyngor Llyfrau Cymru. Rhybudd - Defnyddir iaith gref mewn mannau, a iaith anweddus mewn mannau eraill yn Y Selar.

y SelarDOSBARTHUMae’r Selar yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru gan y Mentrau Iaith. Cysylltwch â’ch Menter leol i fynnu eich copi.

Page 4: Y Selar - Awst 09

?4

CNOC CNOC,

Diflannodd BOB oddi ar y sîn ychydig wedi llwyddiant eu sengl boblogaidd Defaid yn 2005. A oeddent wedi rhoi’r gitâr fas binc yn y to? A oedd Defaid bellach yn lamb chops? Yn sydyn - yn haf 2009, wele fflach o obaith ar ffurf Celwydd Golau Dydd - albwm gyntaf hir ddisgwyliedig BOB. Fe es i draw i holi’r brawd, y chwaer, y cefnder, a’r dyn gwyllt o’r coed - Sion Owen, Marsli Owen, Dafydd Owen a Sion Morris, lle ar wyneb y ddaear y maen nhw wedi bod yn cuddio?

D - Ar wasgar. Aeth pawb i’r coleg. Fi a Sion [Morris] i Gaerdydd, a Marsli a Sion [Owen] i Aberystwyth. Pan gychwynnodd BOB oeddan ni’n cal gigs yn aml - mewn llefydd hollol ryfedd …SO – ... fel Corwen. Ond dechreuodd y cynigion gigs ddistewi. Er yn ddigon trefnus i ddod at ein gilydd i neud gigs, doedden ni ddim yn ddigon trefnus i gyfarfod i recordio. Felly nathon ni ddim dilyn single Defaid yn effeithiol efo rhywbeth arall.D - Ac mae Guto Brychan yn gwrthod rhoi gigs Maes B i ni.M - Pam? O’n i’n meddwl fod o’n licio ni - ddoth o ista ar y trên aton ni.SO - Doedd ‘na unlle arall i eistedd.D - Wel … ges i’r bai ar gam am chware tric arno fo. Odd hi’n 6am, ac oeddan ni’n chwara funny phone calls ar ffôn Hefin Ty^ Newydd Sarn, a nathon ni ffonio ryw “Guto” - a mi adawson ni voicemail yn dweud petha drwg. Bora wedyn mi ffoniodd o Hefin yn ôl yn flin uffernol. Odd Hefin yn flin hefo ni hefyd gan i fod o wedi trio cuddio’r ffôn i stopio ni rhag

gneud galwadau gwirion, ond oedd o mond di’i chuddio hi dan gwshin.SO – Don’t drink and dial. Mae gan Guto Brychan lot o rym.

Sut ddaeth yr albwm newydd, Celwydd Golau Dydd, i fodolaeth?D - Gig yn y Point, Caerdydd ym Mai 2005, nath Dafydd Ieuan, [Super Furry Animals], ddod atom ni, wedi mwynhau’r gig yn uffernol a deud fod o isho i ni neud albwm. Ond oeddan ni gyd mor nacyrd ar ôl y gig nes oedden ni fel whatever, cw^ l. Ond wedi deffro, nathon

ni sylwi bo ni isho neud albwm, a thrio cysylltu â Dafydd Ieuan drwy Rhys “byth gneud ddim byd fy hun” Mwyn. Big mistake.Ond along the lines, ddosh i siarad efo Dafydd, nath fy ngyrru fi i siarad efo cynhyrchydd yr albwm - Kris Jenkins. Roedd Kris wedi bod yn chwilio amdanan ni ers ages, ond ddim yn gwybod be oedd enw’r band! Nath o ddod i nabod ni’n ffast. O fewn y diwrnod cyntaf, odd o’n gwybod sut sw^ n i roi . Mae’r boi, er nad yn actio felly, yn rhyw fath o genius, er i fod o’n stoned drwy’r adeg.

GEIRIAU : LEUSA FFLURLLUNIAU : ANDREW KIME

PWY SY’ ‘NA?

BOB BOB PWY?

...MI ADAWSON NI VOICEMAIL YN DWEUD PETHA DRWG“

myspace.com/bandbob

Page 5: Y Selar - Awst 09

5

cyfweliad: bob

Zephaniah, a oedd yn sôn amdano fo yn gwrthod OBE, ac o’n i’n meddwl, too right, dydi hi’m yn frenhines arna i, ac mae geiriau Gwobr yn dod o hynny.

Disgrifiwch eich sw^ n a’ch steil? SO – Blin.D – Uchel.SM – Na, chdi di hynna, dani’n gorfod troi popeth fyny achos bo ti’n waldio’r dryms.D - Dwi’n cofio pan oeddan ni’n cychwyn bo fi isho neud miwsig sydd mwya opposite a phosib i Bryn Fôn. Oeddan ni i gyd yn gwrando ar lot o pync bryd yna,

ac isho bod yn erbyn bob dim.M – Ond ‘da ni’n fwy cerddorol erbyn hyn.D - Er bo rhai o’r caneuon yn tua 4 - 5 mlynedd oed, maen nhw wedi datblygu, ac erbyn hyn mae na chydig mwy o feddwl yn mynd i’r miwsig, yn lle jyst neud sw^ n a bod yn “aaa ffyc off!”SO - Ar ôl bod drwy 4 filter gwahanol, dydi’r gân gychwynnol byth ‘run peth â’r gân sy’n dod allan.D - ti’n gallu deud yn syth efo rhai caneuon fod ‘na deffynetli ‘chydig o Joy Division a dawnsio, a deffynet Interpol ar gychwyn Celwydd Golau Dydd. Ac wedyn

Oes ‘na neges gymdeithasol, neu ‘chydig o wleidyddiaeth tu ôl i ganeuon yr albwm?SO - Does dim un neges yn rhedeg trwyddo fo - mae ‘na lot o straeon bach, a lot o eiria ar y syniad o ddial a’r impending sense of doom. O’n i’n arfer gweithio mewn tafarn, ac oeddet ti’n clywed sgwrs neu stori oedd yn sbarcio cân, pethau eithaf tywyll weithia.D – Chydig bach yn dywyll. Fel y gân am murder yng nghanol nos…!M – Fel ryw opera roc o albwm!SO - Welish i documentary am Benjamin

“ “

DWI’N COFIO PAN OEDDAN NI’N CYCHWYN BO FI ISHO NEUD MIWSIG SYDD MWYA OPPOSITE A PHOSIB I BRYN FÔN

Page 6: Y Selar - Awst 09

6

odd y gân Dial wedi dod ar ôl i ti [Sion O] wrando ar Amy Winehouse, doedd?

Sut mae’r broses o sgwennu cân yn gweithio? SO - Fi sydd fel arfer yn sgwennu pethau, ac wedyn maen nhw’n ei wrthod o dair gwaith, ac wedyn dwi’n gorfodi pawb i’w ymarfer o …SM - Ac mi ydan ni yn ei newid o! Mae Sion yn troi fyny efo caneuon 7 munud o hyd, a dani’n torri nhw i ryw 2 funud!M - ‘run fath efo Defaid i ddechrau efo’i, odd o’n rili hir i gychwyn, do’n i’m yn licio hi, a ddudsh i ‘Na! Dani’m yn neud honna!”

I fynd yn ôl at Defaid, mi gyrhaeddodd o rif 16 yn siart Mawredd Mawr Radio Cymru yn 2005.M - Do? Doeddan ni’m yn gwybod hyn!SO - Yn Mawredd Mawr? Se ni’n gwbod hyn se ni wedi rhyddhau albwm yn 2006!SM – [Yn cal gigls]

Ydych chi’n meddwl yr eith yr albwm yma a chi’n ôl i dop y SRG?M – Na! Dwi’m yn meddwl wnawn nhw licio fo!D - Y peth am Defaid oedd bod pawb yn meddwl fod o’n ffyni bo ni’n canu am ddefaid. Ond oeddan ni’n canu am bawb yn dilyn trends, a phawb yn actio fel i gilydd, ac odd pawb yn joinio mewn yn canu’r gân ‘ma mewn gigs heb sylwi bo nhw’n neud yn union hynna. Eironig!SO – dwi’n licio moments felna!D - fel pan nathon ni gael gig ym Maes B (cyn ffraeo efo Guto Brychan) yn syportio Bryn Fôn, uffar o gig dda! Oeddan ni backstage yn deud bo rhaid ni neud pob dim ‘dani’n gallu i ffwcio fyny Maes B, athon ni’n mental.SO – A nes i dedicatio’r gân i bawb oedd ym Maes B ar y prydD – Ac odd pawb yn y gynulleidfa fel ‘O waw, ffantastic, nice one’, ond dodda nhw’m yn dallt mai ffocin insult i dair mil o bobl odd o.M - O’n i’n swp sâl yn y gig yna. O’n i methu chware bas a chanu ‘run pryd heb lewygu!

‘Dwi’n deall bod tri o’r pedwar ohonoch chi’n rhan o brojectau cerddorol neu fandiau eraill hefyd?SM - Mae gen i fand o’r enw Gloria a’r Creions Piws hefo Iwan Huws [Cowbois Rhos Botwnnog] a ffrind o’r enw Alan. ‘Da ni’n aros i bawb orffen coleg a bob dim, ac wedyn ella ddown ni nôl at ein gilydd ac awn ni’n mental. Ac wedyn genna i fand arall o’r enw Un Troed i’r Chwith, sef jyst fi.

DW I’N COFIO UN BOI’N GWEIDDI FOD FY NGITÂR I’N HIRACH NA’N SGERT I“ “

Page 7: Y Selar - Awst 09

7

Dwi’m di cal gig tu allan i Ty^ Newydd Sarn eto.SO - ‘Dwi mewn band o’r enw Madre Fuqueros. Ma gennon ni sesiwn C2 wedi ei recordio, a gig pnawn Sadwrn yn y steddfod.D - A ‘dwi efo’r Sibrydion, ma hynna’n non-stop braidd efo petha ti’m yn arfer efo nhw yng Nghymru. Fatha cal cynnig gigs yn Llundain ar nos Fercher, a dyna odd un o’r gigs prysura ‘da ni erioed di neud.

Marsli, wyt ti’n cael lot o sylw am dy fod yn ferch ac yn chwarae bass?M - ‘Dw i’n cofio un boi’n gweiddi fod fy ngitâr i’n hirach na’n sgert i. Ac mae’r gitâr yn cal lot o sylw gan i fod o’n binc. Mae o’n popio fyny mewn lot o wahanol luniau efo gwahanol bobl.SM – Mae Cowbois [Rhos Botwnnog] wedi ei fenthyg o fwy nac unwaith. Wel, a phawb arall ym Mhen-lly^n hefyd!

Mewn brawddeg, pam dyle ni brynu’r albwm?SM – Mae o’n sexual.M – Mae o’n rili da!SO – Darn o blastig yn dyst ein bod ni’n mynnu bodoli.D – Achos mae o’n naill ai ni, neu Goreuon Bryn Fôn.

Pam galw’r band yn BOB? Ges i drafferth eich ffeindio chi ar y we ynghanol y môr enfawr o Bobs eraill sydd allan yna.SO – Achos bo ni’n fastards sarcastic sy’n licio Blackadder.M - Oeddan ni’n gorfod dewis yn gyflym i gael gyrru’n cais ni i Frwydr y Bandiau. Dwi ddim yn ei hoffi o!D - Roedden ni’n fand cyn cal enw. Rhaid ti ddewis rhywbeth sy’n gweddu i’r sw^ n. Fysa ti’m yn gallu galw dy hun yn Death Dragon Slaying Knights ac wedyn cal y miwsig yn troi allan i fod yn rhywbeth hippy dippy Gorkies math-o-beth. Ond ma pawb yn meddwl mai enw Sion [Owen - y front man] ydi Bob, ac mai ei backing-band o ydan ni!

Pwy ‘di’ch hoff Bob chi?M – Bob the Builder.SM – Robert De Niro. Bob mae pawb yn ei alw o. SO – Dwi am sticio hefo’r Bob yn Blackadder.D - Bob Monkhouse. Odd o’n cyflwyno quiz show o’r enw Wipeout. O’n i’n watshad o tra’n bownsio ar gwshins y soffa un dydd a nes i hitio mhen yn galed nes oedd gena i lwmp fel w^ y ar fy mhen - ma’n atgoffa fi o’r idiot o’n i pan oni’n iau.

cyfweliad: bob

Page 8: Y Selar - Awst 09

8 [email protected]

DAU I’W DILYN

Pwy: Band ifanc o Lanelli ydy Nevarro. Yr aelodau ydy Tom Hamer, sy’n brif leisydd ac yn chwarae gitâr, Daniel Williams ar y gitâr fas, Steffan Pringle ar y gitâr, ac yn olaf Alec Rees ar y drymiau. Fe wnaethon nhw ffurfio rhyw bum mis yn ôl, jyst mewn pryd i gystadleuaeth Brwydr y Bandiau C2. Yn ôl y band fe wnaethon nhw ffurfio bron

A MAES B YN YSTOD YR WYTHNOS. DYMA DDAU Y DYLE CHI GADW

GOLWG ALLAN AMDANYN NHW

NEVARRO

MAE HI’N STEDDFOD ARALL A LLWYTH O FANDIAU’N PERFFORMIO YN GIGS CYMDEITHAS YR IAITH

Y FFRWYDRONPwy: Dydi’r Ffrwydron ddim yn fand ‘newydd’ fel y cyfryw...ond newydd ddod ar eu traws nhw ma’r Selar, a da ni’n licio nhw felly ma hyna’n ok! Meddai’r band “mae’r Ffrwydron yn bodoli ar sawl ffurf. I ddechrau daeth criw o ffrindiau at ei gilydd yn 2001 i recordio ‘chydig o ganeuon yn stiwdio Gorwel Owen yn Rhosneigr. Erbyn hyn yn anffodus mae pawb ar chwâl felly gobeithio yn y dyfodol bydd posib cael band at ei

gilydd i chwara’r caneuon ma’n fyw.” Felly, dydyn nhw ddim yn bodoli fel y cyfryw ar hyn o bryd, ond yn bwriadu “cael band at ei gilydd yn fuan”. Wedi dweud hynny, mae dau aelod craidd ar hyn o bryd sef Mei Tomos, gynt o WwZz a Tokyu, sy’n chwarae gitâr fas, a Huw Lloyd o Hanner Pei a Drymbago ar y sax. Maen nhw hefyd yn tynnu nifer o gerddorion eraill i mewn i weithio gyda nhw.Y Sw^ n: Os edrychwch chi ar

eu tudalen MySpace, mae’r Ffrwydron yn disgrifio eu cerddoriaeth fel Japanese Pop / Funk / Rock. Dwi ddim yn siw^ r os ydy o’n ‘Japanese’ ond yn sicr mae ‘na pop, ac mae’r gerddoriaeth yn llawn ffync. Mae ‘na atsain gref o Super Furry’s cynnar neu Ffa Coffi Pawb efallai, ac mae’r dylanwad Hanner Pei-aidd yn amlwg hefyd. Mae Huw o’r band yn dweud “Ar hyn o bryd da ni’n gneud stwff hip-hop gyda sampls a Huw yn

chwara’i sax a Mei’n chwara bas. Gafon ni Jason 84, rapiwr ifanc o Gaernarfon i wneud trac efo ni’n ddiweddar.” Y neges glir yw nad oes terfyn i’w harddull gerddorol, sy’n argoeli i fod yn ddiddordol iawn.Hyd yn hyn: Fel y crybwyllwyd ynghynt, dydy’r Ffrwydron ddim yn brosiect newydd fel y cyfryw. Yn wir, mae Huw a Mei wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd ers dros deng mlynedd ac wedi “sgwennu a recordio

CYMYSGEDD O MCFLY, AC/DC, AEROSMITH A BANDIAU FEL YNA OND GYDA TWIST BACH EIN HUNAIN

“ “

Page 9: Y Selar - Awst 09

9

sawl trac mewn steils amrywiol – o tecno i jazz”. Y traciau a recordiwyd yn stiwdio Gorwel Owen nôl yn 2001 sydd i’w clywed ar eu safle MySpace, ond mae’r caneuon yn dal i swnio’n ffres iawn.Cynlluniau: Mae yna gynlluniau i adeiladu band i berfformio’r caneuon yn fyw, ac maent hefyd yn gobeithio rhyddhau CD o gynnyrch Y Ffrwydron yn fuan. Meddai Huw hefyd “mae ‘na hefyd ‘System Sain Y Ffrwydron’,

sef rig 1.5 KW wedi ei bweru gan fatri car. Da ni di neud un gig tu allan i’r Anglesey yng Nghaernarfon a’r bwriad ydi mynd â’r system sain ar daith i amryw o lecynau sydd angen ffync a haul dros yr haf.” Mae enw’r Ffrwydron yn ymddangos ar lineups gigs Cymdeithas yr Iaith yn yr Eisteddfod eleni, ond pan holodd Y Selar yngly^ n â hyn atebodd Huw “Dwi heb glywad dim byd fy hun ond cofia di ma Mei yn aml yn cytuno i

GWRANDWCH ARNYN NHW OS YDYCH CHI’N LICIO: Ffa Coffi Pawb, Hanner Pei, unrhyw beth ffynci

GIGS STEDDFOD:8 Awst – Gigs Cymdeithas, Steddfod Bala (da ni’n meddwl...)

ar ddamwain gan fod Tom yn awyddus i ffurfio band ar gyfer y gystadleuaeth C2, tra fod y tri arall yn chwilio am ganwr i’w band hwythau. Roedd y tri’n adnabod Tom, a felly daethon nhw at ei gilydd am jam a chlicio o’r cychwyn cyntaf.Y Sw^ n: Mae aelodau’r band yn disgrifio eu cerddoriaeth fel “cymysgedd o McFly, AC/DC, Aerosmith a bandiau fel yna ond gyda twist bach ein hunain”, ac mae’n siw^ r fod hynny’n asesiad teg – rock ysgafn yng ngwir ystyr y gair. Mae’r band yn sicr yn tynnu eu dylanwadau o lefydd

gwahanol iawn i’w gilydd gyda Dan “yn hoffi pethau fel Rush, The Answer, Stevie Wonder a Faith No More”, Alec yn ffafrio “Red Hot Chili Peppers, cerddoriaeth hip-hop hen a Nerve”, Steffan yn rhestru “Guns N’ Roses, Airbourne, Motley Crue a Garry Moore” ymysg ei ddylanwadau, ac yna Tom y prif ganwr yn mwynhau “McFly, Bon Jovi ac Elton John”. Mae’r gwahaniaeth yn eu tast cerddorol yn amlwg iawn yn eu cerddoriaeth, yn enwedig felly rhwng dylanwadau ‘ysgafn’ a mwy melodig Tom, a tast cerddorol trymach gweddill y band – ond

mae’r ddwy elfen yn plethu’n ddigon cyfforddus. Hyd yn hyn: Wedi ennill rownd ragbrofol Rhanbarth y De Orllewin, moment fawr Nevarro hyd yn hyn oedd dod yn fuddugol yn rownd derfynol cystadleuaeth Brwydr y Bandiau C2 ym mis Ebrill eleni. Ers hynny maen nhw wedi arwyddo cytundeb rheoli, recordio a chyhoeddi gyda David Aspden a Recordiau Grawnffrwyth, sef y boi sy’n rheoli Elin Fflur erbyn hyn! Maen nhw newydd orffen recordio eu EP cyntaf hefyd sy’n cynnwys 5 cân, ac wedi bod yn brysur yn gigio’n lleol,

gan gynnwys chwarae ar nos Sadwrn Gw^ yl Bro Dinefwr yng Nghil y Cwm. Cynlluniau: Mae’r EP newydd, Uchela, yn cael ei ryddhau mewn pryd i’r Eisteddfod Genedlaethol ac mi fyddan nhw’n perfformio ar lwyfan Maes-B ar nos Sadwrn olaf y ‘Steddfod fel rhan o’i gwobr am ennill Brwydr y Bandiau C2. Dan o’r grw^ p sy’n egluro beth arall sydd ar y gweill, “cynlluniau ... umm ... llawer o gigs!! Recordio albwm gyntaf tua diwedd 2009 neu ddechre’ 2010, taith ysgolion gyda Bandit, a be bynnag ma’r dyfodol yn twli atom ni!”

neud petha a gadal fi wbod ar y funud ola’!!” Doedd Mei ddim ar gael i wneud sylw ... ond gobeithio fod gwirionedd i’r stori.

www.myspace.com/yffrwydron

www.

mysp

ace.

com/

neva

rro

GWRANDWCH ARNYN NHW OS YDYCH CHI’N LICIO: Mattoidz, Coda (wedi croesi gyda Ashokan), Bon Jovi

GIGS STEDDFOD:8 Awst - Maes B, Steddfod Bala 17 Medi - Gigs y Gwachel, Pontardawe

MAE’R FFRWYDRON YN BODOLI AR SAWL FFURF.“ “

Page 10: Y Selar - Awst 09

10 myspace.com/allewis

Un o ganeuon mwyaf poblogaidd yr haf hyd yn hyn ydy Lle Hoffwn Fod, sef y gân olaf ar albwm newydd Al Lewis Band, Sawl Ffordd Allan. Efallai nad yw enw’r gân yn canu cloch i chi, ond da chi bownd o fod wedi clywed y “Sha la la la la’s” hafaidd ar ambell drêl radio a theledu yn yr wythnosau diwethaf. Cyn daw’r geiriau, dyma Al ei hun yn egluro cefndir y gân:

“Ma’r gân yn syml wedi ei hysbrydoli gan y ffaith mod i wedi bod yn byw tu allan i Gymru ers 7 mlynedd bellach - ym Mryste, Toulouse a

Llundain. Er bod y trefi yma mor fywiog a phrysur, dydi rhywun ddim yn teimlo’n rhan o’r prysurdeb rhywsut, ac yna mae rhywun yn sylweddoli ei fod o’n brofiad eitha unig. Mae’r teimlad yna o ddod ‘nôl ‘adre’ ar ôl bod i ffwrdd cyhyd, yn neud i un sylweddoli pa mor werthfawr ydi cael perthyn i rywbeth. Y gobaith ydi na fydd y teimlad yne yn gadael rhywun wrth i amser basio, a fydd hi byth rhy hwyr i ddychwelyd adre.”

GEIRIAU SY’NGYRRU’R GA^N?

LLE HOFFWN FOD – AL LEWIS BANDGwelais i lawer wyneb gwag yn lliwio’r strydoedd Yr anhrefn pur sydd yn gyson gur ymysg y miloedd Ddaw dim cysur o wên dieithriaid sy’n rhy brysur A gwn yn awr fod fy amser prin yn mynd yn segur Dychwelyd yw’r nod I’r lle hoffwn fod Gobeithio nad wyf Yn llawer rhy hwyr Sha la la la la Mae bod yn ôl fel tae’r crwydryn ffôl erioed ‘di gadael Ac y syndod yw fod y croeso cyfiawn yn fy ngafael Mae pob un dwisho yma yn fy nghwmni Codwn dy^ bach twt a chael pleser cwmni wedi hynny Dychwelyd yw’r........ Sha la la la la

LLE HOFFWN FOD

... FYDD HI BYTH RHY HWYR I DDYCHWELYD ADRE.“

Page 11: Y Selar - Awst 09

11

Cer i bbc.co.uk/c2am yr uchafbwyntiau

C2 yn’steddfod Bala

Yn ei chanol hi

GEIRIAU SY’N

Page 12: Y Selar - Awst 09

12 myspace.com/derwyddondoctorgonzo

PLANEDDR GONZO

Page 13: Y Selar - Awst 09

13

“DA NI’N TRIO DOD Â TABOO SUBJECTS I MEWN I’R SÎN ROC GYMRAEG ER MWYN EI GNEUD HI’N FWY DONIOL!

“Gyda bandiau amlwg fel Frizbee a’r Genod Droog wedi rhoi’r gitâr yn y to yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Derwyddon Dr Gonzo bellach yn cystadlu am deitl ‘band mwyaf Cymru’... a hynny cyn iddyn nhw hyd yn oed ryddhau eu halbwm gyntaf! Ond, mae albwm sydd ar y gweill ers misoedd, Stonk!, ar fin cael ei rhyddhau mewn pryd i’r Steddfod, felly anfonodd Y Selar Gwilym Dwyfor i gwrdd â chwpl o’r aelodau ac i gael cipolwg ar fyd bach rhyfedd y Dr Gonzo:

Yr AlbwmNhw oedd ‘band gorau’ a ‘band byw gorau’ yng ngwobrau RAP eleni a nhw fydd yn hedleinio nos Sadwrn Maes B yn y ‘Steddfod. Mae’n debyg mai nhw ydi band mwyaf Cymru ar hyn o bryd, felly braf gweld bod yr albwm

hirddisgwyliedig allan yr haf yma. Mi gefais i gyfle i gyfarfod dau o aelodau Derwyddon Dr Gonzo, Dewi a Berwyn, dros beint ar bnawn Sul poeth ddiwedd mis Mai. Mi ddechreuais trwy holi o ble ddaeth yr enw ar gyfer yr albwm, Stonk!

“Gair am artillery bombardment yn yr Ail Ryfal Byd ydi o ac roeddan ni’n meddwl bod o’n enw da am rwbath sy’n ymosod ar y clustia’,” meddai Berwyn, ond doedd yr hogia ddim yn ymwybodol o’r ystyr hwnnw pan feddylion nhw am yr enw gyntaf, “doeddan ni’m hyd yn oed yn gwbod be oedd o’n feddwl i ddechra, jest meddwl ’i fod o’n swnio’n dda” eglura Dewi.

Recordiwyd Stonk! yn Signal Box ym Mae Caerdydd gyda Chris Jenkins yn cynhyrchu. Cymerodd yr holl broses dipyn o amser gan

ei bod hi wedi profi’n anodd i gael pawb yn yr un lle. “Ma’ ’di cymryd dipyn o amsar achos ’dan ni byth ar gael i gyd, hefo rhai hogia yn coleg a rhai yn y gogledd” medd Berwyn, ond er gwaetha’r trafferthion mae Dewi’n hapus gyda’r cynnyrch terfynol, “Nath o gymyd dipyn o amser ond dwi’n reit impressed efo fo.” Er bod y band wedi cyhoeddi peth deunydd yn barod, dyma eu halbwm lawn gyntaf, “Dan ni’m ’di gneud albwm o’r blaen, jest lot o betha bach, a ma’ hon ’di gweithio reit dda, achos ’dan ni ’di gallu hel bob dim ’dan ni ’di bod yn neud at ei gilydd.”

Cymysgedd o ffefrynnau fel K.O., Madrach, Chaviach a Bwthyn a deunydd newydd sydd ar yr albwm felly, a disgrifia Dewi hi fel “rhyw fath o greatest hits!”, er mai dyma’r albwm gyntaf. Ond cyn i neb benderfynu nad ydyn

PLANED

Page 14: Y Selar - Awst 09

14

“ “PAN WELISH I’N ENW NI UWCHBEN BRYN FÔN NESH I FEDDWL... HONNA ’DI, ’DAN NI ’DI G’NEUD HI!

nhw am brynu Stonk! gan fod y senglau ganddyn nhw’n barod dylwn brysuro i egluro fod wyth neu naw o ganeuon newydd sbon arni. Felly pa un o’r caneuon hynny y maen nhw’n meddwl ddaw yn hits fel y gweddill, “Fydd Raptile yn mynd lawr yn dda ’swn i’n feddwl” yn ôl Berwyn. Cân am seren born yw hon a allai fod yn ddigon i godi gwrychyn ambell un ond dyw hi’n ddim byd rhy ddifrifol, dim ond ’chydig o hwyl, ac aiff Dewi ymlaen i egluro sut mae’r band “... yn trio dod â taboo subjects i mewn i’r sin roc Gymraeg er mwyn ei gneud hi’n fwy doniol!” ac ychwanega Berwyn, “Os ’dan ni’n weld o’n ddoniol, ’dan ni’m yn poeni gormod be’ ma’ pawb arall yn ’i feddwl.”

Enillodd y band wobr band byw y flwyddyn yn y gwobrau RAP, ond beth fyddai ymateb yr hogia i rywun fyddai’n dweud, “Band byw ’di’r Derwyddon, i be’ yr a’i i brynu CD?” Yn ôl Berwyn, “Dan ni ’di gweithio’n galad er mwyn ei chael hi i swnio’n dda, a mae hi’n swnio’n dda dwi’n meddwl.” Ac eglura Dewi sut mae’r elfen fyw i’w chlywed ar yr CD hefyd, “Dwi’n meddwl fod ’na ryw live aspect i’r albwm, gin ti ganeuon carnifal a gypsy jazz, pob math o stwff sy’n mynd i lawr yn dda’n fyw hefyd.” Un peth y cawn ni ar yr albwm nad ydym yn ei gael bob tro mae’r band yn chwarae’n fyw, yw’r llu o artistiaid mae’r band wedi cydweithio gyda hwy ar rai caneuon. “Ma’ gynnon ni rei traciau lle ma’ gynnon ni gymaint o guests arnyn nhw fedran ni ddim chwarae nhw’n fyw, felly ddyla hynny annog pobl i brynu’r albwm hefyd, achos ’nan nhw mo’u clywed nhw’n fyw” eglura Berwyn, “ond ’dan ni am drio cal rei ohonyn nhw yn y gigs mawr.”

Pwy sy’n cydweithio â’r band ar yr albwm felly? Mae yna artistiaid o Gymru megis Gwyneth Glyn, Ed Holden a Nobster Nuts, ond mae yna naws ryngwladol i ambell drac hefyd, fel yr eglura Dewi, “Ma’ Ifan Dafydd yn coleg yn Llundain felly mae o’n nabod dipyn o bobl, ma’ ’na hogan o’r enw Donna, band o Ffrainc o’r enw Money Bakery, boi o Ffrainc o’r enw MC Lyrical a Nigertive, boi o Mali. DJ Cuz hefyd. Llwyth o westeion!” Hefyd ar yr albwm mae cyfyr gwych yr hogia o Siampw^ gan Caryl Parry Jones, ac yn cydweithio â hwy ar y trac hwnnw mae merch Caryl, Miriam Isaac. Roedd rhaid i mi ofyn felly a fu temtasiwn i ofyn i Caryl ei hun! “Na! Oeddan ni’n meddwl bod o reit cw^ l ca’l ’i merch hi, cyfnod gwahanol math o beth” medd Dewi.

Ar y nodyn hwnnw gofynnais i’r hogia pwy yr hoffen nhw gydweithio â hwy pe baent yn cael dewis unrhyw un yn y byd, yn fyw neu’n farw, ac esgorodd hynny ar drafodaeth ddwys iawn rhwng y ddau!Berwyn: ’Swn i’n licio ca’l Madona, ddim i ganu, jest ’i chal hi am bod ni’n gallu!Dewi: Billy Smalls ’swn i’n licio.Berwyn: Pwy ’di’r boi mwya famous yn y byd?Dewi: Elvis ia?Berwyn: Ti meddwl ’san ni’n gallu ga’l o?Dewi: Pele!Berwyn: Pele! Ia! Dewi: Gawn ni Pele ar yr albwm!Berwyn: Jackie Chan, mae o’n popstar yn Tseina!

Mae Stonk! ar gael ar CD ac ar i-tunes, ond mewn oes o lawrlwytho a chwaraewyr MP3 gofynnais i’r ddau a oes lle i’r CD hen ffasiwn heddiw. “Ma’ pobol dal i brynu CDs, ma’n handi ca’l copi calad … os ti’n ffan go iawn o rywun ti’n licio gweld be’ sy’n mynd mewn iddo fo, yn lle jest ca’l y gân,” medd Berwyn. Mae’r tri ohonom wedyn yn trafod sut mae trac cudd wastad yn sypreis bach neis mewn copi caled o albwm, ac mae’r ddau’n awgrymu efallai ei bod yn werth i’w ffans chwilio am un o’r rheiny ar Stonk!

Yr HafRo’n i’n awyddus i holi Berwyn a Dewi am drefniadau’r Derwyddon dros yr haf hefyd. Llynedd roedd y band yn hynod brysur yn chwarae ym mhrif wyliau Cymru ac yn chwarae dros y ffin yng ngw^ yl Latitude. Roedd band ifanc arall o Gymru yn chwarae yn un o wyliau Lloegr eleni wrth i Yr Ods chwarae yn Glastonbury. Dal mewn trafodaethau gyda rhai o wyliau Lloegr yngly^n â chwarae eleni yr oedd Derwyddon Dr Gonzo pan siaradais i â’r ddau, ond roeddwn yn awyddus i wybod pa mor bwysig oedd mynd â’u cerddoriaeth tu hwnt i Glawdd Offa iddynt. “Ma’r crowds yn wahanol, ma’

nhw’n gwrando fwy ar y miwsig yn lle jest mynd yn mental! Mewn gigs fatha’r Sdeddfod ma’ pawb yn hammered a ma’ pawb yn mynd yn mental, ond yn rwla fatha Latitude oeddan ni’n gorfod gweithio’n galetach i swnio’n dda,” eglura Berwyn. “O’dd o’n dipyn o sypreis

myspace.com/derwyddondoctorgonzo

Page 15: Y Selar - Awst 09

15

MA NHW’N RHOI BLAENORIAETH I GAEL BANDIA’ O LEFYDD FEL NIGERIA I MEWN PAN MA’ ’NA GYMAINT O FANDIAU YNG NGHYMRU SY’N DDIGON DA I GYMRYD Y SLOTS.

cael ymateb mor dda gan bobol oedd ’rioed ’di clywad ni o’r blaen deud gwir… er oedd ’na ’chydig o fois o Drawsfynydd yna am ryw reswm!” Mae’r ddau yn cytuno ei bod hi’n bwysig bod pobl yn Lloegr yn gweld fod yma sîn yng Nghymru. Maen nhw’n teimlo ei bod hi’n bwysig mynd â cherddoriaeth Gymraeg allan o Gymru ond maent hefyd yn barod i ganu yn Saesneg ac mae Stonk! yn albwm ddwyieithog. “Be ’dan ni’n drio ’neud ydi g’neud ’chydig bach o bob dim, plesio pawb,”

medd Berwyn, ac mae Dewi’n cytuno, “Yn union, mae’r albwm yn Gymraeg yn bennaf ond ma’ ’na ddwy gân Saesnag arni.”

Derwyddon Dr Gonzo sy’n hedleinio nos Sadwrn olaf Maes B eleni ac yng ngolwg llawer mae hynny yn rhyw fath o linyn mesur sy’n dweud mai nhw yw’r band mwyaf yng Nghymru ar y funud. Gofynnais i’r hogia beth oedd chwarae set olaf yr Eisteddfod yn ei olygu iddynt, “Pan welish i’r poster a gweld enw ni uwchben Bryn Fôn nesh i feddwl... honna ’di, ’dan ni ’di g’neud hi!” medd Berwyn. Wedi’r ateb hwnnw roedd rhaid imi ofyn iddynt a fyddent yn cydweithio gyda’r hen rocar o Ddyffryn Nantlle pe bai’r cyfle’n codi, mae’r ddau yn chwerthin ond mae’r ateb yn bendant, “Bysan!” Mae Dafydd Iwan yn hen stejar arall fydd yn perfformio ym Maes B eleni hefyd, felly beth am gydweithio gyda hwnnw? Roedd Dewi yn swnio’n awyddus iawn!

Mae gigs eraill gan y band dros yr haf yn cynnwys Cân ar Dân, Dinas Mawddwy a Wa Bala ond wrth gwrs ni fu Sesiwn Fawr. Ac wedi iddynt gael slot da llynedd a’i llenwi gyda set fythgofiadwy roeddwn yn awyddus i wybod faint o fwlch fydd diffyg Sesiwn Fawr yn ei adael. “Dan ni ’di arfar efo Sesiwn Fawr bob ha’, fydd o’n weird hebddi bydd...” medd Berwyn, ac mae Dewi’n cytuno, “Bydd, fydd hi’n weird, oeddan ni’n mynd eniwe

doeddan, pryd doeddan ni ddim yn chwara’.” Mae’r ddau yn ffyddiog y bydd yr w^ yl yn ôl y flwyddyn nesaf ond mae Dewi’n teimlo bod y sîn yng Nghymru ar hyn o bryd yn ddigon cryf i gynnal gw^ yl o’r fath heb help y gerddoriaeth dramor. “Ma’ ’na sîn rili dda yng Nghymru ’w^ an a dwi’n meddwl bo’ nhw’n rhoi blaenoriaeth i gael bandia’ o lefydd fel Nigeria i mewn pan ma’ ’na gymaint o fandiau yng Nghymru sy’n ddigon da i gymryd y slots.”

Awgrymais mai hwy oedd band gwisg ffansi mwyaf Cymru os nad y byd! Felly gofynnais a oedd unrhyw wisgoedd ar y gweill ar gyfer yr haf yma? “Dan ni ’di cychwyn gweithio ar wisgoedd ar gyfar yr ha’,” medd Berwyn, ond doedd o ddim am ddatgelu gormod! Roeddynt serch hynny yn addo rhywbeth mawr ar gyfer nos Sadwrn olaf y Sdeddfod, “Dan ni yn chwilio am ’wbath mawr, ond do’s ’na’m llawar o betha’ allan ni ’neud sy’n saff! Oedd gynnon ni water bombs un flwyddyn ond gathon ni row am iwshio rheiny, a gathon ni row yn Wakestock am iwshio petha’ oedd ddim yn fire checked!” Yr argraff a gefais oedd bod rhoi sioe dda i’w ffans yn llawer pwysicach i’r Derwyddon nag unrhyw reolau iechyd a diogelwch. Maen nhw’n mwynhau be’ maen nhw’n neud, felly allwn i ddim gorffen y cyfweliad ar nodyn rhy ddwys. Rhaid oedd gofyn ambell i gwestiwn gwirion i’r hogia er mwyn cael ateb gwirion Dr Gonzoaidd yn ôl!

Gofynnais i ddechrau a oedd yr hogia wedi bod yn euog o chwarae gêm yr aelodau seneddol a gwneud y mwyaf o’u treuliau! “Do! Fflat owt!” medd Dewi, ac ychwanega Berwyn, “Ond y gwahania’th ydi, ’dan ni’n ca’l getawê efo fo!” Ond yn ddealladwy doeddan nhw ddim am ymhelaethu gormod, ac nid y Daily Telegraph mo’r Selar.

Beth os fyddai’r hogia’n hwyr i gig ac yn pasio hen ddynas hefo pyncjar ar y ffordd, fysan nhw’n stopio i’w helpu? “Dibynnu faint oed ‘di” medd Dewi, “... a dibynnu be’ ’di’r gig ‘fyd” ychwanega Berwyn. Ond wedi ystyried am ychydig penderfyna Dewi y byddai’n helpu, “Na, ‘sw^ n i’n helpu hi ia, dwi reit sensatif, dwi’n licio anifeiliaid a ballu...” Mae Berwyn yn torri ar ei draws, “Ti’n licio hen ferchaid ‘fyd dwyt!”

Ond pa aelod o’r band fyddai’n ennill ras mewn sach? Mae Dewi’n “Goro deud fi”, ond nid yw Berwyn yn cytuno, “Sori de, ond dwi’n deud fi.” Mae’r ddau yn llwyddo i gytuno y byddai gan Ifan Tomos siawns go lew tra ar yr un pryd yn bendant na fyddai gan Ifan Jâms obaith! Ond mae Dewi a Berwyn reit ffyddiog eu hunain a dwi’n gadael y ddau yn y dafarn yn meddwl lle y gallan nhw brynu sach yng Nghaerdydd er mwyn setlo’r ddadl!

Mae’n amlwg i bawb bod Derwyddon Dr Gonzo wrth eu bodd ar lwyfan, a cheir yr argraff bod yr hwyl hwn yr un mor bwysig â’r gerddoriaeth. Wedi hanner awr gyda dau o’r aelodau sylweddolais nad sioe i’r gynulleidfa yw hyn - fel ‘na maen nhw! Felly gyda lwc, bydd yr elfen yna wedi ei throsglwyddo i’r albwm a bydd Stonk! yn llwyddo.

Page 16: Y Selar - Awst 09

16

Shwmae bois! Ifan fan hyn – neu Elfis i’r rhai sy’ ‘di gweld fi’n crwno yn y carioci yn y Porth Hotel, Llandysul bob nos Sul i hits Mr Presley. (Wy’n dab hand ar bob un o ganeuon y Brenin, chi’n deall. Fel wy’n gweud tho’r bachan carioci’n amal, “no tiwn tw tyff, boi bach”). Ch‘mod beth – o ni mas da Winnie, y wraig, yn neud mobile disgo i Glwb Ffermwyr Ifanc Clynderwen lawr ar ffarm Wedjie Uchaf, ac oedd lot o bobl yn gofyn cwestiyne i fi – pethe fel “Oi, Ifan, pryd ti’n mynd i fynd getre’!”, “Blydi hel – pwy fath o ddisgo wyt ti’n galw hwn?” a “faint o’r gloch mae’r facking Twmpath yn dechre?” ymysg pethau eraill. Ond o ni’n ware cwpl o glasuron ‘fyd a Gwladys, Cefnybws, Llangeitho yn gofyn beth oedd y gerddoriaeth gwych o’n i wedi ffeindio ac o le ym mharadwys o’n i wedi glanio. (Glanio o Gwrtnewydd, cariad – y peth agosa i baradwys yng Ngheredigion weden i). Dechreuais i feddwl dylen i rannu fy ‘enseiclopidic nolej’ o gerddoriaeth gyda chi. So dyma gwis i Gwladys (pidwch gweud wrth Winnie), ac i chi, er mwyn testo’ch gwybodaeth – atebion isod … neu fel i ni’n gweud yng Nghwrtnewydd – mas y bac. Gwd i chi nawr!

Canwr rhamantus a grëwyd gan Dewi Pws ar ei raglen gomedi deledu ‘Torri Gwynt’Radio Ysbyty Rookwood, CaerdyddGeraint Jarman, Heather Jones, Meic StevensBangorCaliffornia

Pwy (neu hyd yn oed, beth) oedd y canwr “Ricky Hoyw?”

Lle gath Huw Stephens ei brofiad cynta o DJo?

Pwy oedd 3 brif aelod y grw^ p chwedlonnol “Bara Menyn” a ffurfiwyd yn 1969?

O ba dref yng Nghymru mae’r band Plant Duw yn dod yn wreiddiol?

“Hydref yn Sacramento” oedd cân enwog gan y band Ffa Coffi Bawb – prif ddinas pa dalaith yn yr UDA yw Sacramento??

Wel, na fi off i’r Fethers, Aberaeron i wneud priodas nawr. Wel, mae e’n fwy joli na neud angladdau, a ma un “guest” yn fwy ‘da chi, fel arfer. Reit te, gyda’ch gilydd nawr - Aaaar iw lonesooooome toniiiiite....

1

23

4

5

Cwis pop Ifan'Elfis'Ifans

ATEBION

Page 17: Y Selar - Awst 09

17

Cwis pop Ifan'Elfis'Ifans

Cyrsiau unigryw a’r adnoddau gorau posib,mewn campws arloesol yng nghalon dinasfyrlymus Caerdydd.

Wrth ddewis astudio yn ATRiuM byddwch chi ar flaen y gad yn eich maes ac yn torri tirnewydd yn y diwydiannau creadigol a diwylliannol.

Cyrsiau mewn:

• Drama a Cherddoriaeth • Y Cyfryngau a Chyfathrebu • Dylunio

Darperir llwybrau astudio dwyieithog mewn pynciau penodol.

Am fwy o wybodaeth:

0800 716 925www.glam.ac.uk/cymraeg

ATRIUM SELAR welsh ad 138x190:Layout 1 14/7/09 09:59 Page 1

byw ac astudio drwy’r Gymraeg

www.bangor.ac.uk

•Mae'r Gymraeg yn rhan gwbl naturiol o fywyd myfyriwrym Mangor.

• Prifysgol Bangor sy’n cynnig y nifer fwyaf o gyrsiau drwygyfrwng y Gymraeg

• Bywyd cymdeithasol Cymraeg heb ei ail. Trefnir llu oweithgareddau hamdden a chymdeithasol gan UndebMyfyrwyr Cymraeg Bangor.

• Neuadd breswyl fywiog Gymraeg sy’n gartref i fyfyrwyrCymraeg o bob cwr o Gymru.

• Mae bwrsariaethau o £500 y flwyddyn ar gael i'r rhai sy'ndewis astudio'r cyfan o'u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg, a£250 y flwyddyn i'r rhai sy'n dewis astudio rhan o'u cwrsdrwy'r Gymraeg.

AM FWY O FANYLION CYSYLLTWCH Â’R UNED RECRIWTIO MYFYRWYR.Ffôn: 01248 382005 / 383561•E-bost: [email protected]

hysbys 321 selar:321 10/2/09 10:31 Page 1

Page 18: Y Selar - Awst 09

18 [email protected]

BOOMANIA – BETTY BOO Fel pawb sydd â brawd neu chwaer hy^n, pan o’n i’n tyfu lan gafodd chwaeth gerddorol fy chwaer ddylanwad mawr arnai. Roedd hi’n gwrando ar Duran Duran, Stephen Tintin Duffy, The Cure, Japan, The Mighty Lemon Drops, felly dyna’r bandiau o’n i’n gwrando arnyn nhw hefyd. Ac ma Duran Duran dal i fod yn un o fy hoff fandie - ond ma’ch chwaeth gerddorol eich hun yn datblygu fel y’ch chi’n tyfu wrth gwrs, ac yn ferch unarddeg, dwi’n cofio clywed sengl gynta Betty Boo a Beatmasters - Hei Dj - I Can’t Dance (To That Music You’re Playing) a meddwl mai dyna un o’r caneuon gore o’n i erioed wedi clywed. Ges i fy magu mewn ty^ lle roedd albwms The Beatles, The Rolling Stones, Meic Stevens yn cael eu chware

tra o ni’n bwyta swper, ond o’n i dal yn meddwl mai Betty Boo oedd

y gantores ore o’n i di clywed erioed!

Nid ei chaneuon pop-hip-hop bachog

oedd yr unig apêl. Roedd hi’n ifanc, yn

ddeiniadol, chydig bach yn ewn, chydig bach yn fflirty. Pan o’n i’n ddeuddeg – o’n i mo’yn bod yn

Betty Boo - yn yr hotpants arian

yn y fideo

i Where Are You Baby? Dyw e ddim yn syndod i fi bo rheolwyr y Spice Girls, tra’n edrych am 5 merch i ffurfio’r band - yn edrych am 5 Betty Boo. Sdim rhyfedd felly bo fi’n caru’r Spice Girls hefyd.

Nes i gal albwm Boo-mania yn anrheg nadolig gan Sion Corn, a ware teg i’r hen Sion - nath e roi y limited edition i fi a oedd yn cynnwys cardiau post Betty Boo! Dwi dal i wrando ar yr albwm - ac mae’n mynd â fi nôl i’r cyfnod cyffrous yna pan o’n i’n ddeuddeg oed. Ma’r cardie post dal gyda fi hefyd - (siw^ r bo nhw werth arian mawr erbyn hyn!) ac ma gen i hyd yn oed bâr o hotpants arian. Hmmm… falle nai wisgo nhw yn Steddfod ...

NICK DRAKE – WAY TO BLUE; AN INTRODUCTION TO NICK DRAKENes i sôn fod chwaeth gerddorol fy chwaer yn ddylanwad arnai wrth dyfu lan, ac fe gafodd chwaeth gerddorol cyn-gariad yr un effaith arnai. Ar ddechre

fy nghyfnod yn y Brifysgol, dwi’n cyfadde fod y gerddoriaeth o ni’n gwrando arni, chydig yn … uuhh … naff! Roedd na lot o boom-titty-boom ar fy mheiriant cryno

pump perl ...

DODDMAGI

MAE BLAS CERDDOROL YN GALLU DWEUD LLAWER IAWN AM BERSON, TRA FOD

CASGLIAD RECORDIAU YN GALLU DWEUD LLAWER MWY. TYBED BETH MAE EI PHUMP

HOFF ALBWM YN DWEUD AM Y CYFLWYNYDD C2 LLIWGAR, MAGI DODD...

O’R GAD - CASGLIAD AMLGYFRANNOG ANKST Chi’n cofio’r rhaglen Syth ‘91? Kevin Da-vies odd yn ei chyflwyno - rhaglen bop oedd hi ar S4C. Nes i drio cystadleuaeth unwaith i ennill casgliad ‘O’r Gad’. Mi ‘nes i ennill. Yr eil dro yn unig i fi ennill unrhyw beth - sai ‘di ennill unrhywbeth ers ‘ny chwaith. Ond allai’m dychmygu ennill lot o bethau gwell na chryno ddisg O’r Gad (ar wahân i filiwn o bunnoedd o bosib).

Yr amrywiaeth ar y casgliad amlgyfran-nog yma sy’ mor arbennig. O Ffa Coffi Pawb i Dom. O’r Cyrff i Neil Rosser. O Hanner Pei i Datblygu. Ond Y gân nath gael yr effaith fwya arnai oedd Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr - Tracsuit Gwyrdd. O’n i’n gwrando ar y gân ac ar ei diwedd, gwasgu “NÔL” ar y peiriant cryno ddisgie ac yn gwrando arni eto ac eto ac eto. Fel The Specials - Ghost Town, ma na naws ethereal iddi, ond ma’r geirie mor bwerus - ac ma na dristwch amlwg ynddyn nhw. Wrth drio penderfynu pa 5 Perl i ddewis i’r erthygl yma, es i nôl i fy nghasgliad CDs a chasetiau - ac ail chware degau o fy hoff albwms. Wedyn llunio rhestr fer. Wedyn gwrando arnyn nhw gyd eto. A wedyn gneud rhestr fyrrach fyth. O’r Gad oedd yr enw cynta ar y rhestr derfynol.

ROEDD HI’N IFANC, YN DDEINIADOL, CHYDIG BACH YN EWN, CHYDIG BACH YN FFLIRTY.

“ “

Page 19: Y Selar - Awst 09

19

ddisgie. Cerddoriaeth paratoi i fynd mas (o gofio - o ni’n mynd mas bob nos). Ond wedyn nath fy nghariad gyflwyno fi i Nick Drake ac fe ges i droedigaeth gerddorol. Gyda’r

GENOD DROOG – NI OEDD Y GENOD DROOGTase na eiriadur Magi Dodd yn bodoli, nesa i’r gair ‘hir-ddisgwyliedig’ fydde na lun o albwm Ni Oedd y Genod Droog gan y Genod Droog. Nes i, nethoch chi, nath C2 aros wythnose, misoedd, blynyddoedd am yr albwm. Roedd gymaint o buzz a hype am y math o gerddoriaeth o nhw’n cynhyrchu. Roedd eu setie byw nhw yn anhygoel - ac roedden nhw’n headlino gwylie cerddorol a hynny cyn ryddhau unrhyw ddeunydd. Ond o’n ni gyd mo’yn clywed yr albwm. Ac or diwedd - daeth yr aros i ben llynedd. Erbyn Steddfod Caerdydd. Nath y casgliad fyw lan at yr hype? O do! A mwy. Ma cwpwl o’r tracie ar yr albwm - Candy Jones, Llong Pleser, Dal Ni Lawr yn sublime. Yr unig broblem oedd ma’ dyma albwm cynta - ac ola y Genod Droog. Gutted.Falle fod y perle fi ‘di dewis ddim at ddant pawb. Nai ddim esgus bo nhw gyd yn “cool” - ond hei - nai ddim esgus bo

fi’n cool chwaith. Ac odd hi mor anodd dewis dim ond 5. Ond yn y pendraw, nes i benderfynu ar ddewis yr albwms oedd yn mynd â fi nol i gyfnodau arbennig yn fy mywyd. Casgliade oedd yn neud i fi hel meddylie, cofio, gwenu, crio. Ma’r 5

perl fi di dewis yn sicr yn mynd â fi nol i gyfnodau arbennig. Sy’n neud i fi feddwl - falle nid y gerddoriaeth sy’n adlewyrchu’r cyfnodau arbennig yma - ond yn hytrach - y gerddoriaeth nath NEUD y cyfnodau hynny mor arbennig.

pheryg o swnio’n or-ddramatig (moi?!) nath Nick Drake newid fy mywyd. Cyn hyn - doeddwn i ddim di clywed am Drake, ei gerddoriaeth, na hanes trist ei fywyd, ond yr eiliad nes i glywed ei lais, ei fiwsig, ei dalent - o ni’n hooked.

Nath fy nghariad brynu Way To Blue; An Introduction To Nick Drake, yn rhannol i fy addysgu ac yn rhannol i drio stopio fi rhag mynnu ei fod e’ yn rhoi albwm Drake arno BOB TRO o ni’n treulio amser gyda’n gilydd. Ma gen i gopi o 3 albwm Nick Drake - Five Leaves Left, Bryter Later a Pink Moon, ond ma Way To Blue yn albwm arbennig. Ma’n golygu gymaint i fi, allai ddim rili mynegi’r peth. Ma clywed One Of These Things First dal yn neud i fi grio. Ma hi mor brydferth, mae’n boenus.

BEGANIFS – FFRAETHOdd y Benganifs yn blimin briliant nag o nhw? Ges i fy magu ar aelwyd ddwy-ieithog, felly roedd mam yn gwrando lot ar Plethyn ac Ar Log - ond yn ystod fy mlynyddoedd cynta yn Ysgol Rhydfelen, doeddwn i ddim yn ymwybodol fod bandie ifanc yn canu’r math o gerddoriaeth o’n i’n hoffi. Y math o gerddoriaeth o’n i’n clywed - ac yn lico - ar y radio. O’n i’n meddwl bo pawb oedd yn canu’n Gymraeg yn swnio fel Triban neu Mabsant. Ond erbyn diwedd blwyddyn 3 yn Rhydfelen (be yw hwna erbyn hyn? Blwyddyn 12/13??) ro’n i’n teithio i fynd i weld gigs a bandie Cymraeg. Jess nath agor fy llygaid - a fy nghlustie i gerddoriaeth fodern yn y Gymraeg dwi’n

meddwl, ond pan nes i glywed Cwcwll gan y Beganifs, gafodd Brychan a’r bois ffling - Rhodri Sion oedd fy crush newydd!

Odd gen i gopi ar dâp o Ffraeth ac mi nes i chware hi gymaint nath y tâp fynd yn sownd yn y peiriant tapie. Fi dal i gofio’r sw^ n ofnadwy yna. Pan o’ chi’n gwrando ar gân a wedyn oedd hi’n dechre distortio, ac o chi’n gwbod - ym mêr eich esgyrn, fod y tâp wedi mynd yn sownd yn y peiriant. Dwi hefyd yn cofio fideo Cwcwll. Roedd y band ar draeth yn rhywle - ac odd Nest Roberts yn gwisgo crys-t streips a jins. Ac o’n i mooooor genfigennus ohoni. Ar ôl Betty Boo – o’n i moyn bod yn Nest Rob-erts. O fyna, nes i ddechre hoffi Aros Mae, Wwwz, Y Gofodwyr Piws, Ty^ Gwydr a Caffi Vadasi, ond y Beganifs oedd y gore wrth gwrs.

O’N I’N MEDDWL BO PAWB OEDD YN CANU’N GYMRAEG YN SWNIO FEL TRIBAN NEU MABSANT.

“ “

Page 20: Y Selar - Awst 09

20 Postiwch eich cd’s i’r Selar, Llawr 1, Canolfan Sain, Llandwrog, Caernarfon, Gwynedd LL57 5TG

BOB CELWYDD GOLAU DYDD (SBRIGYN-YMBORTH)Pan glywes i fod Bob, o’r diwedd, am ryddhau albwm roeddwn i’n disgwl rhywbeth tebyg i’w sengl gyntaf, Defaid - blin a llawn egni - a dyna be gewn ni yn agoriad ffrwydrol Gwobr. Gitars syml ond effeithiol, a’r cyfan yn cael ei yrru gan y drymio didrugaredd sydd yn un o hanfodion eu perfformiadau byw. Ond erbyn yr ail drac mae synth a distortion yn adeiladu gan greu sw^ n llawn, aeddfetach sy’n asio’n berffaith â thywyllwch y gerddoriaeth, sy’n sylfaen i weddill yr albwm. Er bod y twyllwch melodig hwn yn gyfeiliant da i ganu blasé o flin Sion mae’n troedio llinell denau rhwng y lush a’r slush gyda’r gitâr yn mynd ar goll ar brydiau. Mae Dial, yn saib amserol o hyn a gallai ambell i gân arall fod ychydig yn fwy amrwd mewn mannau. Mae’r gân olaf yn asio’r ddwy elfen yn wych ac yn gorffen yr un mor bwerus â’r dechrau. Mae Bob yn ôl, ond ddim cweit fel oedden ni’n disgwyl.7/10TELOR ROBERTS

BYD DYDD SUL – BYD DYDD SUL Mae sgyrsiau’n medru gwneud i rywun deimlo’i oed. Mae Byd Dydd Sul yn rhan o’r dôn newydd o grwpiau sydd wedi cyffroi Caerdydd. Ac wrthi’n siarad hefo aelod arall o’r dôn yma yr oeddwn pan gyfeiriodd y sgamp at ‘hen grwpiau fel Plant Duw’. Nai ddim gosod Tomos Zimmermans mewn helbul gyda’r hwdlyms o Fangor wrth ddatgelu ei enw, ond digon yw dweud mod i’n gwamalu yng nghlust ryw druenun yr wythnos gynt am ‘grwpiau

newydd fel Plant Duw’. Wele gagendor cenhedlaeth. Felly mae angen cadw ar flaenau traed. Gwelais Byd Dydd Sul yn fyw am y tro cynta yn ddiweddar ac yn sicr nid am y tro olaf – cegagored megis samwn yn disgyn drwy do pafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol, wedi ei gario o’r môr gan gorwynt eithafol. Doedd gwrando ar yr EP ddim ond hanner paratoad am y wledd, ond mae’r 4 trac yn arwydd y bydd albwms gwych gan y grw^ p yma os stician nhw hefo’i gilydd felly gobeithio na awn

nhw i brifysgolion dwl fel Newcastle a Milan. Mae naws meddylgar y grw^ p i’w glywed, a gall un ond darogan gogoniant pan gawn nhw eu cyfle gyda chyfleusterau gwell na gafwyd ar greu’r demo. Ar y foment cewch afael ar hwn yn eu gigs ond mor sicr a bydd cân nesaf Jack Penate yn annioddefol, bydd Byd Dydd Sul yn creu argraff mawr yn fuan, a chreu rhywbeth â mwy o raen mewn stiwdio go iawn. 6/10

HEFIN JONES

SARAH LOUISE – AR GOLL (FOLKAL RECORDS)

Wedi’r gwrandawiad cyntaf, dyma feddwl mai dyma’r Miley Cirus Cymraeg - harmonïau clos yn udo’n hiraethus am gariad a chyfle coll yn y cywair lleddf. Mae gan Sarah Louise lais unigryw, mae rhywbeth gwerinol, bron yn Wyddelig ynddo, ac mae hynny’n rhoi rhywbeth arbennig i ganeuon a allai fod braidd yn ddiflas fel arall. Mae’r gân gyntaf, Hogan Goll, yn popi iawn, yn angerddol, jyst y peth i apelio at blant ansicr yn eu harddegau.

Ond drwy dalu sylw i ganeuon unigol mae genres eraill mwy aeddfed yn dod i’r amlwg. Mae Rhywbeth Gwell yn fwy acwstici, ac yn cynnwys elfen o folk, ond eto â’r un dôn lleddf a hiraethus. Ond yr hyn sy’n uno’r caneuon, er mor wahanol eu harddull, yw’r geiriau. Mae bron pob cân yn ymdrin â’r cariad sydd wedi gadael, a theimladau chwerw’r gantores tuag at yr amser gwastraffus a dreulwyd yn ei gwmni. Digon teg, ond efallai bod albwm gyfan am y peth yn mynd ‘chydig yn rhy bell …

5/10 LEUSA FFLUR

GOREUON BRYN FÔN (SAIN)

Wel, beth allai ddweud?! Oedd rhaid iddo fe ddigwydd nagodd e ... A nawr, dyma fi, yn ceisio rhoi’n nheimladau ar bapur am CD ‘Goreuon Bryn Fôn’. Falle nad fi yw’r person gorau i wneud hyn... Mae’r casgliad yn un teg amwni, mae’r “hits” i gyd ‘na, yn un crombil mawr yn barod i’ch sugno chi i bwll du iawn yn fy achos i, pwll lliwgar i chi ffans Bryn Fôn... Allai eich sicrhau chi mai’r un Bryn Fôn sydd yma ac ydyn, mae’r caneuon yn swnio union run peth ag yw nhw ar y radio ac yn y ‘Discos Cymraeg’, ac ma’ nhw lot gwaeth na ma’ nhw’n swnio ‘rol cwpwl o beints... Dwi’n digaloni. Prynwch hi os y chi’n hoffi Bryn Fôn, ond os nagych chi, ewch i brynu rhywbeth call, PLIS.4/10

LOWRI JOHNSTON

DANIEL LLOYD – TRO AR FYD (RASAL)

Do’n ’im yn siw^ r be’i ddisgwyl o albwm unigol gan Daniel Lloyd. Mi fûm yn ffan ohono fo a Mr Pinc un tro ond mi basiodd hynny’n ddigon sydyn. Ond, roedd y llun cartw^ n ohono â’i gitâr acwstig ar y clawr yn awgrymu mai rhywbeth hollol wahanol fyddai Tro ar Fyd.Ro’n i’n barod am ddeg trac acwstig, felly mi gesh i dipyn o sioc wrth ddarganfod mai sdwff tebyg iawn i indie pop

Daniel Lloyd a Mr Pinc oedd llawer o’r caneuon, oedd yn gneud imi feddwl be’n union oedd y pwrpas iddo fynd ar ei drywydd ei hun?Yna daeth chydig o draciau arafach, ond doedd y safon ddim yn codi. Mae Y Trywydd Iawn, yn iawn, ond yn drewi o Ryland Teifi. Fel arall dwi’n ei chael hi’n anodd dod o hyd i ddim byd cadarnhaol.Hyd yn oed os fysa’r gerddoriaeth yn well mi fysa’r geiriau yn siw^ r o’i adael lawr, achos ma’ nhw

yn shiiiiiiiii... ambolic.Mae ’na ddau reswm da dros beidio prynu hon. I ddechrau, tydi hi ddim yn dda iawn a mi fysa ffan mwya Daniel Lloyd a Mr Pinc yn cael ei siomi ynddi. A’r ail reswm: mi geith hi ei chwarae hyd at syrffed ar Radio Cymru dros y tair blynedd nesaf p’run bynnag. Arbedwch eich pres i brynu eis crîm a da-das blantos. 4/10

GWILYM DWYFOR

AL LEWIS SAWL FFORDD ALLAN (RASAL)

I ddechrau, na, tydi’r albwm yma ddim mor ddrwg ag y mae rhai adolygwyr wedi honni’n ddiweddar. Mae’n wir nad ydyw’n torri unrhyw dir newydd, a does yna ddim byd chwyldroadol o gwbl am y gerddoriaeth. Beth sydd yma ydy albwm fach syml, ‘neis’, a does gen i ddim gormod o broblem efo cerddoriaeth neis ond iddi gael ei chynhyrchu’n weddol dda, a bod rhywfaint o dalent gan y sawl sy’n perfformio.

Mae gan Al Lewis lais da, alawon bach digon bachog, a cherddorion da’n gefndir iddo...felly mae neis yn OK yn hynny o beth. Gellid dadlau fod y caneuon braidd yn or-sentimental ac undonog ar adegau - byddai mwy o amrywiaeth yn dderbyniol iawn, ond mae ‘na hefyd ganeuon da iawn fel Dechre Amau, Lle Hoffwn Fod a Gwenwyn sy’n cynnwys cameo lleisiol gan Mr Meic Stevens. Dim campwaith o safon byd, ond ddim yn rhy ddrwg chwaith. 6/10

OWAIN SCHIAVONE

Page 21: Y Selar - Awst 09

21

adolygiadau

RACE HORSES – CAKE (FANTASTIC PLASTIC)

Sengl dwy gân yw hon. Ffaith anniddorol a phlaen, ond rhaid dechrau rhywsut. Oes rhywun wedi sylwi fod grwpiau sy’n dechrau a’r lythyren K yn dueddol o fod yn anniddorol a phlaen? Kraftwerk a Kentucky AFC yw’r unig eithriaid, erioed. Nid yw Race Horses yn dechrau â K, a nid oedd cerddoriaeth Radio Luxembourg yn awgrymu y bysan nhw angen magu’r llythyren gyffrous honno mewn ymgais i leddfu ar ddiflastod llethol eu miwsig, ond gyda’u henw wedi newid a fydd steil bywiog Mei, Dyl, Gaff a Gwion yn pylu? Na phoener ffans, na yw’r ateb. Mae Cake yn gân hapus a llôn yn drybowndian i felodi sionc na fedrai ond ddod o gitars y grw^ p unigryw. Mae cyfnodau bach tywyllach yn Cacen Mamgu, ond

mae hynny fel dweud fod cyfnodau o bersbectif ar ôl marwolaeth diweddar artist amryliw oedd yn troi mewn cylchoedd, gafael yn ei het a gweiddi ‘yow’. Mae’r geiriau ‘mamgu wnaeth ddysgu fi shwt i farw’ yn sicr yn drawiadol wrth gael eu taenu tros riff ysgafn clasurol Radio Luxemborgaidd. A dwi newydd sylwi mai brawddeg Saesneg ydyw wrth wrando ar y sengl eto. Sbiwch hawdd yw cymhlethu rhai pobl ar eich carlam, Geffylau. Yr hyn a geir yma yw cân sy’n dilyn y fformiwla ddwyieithog, y newid cyflymder a’r curiadau hapus mae Race Horses/Radio Luxemburg wedi eu naddu tros y blynyddoedd a’i droi’n sw^ n sydd yn berchen iddyn nhw. A llwyddiant ysgubol ydyw.Ôl nodyn: Erbyn meddwl - Kinks, Kings of Leon hefyd. Ond mae’r gweddill yn rybish.8/10

HEFIN JONES

NIA MORGAN NIA MORGAN (RECORDIAU PATRIN)

Dyma albwm gyntaf Nia Morgan ac mae’n ymgais dda iawn. Mae yna naws hiraethus i’r albwm ac mae hyn yn fwy na dim oherwydd llais ysbrydol Nia. Fydd yr albwm ddim at ddant pawb ac yn sicr tydi hi ddim y math o beth i roi ymlaen cyn mynd allan ar nos Sadwrn. Ond mi fysa hi’n berffaith ar gyfer ymlacio ar ôl diwrnod hir efo diod neu ddau o flaen y tân.Tydi’r ‘pace’ hamddenol yn newid fawr ddim o gân i gân sy’n cyfrannu eto at y teimlad hiraethus yma. Er hyn mae pynciau llosg yn cael eu trafod hefyd, megis rhyfeloedd ‘olew’ yn Rhwng y Gwir a’r Gwirion a Silent Times. Mae Hon yn gân ardderchog sydd â melodi syml hyfryd a llais Nia ar ei orau.Efallai y bydd rhai yn gweld yr holl beth braidd yn undonog ond dyma sydd yn gwneud yr albwm mor hudolus yn fy marn i. 7/10

DEWI SNELSON

NEVARRO – UCHELA (RECORDIAU GRAWNFFRWYTH)Nevarro ydy’r band ifanc nath ennill cystadleuaeth Brwydr y Bandiau C2 eleni, ac o wrando ar eu EP cyntaf mae’n hawdd gweld pam fod y llu o bleidleiswyr wedi dewis y pedwarawd o Lanelli. Does yna ddim byd o gwbl yn bod ar y recordiad – mae’r gwaith offerynnol yn gefndir tynn i lais cryf Tom Hamer ac mae’r sw^ n yn safonol iawn i fand ifanc. Mae’r arddull rock ysgafn yn atgoffa rhywun o fandiau fel Bon Jovi, ac maen nhw hefyd yn rhyw gymysgedd o ddau gyn-enillydd arall o goron C2 sef No Star a Coda ... I ddweud y gwir, mae’r prif lais yn syndod o debyg i un Dafydd o Coda (watcha dy hun Tom, fydd Only Men Aloud ar dy ôl di wap!) Ydy, mae’r gerddoriaeth yn ok, ond mae’r geiriau’n naïf dros ben ar adegau, a gellid maddau i fand ifanc o bosib, ond mae’n anodd deall y rheswm tu ôl i roi cytgan Saesneg i gân wladgarol Fy Ngwlad. Od iawn.5/10

OWAIN SCHIAVONE

RHAID

GWRANDODERWYDDON DR GONZO – STONK! (COPA)

Dyma ni o’r diwedd albwm Derwyddon Dr Gonzo!! A chewch chi mo’ch siomi! Cymysgedd o gerddoriaeth Ska, Afro-beat a Funk - sef fy hoff math o gerddoriaeth - ar ei gorau! Ceir yma gasligad o’r goreuon - K.O, Chaviach, Madrach, Bwthyn, ynghyd â chymysgedd o ganeuon newydd sbon! Rwy’n arbennig o hoff o’r gân No Pants Dance - ma’n fy atgoffa o’r math o gerddoriaeth a gynhyrchwyd yn Motown, efallai bo’r canu a’r geiriau ychydig yn wahanol i’r hyn a gyfansoddwyd yn

Motown ond ma’r gerddoriaeth gefndirol yn fy atgoffa o gerddoriaeth funk a soul, gyda safon! Mae’n rhaid i mi gyfaddef mai’r gân What goes Around yw’r un fwyaf mentrus allan ohonyn nhw’i gyd, gyda’r dj a’i scratsio hynod effeithiol, a’r rapio Ffrengig - gwych! Felly, casgliad gwych o ganeuon. Gwendidau? Wel… er bo’r albwm yn wych dwi’m yn or-hoff o’r gân Rapil na Salsa Talsarna yn bersonol! Ond ar y cyfan gwych - methu aros i weld yr hogia’n perfformio’n fyw dros yr haf gan mai band byw yw’r Derwyddon!! Gwych. 8/10CERI PHILLIPS

Page 22: Y Selar - Awst 09

?22

Y GOLOFN WADDCip ar y cyfryngau Beth gebyst oedd yr erthyl raglen honno am Wakestock ar S4/C? Roedd hi’n ryw lobsgóws aflednais o beth. Arlwy sgitsoffrenig, yn methu penderfynu os oedd hi’n rhaglen am fiwsig ynteu’n rhaglen am donfyrddio.

Fel y byddech yn disgwyl gan golofnydd mewn cylchgrawn pop Cymraeg, nid yw tonfyrddio at fy nant.

Ond mi chwerddais yn harti wrth glywed Hefin Mattoidz yn cynnig sylwebaeth gwbwl dros ben llestri ar lafnau yn syrffio’r dôn.

Doedd Hefsi ddim yn siarad na Chymraeg na Saesneg, ond rhyw groesbeilliaith od ar y diawl – Cymraeg geiriadur wedi’i blethu efo disgrifiadau Saesneg o gampau tonfyrddio. Pethau fel “A dyna ni Dwayne Jetskis yn dangos archwaeth am eithafiaeth gyda’r double ducky back-rub three sixty with tail bender i gipio tlws Dax Daydream Brillo Pad dwy fil a naw.”

Mae’n debyg mai swnio’n awdurdodol oedd y bwriad. Ond mae’n anodd sbriwsho’r gamp o ddisgrifio dyn yn ei oed a’i amser yn sefyll ar ddarn o bren tra’n cael ei dynnu gan gwch cyflym.

A llaw i fyny pwy aeth i Wakestock i ddotio ar donfyrddwyr eniwe? Yn union.

Lle’r Sianel oedd rhoi awran o roc a rôl i ni, gan adael i ryw sianel ddigidol chwaraeon eithafol roi llwyfan i’r slebogs tonnau.

Pytiog oedd yr hyn ddangoswyd o berfformiad Yr Ods – bron bod y muisical interlude generig yn dangos torfeydd Wakestock yn having it large yr un mor hir â’r hyn welwyd o’r bandiau

Cymraeg. Pam bod angen plethu

miwsig cachu Blink 182-aidd efo shots o fyrjins ifanc sbotlud? Fedra i gael hynny tu allan i Woolworths.

I fod yn deg, gath y cyfan ei lywio’n fedrus iawn gan Sarra Elgan Rees. Cyflwyno heb ei fai. Mi esboniodd Sarra Elgan Rees fod yr enw Wakestock yn cyfeirio at y gamp wakeboarding a gw^ yl gerddorol Woodstock. Neis.

I fod yn decach, mae Nodyn yn rhaglen swmpus, gyda’i golygfeydd hardd yn bwydo’r synhwyrau a sgwrsio Elin Fflur yn fyrr ac unionsyth. Maen nhw wedi deall mai’r miwsig ydi’r Peth.

Ac mae’n ymddangos fod Radio Cymru’n dechrau gweld y goleuni hefyd. Cafwyd cyfres o raglenni ar nos Fercher gan wybodusion ffraeth a dadleuol fel Jarman ac Emyr Ankst. Ag odd gin Ian Cottrell raglan hefyd.

Ar ei prog ola’ roedd Emyr Ankst yn dadlau mai canu’n ddwyieithog yw’r norm, a bod y Super Furry Animals wedi gwneud daioni mawr yn canu’n ddwyieithog trwy ddangos i weddill y byd bod y Gymraeg yn bodoli. Mae honna’n un farn.

Dwi’n cofio Elfyn Llwyd yr Aelod Seneddol yn codi fyny yn Senedd Prydain a llongyfarch y band ar eu gwerthiant rhyfeddol o Mwng.

Taswn i’n Aelod Seneddol (annhebygol), yr ail beth fyddwn i’n wneud (ar ôl agor fy handbag yn wynab Don Touhig) fydda siarsio’r Super Furry’s i ddod i’r Sdeddfod i chwarae Mwng yn ei gyfanrwydd. Dyna fydda double ducky back-rub three sixty with tail bender ...

gyda Barri Chips Cyhoeddwyd yn ddiweddar iawn fod yr w^ yl newydd hon yn cael ei chynnal yn nhref Llanrwst ar benwythnos 11-12 Medi eleni. Mae’r digwyddiad yn cael ei drefnu gan griw o fois ifanc o’r ardal, nifer ohonynt i ffwrdd yn y coleg ond adref dros yr haf, sy’n awyddus i weld rhagor o gerddoriaeth byw yn eu tref leol.

Un o’r trefnwyr ydy prif leisydd y band Jen Jeniro, Eryl Jones, sy’n credu fod bwlch mawr i’w lenwi yng nghalendr cerddorol yr ardal, “ma Llanast Llanrwst yn cael ei gynnal ym mis Tachwedd bob blwyddyn ac wedi ennill ei blwyf yn golew erbyn hyn. Wedi deud hynny, da ni’n teimlo fod yna ddigon o alw am ddigwyddiad cerddorol mawr arall yn yr haf ... a gan

fod lot ohonom ni adra dros yr haf dyma benderfynu mynd at i drefnu rwbath.”

Clwb y ‘Legion’ ar sgwâr y dref fydd canolbwynt Gw^ yl Gwydir, gyda gig ar y nos Wener a’r nos Sadwrn, ond bydd yna sesiynau acwstig yn Nhafarn y New Inn gerllaw trwy’r dydd ar y Sadwrn hefyd. Meddai Eryl, “da ni’n falch iawn o fod wedi sicrhau lineup cryf iawn ar y ddwy noson efo ni, Mr Huw, a’r Ods nos Wener, ac wedyn Cowbois Rhos Botwnnog, Race Horses ac Euros Childs nos Sadwrn!”

Mae setiau acwstig y pnawn Sadwrn yn tynnu dw^ r i’r dannedd hefyd gydag enwau fel John Lawrence, Alun Gaffey, Tecwyn Ifan, Eitha Tal Ffranco, Gildas a llawer mwy yn perfformio. Da!

Cyhoeddi Gw^yl Newydd yn Llanrwst

[email protected]

Page 23: Y Selar - Awst 09

www.sainwales.comffôn 01286 831.111 ffacs 01286 [email protected]

www.

sain

wale

s.com

w

ww.ra

sal.n

et

www

.mys

pace

.com

/gwy

mon

w

ww.m

yspa

ce.c

om/la

belc

opa

Huw M Os Mewn SwnRasal LL014 - £6.32 iTunes yn unig

Yr Ods Fel hyn am Byth - Ffordd ti’n troi dy LygaidCopa LL005 - £1.58 iTunes yn unig

Mr Huw Hud a LlefrithCopa CD006 - £9.78

Mr Huw Ffrind Gora MarwCopa LL008 - £0.79 iTunes yn unig

Al Lewis Trywydd IawnRasal LL015 - £0.79 iTunes yn unig

The Gentle Good While you slept I went out walkingGwymon CD004 - £12.70

Lleuwen Lili Wen FachGwymon LL006 - £0.79 iTunes yn unig

Goreuon Bryn FônSain SCD2615 - £9.78

Goreuon Elin FflurSain SCD2614 - £9.78

Al Lewis Band Sawl Ffordd AllanRasal CD028 - £9.78

9BachGwymon CD007 - £9.78

Daniel Lloyd Tro ar FydRasal CD029 - £9.78

Derwyddon Dr Gonzo Stonk!Copa CD007 - £9.78

Mynnwch gopi! Ewch i wefan Sain

www.sainwales.comneu mae modd i chi lawrlwytho traciau unigol o iTunes

miwsig, miwsig, rhowch i mi . . . .

Page 24: Y Selar - Awst 09

Dydd Gwener

18:00 -19:00

Dydd Gwener/Ar y we19:00 -19:30

Dydd M

erche

r

18:00 -19:00

Yn ôl ar y sgrîn 02/09/09