ysgol bontnewydd newyddlen y...

4
Ysgol Bontnewydd Newyddlen y Tymor Rhifyn 18 Cyngor Ysgol ar waith Penderfynodd y Cyngor Ysgol bod angen arddurno’r toiledau oherwydd bod plant Cyfnod Allweddol 2 yn meddwl eu bod yn ddiflas a di-liw. Yn ystod y tymor, mae disgyblion blynyddoedd 5 a 6 wedi bod yn brysur gyda’r prosiect o wella ymddan- gosiad toiledau’r Adran Iau. Ar ôl casglu syniadau gan ddisgyblion Blwyddyn 5, penderfynodd y Cyngor Ysgol, ar y thema ‘Chwaraeon’ ar gyfer toiledau’r bechgyn a’r thema ‘Cychod Hwylio ar y Môr’ i’r merched. Gofynwyd i Heather Lowe arwain y prosiect. Rydym oll yn edrych ymlaen i weld y gwaith gorffenedig. Ar Ddydd Gwener, 12fed o Fehefin, cymrodd dros 150 o blant a tua 20 o oedolion ran yn y Daith Gerdded Noddedig. Roedd y plant i gyd wedi bod yn brysur yn casglu arian. Rydym yn falch iawn o ddweud ein bod, fel ysgol, wedi casglu ychydig dros £3,000. Hoffwn, ddiolch o galon i bawb sydd wedi noddi’r disgybli- on ar gyfer y Daith Gerdded. Mae’r Cyngor Ysgol, wedi trafod gyda’r Cynghorau Dosbarth ac wedi penderfynu yn barod sut ydym am wario £1,500 er lles pob disgybl yn yr ysgol. Anna a Nathan (Bl6) Y Criw Cyngor Eco Bu criw y Cyngor Eco yn brysur iawn y tymor yma yn gwneud gweithgareddau difyr yn yr ysgol. Ein gwaith ni yw parhau i godi ymwybyddiaeth holl blant yr ysgol o Eco-God. Yn gyntaf, cawsom ddiwrnod amgylcheddol gwyrdd ble roedd pawb yn gwisgo dillad gwyrdd neu hen ddillad i arddio. Trefnwyd bod pob dosbarth yn diffodd eu gwresogydd , a threfnwyd bod gweithgareddau amrywiol yn ymwneud â'r amgylchedd yn cael eu gweithredu. Er enghraifft torri a thwtio'r gwrych a'r gromen helyg, chwynnu a chodi bylbiau, plannu planhigion yn y bocsys blodau a pharatoi ardal llystyfiant. Rydym wedi derbyn bocs nythu adar gyda chamera er mwyn monitro cylch bywyd aderyn. Does dim adar eto, ond mae yna bryfaid! Roedd gennym durtur dorchog wedi nythu ar ben y goeden greadigol. Daeth un cyw bach allan o'r wy, ond yn anffodus roedd y cyw a'r aderyn wedi diflannu o fewn ychydig ddyddiau. Mae disgyblion Cyngor Eco Bl.6 wedi creu poster bwyta’n iach i hybu plant i ddod a ffrwythau i fwyta yn iachus bob dydd. Felly cofiwch fwyta'n iach, os gwelwch yn dda. Diolch. Kyle a Steffan Bl.6 Taith Gerdded Toiledau Taclus Daeth Swyddogion y Cyngor Ysgol, Cyngor Eco a’r Siarter Iaith i gyfarfod o Gorff Llywodraethol yr ysgol. Cafodd aelodau’r llywodraethwyr gyflwyniad gan y plant i’w gwaith. Diolch yn fawr i chi blant am eich cyflwyniad graenus a diddorol. Mr Siôn Jones, Cadeirydd Corff Llywodraethol.

Upload: others

Post on 18-Jan-2020

2 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Ysgol Bontnewydd Newyddlen y Tymorysgolbontnewydd.org/downloads/200715-newyddlen-tymor-yr-haf-2015.pdfMae disgyblion Cyngor Eco Bl.6 wedi creu poster bwyta’n iach i hybu plant i

Ysgol Bontnewydd Newyddlen y Tymor

Rhifyn 18

Cyngor Ysgol ar waith

Penderfynodd y Cyngor Ysgol bod angen arddurno’r toiledau oherwydd bod plant

Cyfnod Allweddol 2 yn meddwl eu bod yn ddiflas a di-liw. Yn ystod y tymor, mae disgyblion blynyddoedd 5 a 6 wedi bod yn brysur gyda’r prosiect o wella ymddan-

gosiad toiledau’r Adran Iau. Ar ôl casglu syniadau gan ddisgyblion Blwyddyn 5,

penderfynodd y Cyngor Ysgol, ar y thema ‘Chwaraeon’ ar gyfer toiledau’r bechgyn a’r thema ‘Cychod Hwylio ar y Môr’ i’r merched. Gofynwyd i Heather Lowe arwain

y prosiect. Rydym oll yn edrych ymlaen i weld y gwaith gorffenedig.

Ar Ddydd Gwener, 12fed o Fehefin, cymrodd dros 150 o blant a tua 20 o oedolion

ran yn y Daith Gerdded Noddedig. Roedd y plant i gyd wedi bod yn brysur yn casglu arian. Rydym yn falch iawn o ddweud ein bod, fel ysgol, wedi casglu

ychydig dros £3,000. Hoffwn, ddiolch o galon i bawb sydd wedi noddi’r disgybli-

on ar gyfer y Daith Gerdded. Mae’r Cyngor Ysgol, wedi trafod gyda’r Cynghorau Dosbarth ac wedi penderfynu yn barod sut ydym am wario £1,500 er lles pob

disgybl yn yr ysgol. Anna a Nathan (Bl6)

Y Criw Cyngor Eco Bu criw y Cyngor Eco yn brysur iawn y tymor yma yn gwneud gweithgareddau difyr yn yr ysgol. Ein gwaith ni yw parhau i godi ymwybyddiaeth holl blant yr

ysgol o Eco-God.

Yn gyntaf, cawsom ddiwrnod amgylcheddol gwyrdd ble roedd pawb yn gwisgo

dillad gwyrdd neu hen ddillad i arddio. Trefnwyd bod pob dosbarth yn diffodd eu gwresogydd , a threfnwyd bod gweithgareddau amrywiol

yn ymwneud â'r amgylchedd yn cael eu gweithredu.

Er enghraifft torri a thwtio'r gwrych a'r gromen helyg, chwynnu a chodi bylbiau,

plannu planhigion yn y bocsys blodau a pharatoi ardal llystyfiant.

Rydym wedi derbyn bocs nythu adar gyda chamera er mwyn monitro cylch bywyd aderyn. Does dim adar eto, ond mae yna bryfaid!

Roedd gennym durtur dorchog wedi nythu ar ben y goeden greadigol. Daeth un cyw bach allan o'r wy, ond yn anffodus roedd y cyw a'r aderyn wedi diflannu o

fewn ychydig ddyddiau.

Mae disgyblion Cyngor Eco Bl.6 wedi creu poster bwyta’n iach i hybu plant i

ddod a ffrwythau i fwyta yn iachus bob dydd. Felly cofiwch fwyta'n iach, os gwelwch yn dda.

Diolch. Kyle a Steffan Bl.6 Taith Gerdded

Toiledau Taclus

Daeth Swyddogion y Cyngor Ysgol,

Cyngor Eco a’r Siarter Iaith i gyfarfod o Gorff Llywodraethol yr ysgol.

Cafodd aelodau’r llywodraethwyr gyflwyniad gan y plant i’w gwaith.

Diolch yn fawr i chi blant am eich cyflwyniad graenus a diddorol.

Mr Siôn Jones, Cadeirydd Corff Llywodraethol.

Page 2: Ysgol Bontnewydd Newyddlen y Tymorysgolbontnewydd.org/downloads/200715-newyddlen-tymor-yr-haf-2015.pdfMae disgyblion Cyngor Eco Bl.6 wedi creu poster bwyta’n iach i hybu plant i

Ysgol Bontnewydd Newsletter

Issue 18

School Council

The School Council decided that the Key stage 2 toilets needed to be painted

as the children thought that they were boring and plain. Throughout this term, Years 5 and 6 pupils have been very busy working on the project in order to

spruce up the toilets. Following collecting various ideas from Year 5 children, the School Council de-

cided that the theme for the boys toilets would be ‘Sports’ and the girls toilets would be ‘Sailing boats’. We asked Heather Lowe to be in charge of the pro-

ject. We all are all looking forward to

seeing the finished work. On Friday, June 12th, approximately 150 pupils and about 20 adults from the

school took part in the Sponsored Walk. All the children had been busy collect-ing sponsors and were looking forward to walking from Bontnewydd to

Caernarfon and back. We are very pleased to say that, as a school, we have

collected just over £3,000. We would like to say thank you very much to everyone who sponsored the pupils. The school council, after discussing with

the various classes, have already decided how we will spend £1,500 so that all children will benefit.

Anna and Nathan (Yr6)

Sponsored Walk

The Eco Council Squad

The Eco-Council Committee have been very busy this term, engaging in fun activ-

ities at school. Our job is to continue to raise children's

awareness of the school Eco-Code.

Firstly, we held an environmental day where everyone had to wear green or old clothes for gardening. Each class was responsible for switching off their class

heater, and a day of activities was organised and implemented. For example, the

willow hedge and willow dome were trimmed; the garden boxes weeded and cultivated; flower boxes were planted and vegetation area prepared.

We've had a bird box and camera installed so that we can monitor the activities

around the box. Unfortunately no birds, only insects in the box! But we did have a collared dove nesting in our metal art and craft tree. One chick hatched, but

unfortunately it was gone within a couple of days.

Year 6 Eco pupils created a poster to promote healthy eating. Children are encouraged to eat fruit on a daily basis. So remember healthy

eating, please. Thank you. Kyle and Steffan (Yr 6)

Tidy Toilets

Officers from the School Council, Eco

Council and Language Charter Council attended the Governors meeting

recently. The pupils presented their work and

explained their priorities and outcomes

for the year. Well done for giving an excellent

presentation. Mr Sion Jones, Chairperson,

Bontnewydd Governors

Page 3: Ysgol Bontnewydd Newyddlen y Tymorysgolbontnewydd.org/downloads/200715-newyddlen-tymor-yr-haf-2015.pdfMae disgyblion Cyngor Eco Bl.6 wedi creu poster bwyta’n iach i hybu plant i

Criw Celf Llongyfarchiadau mawr i’r canlynol ar eu llwyddiant. Mae Ffreuer, Jac a Jac Glyn wedi eu dewis i fod yn rhan o’r Criw Celf 2015-16.

Ymgeisiodd y tri disgybl dawnus yma am le yng Nghriw Celf Cyngor y Celfyddydau gan gynhyrchu darnau o waith fel rhan o’r broses cais.

Bydd y tri yn cael cyfle i fynd i weithdai gyda artistiaid amrywiol i

ddatblygu eu sgiliau celf ymhellach. Da iawn chi.

Criw y Siarter Iaith Blaenoriaeth criw y Siarter Iaith oedd i hybu defnydd

cymdeithasol disgyblion o’r iaith Gymraeg. Yn dilyn holiadur i’r disgyblion, sylweddolom bod angen ffocysu ar y maes

hwn.

Mae’r Dreigiau Doeth yn gyfrifol am fonitro iaith y buarth a gwobrwyo plant sy’n defnyddio’r Iaith Gymraeg yn eu

chwarae gyda talebau Draig Goch. Cynhyrchwyd poster i hyrwyddo rhaglenni teledu cyfrwng

Cymraeg ac app Cymraeg ar i-pad.

Cafodd disgyblion gyfle i wrando ar cryno ddisgiau Cymraeg a dod i adnabod rhai o’r bandiau mwyaf poblogaidd.

Daeth Magi Tudur o Sbarc i ddiddannu hefyd gyda’r Ysgol Roc Sbarc. Braf gweld y disgyblion yn rocio yn y Gymraeg!

Tymor Nesaf Bydd Tymor nesaf yn cychwyn i ddisgyblion ar 3/9/2015 HMS i staff ar 1/9/15 a 2/9/15

Bydd pris arian Cinio yn codi i £2.20 y dydd (£11.00 yr wythnos) o fis Medi ymlaen.

(Sieciau yn daladwy i Gyngor Gwynedd).

Ffarwelio Dymunwn yn dda i’r 17 disgybl ym mlwyddyn 6 a fydd yn ein gadael ar ddiwedd tymor. Pob hwyl i chi yn eich

Ysgolion Uwchradd. Ffarweliwn hefyd ac Anti Glenys, Anti Gwen a Mrs

Heather Lowe. Diolch yn fawr i chi am eich gwasanaeth

i’r ysgol ar hyd y blynyddoedd a phob dymuniad da.

Gweithgareddau’r Pwyllgor Rhieni Athrawon

Bu’n flwyddyn brysur i Bwyllgor Rh ac A. Nod

y pwyllgor oedd codi arian trwy weithgared-dau amrywiol er mwyn prynu adnoddau i

gyfoethogi profiadau dysgu plant yr ysgol. Yn dilyn toriadau i gyllideb yr ysgol, roedd

pwyslais mawr eleni ar gyrraedd targed o

£5,000. Braf yw dweud bod y pwyllgor wedi llwyddo i gyrraedd y targed a bydd adnoddau

TGCh newydd yn cyrraedd yr ysgol erbyn mis Medi.

Roedd y Sioe Ffasiwn, Ffair Nadolig , Y Daith Gerdded a’r Ffair Haf yn llwyddiannus iawn yn

ariannol. Braf hefyd oedd cynnal gweithgar-

eddau er hwyl hefyd megis y Disgo Calan Gaeaf a Santes Dwynwen a’r Bingo Pasg.

Croeso i chi ymuno a’r criw. Braf yw croesawu gwynebau newydd. Bydd y

cyfarfod nesaf ar 15/9/15 am 7:15

Ffreuer, Jac a Jac G

Dreigiau Doeth Magi Tudur

£6,300

Anti Glen a Gwen

Ffair Haf

Page 4: Ysgol Bontnewydd Newyddlen y Tymorysgolbontnewydd.org/downloads/200715-newyddlen-tymor-yr-haf-2015.pdfMae disgyblion Cyngor Eco Bl.6 wedi creu poster bwyta’n iach i hybu plant i

Art Club Congratulations to the following on their success. Ffreuer, Jac and Jac Glyn have been chosen to be part of the Art Club for 2015-16. The

three talented artists presented their work and were chosen and given a placement at The Art Council’s Art Club. The three pupils will attend

workshops and work with different artists developing their skills

further. Well done!

Language Charter Council

The Language Charter Council’s priority this year was to

further develop pupil’s social use of the Welsh language. Following a questionnaire it became apparent to the

council that this should be their main aim for the year.

The Wise Dragons are responsible for monitoring the school playground, where children who play in Welsh are

rewarded with Welsh Dragon tokens. A poster advertising Welsh television programmes and

Welsh apps was distributed to pupils.

Pupils had the opportunity to listen to Welsh cd’s and get to know some current Welsh bands.

Magi Tudur from Sbarc came to entertain us with Spark School of Rock. It was great to see pupils rocking in

Next Term Next term begins on 3/9/2015 for pupils INSET for Teachers on 1/9/15 & 2/9/15

Dinner Money will increase in September to £2.20 per day (£11.00 for the week)

(Cheques payable to Gwynedd Council).

Parent Teacher Association It has been a busy year for the Parent Teacher Association. The aim of the committee was to

raise money through a variety of activities to buy resources to enrich pupil’s learning

experiences.

Following cuts to school budgets, there was an even greater significance this year for the PTA

to reach a target of £5,000. It’s great to say that the committee have reached their target

and that new IT equipment will arrive by

September. The Fashion Show, Christmas Fair, Sponsored

Walk and Summer Fair were very successful. Fun activities were also held such as the Hal-

loween and St Dwynwen Disco and the Easter Bingo.

You are welcomed to join next years committee

and it is always nice to have new faces onboard. The next meeting will be held on

15/9/15 at 7:15

Wise Dragons Magi Tudur

Summer Fair

Best Wishes We wish the 17 pupils in Year 6 well as they will be leaving us at the end of term. Best wishes to you all in

your Secondary Schools. We will also be saying goodbye to Auntie Glenys, Auntie

Gwen and Mrs Heather Lowe who will also be leaving at

the end of the term. Many thanks to you for your service to the school.

£6,300 Auntie Glen & Gwen

Ffreuer, Jac a Jac G