cariad mr bustle

50
CARIAD MR. BUSTL trosiad o gomedi Jean-Baptiste Molière Le Misanthrope gan Gareth Miles © Gareth Miles 2009

Upload: gareth-miles

Post on 11-Mar-2016

252 views

Category:

Documents


7 download

DESCRIPTION

Trosiad o gomedi Moliiere

TRANSCRIPT

Page 1: Cariad Mr Bustle

CARIAD MR. BUSTLtrosiad o gomedi Jean-Baptiste Molière

Le Misanthropegan

Gareth Miles

© Gareth Miles 2009

Page 2: Cariad Mr Bustle
Page 3: Cariad Mr Bustle

3

CARIAD MR. BUSTLsef,

trosiad o gomedi Jean-Baptiste Molière Le Misanthropegan

Gareth Miles

Cymeriadau

ALEX, sydd mewn cariad â SelinaPHILIPPE, cyfaill AlexOSCAR, sydd mewn cariad â Selina

SELINA, gwraig weddw ifancELIANNA, cyfnither SelinaARTENNA, cyfeilles Selina

ARCASTO a COLIMANDRO, dau farcwis

MARTA, morwyn SelinaSWYDDOGCARLO, gwas Alex

ACT I

Golygfa 1. – PHILIPPE, ALEX

PHILIPPEBeth sy? Beth sy’n bod arnat ti?

ALEXGad lonydd imi.

PHILIPPEEglura wrtha’i beth sy’n bod. Os gweli di’n dda, Alex...?

ALEXCer o ngolwg i. Os gweli di’n dda, Phyl.

PHILIPPECeisia fagu digon o gwrteisi i wrando arna’i, yn lle gwylltio.

ALEXRydw i am wylltio a dydw i ddim am wrando.

PHILIPPEWelais i neb erioed mor oriog. Er ein bod ni’n hen ffrindiau, alla’i ddim peidio â meddwl...

ALEX

04/12/2009

Page 4: Cariad Mr Bustle

4

Ni’n dau’n ffrindiau? Paid â chymryd dy siomi.

PHILIPPEBeth ddwedaist ti?

ALEXMi fûm i’n meddwl amdanat ti fel ffrind tan yn ddiweddar iawn. Ond ar ôl beth welais i a beth glywais i gynnau, mae’n rhaid imi ddweud wrthyt ti, yn blwmp ac yn blaen, na all

creadur mor ddauwynebog fyth fod yn ffrind i mi.

PHILIPPEDauwynebog?

ALEXIe. Rhag dy gywilydd di.

PHILIPPEAm beth?

ALEXAm beth? Am beth? Rydw i newydd dy glywed di’n sgwrsio, yn glên ofnadwy, efo’r boi

yna. Sôn am seboni, llyfu, a chrafu. Mi feddyliais i eich bod chi’n gyfeillion mynwesol. Ond pan holais i pwy oedd o, doeddet ti ddim hyd yn oed yn cofio enw’r creadur. Ffals,

arwynebol, llwfr, dan-din a dauwynebog ydw i’n galw ymddygiad o’r fath. Taswn i wedi ymddwyn felly, mi fyddai gen i gymaint o gywilydd mi awn i grogi’n hun rhag blaen.

PHILIPPEDydw i ddim yn meddwl ‘mod i’n haeddu cael fy nienyddioi am hyn’na bach. Ga’i ddedfryd

ysgafnach, syr? Plîs?

ALEXPaid â gwamalu am bwnc mor ddifrifol.

PHILIPPESut wyt ti am i bobol ymddwyn?

ALEXYn onest a didwyll. Bob amser. Heb yngan yr un gair na ddaw’n syth o’r galon.

PHILIPPE Os bydd rhywun yn dweud ei fod o’n falch iawn o dy weld di, mae cwrteisi’n mynnu dy fod

tithau’n dangos dy fod ti’n falch o’i weld o. Ateb ei gyfarchiad siriol yn yr un modd. Rhoi compliment am gompliment.

ALEXDim o gwbwl. Os nad wyt ti’n falch o weld rhywun, dwed hynny wrtho fo. Alla’i ddim dioddef gwaseidd-dra pobol barchus. Y neis-neisrwydd anonest sy’n peri iddyn nhw

04/12/2009

Page 5: Cariad Mr Bustle

5

gusanu a chofleidio’i gilydd bob cyfle gan’ nhw, a pharchu pob ffwl fel ‘tae o’n athrylith. Faint elwach wyt ti os bydd rhywun yn addo bod yn ffrind iti am byth, yn dy ganmol di i’r

entrychion ac yna’n dweud yr un peth yn union wrth lembo hanner-pan? Dim ond creadur heb ronyn o hunan-barch fyddai’n gwrioni ar ganmoliaeth arwynebol, anfeirniadol. Na,

Phyl. Mae’n ddrwg gen i. Alla’i ddim meddwl amdanat ti fel ffrind, na hyd yn oed fel rhywun rydw i am fod yn ei gwmni o. Ga’i awgrymu’n garedig beth ydy dy broblem di? Fedri di

ddim gwahaniaethu rhwng dynion da a dynion da-i-ddim. Dim bod llawer o rai gwerth eu halen hyd y lle. Pethau gwael iawn ydi’r rhan fwyaf o bobol. A dweud y gwir yn onest

wrthyt ti, mae’n gas gen i’r ddynol -ryw. Pob un wan jac.

PHILIPPEOnd os ydi dyn am fyw mewn cymdeithas, mae’n rhaid iddo gymryd arno gydymffurfio ag

arferion cymdeithas, o leia.

ALEXNonsens. Mae hi’n ddyletswydd foesol arnom ni i gyd i gondemnio pob arwydd o dwyll. Bod yn onest bob amser ac ym mhob sgwrs a thrafodaeth. Dweud calon y gwir ar bob

achlysur a rhoi’r gorau i guddio’n teimladau dan gochl cwrteisi.

PHILIPPEMae yna adegau y byddai geirwiredd absoliwt yn amhosib. Pob parch i dy egwyddorion aruchel di, nid drwg o beth, weithiau, ydi celu’r hyn sy’n y galon. Fydda hi’n ddoeth inni

ddweud wrth bawb, bob amser, beth yn union feddyliwn ni ohonyn nhw? Ydi hi’n ddyletswydd arnom ni i ddweud wrth rhywun atgas ei fod o neu hi felly?

ALEXSiwr iawn.

PHILIPPE Fyddet ti’n dweud wrth hen ferch yn ei chwedegau nad ydi ymbincio yn gweddu i ddynes

o’i hoedran hi? Bod plastro colur ar wyneb hynafol yn dychryn pobol?

ALEXByddwn

PHILIPPEA rhoi gwybod i bob hen snob hirwyntog, mor ddiflas ydi gwrando arno fo’n canmol ei hun

a’i dylwyth?

ALEXWrth gwrs.

PHILIPPEDwyt ti ddim o ddifri?

ALEXYdw. Dydw i ddim am arbed neb rhag gonestrwydd.

PHILIPPENeb?

04/12/2009

Page 6: Cariad Mr Bustle

6

ALEXNeb! Mae’r weniaith, y llwfrdra, y twyllo a’r bradychu a wela i o nghwmpas ymhobman yn

dân ar fy nghroen. O hyn allan mi fydda i’n ymosod yn ddidrugaredd ar y ddynoliaeth gyfan.

PHILIPPEMae pesimistiaeth mor eithafol yn chwerthinllyd.

ALEXChwertha.

PHILIPPEGan fod dweud y gwir mor bwysig iti, gad i mi ddweud fod y salwch athronyddol,

egwyddorol yma’n dy neud di’n gyff gwawd ble bynnag yr ei di.

ALEXArdderchog.

PHILIPPEArdderchog?

ALEXMae clywed fod pobol yn cael hwyl am fy mhen i’n fy ngwneud i’n hapus iawn. Rydw i’n eu

dirmygu nhw gymaint, mi fyddwn i o ngho ‘tae’n nhw’n dweud pethau caredig amdana’i.

PHILIPPEDoes gen ti ronyn o barch at neb?

ALEXNeb.

PHILIPPEMae’n rhaid bod rhywun yn rhywle...?

ALEXMae’n gas gen i bawb ymhobman. Rhai am eu bod nhw’n filain ac yn ddiegwyddor a’r lleill am swcro pobol filain a diegwyddor; am fod yn rhy lwfr i godi eu lleisiau yn erbyn dihirod a

thwyllwyr. Mae agwedd pobol at yr adyn sydd wedi dod ag achos llys yn f’erbyn i yn enghraifft o oddefgarwch truenus y gymdeithas sydd ohoni. Mae pawb yn gweld y

gwenwyn dan ei wên deg o. Pawb sy’n ei nabod o’n gwybod sut y daeth o’n ei flaen, sut y llwyddodd o i fachu teitlau ac anrhydeddau di-ri: y triciau dan-din, y castiau anfoesol, y

twyllo a’r llwgrwobrwyo. Os galwi di o’n ‘sglyfath c’lwyddog’, neith neb anghytuno. Serch hynny, mi geith groeso cynnes ymhobman a phawb yn cymryd arnyn fod yn falch o weld ei

hen wyneb ffals o. Os oes unrhyw swydd neu ddyrchafiad ar gael, fo ceith hi ar draul dynion gonestach. Mae gweld cymdeithas mor barod i gyfaddawdu â llygredd yn troi

arna’i. Yn codi awydd arna’i i ffoi i ryw anialwch anghysbell, ddi-bobol.

PHILIPPE Dydi’r oes hon ddim gwaeth nag unrhyw oes arall a dydi’r natur ddynol ddim yn newid o genhedlaeth i genhedlaeth. Derbyn hynny a bydd yn barotach i faddau nag i weld bai. Rydw i’n medru gweld beth sydd o’i le ar y byd lawn gystal â ti. Rydw innau’n cael fy

04/12/2009

Page 7: Cariad Mr Bustle

7

nghynddeiriogi gan ffolineb pobol. Ond beth dâl gwylltio a bytheirio? Rhaid derbyn dynion fel y maen nhw. Cymedroldeb piau hi, gyfaill.

ALEXA fydd y cymdroldeb gwaraidd yma’n digio ynglyn ag unrhywbeth o gwbwl? Petai cyfaill yn cynllwynio yn d’erbyn di; yn dy fradychu di; yn taenu celwyddau amdanat ti? Fyddet ti

ddim yn gwylltio?

PHILIPPEDyna sut mae rhai pobol. Dydi gweld dynion drwg yn llwyddo ddim yn fy nghythruddo i fwy

na gweld brain yn porthi ar gelanedd, mwncwn yn gwneud drygioni, a bleiddiaid yn brathu.

ALEXDdylwn i, felly, gymryd fy mradychu, f’anrheithio, fy rhwygo’n ddarnau gan anifail o ddyn,

yn ddi-brotest? Paid â chyboli!

PHILIPPEMi dala i ti ymfflamychu llai ynglyn â dy elyn a gneud mwy i ennill yr achos.

ALEXWna’i ddim byd o’r fath.

PHILIPPEGobeithio bod gen ti rywun i sibrwd gair yng nghlustiau’r ynadon?

ALEXFy unig ladmeryddion i fydd Rheswm, Cyfiawnder a chymeriad pur a dilychwin.

PHILIPPEDdylet ti gael gair efo rhywun dylanwadol...

ALEXPam dylwn i? Mae f’achos i’n gyfiawn.

PHILIPPEWrth gwrs ei fod o. Ond mae angen hwb ar bob achos da.

ALEXUn ai rydw i’n iawn, neu dydw i ddim.

PHILIPPEPaid â bod yn rhy ffyddiog...

ALEXDyna fy safbwynt i ac mi ddalia i ato fo.

PHILIPPEMae d’elyn di’n bwerus a dylanwadol. Ac yn ddigydwybod.

ALEXWaeth gen i.

04/12/2009

Page 8: Cariad Mr Bustle

8

PHILIPPERwyt ti’n gwneud cythraul o gamgymeriad.

ALEXBosib iawn. Gawn ni weld.

PHILIPPEOnd...

ALEXMi fydd colli’r achos yn bleser pur.

PHILIPPEBeth ddwedaist ti?

ALEXRydw i’n edrych ymlaen at dderbyn cadarnhad fod dynion yn ddigon anfoesol i wneud tro

gwael â dyn da er fod ei achos o’n gyfiawn.

PHILIPPEWyt ti’n gall?

ALEXCostied a gostio, mi fydd colli’r achos dan y fath amgylchiadau yn fraint ac yn anrhydedd.

PHILIPPEPaid â gadael i neb arall dy glywed di’n siarad mor wirion.

ALEXDydw i ddim yn malio’r un ffeuen am beth ddwedith neb amdana’i.

PHILIPPEMae hyn yn ddiddorol dros ben.

ALEXBeth sy’n ‘ddiddorol dros ben’?

PHILIPPEDim byd.

ALEXDwed.

PHILIPPEWnei di ddim ond gwylltio.

ALEXMi wylltia’i os na ddwedi di.

PHILIPPE

04/12/2009

Page 9: Cariad Mr Bustle

9

Dydi’r safonau moesol aruchel rwyt ti wed’u lapio amdanat ddim i’w gweld yn amlwg iawn yn y ferch rwyt ti’n ei charu. Rydw i’n synnu, a dweud y gwir, fod dyn â chyn lleied o

feddwl o’r ddynolryw wedi colli ei galon i aelod ohoni. Yn synnu fwy fyth wrth feddwl pa aelod. Nid Elianna onest, ddiffuant, sy’n meddwl y byd ohonot ti. Nid yr efengylaidd

Artenna, sy’n d’addoli di. Nage. Selina.The Merry Widow. Fflyrt fach, sydd yn ei helfen yn hel clecs ac yn tynnu cymeriadau pobol yn g’riau. Hoeden, os bu un erioed, sy’n

ymgorfforiad o ysbryd gwamal yr oes. Weli di ddim, ynddi hi, y diffygion rwyt ti’n lladd arnyn nhw ym mhawb arall? Ydi tlysni Selina wedi dy ddallu di? Yn mynnu maddeuant gen

ti?

ALEXDydi nghariad i at Selina ddim yn peri imi anwybyddu ei ffaeleddau hi. Rydw i’n eu gweld

nhw’n eglur ac yn eu collfarnu nhw’n llym. Serch hynny, rydw i wedi gwirioni arni. Gwendid anfaddeuol, Phyl, wn i...

PHILIPPEDruan ohonot ti.

ALEXFy ngobaith i ydi y bydd fy nghariad i, yn hwyr neu’n hwyrach, yn carthu’r ffaeleddau

anfaddeuol o’i henaid hi.

PHILIPPEMi fydd hynny’n dipyn o gamp, gyfaill. Ydi hi’n dy garu di?

ALEXSiwr iawn.

PHILIPPEDda gen i glywed.

ALEXFyddwn i ddim yn ei charu hi ‘tae hi ddim yn fy ngharu i.

PHILIPPEHmm. Dwed wrtha’i...Os wyt ti mor saff o Selina, pam wyt ti’n poeni am fod dynion eraill yn

ei ffansïo hi?

ALEXAm fod cariad mor angerddol yn mynnu fod y gwrthrych yn eiddo’n llwyr iddo fo ac i neb arall. Rydw i wedi dod yma’n unswydd i ddweud wrth Selina mod i’n ei charu â’m holl

enaid ac â’m holl galon. Ac i’w chlywed hithau’n dweud yr un peth wrthyf i.

PHILIPPEPe byddwn i’n meddwl syrthio mewn cariad efo rhywun, cyfneithar Selina fyddwn i’n dewis.

ALEXElianna...

04/12/2009

Page 10: Cariad Mr Bustle

10

PHILIPPEMerch gall a diffuant, sy’n hoff iawn, iawn ohonot ti. Hi ydi’r un i ti, Alex.

ALEXMae rheswm yn dweud hynny wrtha’i bob dydd. Nid rheswm, ysywaeth, sy’n rheoli’r

galon, .PHILIPPE

Gwylia rhag cael dy siomi, rhen goes...

Golygfa 2. – OSCAR, ALEX, PHILIPPE

OSCAR wrth Alex.

OSCARAlex annwyl! Fe ddwedon nhw wrtha’i lawr grisiau fod Elianna wedi mynd allan ar ryw neges a Selina i’w chanlyn ond pan glywais i dy fod di yma, roedd rhaid imi ddod lan i

ddweud cymaint o barch sydd gen i atat ti fel beirniad llenyddol a sylwedydd craff ar gwrs y byd. Rwyf i, fel ti, yn ddyn sy’n mynnu datgan ei farn yn groyw ac yn gwarafun talu

teyrnged oni bai fod honno’n haeddiannol. Dyna pam rwyf i wedi dyheu, ers oesau, i ni’n dau fod yn ffrindiau. Tebyg at ei debyg, ynte? Adar o’r unlliw! Beth sydd fwy gwerthfawr

mewn bywyd na chyfaill teilwng o’r un anian? Esgusoda fi, Alex. Â thi rwy’n siarad.

Alex yn ymddangos yn freuddwydiol ac fel petai heb glywed Oscar.

ALEXEfo fi?

OSCARIe. Ydi hynny’n artaith?

ALEXNac ydi ond mae o’n fy synnu i. Beth wnes i i haeddu’r fath ganmoliaeth?

OSCARO’nd ydi pawb yn canu dy glodydd di’r dyddiau hyn?

ALEXYdyn nhw?

OSCARAc rwyt ti’n haeddu pob gair o ganmoliaeth

ALEXYdw i?

OSCARA dweud y gwir yn onest, rwyt ti’n teilyngu anrhydeddau mwyaf anrhydeddus y deyrnas.

ALEXCer o’ma!

04/12/2009

Page 11: Cariad Mr Bustle

11

OSCARBoed imi syrthio’n gelain os ydw i’n dweud anwiredd. Alex annwyl! Rydw i mor falch ein

bod ni’n gyfeillion, o’r diwedd. Gad imi ysgwyd dy law di, a dy gofleidio di.

Mae Oscar yn ysgwyd llaw Alex ac yn ei gofleidio.

ALEXWel...

OSCARBeth? Dwyt ti ddim am inni fod yn ‘llawiau’?

ALEXMae’n ormod o anrhydedd. Rhywbeth cyfriniol ydy cyfeillgarwch, Oscar. Ddylai dyn ddim ymgymryd â fo’n ddifeddwl. Mae gofyn inni ddod i adnabod ein gilydd yn llawer gwell cyn

dod yn ffrindiau, rhag inni gael ein siomi.

OSCAR Dyna ddyn call iawn yn siarad. Diolch am y geiriau doeth yna, Alex. Mae mharch i atat ti

wedi cynyddu filwaith. Boed i dreigl amser ein clymu â’i linynnau addfwyn. Ond yn y cyfamser rwyf i at dy wasanaeth. Os gallaf fod o gymorth iti ynglyn ag unrhyw fater, bach

neu fawr, rho wybod imi. Fel y gwyddost ti, rwyf i ar delerau rhagorol ag aelodau Llywodraeth ac mae’r Prifweinidog ei hun yn garedig iawn, bob amser, wrthyf fi, fy nheulu

a’m ffrindiau. Gelli ddibynnu’n llwyr arna’i, Alex. Cofia!Nawr te, gan ein bod ni’n deall ein gilydd gysta,l a thithau’n ddyn mor ddeallus ac mor

ddiwylliedig, rwyf i am fod mor hy â dangos tipyn o soned rwyf i newydd ei sgriblo a gofyn am dy farn di cyn mentro’i chyhoeddi hi.

ALEX Gofyn i rywun arall, os gweli di’n dda, Oscar. Dydw i ddim yn gymwys. Wir iti.

OSCARPam?

ALEXMae gen i un gwendid mawr. Rydw i’n tueddu i fod yn fwy gonest nag y dylwn fod.

OSCARWn i, Alex. Dyna pam rwyn gofyn iti. Fe fyddwn i’n siomedig iawn, iawn petaet ti’n canmol

dim ond rhag clwyfo nheimladau i.

ALEXOs felly, a chan dy fod ti’n mynnu. Iawn.

OSCAR(Gyda phob sylw cais ymateb gan Alex)

‘Soned’Soned yw hi.

‘Gobaith’Mae’n sôn am ferch ifanc rwyf i wedi syrthio mewn cariad â hi ac sydd wedi rhoi mymryn o

le imi obeithio fod gen i obaith.04/12/2009

Page 12: Cariad Mr Bustle

12

‘Gobaith’Does dim byd uchelgeisiol yn y gerdd. A dweud y gwir, dyw hi fawr mwy na phentwr o

linellau cariadus.

ALEXGawn ni weld.

OSCAR‘Gobaith...’

Efallai na fyddi di’n meddwl fod yr arddull yn ddigon llyfn na’r eirfa’n gweddu i’r testun...

ALEXGa’i glywed yn o fuan. Gobeithio...

OSCARDylet ti wybod taw dim ond rhyw chwarter awr gymrodd hi imi lunio’r gerdd.

ALEXDydy hynny na hwnt nac yma.

OSCAR

Mae gobaith i bob dyn yn gysur drudSy’n lleddfu pob rhyw dristyd dan y fron,Ond Phyllis annwyl, nid ‘wy’n wyn fy mydGan nad yw’n esgor ar ddatblygiad llon.

PHILIPPEBendigedig!

ALEXDan ei anadl.Rwtsh-ratsh!

OSCARFe fuost ti’n garedig wrthyf gynt,Ond angharedig ydwyt ti yn awr.Fy ngobaith ffôdd ar ddidangnefedd hyntA’m calon sydd yn deilchion ar y llawr.

PHILIPPE‘Di-dangnefedd hynt’! Gwych!

ALEXCau dy geg y crafwr! Mae’i stwff o’n sothach!

OSCARHyd dragwyddoldeb maith fe losga’m serch04/12/2009

Page 13: Cariad Mr Bustle

13

Yn ofer, seithug, afrad a di-fuddHyd nes y diffydd angau’r fflam, fy merch,A’th adael di’n edifar, syn a phrudd.Byd di-obaith ydyw byd fel hynHeb ddim ond gobaith ffôl yn haul ar fryn.

PHILIPPEMae’r diweddglo’n ddychrynllyd o deimladwy

ALEX(Dan ei anadl)

‘Dychrynllyd’, ffwl-sdop, y bastad clwyddog!

PHILIPPESoned odidog! Mi fyddai Petrarch ei hun yn falch ohoni!

ALEXDan ei anadl

Petrar-ych-a-fi!

OSCARRwyt ti’n rhy garedig o lawer.

PHILIPPEDim o gwbwl.

ALEX(Dan ei anadl)Sut medri di...?

OSCARWrth Alex

Nawr te, gyfaill, cofia d’addewid. ‘Deud dy ddeud’ yn hollol ddiflewyn-ar-dafod, yn ddi-dderbyn-wyneb, heb hel dail, ac yn wyneb haul, llygad goleuni!

ALEXWel. Dydi hynny ddim yn hawdd. Mae gan bawb ei deimladau, does? Yn enwedig mewn maes mor sensitif â barddoniaeth. Ac mae’n well gan bob un ohonom ni gael ei ganmol

na’i feirniadu. Fel y ces i wybod pan ofynnodd ffrind imi – wna’i mo’i enwi o - pan ofynnodd y ffrind yma imi fwrw golwg dros ryw benillion o’i eiddo. Mi ddwedais i wrtho fod

yr ysfa i farddoni yn un beryglus iawn, anodd i’w rheoli ond y dylai ffrwyno’i awydd i argraffu a chyhoeddi ei waith, os gallai, rhag i bobol chwerthin am ei ben.

OSCARAwgrymu rwyt ti na ddylwn i ddim cyhoeddi’r soned?

ALEXNage. Rydw i yn erbyn pob sensoriaeth. Beth ddwedais i oedd y gall dyn wneud drwg

mawr i’w enw da wrth gyhoeddi cerddi di-ddim. Cofia ein bod ni’n cael ein barnu yn ôl ein ffaeleddau, ac nid ein rhinweddau.

04/12/2009

Page 14: Cariad Mr Bustle

14

OSCARSoned ddi-ddim ydi hi? Dyna rwyt ti’n ddweud?

ALEXSôn am y ffrind yma ydw i. Mi ddwedais i wrtho bod uchelgais barddol wedi gwneud llawer

o ddrwg i lawer o bobol dda

OSCARYdw i’n un o’r rheini? Wyt ti’n dweud mod i’n fardd gwael?

ALEXNac ydw. Clyw. Beth ddwedais i wrth y boi yma oedd: ‘Hyd yn oed os oes raid iti brydyddu, does dim rhaid iti gyhoeddi dy rigymau. Rwyt ti’n uchel iawn dy barch mewn cymdeithas. Paid â cholli hynny wrth wneud dy hun yn gocyn hitio i’r literati, y gliterati a’r werin datws’.

OSCAR Os nad yw fy soned i’n ffit i’w chyhoeddi, beth ddylwn i wneud â hi?

ALEXEi thaflu hi i’r bin sbwriel. Cerdd sâl iawn ydi hi, Oscar. Ei harddulll yn glogyrnaidd a’i

geirfa’n rhodresgar a barddonllyd. Does gen ti’r un owns o chwaeth. Beth ydi ystyr ‘Mae gobaith i bob dyn yn gysur drud?’ Efelychiad gwael o efelychiad gwael ydi dy soned di. Os

oes raid iti ddynwared, dewis dy batrwm yn ofalus. Cân werin, er enghraifft: Gwyn fy myd na bawn mor hapus Yn y byd â chael fy newis. Mi ddewiswn o flaen cyfoeth Lendid pryd a chariad perffaith.

Fe geir cyfoeth ond cynilo. Fe geir tir ond talu amdano, Fe geir glendid ond ymofyn, Ni cheir mwynder ond gan Rywun.

Geiriau syml, arddull ddirodres sy’n rhagori ar ystrydebau coeth ein beirdd cyfoes ni. Ac mae’r mynegiant mor ddiffuant:

Rhywun sydd, a Rhywun eto,Ac am Rywun rwy’n myfyrio;Pe bai’r byd i gyd i’m herbyn,Da fy nawn pe cawn i Rywun

Geiriau bardd a llond ei galon o gariad.

Wrth PHILIPPE Ia, gwena di, y sinach soffistigedig. Mae hon’na ganmil gwell na’r ‘cerddi tywyll’ y byddi di

a dy siort yn eu moli.

OSCARSdim ots gen i beth ddwedi di. Rwy’n meddwl fod fy soned i’n un dda iawn.

04/12/2009

Page 15: Cariad Mr Bustle

15

ALEXWrth gwrs dy fod di Ga i feiddio anghytuno?

OSCARWaeth gen i. Bydd mwy o lawer yn cytuno â fi.

ALEXAm eu bod nhw’n gelwyddgwn.

OSCARBeth sy’n gwneud iti feddwl bod gen ti ddigon yn dy ben i draethu barn gwerth gwrando

arni?

ALEXFyddet ti ddim yn gofyn petawn i wedi canmol dy soned dalcen-slip di.

OSCARFe alla i wneud heb dy ganmoliaeth di yn ddigon hawdd.

ALEXMi fydd raid iti, frawd.

OSCAR

Leiciwn i weld sut gerdd fyddet ti’n sgrifennu ar yr un pwnc.

ALEXMi allwn i lunio un gynddrwg â hon’na’n ddigon hawdd. Fyddwn i ddim mor ffôl â’i dangos

hi i neb.

OSCARMae gen ti gymaint o feddwl ohonot ti dy hun.

ALEXGormod o hunan-barch i dy seboni di.

.OSCAR

Ddyn bach! Paid â siarad ar dy gyfer!

ALEXWr mawr, mi siarada i fel y mynna i.

Saif PHILIPPE rhyngddynt.

PHILIPPEDyna ddigon. Gadewch hi’n fan’na.

OSCARRwy’n sylweddoli mod i wedi gwneud camgymeriad dybryd.

Da bo ti, gyfaill!

04/12/2009

Page 16: Cariad Mr Bustle

16

ALEXGwynt teg ar dy ôl di, gyfaill!

Golygfa 3. PHILIPPE, ALEX

PHILIPPEDa iawn ti, wàs! Da iawn, iawn, iawn, iawn! Mae dy ddiffuantrwydd deifiol di wedi tynnu dyn dylanwadol iawn yn dy ben.Y cwbwl roedd Oscar druan yn gofyn iti amdano oedd

ychydig o eiriau caredig.

ALEXTaw.

PHILIPPEO ddifri calon...

ALEXDos.

PHILIPPERwyt ti mor...

ALEX Rho’r gorau i mhlagio i.

PHILIPPEOs ydw i...

ALEXRun gair arall.

PHILIPPEClyw...

ALEXDydw i ddim yn mynd i wrando arnot ti.

PHILIPPEMae’n rhaid iti.

ALEXYma o hyd?

PHILIPPERwyt ti’n hollol blentynaidd.

ALEXOes raid iti nilyn i fel cysgod?

PHILIPPE04/12/2009

Page 17: Cariad Mr Bustle

17

Oes – er dy les di dy hun.

ACT II

Golygfa 1. ALEX, SELINA

ALEXSelina...Gad imi ddweud y gwir yn onest wrthyt ti... Dydw i ddim yn hapus, o gwbwl, efo’r ffordd rwyt ti’n ymddwyn. Rwyt ti’n gwneud imi deimlo mor ddiflas, does gen i ddim dewis

ond dod â’n perthynas ni i ben. Mae hynny’n rhwym o ddigwydd, yn hwyr neu’n hwyrach - felly gorau po gynta.

SELINADim ond i ddweud y drefn wrtha’i y galwaist ti?

ALEXNa, na, na. Dydw i ddim am inni ffraeo, nghariad i. Dim ond dweud ydw i mod i wedi fy siomi am dy fod ti mor gyfeillgar efo dynion eraill. Heidiau ohonyn nhw. Fel gwenyn o

gylch pot jam.

SELINAYdw i ar fai am fod dynion yn fy ngweld i’n ddeniadol? Os ydyn nhw mor garedig â galw i ngweld i, a sgwrsio’n waraidd efo fi - yn lle arthio! - ddylwn ni eu hel nhw o’ma efo ffon?

ALEXNid ffon geith wared o’r cnafon, ond calon sy’n gwrthod gwrando ar eu lol. Wn i ei bod hi’n amhosib iti fod yn llai dengar ond does dim raid iti fod mor serchus. Paid â gwenu gymaint arnyn nhw. Mae hynny’n peri i’r diawliaid feddwl bod ganddyn nhw siawns. Hyd yn oed y

twmffat twp, Colimandro. Sut medri di fod mor hoff o hwnnw? Beth ydi’r atyniad? Ei ddillad crand? Toriad ei wallt? Gwaith y manicurist ar ei ddwylo bach, gwynion? Ydi llais soprano

creadur mor od yn swyno dy glustiau di?

SELINAMi wyddost ti’n iawn pam rydw i’n rhoi croeso i Colimandro druan. Mae ganddo lawer iawn

o ffrindiau dylanwadol all helpu ‘nghais i am hawl cynllunio ar ddarn o dir rydw i’n bwriadu’i werthu.

ALEXColla’r cais yn hytrach na ffalsio i ddyn sy’n gwneud ei orau i dy ddwyn di odd’arna’i.

SELINARwyt ti mor eiddigus. Yn amau pawb.

ALEXAm dy fod di mor annwyl efo pawb.

SELINADylai hynny fod o gysur iti. Byddai gen ti le i boeni petawn i ddim ond yn anwylo un.

ALEX04/12/2009

Page 18: Cariad Mr Bustle

18

Ond dydw i ddim elwach nag unrhyw un arall o’r giwed sy wedi mopio amdanat ti

SELINAWyt, mi wyt ti, Alex. Mi wyddost ti mod i’n dy garu di.

ALEXPa sail sy gen i i gredu hynny?

SELINADydi ngair i ddim yn ddigon?

ALEXSut gwn i nad wyt ti’n dweud yr un peth yn union wrth ddynion eraill?

SELINA Dyna sylw sarhaus gan ddyn sy’n honni ei fod o’n fy ngharu i. Mi wna’i fywyd yn haws iti,

Alex, a thynnu’n ôl pob gair serchus ddwedais i wrthyt ti erioed. Fyddai’n well gen ti hynny?

ALEXPam, pam pam raid imi dy garu di? Mi fyddwn i wrth fy modd petawn i ddim. Rydw wedi gneud pob dim alla’i i roi stop ar y peth, ond fedra’i ddim. Mae’n rhaid mai cosb ydi hyn

am ryw bechod ofnadwy.

SELINARwyt ti yn fy ngharu i’n ofnadwy, on’d wyt ti, cariad?

ALEXYdw. Yn ofnadwy! Mi heriwn i’r byd er dy fwyn di. Does ’na neb erioed wedi caru dynes fel

rydw i’n dy garu di.

SELINARwyt ti’n iawn. Mae o’n gariad unigryw. Cariad beirniadol, ymosodol, cwerylgar, cas.

ALEX Gallet ti newid hynny, Selina. Gad inni roi’r gorau i gecru a bod yn ffrindiau.

Golygfa 2. SELINA, ALEX, MARTAEnter MARTA

SELINAIa?

MARTAMae Arcasto i lawr stâr.

SELINADwed wrtho am ddod i fyny.

ALEX04/12/2009

Page 19: Cariad Mr Bustle

19

Dyna ddifetha pob gobaith am tête-à-tête. Oes raid iti roi croeso cynnes i bob gwryw sy’n galw? Fedri di ddim, am unwaith, orchymyn dy forwyn i ddweud nad wyt ti gartre?

SELIMAA digio Arcasto am byth?

ALEXPam lai?

SELINAFydda fo byth yn maddau imi taswn i’n gwrthod ei weld o.

ALEXPam ddylai hynny dy boeni di?

SELINAAm bod ewyllys da Arcasto yn werthfawr. Mae o’n uchel ei barch yn y Palas - Duw a wyr

pam - ac yn cael gwrandawiad parod gan y pwysigion. Wneith Arcasto ddim i fy helpu, ond gallai wneud llawer o ddrwg imi. Byddai ei bechu o yn gamgymeriad mawr.

ALEXWaeth beth ddwedaf i, mi ffeindi di ryw esgus i gymdeithasu efo dynionach fel Arcasto.

Pam dylet ti ofni....

Golygfa 3. MARTA, ALEX, SELINA

MARTAMae Colimandro wedi cyrraedd hefyd.

ALEXBendigedig!

(Mae’n gwneud osgo i ymadael)

SELINABle rwyt ti’n mynd?

ALEXAllan.

SEINAAros.

ALEXPam?

SELINAAros.

04/12/2009

Page 20: Cariad Mr Bustle

20

ALEXAlla’i ddim.

SELINARydw i am iti aros.

ALEXWaeth gen i. Mae sgyrsiau fel hon yn troi arna’i.

SELINAMae’n rhaid iti aros.

ALEXAmhosib.

SELINAO’r gorau, cer. Ar unwaith.

Golygfa 4. ELIANNA, PHILIPPE, ARCASTO, COLIMANDRO, ALEX, SELINA, MARTA

ELIANNAMae’r ddau farcwis wrth fy sodlau i. Glywaist ti eu bod nhw yma?

SELINADo, do.

(Wrth Alex)Byth wedi mynd?

ALEXNaddo, madam. Dim nes dwedi di’n bendant pwy wyt ti’n garu – fi neu nhw.

SELINATaw, wnei di?

ALEXMae’n rhaid imi gael gwybod hynny heddiw.

SELINADwyt ti ddim yn gall.

ALEXDim mwy o wamalu.

SELINAOhhh....

ALEXRhaid iti ddangos d’ochor.

SELINA04/12/2009

Page 21: Cariad Mr Bustle

21

Dwyt ti’n un smala, Alex? Tynnu coes wyt ti, yntê?

ALEXNage. Rydw i ar ben fy nhennyn..

COLIMANDRORargian. Rwy i newydd ddod o’r Palas lle gwelais i Sergio yn gwneud ffwl ohono’i hun

unwaith eto. Biti na fyddai ryw ffrind caredig – os oes ganddo fo un! - yn sibrwd gair neu ddau yn ei glust...

SELINAOn’d ydi o’n gwneud sôn amdano’i hun ymhobman? Sergio ydi pencampwr malu awyr y

byd.

ARCASTOSôn am falu awyr, rwyf i newydd fod yng nghwmni Terens y Taerwr. Gorfod imi wrando ar hwnnw’n clebran am awr gron, dan haul poeth ganol dydd, a nghar i a’r chauffeur yn aros

amdana’i.

SELINAUn da ydi Terens am ddweud dim byd o bwys mewn llawer o eiriau. Digon o swn. Dim

sylwedd.

ELIANNA, wrth PHILIPPEDyma ddechrau difyr i’r sesiwn!

COLIMANDROHen foi iawn yw Teimon, ynte’fe?

SELINAIdiot arall sy’n brysur iawn bob amser yn gwneud dim byd. Gas gen i ei hen wep hyll o, a’i stumiau pan fydd o’n siarad efo fi. Weloch chi ddyn mwy di-fanars erioed? Yn mynnu torri ar draws sgwrs pobol byth a hefyd efo rhyw gyfrinach fawr mae pawb wedi’i chlywed hi ers cantoedd. Yn gwneud môr a mynydd o’r digwyddiadau mwya pitw. All o ddim dweud ‘Bore

da’ heb sibrwd yn eich clust chi.

ARCASTOBeth am Jeraldo?

SELINAMalwr awyr arall, all siarad am ddim ond ei ffrindiau dylanwadol, yn ddugiaid, barwniaid,

arglwyddi a miliwnyddion. Allech chi feddwl ei fod o, Jerro, ar delerau ti-a-thithau efo nhw i gyd.

COLIMANDROGlywais i ei fod e a Belinda’n dipyn o ffrindie?

SELINASynnwn i ddim. Madam Ystrydeb. Dynes ddi-liw, di-gymeriad a di-sgwrs y bydda i’n

dioddef ei hymweliadau hi fel merthyr. Mae dyn yn chwysu wrth chwilio am unrhyw beth i’w ddweud wrthi. ‘On’d ydan ni’n cael tywydd braf/ tywydd dychrynllyd?. On’d ydi hi’n

afiach o boeth/yn afresymol o oer? Beth ydach chi’n feddwl o’r glaw ’ma? On’d ydi o’n hen 04/12/2009

Page 22: Cariad Mr Bustle

22

law gwlyb?’ A dyna ni. Mi fydd hi’n aros yma am oriau bwy gilydd, mor anodd i’w symud â sachaid o datw.

ARCASTOBeth wyt ti’n feddwl o Antonio?

SELINADyn haerllug iawn. Gormod o feddwl o lawer ohono’i hun. Byth a hefyd yn lladd ar bobol y

Palas a’r Llywodraeth, dan gwyno bod rhywun llawer llai haeddiannol na fo wedi cael swydd roedd o wedi’i llygadu. Pawb yn ei erbyn o, meddai fo. Hawdd deall pam!

COLIMANDROUn gwahanol iawn i León. Gwr ifanc a’i ddyfodol o’i flaen, ym marn llawer. Poblogaidd

dros ben...

SELINAAm fod ganddo chef ardderchog. Hwnnw ydi’r atyniad - nid gwr y ty.

ELIANNAOnd mae León yn un ardderchog am barti .

SELINABiti na fyddai gystal am drin geiriau. Bwbach boring, a’i sgwrs yn suro’r gwin.

PHILIPPEMae Damien, ewyrth León, yn tynnu dipyn o sylw ato’i hun y dyddiau hyn?

SELINARydw i’n eitha hoff ohono fo.

PHILIPPEBoi ffraeth iawn.

SELINAAr adegau. Bai mawr Damien ydi ymdrechu’n rhy galed i fod yn glyfar. Allwn i feddwl ei fod

o wrthi am oriau’n caboli ei bons mots a’i straeon digri. A byth er pan benderfynodd Damien ei fod o’n dipyn o feirniad llenyddol, does ganddo ddim parch o gwbwl at farn na

chwaeth neb arall. I Damien, mae beirniadu’n gyfystyr â barnu. Fyddai wiw i feddyliwr mor braff â fo ganmol neb na dim. Dim ond gwehilion cymdeithas sy’n sy’n curo dwylo ac yn chwerthin yn y theatr, yn ôl Damien. Mi fydd yn beirniadu sgyrsiau pobol hefyd. Sylwoch chi sut bydd o’n sefyll a’i freichiau’n ymhleth ar ei frest, a gwên ddirmygus ar ei wyneb,

wrth wrando arnom ni, gorachod deallusol, yn clebran?

ARCASTODamo! Dyna Damien i’r dim!

COLIMANDROMae dy ddawn di i ddisgrifio pobol fel y maen nhw yn anhygoel, Selina, nghariad i.

ALEX

04/12/2009

Page 23: Cariad Mr Bustle

23

Ie, hogwch eich cyllyll yn finiocach fyth, gyfeillion. Does neb yn ddiogel – oni bai ei fod o neu hi’n digwydd ymuno â’r cwmni. Wedyn mi fyddech am y gorau’n llyfu.

ARCASTOPaid â’n beio ni, Alex. Selina sy’n mynnu dweud pethau ofnadw am bobol.

ALEXRydych chithau ar fai am chwerthin a chymeradwyo. Rydych chi’n dod â’r pethau salaf yn

ei chymeriad hi i’r wyneb. Rhowch y gorau i borthi awch y ferch i fwrw sen ar bawb.

PHILIPPEPam wyt ti’n achub cam y bobol mae Selina’n eu dychanu? Does neb yn barotach i ladd

arnyn nhw na ti!

SELINAWyddech chi ddim mai dileit ‘Mr Bustl’ ydi tynnu’n groes? Peidiwch â disgwyl iddo fo

iselhau ei hun drwy gytuno efo rhywun arall. Mae ei reddf wrthnysig mor gry mi fydd yn taeru efo fo’i hun, weithiau, i basio’r amser. Ac os meiddith rhywun gytuno efo Alex, mi

fydd yn newid ei farn ac anghytuno efo beth ddwedodd o gynta.

ALEX(Wrth Selina)

Mae chwerthin ffyliaid fel rhain yn gysur i ti ac i minnau.

PHILIPPEMae hi’n dweud calon y gwir, Alex. Rwyt ti’n anghytunwr wrth reddf.

ALEXAm nad ydi pobol byth yn iawn. Neu, os ydyn nhw’n digwydd bod yn iawn, mae nhw’n iawn

am y rhesymau anghywir. Mae pobol un ai’n moli’n anfeirniadol neu’n beirniadu’n afresymol.

SELINAClyw...

ALEXMae’r pethau sy’n ffiaidd gen i yn rhoi pleser i ti. Ac mae’r criw yma’n porthi’r pleser afiach

hwnnw.

COLIMANDRORho’r gorau i fwlian y ferch, Alex. Rwy’n meddwl ei bod hi’n fen-di-ge-dig!

ARCASTOMadonna ymhlith merched. Perffeithrwydd benywaidd. Di-fai a difrycheulyd.

ALEXRydw i’n gweld ei beiau hi ac yn barod bob amser i’w hedliw nhw iddi. Mwya’n byd y bydd

dyn yn caru rhywun, lleia’n byd ydi’r angen am weniaith. Trwy wrthod maddau beiau y bydd cariad cywir yn ffynnu - nid trwy gau ei lygaid.

SELINAYdi pob anwyldeb yn anonest? A chariad cywir bob amser yn gas?

04/12/2009

Page 24: Cariad Mr Bustle

24

ELIANNAMae cariadon yn tueddu i fod yn anfeirniadol ynglyn â gwrthrych eu serch ac yn troi

ffaeleddau’n rhinweddau. Mae’r eneth welw, fel y lili; yr un bygddu’n hardd fel y nos; yr un denau yn feindeg; yr un dew yn fawreddog; yr un flêr yn fohemaidd; yr un dal megis

duwies; yr bwten fach, fel doli; yr un falch, fel tywysoges; yr un gecrus yn ffraeth; yr un dwp yn ‘hen siorten iawn’; yr un gegog yn ddoniol; a’r un ddi-ddweud yn gall. Dyna sut

mae’r creadur truan, sy dros ei ben a’i glustiau mewn cariad, yn caru hyd yn oed ddiffygion eilun ei serch.

ALEXOnd rydw i, ar y llaw arall...

SELINADyna ddigon o daeru. Dowch inni i gyd fynd am dro i’r ardd Hei! Rhoswch! Dydych chi

ddim yn madael, ffrindiau?

COLIMANDRO Nid ar unrhyw gyfrif...

ARCASTO...Selina annwyl.

ALEXMae arnat ti ofn gweld eu cefnau nhw, on’d oes? Ewch chi pryd bynnag y mynnwch chi,

foneddigion. Af i ddim o’ch blaenau chi. Mi allwch fod yn siwr o hynny.

ARCASTOFe arhosaf i drwy’r dydd, cyn belled â bod hynny ddim yn fwrn arnat ti, Selina fach

COLIMANDRORydw i’n rhydd tan saith o’r gloch a cocktails yng nghartre’r Prifweinidog.

SELINADyma dy syniad di o jôc, ia?

ALEXMi arhosaf i weld ai fi ydi’r un rwyt ti am gael ei wared.

Golygfa V. MARTA, ALEX, SELINA, ELIANNA, ARCASTO, PHILIPPE, COLIMANDRO

MARTAMae ’na ddyn i lawr stâr sydd am air ‘da chi, syr. Ynglyn â ‘mater o’r pwys mwyaf’, medde

fe,

ALEXDwed wrtho nad oes dim yn y byd mor bwysig fel bod gofyn imi roi sylw iddo’r munud

yma.

MARTAMae e mewn iwnifform, syr...

04/12/2009

Page 25: Cariad Mr Bustle

25

SELINACer i ofyn i’r dyn beth yn union ydi’i neges o. Neu gofyn iddo ddod i fyny a siarad drosto’i

hun.

ALEX wrth y SWYDDOG a ddaw i mewn.

Beth sy’n eich poeni chi?

Golygfa VI. SWYDDOG, ALEX, SELINA, ELIANNA, ARCASTO, PHILIPPE, COLIMANDRO

SWYDDOG Gair bach yn breifet, os gwelwch chi’n dda, syr?

ALEXPam ydych chi’n sibrwd, ddyn. Siaradwch yn ddigon uchel i bawb eich clywed chi

SWYDDOGO’r gorau, syr, os mai dyna’ch dymuniad. Mae Mainc Ynadon y Brifddinas, corff a sefydliad

y mae gen i’r fraint aruthrol o’i wasanaethu, yn eich gwysio i ymddangos ger eu bron, ar fyrder.

ALEXPwy? Fi?’

SWYDDOGIe, syr. Chi.

ALEXPam yn enw’r nefoedd?

PHILIPPEFetia i mai’r hen ffrae wirion rhyngddo fo ac Oscar sy tu ôl i hyn.

SELINAPa ‘ffrae’?

PHILIPPEDoedd gan Alex ddim llawer o feddwl o soned sgrifennodd Oscar a mi ddwedodd hynny wrth y bardd, yn ei ffordd ddihafal. Dim ond gobeithio bydd yr ynadon yn rhoi stop ar y

ffwlbri cyn i bethau fynd yn flêr.

ALEXWnaf i ddim cyfaddawdu.

PHILIPPEMae’n rhaid iti ufuddhau i’r wys.

04/12/2009

Page 26: Cariad Mr Bustle

26

ALEXYdyn nhw am orchymyn imi ganmol y rwtsh mae Oscar yn ei sgrifennu? A bygwth dirwy,

neu flwyddyn o garchar, os gwrthoda’i?

PHILIPPEPaid â bod mor ymosodol. Dyna i gyd.

ALEXNewidia i mo marn. Mae hi’n soned ddiawledig o sâl.

PHILIPPEMi allet ti eirio dy feirniadaeth yn fwy cymedrol. Tyrd. Ddo’i efo ti.

ALEXWnaf i ddim newid fy meddwl – doed a ddêl!

PHILIPPEG’na fel mynni di.

ALEXOni bai fod yr Ynadon yn bygwth y gosb eithaf, mi ddaliaf i daeru fod cerdd Oscar yn un

wael ofnadwy a’r ‘bardd’ yn haeddu cael ei grogi.(Yn sarrug, wrth Colimandro ac ARCASTO sy’n chwerthin)

Ddwedais i rhywbeth doniol?

SELINACer, da ti. Maen nhw’n aros amdanat ti.

ALEXFydda i yn f’ôl, toc, i setlo’n hanghydfod bach ni.

Exeunt Alex, PHILIPPE a’r Swyddog.

ACT III

Golygfa 1. COLIMANDRO, ARCASTO

COLIMANDROAllwn i feddwl dy fod ti mewn hwyliau ardderchog, gyd-farcwis annwyl? Wrth dy fodd ac yn

wyn dy fyd. Ga’i fod mor hy â holi pam?

ARCASTOWrth edrych yn wrthrychol arnaf i fy hun a’m safle freintiedig yn y byd, rwy’n gorfod

cydnabod nad oes gen i le i gwyno. Rwyn ifanc. Yn gefnog. Yn aelod o hen deulu sydd ymhlith y mwyaf pwerus a dylanwadol yn y deyrnas; sy’n golygu y cawn i unrhyw swydd y rhown fy meddwl arni. Rwy’n gryf ac yn iach; yn anhygoel o ffit ac athletaidd. Ni wn i ddim beth yw ofni na dyn nac anifail. Mae gen i gymaint o ddawn, does arna’i ddim angen dysg, ac rwyf mor beniog rwy’n gallu traethu’n ddeallus ar unrhyw bwnc dan haul heb wybod dim amdano fe. Rwy’n olygus, er mai fy sy’n dweud hynny, ac mae fy nannedd fel perlau. Gan fy mod i’n rhyfeddol o ffraeth fy nhafod ac yn meddu chwaeth gywrain, caf fy mharchu fel 04/12/2009

Page 27: Cariad Mr Bustle

27

beirniad craff ar y celfyddydau, yn enwedig y theatr, lle bydda i’n arwain yr heclo a’r hwtio os bydd y ddrama braidd yn feichus. Ac ar ben hyn i gyd, mae fy mhersonoliaeth

garismatig, fy ngwên hudolus a’m dillad ffasiynol yn fy ngwneud i’n hynod o boblogaidd ymhlith y rhyw deg.

COLIMANDROOs oes gan ferched eraill gymaint o feddwl ohonot ti, pam wyt ti’n gwastraffu d’amser, fan

hyn?

ARCASTO Fi? Moi? Yn gwastraffu f’amser? Chymera i mo fy siomi gan unrhyw fenyw. Dim ond dynionach dwl, di-dras sy’n cael eu gwrthod ac yn dioddef pangfeydd dirdynnol am fod y feinwen yn galon galed. Hwythau’n ymbil, yn erfyn, yn crefu arni i dosturio. Ych-a-fi. Wnaiff yr un uchelwr o’r iawn ryw fyth iselhau ei hun felly, waeth pa mor hardd yw eilun ei serch. Rof i mo fy nghalon i’r un ferch heb sicrwydd y ca’i rhywbeth go lew yn dâl amdani.

COLIMANDROAc fe roddodd Selina dlos y sicrwydd hwnnw iti?

ARCASTOFwy neu lai...

COLIMANDROPaid â thwyllo dy hun, gyfaill.

ARCASTOFi? Yn twyllo fy hun?

COLIMANDRO.Rwyt ti’n gibddall.

ARCASTOYn gibddall?

COLIMANDROSut gelli di feddwl bod gen ti siawns?

ARCASTOAm fy mod i’n twyllo fy hun. Meddet ti.

COLIMANDRODim sail arall?

ARCASTORwy mor ddall â phostyn. Meddet ti.

COLIMANDROYdi Selina wedi sibrwd geiriau cariadus yn dy glust di?

ARCASTODim ond rhai sbeitlyd, mae arna’i ofn..

04/12/2009

Page 28: Cariad Mr Bustle

28

COLIMANDROWyt ti wedi gofyn...?

ARCASTOA chael fy ngwrthod.

COLIMANDROPam wyt ti’n dal i obeithio...?

ARCASTODydw i ddim. Dydw i ddim. Ti yw’r un lwcus. Ti mae Selina’n ei garu. Mae hi’n fy nghasáu

i. Rwyn i’n teimlo mor uffernol fe groga i fy hun ryw ddiwrnod. Wir iti. Fe wna’i.

COLIMANDROClyw, Arcasto, mae’n bwysig dy fod ti a fi’n deall ein gilydd.Yn cytuno ar y ffordd ymlaen. Os caiff un ohonom ni arwydd gan Selina taw fe yw’r un, bydd y llall yn tynnu mas o’r ras,

er mwyn rhoi rhwydd hynt i’r ffefryn. Wyt ti’n cytuno?

ARCASTOSyniad penigamp. Ust! Mae rhywun yn dod.

Golygfa 2. SELINA, ARCASTO, COLIMANDRO

SELINARydych chi’n dal yma ?

COLIMANDROWedi ein cloffrwymo gan serch

SELINAMae rhyw gar newydd gyrraedd. Pwy sy ’na, ys gwn i?

COLIMANDRODim syniad.

Golygfa 3. MARTA, SELINA, ARCASTO, COLIMANDRO

MARTAMam’selle Artenna, Madame. Mae hi am ddod i fyny i’ch gweld chi.

SELINABeth sydd arni hi’i isio?

MARTAWn i ddim, Madame. Mae Mam’selle Elianna i lawr stâr yn sgwrsio ‘da hi.

SELINABeth sy’n poeni’r hen ast yna, Artenna, ys gwn i?

ARCASTO04/12/2009

Page 29: Cariad Mr Bustle

29

Paid â siarad fel ’na am Artenna. Mae hi’n fenyw dduwiol iawn. Ei henaid ar dân dros achos crefydd.

SELINAYdi, ar yr wyneb – a’r fath wyneb! - ond yn y bôn mae hi mor bechadurus â neb arall. Hen ferch wedi suro am ei bod hi’n methu cael dyn. Cnawes genfigennus sy’n rhedeg ar ôl cariadon merched eraill am ei bod hi ei hun mor ddi-lun. Ac yn beio ‘yr oes anfoesol rym

ni’n byw ynddi’ am eu bod nhw’n ddeniadol a hithau’n ddiolwg. Camouflage i guddio’i hunigrwydd ydi crefydd Artenna. Mae hi’n ffansïo Alex, ac mae’r ffaith ei fod o braidd yn

hoff ohona i yn dân ar ei chroen. Glywais i ei bod hi’n fy nghyhuddo i o’i ddwyn o odd’ arni, a’i bod hi’n cynllwynio’n f’erbyn i bob cyfle gaiff hi. Os bu gwrach erioed...

Golygfa 4. ARTENNA, SELINA, ARCASTO, COLIMANDRO

SELINAArtenna, nghariad i! Am syrpreis fendigedig! Sut wyt ti ers oesoedd maith? Rydw i wedi

bod yn poeni gymaint amdanat ti! Mae pob dim yn iawn, gobeithio?

ARTENNAYdi, diolch i ras y Nef.

SELINARydw i mor anhygoel o falch o dy weld di, cariad.

ARTENNAClyw, Selina. Fe alwais i am fod gen i rywbeth pwysig dros ben i’w ddweud wrthyt ti.

SELINAOes wir?

Exeunt ARCASTO a Colimandro dan chwerthin.

ARTENNARwy’n falch fod y ddau yna wedi’n gadael ni.

SELINAEisteddwn ni?

ARTENNAMae’n well gen i ar fy nhraed, os nad oes ots gen ti, Selina. Wel. Rwy’n siwr y cytuni di y dylai cyfeillgarwch amlygu ei hun yn bennaf mewn perthynas â phethau pwysicaf, mwyaf sylfaenol bywyd? A chan nad oes dim byd pwysicach nag enw da rhywun, fe ddes i yma’n

unswydd â gair o gyngor ynglyn â dy enw da di. Fe wn i, nghariad i, y gweli di hynny yn arwydd didwyll o’r meddwl mawr sy gen i ohonot ti. Wel. Ddoe ddiwetha, fe ddigwyddais

fod ar aelwyd pobol o’r siort orau un. Teulu hynod barchus. Wel. Loes calon i mi oedd clywed rhywun – wna’i ddim mo’i henwi hi - yn dweud pethau annymunol iawn amdanat

ti. Yn beirniadu dy ffordd di o fyw, sut wyt ti’n gwneud sôn amdanat wrth fod dynion yn heidio o dy gwmpas di ac yn cael croeso mor wresog a thwymgalon gen ti bob awr o’r

dydd a’r nos, ac yn y blaen ac yn y blaen, hyd at syrffed. Wel. Mae arna’i ofn mai fi oedd yr unig un siaradodd o dy blaid di. Roedd pawb arall, pawb, nghariad i, yn lladd arnot ti. Fe ddwedais i eu bod nhw’n llawer rhy hallt. Wnes i ngore glas i gadw dy bart di, Selina, a

04/12/2009

Page 30: Cariad Mr Bustle

30

gwneud pob math o esgusodion drosot ti. ’Clywch, bobol,’ meddwn i,’dyw Selina ddim yn bwriadu tramgwyddo yn erbyn crefydd a moesoldeb’. Serch hynny, nghariad i, rwy’n siwr y byddet ti dy hun yn derbyn fod rhai arferion a gweithredoedd nad oes modd eu hesgusodi na’u cyfiawnhau? Bu raid imi gyfadde, er fy ngwaethaf, fod dy ymddygiad di, ar adegau,

yn annerbyniol mewn cymdeithas wâr a dy fod ti ar fai am roi cyfleon di-ri i bobol hel straeon hyll amdanat ti. Fe allet ti, Selina, roi taw am byth ar y sibrydion enllibus hynny

wrth ymarfer ychydig bach, bach o ddoethineb. Nagwy’n awgrymu am eiliad dy fod ti wedi gwneud dim byd gwrioneddol gywilyddus. Y nefoedd a’m gwaredo rhag meddwl y fath

beth! Ond mae pobol mor barod i goelio pethe drwg am fenyw. Dyw byw’n barchus ddim yn ddigon; rhaid i bobol feddwl dy fod ti’n barchus hefyd. Wn i dy fod ti’n ddigon call i

dderbyn, yn yr un ysbryd cariadus ag y mae e’n cael ei gynnig, air o gyngor gan hen ffrind sy’n meddwl am dy les di a dim byd arall.

SELINADiolch o galon iti, Artenna, am gymwynas mor garedig a chyngor mor fuddiol. Mae’n

ddyletswydd arna’i i roi prawf o nghyfeillgarwch i yn yr un modd. Wyddost ti bod pobol yn dweud pethau ofnadwy, ofnadwy amdanat tithau? A minnau wedi bod wrthi fel lladd

nadroedd yn d’amddiffyn di rhag eu hen dafodau maleisus nhw? Wel. Roeddwn i wedi digwydd galw yn nhy rhyw deulu dychrynllyd o Gristnogol y diwrnod o’r blaen a nhwtha ar ganol trafodaeth ddwys ar ‘nodweddion a hanfodion y bywyd moesol’. Yn naturiol ddigon, mi soniodd rhywun amdanat ti. Wel, mae arna’i ofn nad oedd gan neb lawer o feddwl o dy dduwioldeb di na dy sêl di dros grefydd. Wyddost ti eu bod nhw’n feirniadol iawn o’r olwg sych-dduwiol sydd ar dy wyneb di bob amser? Yn sôn eu bod nhw wedi hen alaru ar dy

bregethu di-ddiwedd di? A dy foesoli diflas a hunan-gyfiawn ar ddryga’r oes? Y ffordd rwyt ti’n mynnu rhoi ystyr fasweddus i eiriau diniwed. Mae arna’i ofn fod pawb – pawb ond fi,

wrth gwrs - â’i lach arnat ti. ‘Faint elwach ydi dynes haerllug o edrych mor wylaidd?’ meddai rhywun wna’i mo’i henwi. Ac meddai rhywun arall: ‘Ar ôl bod ar ei gliniau am oriau, yn gweddio, mi fydd hon’na’n curo’i gweision a’i morynion mor giaidd nes eu bod nhw ar eu gliniau! Ac mae hi’n ddiharebol o gybyddlyd efo’u cyfloga nhw. Er fod Artenna’n siarad fel lleian, mae hi’n plastro powdwr a phaent dros ei hwyneb fel...’ Alla’i ddim yngan y gair, cariad... ‘Ac er ei bod hi wedi gosod cynfasau dros y cerfluniau o ddynion noeth sy’n ei thy hi,’ meddai rhywun arall, ‘mae hi’n hoff iawn o gyrff noeth dynion o gig a gwaed.’ Wel. Fel

y gelli di feddwl, Artenna, mi ymladdais i fel llewes yn erbyn y fath gelwyddau ond heb fod fawr elwach. Roedd pawb yn d’erbyn di, gwaetha’r modd. Pawb, ond fi, coelia neu beidio. ‘Mae eisiau ceiliog gwyn i ganu ac iâr wen i glwcian,’ meddai rhywun. ‘A gadael y pregethu i’r dynion mae’r eglwysi’n eu cyflogi i wneud hynny,’ meddai rhywun arall. Wn i dy fod ti’n ddigon doeth i neud defnydd proffidiol o’r hyn rydw i newydd ei ddweud ac i ddeall mai er

dy les di y dwedais i o.

ARTENNADoes neb yn hoff o glywed y caswir amdano’i hun ond wnes i ddim disgwyl ymateb mor

ffyrnig. Mae’n ddrwg iawn gen os cest ti dy glwyfo gan fy sylwadau i, Selina.

SELINAPaid ag ymddiheuro. Rydw i’n gwerthfawrogi pob gair. Gresyn na fyddai pawb mor onest

â ni’n dwy yntê? Mi fyddai gan bobol lai o feddwl o’u hunain. Beth am inni ddal ati i ddweud wrth ein gilydd bob un dim mae pobol yn ddweud amdanom ni?

ARTENNA04/12/2009

Page 31: Cariad Mr Bustle

31

Go brin y clywa i bethau cas amdanat ti, Selina. Ond gwn y bydd llawer yn fwy na pharod i enllibio Artenna druan.

SELINA‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’ Mae pobol yn canmol neu’n collfarnu yn ôl

mympwy, chwaeth neu oedran. Mae ’na adeg i fwynhau bywyd ac adeg i fod yn barchus. Dim ond ugain oed ydw i; sy’n rhy ifanc i fod yn barchus. Ond ‘henaint ni ddaw ei hunan’.

Beryg y byddaf innau’n ddigon sidêt pan gyrhaedda i d’oedran di.

ARTENNAOes raid iti wneud môr a mynydd o’r ffaith dy fod ti flwyddyn neu ddwy’n iau? Rhag dy

gywilydd di am fod mor atgas o bersonol.

SELINARhag dy gywilydd dithau am ddweud pethau atgas amdanaf i ble bynnag yr ei di. Oes raid

iti meio i am dy fod ti’n cael dy siomi dro ar ôl tro? Am fod degau o ddynion yn syrthio mewn cariad efo fi ac yn cynnig fy mhriodi, a chyn lleied yn sylwi arnat ti? Swyna di nhw

d’orau glas – wna i ddim i dy rwystro di.

ARTENNAWyt ti’n meddwl ei bod hi o bwys gen i faint o ddynion rwyt ti’n eu hudo? Mae’n hysbys i bawb sut byddi di’n gwneud hynny. Wyt ti’n meddwl mai dy gymeriad dilychwin di, dy bersonoliaeth ddiddorol, dy ddeallusrwydd neu dy ddiwylliant di sy’n denu tyrfaoedd trachwantus i dy salon di? Neu gariad pur? Mae angen mwy na wyneb tlws i ennyn

edmygedd dynion da. Felly paid ag ymorchestu ormod mewn buddugoliaethau rhwydd. Bydd fymryn fwy gwylaidd yn lle edrych i lawr ar bobol eraill. Petawn i’n cenfigennu wrthyt ti mewn gwirionedd, byddai’n ddigon hawdd imi dy ddynwared di. Fe welet ti wedyn faint o

‘edmygwyr’ fyddai gen i.

SELINAGwna hynny, ar bob cyfri, os llwyddi di i wneud dy hun yn dlysach, a hynny heb...

ARTENNAGawn ni roi taw ar sgwrs mor ddiraddiol? Mi fyddwn i wedi madael ers meityn petai fy

nghar i wedi cyrraedd i fynd â fi adref.

SELINAArhosa gyhyd ag y mynni di. Mi gei gwmni difyrrach na fi. Wele’r Bonwr Alex, yn cyrraedd,

megis ar siawns, ond yn hynod gyfleus. Alex, nghariad i, mae ’na lythyr rhaid imi ei sgrifennu neu mi fydda i mewn dyfroedd dyfnion iawn. Wnei di ddiddanu fy ffrind? Rwyn

gwybod y gwnaiff hi faddau f’absenoldeb i.

Golygfa 5. ALEX, ARTENNA

ARTENNAAlla i ddim meddwl am fodd difyrrach o ddisgwyl am y chauffeur felltith. Orig yng nghwmni

athrylith. Ie. Paid â bod mor ddiymhongar. Rwyt ti, Alex, yn berchen ar un o feddyliau disgleiriaf yr oes! Ac mae’n warth ac yn sarhad, yn fy marn i, nad yw’r Llywodraeth wedi rhoi cydnabyddiaeth deilwng iti ar ffurf swydd uchel a dylanwadol neu wobr hael. Mae’n

hen bryd i rywun wneud rhywbeth drosot ti yng nghoridorau grym.04/12/2009

Page 32: Cariad Mr Bustle

32

ALEXPam? Beth wnes i erioed i haeddu na swydd na gwobr o unrhyw fath, Artenna? Beth ydw i

wedi’i gyflawni dros y wlad na’r Llywodraeth? Pam y dylwn i ddisgwyl i ‘rywun wneud rhywbeth’ drosta’i?

ARTENNAMae’na ddegau o ddynion llai talentog yn cael mwy o sylw a ffafraeth. Mae’n

ddyletswydd ar yr Awdurdodau i gydnabod dy gyfraniad di...

ALEXMae gan ‘yr Awdurdodau’ bethau rheitiach i’w gwneud na ‘chydnabod fy nghyfraniad i’,

beth bynnag ydi hwnnw.

ARTENNARwyt ti’n rhy wylaidd, Alex bach. Rhy ddiymhongar. Nid fi yw’r unig un sy’n meddwl dy fod

ti’n un o gewri’r oes. Ddoe ddiwetha mi glywais i ddau ddyn pwysig iawn yn canu dy glodydd di.

ALEXDyw canmoliaeth gwreng na bonedd yn golygu dim heddiw pan yw anrhydeddau’n cael eu

prynu a’u gwerthu a’u lluchio hyd y lle fel conffeti. Synnwn i ddim na chaiff fy ngwas ei ddyrchafu’n arglwydd cyn bo hir

ARTENNAMi fyddwn i wrth fy modd petaet ti’n cael dy benodi’n Weinidog dros Ddiwylliant, er

enghraifft, er mwyn i’r wlad sylweddoli pa mor alluog wyt ti. Mae gen i ffrindiau fyddai’n falch o roi hwb ymlaen i dy yrfa wleidyddol di.

ALEXA beth wyt ti’n feddwl fyddwn i’n wneud petawn i’n aelod o’r Llywodraeth? Dydi’r doniau

na’r cyneddfau angenrheidiol ddim gen i. Fy unig dalent i ydi dweud y gwir ac mae hynny’n anghymwyso dyn ar gyfer gyrfa lwyddiannus fel gwleidydd. Mae gen i hen gast bach anffodus o ddweud beth sydd ar fy meddwl i, heb falio am y canlyniadau. Heb nawdd y

Sefydliad, mae dyn yn gorfod byw heb barch nac anrhydedd; ond, ar y llaw arall does dim gofyn iddo wenieithu i bobol dwp, seboni gwragedd dynion pwysig, na gwrando ar eu

gwyr nhw’n rwdlian a malu awyr.

ARTENNASoniwn ni ddim rhagor am swyddi gan fod y pwnc mor ddiflas gen ti. Rwy’n poeni fwy fyth,

a dweud y gwir, am dy yrfa garwriaethol di. Mae’n ddrwg calon gen i, Alex bach, dy fod ti wedi mopio ar rywun sydd mor annheilwng ohonot ti.

ALEXFeddyliais i fod y ‘rhywun’ yna’n ffrind iti?

ARTENNAWrth gwrs ei bod hi. Ond wnaiff fy nghydwybod i ddim caniatáu imi adael iti gael dy dwyllo,

Alex.04/12/2009

Page 33: Cariad Mr Bustle

33

ALEXY ddynes rydw i’n ei charu yn fy nhwyllo i? Dyna newydd calonogol!

ARTENNAEr fod Selina a fi’n ffrindiau - yn ffrindiau mynwesol, os ca’i ddweud – mae ei gweld hi’n

bradychu dyn mor annwyl yn hollol annioddefol. Wnaeth hi erioed dy garu di, Alex.ALEX

Efallai fod hynny’n wir. Wn i ddim. Ond dydi hau amheuon yn fy meddwl i ddim yn gymwynas, Artenna.

ARTENNAFe dewa’i os gwell gen ti beidio â gwybod y gwir.

ALEXWrandawa’i ddim ar ensyniadau di-sail.

ARTENNADa iawn ti. Dere adre gyda mi ac fe gei di brawf pendant a digamsyniol bod Selina fach

yn anffyddlon iti. Wedyn, efallai, y cymeri di sylw o rywun gonestach, sy’n dy garu di â’i holl galon.

ACT IV

Golygfa 1. ELIANNA, PHILIPPE

PHILIPPEWelais i erioed greadur mwy styfnig a phen-galed. Gwrthod cymodi er bod pawb yn ymbil arno. Rydw i’n siwr na fu raid i’r Ynadon ddelio ag achos mor hurt erioed o’r blaen. (Mae’n

gwatwar Alex) ‘Na, foneddigion,’ meddai Alex ‘newidia i’r un gair. Beth wnes i i ddigio’r Bonwr Oscar? Ei gyhuddo o fod yn fardd gwael. Dydi sgrifennu sothach ddim yn bechod

marwol. Gall dyn fod yn berffaith onest ac anrydeddus heb fedru barddoni. Mae gen i’r parch uchaf at fy nghyfaill Oscar. Mae’n ddyn caredig, cydwybodol, a dewr hefyd. Ond

bardd trychinebus o wael. Bardd cocos. Rydw i’n barod i ganmol ei ddawn fel dawnsiwr, bocsiwr a marchog ond nid fel prydydd. Fy nghyngor i i Oscar ydi iddo fo ymwrthod yn llwyr â’r Awen oni bai ei fod o’n gorfod dewis rhwng llunio pennill a chael ei saethu.’

Cynnig gorau Alex ar gymodi oedd ymddiheuro wrth Oscar am ‘fethu â dweud dim byd neis am dy soned di’. Diwedd yr achos oedd i’r Ynadon ymrwymo’r ddau i gadw’r

heddwch.

ELIANNAMae Alex yn unigryw. Yn hollol ar ei ben ei hun. Yn ffwl ond yn dipyn o arwr hefyd. Trueni

na fyddai mwy o bobol mor onest ag e.

PHILIPPEYr hyn sy’n fy synnu i, ac yntau mor feirniadol o bawb, ydi bod Alex wedi medru syrthio

mewn cariad. Ac efo dy gyfnither di o bawb. Hi ydi’r ddynes olaf y byddai dyn yn disgwyl iddo fo fopio arni.

ELIANNA

04/12/2009

Page 34: Cariad Mr Bustle

34

Prawf nad ydi dynion na merched yn rhwym o syrthio mewn cariad â phobol sy’n eu siwtio nhw, yn debyg iddyn nhw, neu’n rhannu’r un syniadau a diddordebau.

PHILIPPEYdi Selina’n ei garu o? Dyna’r cwestiwn.

ELIANNAUn anodd i’w ateb. Mae hi’n ansicr iawn ohoni hi ei hun, ar hyn o bryd.

PHILIPPEMi gaiff rhen Alex draffa’th gan hon’na. Taswn i yn ei le fo, fyddwn i’n troi fy llygaid at ei

chyfnither hi. Sydd yr un mor ddel ac yn llawer callach.

ELIANNADyna dy farn di. Rydw i’n hoff iawn o Alex, ond ddof i ddim rhyngddo fe a Selina. A dweud

y gwir, fe wna’i bopeth alla’i i’r berthynas lwyddo.Petai hi ddim – pwy a wyr? Gawn ni weld...

PHILIPPE Petai Alex a Selina’n digwydd priodi, fyddwn i ddim yn rhy falch i ofyn i ti...

ELIANNATynnu ‘nghoes i wyt ti, PHILIPPE?

PHILIPPENage, Elianna. Rydw i o ddifri. O ddifri calon....

Golygfa 2. ALEX, ELIANNA, PHILIPPE

ALEXAchub fy ngham Elianna annwyl! Cam sy wedi dryllio calon lân.

ELIANNABeth ar y ddaear sy’n bod? Pam wyt ti’n y fath stad?

ALEX Petai’r nefoedd yn disgyn ar fy mhen i, y bydysawd yn chwalu, a deddfau natur yn mynd o

chwith, fyddwn i ddim dan gymaint o artaith. Brad! Brad! Brad! Mmmyyh!

ELIANNATreia ddweud wrtha’i beth sy wedi digwydd.

ALEXMmmmh! Alla’i ddim.

ELIANNATreia...ALEX

Ydi hi’n bosib i’r fath lendid a’r fath ddrygioni gyd-fyw yn yr un person?

04/12/2009

Page 35: Cariad Mr Bustle

35

ELIANNAOnd pwy sydd wedi...

ALEXMae’r cwbwl ar ben. Fy myd i’n deilchion. Selina... Mae Selina wedi nhwyllo i. Wedi

mradychu i. Hi o bawb, er mod i’n ei charu â’m holl galon a’m holl enaid, wedi bod yn anffyddlon.

ELIANNAOes gen ti garn i goelio’r fath beth?

PHILIPPEDim ond mympwy dyn eiddigus.

ALEXMeindia di dy fusnes dy hun! Mae gen i brawf o’i hanffyddlondeb hi. Llythyr at Oscar yn ei llaw hi ei hun. Oscar! Arch-lembo’r oes! A minnau’n ddigon gwirion i feddwl ei bod hi’n ei

gasáu o. O’r holl ddynion sy’n ei ffansio hi, fo roeddwn i’n ei ofni leiaf.

PHILIPPEMi all llythyr fod yn gamarweiniol. Efallai nad ydi’r sefyllfa cynddrwg ag rwyt ti’n feddwl?

ALEXFaint o weithiau raid imi ddweud wrthyt ti am beidio â busnesu?

ELIANNAPaid dithau â mynd dros ben llestri.

ALEXElianna...ti ydi’r unig un all dynnu f’enaid o gors anobaith. Rhyddha fi o grafangau’r siom erchyll sy’n fy llethu. Helpa fi i ddial ar y gnawes anniolchgar a thywyllodrus fradychodd y

cariad puraf, tanbeitiaf a deimlwyd gan ddyn erioed..

ELIANNABeth alla i ei wneud?

ALEXPrioda fi. Derbyn fy nghalon i a nghariad. Cymer di y serch dwfn a diffuant a fradychwyd

gan Jesebel! Dyna fydd ei chosb haeddiannol hi.ELIANNA

Paid â meddwl am eiliad nad ydw i’n llawn cydymdeimlad, nac yn gwerthfawrogi cynnig mor hael, ond efallai nad yw hi mor ddifrifol arnat ti. Ac y byddi di fawr o dro cyn rhoi’r

gorau i’r syniad o ddial ar Selina. Byrhoedlog yw cwerylon cariadon. Erbyn yfory, bydd y siom wedi cilio fel niwl y bore.

ALEXNa, na, Elianna, mae’r loes yn un farwol. Rydw i wedi darfod efo hi am byth. Mi gollwn i bob gronyn o hunan-barch petawn i’n gadael iddi fy hudo i eto. Rydw i’n benderfynol o

dalu’r pwyth ar ei ganfed:torri calon Selina yn deilchion mân trwy gyflwyno i ti galon fydd wedi ymryddhau’n llwyr o’i swyn melltigedig hi.

04/12/2009

Page 36: Cariad Mr Bustle

36

Golygfa 3. SELINA, ALEX

ALEXAaaaaah! Rydw i mor gythreulig o flin, mae arna’i ofn colli arnaf i’n hun.

SELINAWel wir! Pwy sy wedi dwyn dy paté de foie gras di? Pam wyt ti’n edrych mor hyll arna’i?

ALEXDwyt ti’n haerllug o ddigywilydd, Madame Jiwdas!

SELINAUn da am gompliment fuost ti erioed, Alex.

ALEXPaid â gwamalu. Gwrido ddylet ti. Mae gen i brawf pendant o dy dwyll a dy ragrith di. Mi

‘nes i amau d’onestrwydd di o’r dechrau. Wn i, bellach, mod i yn llygad fy lle. Er mor gyfrwys wyt ti, mor sgilgar wrth guddio dy dwyll, mi arweiniodd ffawd fi at y gwir. Y gwir

sy’n lladd. Fy lladd i. Ond paid â chlochdar. Daw dial. Fel cei di weld. Mi wn i bod serch yn taro ar hap, na all neb orfodi rhywun arall i’w garu o, a bod gan bawb hawl i garu pwy fyn o. Fyddwn i ddim yn cwyno ‘taet ti wedi dweud y gwir wrtha’i o’r dechrau cynta. Ond mae f’arwain i ar gyfeiliorn a phorthi fflamau fy nghariad â geiriau tlws yn drosedd anfaddeuol sy’n haeddu’r gosb eithaf. Ia. Y gosb eithaf, Madam. Dyna pam rydw i’n mynd i edliw dy

anfoesoldeb di’n ddi-baid ac yn ddidrugaradd. Mae gen ti le i ofni. Rydw i o ngho. Wedi fy nghlwyfo’n angheuol. Gen ti. Rydw i wedi colli pob rheolaeth arnaf i’n hun. Dydw i ddim yn

gyfrifol am beth rydw i’n wneud.

SELINAWyt ti’n gwallgofi? Yn lloerig?

ALEXYn honco bost! Yn gynddeiriog! Yn nhop y caitsh! Am mod i wedi gwirioni arnat ti a llyncu gwenwyn dy harddwch di. Hynny sy’n fy nifa i. Minnau wedi meddwl imi weld mymryn o

ddiffuantrwydd dan dy wên deg di, y fradwres.

SELINASut gwnes i dy fradychu di?

ALEXOhhh!. Y fath haerllugrwydd! Y fath ryfyg! Drycha ar hwn, yr ast ddauwynebog! Dy

lawsgrifen di ynte? Prawf dy fod ti’n euog, euog, euog. Does gen ti ddim ateb, nagoes?

SELINAHwn sy wedi dy gynhyrfu di?

ALEXDwyt ti’n teimlo’r un gronyn y gywilydd?

SELINANag ydw. Pam dylwn i?

ALEX04/12/2009

Page 37: Cariad Mr Bustle

37

Does yna ddim llofnod ar waelod y llythyr, ond fedri di ddim gwadu mai ti sgrifennodd o.

SELINADydw i ddim am wadu.

ALEXDoes gen ti’r un gair o edifeirwch nac o ymddiheuriad am andwyo’n perthynas ni?

SELINAY nef a’n gwaredo! Mi wyt ti’n ddyn gwirion iawn!

ALEX‘Gwirion’? Am golli fy limpyn am dy fod ti wedi sgrifennu llythyr annwyl iawn, iawn, iawn at

Oscar? Mae gen i hawl i fod o ngho!

SELINAPwy ddwedodd mai at Oscar y sgrifennais i’r llythyr?

ALEXY sawl roddodd y llythyr imi. Fyddai gen i lai o le i gwyno petaet ti wedi’i anfon o at ryw

ddyn arall? Fyddet ti’n llai euog?

SELINABeth petai’r llythyr wedi ei anfon at ddynes? Fyddai hynny’n dy frifo di? Fyddwn i’n dal yn

euog o drosedd anfaddeuol?

ALEXOh! Da iawn, iawn. Cyfrwys dros ben. Esgus ardderchog. Rhaid imi gyfaddef na

ddisgwyliais i mo’r tric yna. Bravo! Wyt ti’n disgwyl imi lyncu’r fath gelwydd? Yn meddwl mod i’n hollol dwp? Mae geiriad yr epistol mor eithafol o serchus; sut gall o fod wedi ei

sgrifennu at ddynes arall? Mae dy esgus tila di’n hollol anghyson â’r cynnwys.

SELINAPwy wyt ti’n feddwl wyt ti, i mlagardio i? Chymera i mo fy sarhau fel hyn! Wyt ti’n deall?

ALEXIawn. Iawn. Paid â myllio. Y cwbwl rydw i’n ofyn ydi iti egluro’r teimladau barodd iti

sgrifennu’r llythyr.

SELINANa, wna’i ddim. Waeth gen i beth wyt ti’n feddwl.

ALEXOs medri di esbonio sut y gallai hwn fod wedi ei anfon at ddynes arall, mi fydda i’n fodlon.

SELINANa. Roeddet ti’n iawn y tro cyntaf, Alex. At Oscar sgrifennais i’r llythyr. Am fy mod i wrth fy modd yn gwrando arno fo’n dweud gymaint mae o’n fy ngharu i. Coelia hynny, neu beth

bynnag fynni di, ond cer o ngolwg i.

ALEX04/12/2009

Page 38: Cariad Mr Bustle

38

A droediodd ddynes greulonach y ddaear erioed? A gamdriniwyd calon mor ddidwyll â hon? Hi sy’n euog ond fi sydd ar fai! Hi a droseddodd ond fi sy’n cael y gosb! Pam mod i’n gadael iddi nhrin i fel hyn? Am mod i’n ei charu hi. Yn methu peidio â’i charu hi er ei bod hi’n ddynes ddrwg, ddichellgar sy’n manteisio i’r eithaf ar fy ngwendid. Ond pan fydd ei

llygaid mawr, arswydus o dlws yn edrych arna’i....Ahhh...Selina! Amddiffyn dy hun yn erbyn y cyhuddiad difrifol rydw i wedi ei ddwyn yn d’erbyn di,

yn lle cymryd arnat fod yn euog. Argyhoedda fi. Cogia fod yn ddieuog ac mi wna innau ngorau i dy goelio di.

SELINADwyt ti ddim yn gall. Mae eiddigedd wedi dy wneud di’n sâl. Fan hyn (Sef, ei ben). Dwyt ti ddim yn haeddu nghariad i, Alex. Petawn i’n caru rhywun arall, wyt ti’n meddwl y byddwn

i’n iselhau fy hun i dy dwyllo di, ac i balu celwyddau? Rydw i wedi dweud mod i’n dy garu, a mi ddylai hynny fod yn ddigon gen ti. Mae d’amheuon a dy gyhuddiadau di’n fy

mychanu i. Rydw i’n difaru imi fod mor ffôl, ar un adeg, a meddwl dy fod ti’n werth dy garu. Mae’n drueni nad ydw i’n caru rhywun arall, fel bod gen ti le i achwyn.

ALEXTaw, y Jesebel, sydd wedi manteisio mor ddigywilydd ar fy ngwendid i. Dydw i’n rhoi dim coel ar dy eiriau teg di ond alla’i ddim peidio â dy garu di, er mod i’n gwybod dy fod ti’n

anffyddlon. Ta waeth. Does gen i ddim dewis ond derbyn fy nhynged a dioddef.

SELINADwyt ti ddim yn fy ngharu i fel y dylai dyn garu dynes.

ALEXMae nghariad i’n unigryw yn ei eithafarwydd a’i danbeidrwydd. Ac rydw i am i’r byd i gyd wybod hynny. Dyna pam rydwi’n gresynu dy fod ti mor hardd, mor annwyl ac mor gefnog. Petaet ti’n hyll, yn dlawd, yn ddi-dras a di-deulu, mi allwn i aberthu fy hun mewn ymdrech arwrol i ddileu’r fath anghyfiawnder ac ennill y gogoniant a’r llawenydd o dy weld ti’n llwyr

ddibynnol ar fy nghariad i.

SELINARydw i’n meddwl y galla’i wneud heb y math yna o gariad, diolch yn fawr iti. Ond drycha.

Dacw dy was di, a golwg hapus dros ben arno fo.

Golygfa 4. CARLO, SELINA, ALEX

ALEXA gwep! Beth sy’n bod arnat ti’r hulpyn gwirion?

CARLOSyr...

ALEXIa?

CARLOWn i ddim le i ddechra.

ALEX04/12/2009

Page 39: Cariad Mr Bustle

39

Beth am yn y dechra?

CARLOIa ‘nte? Mae hi’n wael iawn, iawn arnan ni, syr.

ALEXO? Sut felly?

CARLOYdach chi am imi siarad yn uchal?

ALEXYdw. Ac ar unwaith.

CARLOOnd mae’na rywun...

ALEXDeud dy ddeud, ‘nei di?

CARLOSyr. Mae’n rhaid inni gilio o’r maes.

ALEXPa ‘faes’?

CARLOFa’ma. Nerth ein traed. Rwan hyn. Syth bin.

ALEXPam?

CARLOGleuwch chi, syr. Munud ‘ma.

ALEXOherwydd?

CARLOAr unwaith. Heb ffarwelio na deud ta-ta wrth neb.

ALEXPam wyt ti’n siarad fel hyn wrtha’i?

CARLOAm ei bod hi’n hen bryd ichi godi’ch pac.

ALEXMi ddarn-ladda’i di, os na ddwedi di beth yn union ydi’r broblem.

CARLOY broblam, syr, chwadal chitha, ydi bod ’na ddyn mewn siwt ddu a golwg ddigon tywyll ar ei wymad o hefyd, newydd adal y ty ’cw. Wel, mi adawodd y dyn damad o bapur ar fwr y 04/12/2009

Page 40: Cariad Mr Bustle

40

gegin, a sgwennu arno fo – ar y papur, rwan, nid ar y bwr – sgriffiada blêr, anodd gythreulig i’w ddarllan. Tasach chi’n gofyn i mi, syr, ma gin hyn rwbath i neud hefo’ch

achos llys chi. Hen gena powld oedd y boi....

ALEXDwed wrtha i, yr penbwl pwdwr, be sy gan y papur hwnnw i’w wneud efo dy gyngor di i

madal gynta medra’i?

CARLOWel, syr, mi alwodd rhywun arall acw toc wedyn, dyn fydd yn galw i’ch gweld chi’n reit

amal, a mi oedd hwnnw’n awyddus iawn i siarad hefo chi, a chan nad oeddach chi yno, mi ofynnodd imi’n garedig iawn, gan ei fod o’n gwbod mod i’n was da a ffyddlon i chi, syr, ac

yn gneud fy ngora glas drostach chi bob amsar, dyma fo’n deud wrtha i am gofio deud wrthach chi...Be goblyn ydi enw’r dyn?...Rhoswch funud....Mi gofia i rwan...

ALEXDydy’r ots am hynny, y ffwl hurt. Jest dwed wrtha i beth ddwedodd o.

CARLOUn o’ch ffrindia chi oedd o. Dyn neis iawn. Gwr bonheddig. Smart hefyd. Wel. Mi

ddeudodd y dyn ’ma ’ch bod chi mewn peryg, mewn peryg mawr, mewn peryg aruthrol... o gael eich restio.

ALEXFy restio? Ddwedodd o pam?

CARLONaddo, syr. Mi ofynnodd imi am inc a phapur sgwennu. A mi gafodd nhw gin i. Wel. Ar y

papur mi sgwennodd glamp o lythyr i egluro’n llawn ichi be ydi’r dirgelwch all neud gymaint o niwad ichi.

ALEXGa’i weld y llythyr hwnnw? Os gweli di’n dda?

SELINABeth yn union sy wedi digwydd?

ALEXDoes gen i run syniad ond rwy’n disgwyl cael gwybod yn ystod y ddwyawr nesa.

CARLO wedi chwilota am hirAr fy ngwir, syr, choeliwch chi fyth, tawn i byth o’r fan’ma! Rydw i wedi gadal y llythyr ar fwr

y gegin. Efo’r papur arall...

ALEX wrth Selina sy’n ei atal rhag ymosod ar CarloMi ladda i’r diawl! Mi ladda’i o!

SELINAPaId â chynhyrfu. Cer, ar unwaith, rhag tynnu rhagor o helynt am dy ben,.

ALEXMae pawb a phopeth yn cynllwynio yn erbyn inni ddeall ein gilydd. Ond mae’n rhaid inni

wneud hynny. Heddiw. Ddo’i yn f’ôl gynta medra’i.04/12/2009

Page 41: Cariad Mr Bustle

41

ACT V

Golygfa 1. ALEX, PHILIPPE

ALEXFydd’na ddim cyfaddawdu na throi’n ôl. Wyt ti’n dealll?

PHILIPPERoedd hon’na’n ergyd greulon, ond ddylet ti ddim...

ALEXWaeth iti heb â thaeru, newidia i mo fy meddwl. Rydw i’n mynd. Yn cefnu unwaith ac am byth ar gymdeithas. Mae hi mor llygredig. Roedd tegwch, moesoldeb a’r Gyfraith ei hun

yn erbyn y diawl. A’r Wasg, hyd yn oed, yn gefnogol i f’achos. Minnau’n ddigon naif i ymddiried yn fy nidwylledd i’n hun. Ond colli wnes i. Er bod Cyfiawnder o mhlaid i, y llall enillodd. Dihiryn drwg-enwog yn cario’r dydd yn erbyn dyn gonest. Daioni yn gwywo a

brad yn llwyddo. Fel petai llofrudd yn cael ei wobrwyo am dorri gwddf dyn diniwed. Mae’r cythraul ar ben ei ddigon, a’i wên ffals yn gwawdio ac yn tanseilio’r Gyfraith. Ar ben hyn i

gyd, mi fu’n ddigon hy i fynnu bod y Llys yn rhoi dirwy imi! Ac i rwbio halen i’r briw, mae o’n mynd hyd y lle gan ddweud mai fi ydi awdur llyfr sy mor drybeilig o sâl, mi ddylai fod yn

drosedd i’w ddarllen. A phwy sy’n ategu’r malais? Yn eilio’r celwyddau? Oscar, siwr iawn. Dyn wnes i ddim byd erioed iddo heblaw datgan barn ddidwyll am ei ‘farddoniaeth’! Ac mae hwnnw’n diolch imi am wrthod ei dwyllo trwy ‘nghyhuddo i o drosedd ddychmygol. Chaf i fyth faddeuant gan y ffwl am beidio â chanmol ei rigymau pitw. Pethau gwael ydi

dynion, Phyl. Mae balchder a blys yn eu gyrru i gyflawni gweithredodd gwrthun. Beth dâl dioddef blinder a siom wrth fyw yn eu plith? Carn-ladron. Gwaeth na bleiddiaid. Rydw i am

ffoi o’u golwg, o’u swn ac o’u drewdod.

PHILIPPEPaid â bod yn fyrbwyll, Alex. Dydi’r sefyllfa ddim cynddrwg ag rwyt ti’n feddwl. Go brin y

cei di dy gosbi am y drosedd honedig gan fod y dystiolaeth yn d’erbyn di mor simsan. Apelia. Mi wêl rheithgor drwy ddadleuon dy elyn di’n hawdd ac yn y diwedd, mi neith

strywiau’r cnaf fwy o niwed iddo fo’i hun nag i ti.

ALEXWnaiff yr helynt afffliw o ddim drwg i’r diawl. I’r gwrthwyneb. Mi fydd yn fwy poblogaidd

nag erioed.

PHILIPPERydw i’n amau hynny. Does neb yn rhoi llawer o goel ar ei gyhuddiadau o. Apelia.

ALEXNa, wna’i ddim apelio. Er y niwed wnaeth y dyfarniad imi, wna’i ddim i’w wrthdroi. Caiff

sefyll fel cofgolofn dragwyddol i Anghyfiawnder.Yn dystiolaeth ddiymwad o ysgelerder yr hil ddynol a llygredigaeth yr oes. Er y gallai hynny gostio dros ugain mil o bunnau imi, mi

roith hawl foesol imi ladd ar y ddynolryw ac i’w chasáu hi â chas perffaith.

PHILIPPEGwranda, Alex bach...

04/12/2009

Page 42: Cariad Mr Bustle

42

ALEX Pam dylwn i? Er mwyn iti esgusodi’r gorthrymderau sy’n fy llethu?

PHILIPPERydw i’n cytuno efo llawer iawn o’r hyn rwyt ti’n ddweud. Mae hunan-les, trachwant,

ffafriaeth a llwgrwobrwyaeth yn ffynnu’n waeth nag erioed y dyddiau hyn, ond dydi hynny ddim yn rheswm dros fynd yn feudwy. Dylai pob dyn da ystyried drygioni ei gyd-ddynion yn her. Petai pawb yn dda, byddai dy rinweddau di’n ddiwerth. Swyddogaeth moesoldeb

ydi’n cynnal ni mewn byd anghyfiawn.

ALEXRwyt ti’n siaradwr huawdl, Phyl, ac yn rhethregwr gwych, ond paid â gwastraffu d’anadl na d’amser. Mi fydda i’n cilio o’r Brifddinas i rywle anghysbell ym mherfeddion cefn gwlad er fy lles i fy hun. Alla’i ddim rheoli nhafod, Phyl. Alla’i ddim peidio â thynnu pobol yn fy

mhen.Gad imi aros yma am Selina. Rydw i am gael gwybod ganddi, y naill ffordd neu’r llall, ydi

hi’n fy ngharu i ai peidio.

PHILIPPE Beth am fynd i fyny i salon Elianna i ddisgwyl am Selina?

ALEXRydw i wedi cynhyrfu ormod. Dos di. Arhosa’i yma ar fy mhen fy hun a Siomedigaeth yn

gwmni imi.

PHILIPPECwmni od iawn. (Ochneidia.) Ofynna i i Elianna ddod i lawr atom ni.

Golygfa 2. OSCAR, SELINA, ALEX

OSCARTi sydd i benderfynu ar ddyfodol ein perthynas ni, Selina. Mae’n rhaid imi gael gwybod

gen ti nawr, y naill ffordd neu’r llall: wyt ti’n fy ngharu i? Fel darpar-wr iti, mae gen i hawl i ateb diamwys. Os yw tanbeidrwydd fy nghariad wedi dy dwymo di, mae’n bryd iti gyfadde

hynny. Un prawf pendant fyddai gwahardd Alex rhag dod ar dy gyfyl di. Ei esgymuno’n llwyr o’th gwmni.

SELINABeth sydd gen ti’n erbyn Alex? Rydw i wedi dy glywed ti’n canu ei glodydd ddegau o

weithiau.

OSCARAnghofiwn ni am Alex. Y mater dan sylw yw ei bod hi’n bryd iti ddadlennu dy deimladau yn onest am unwaith. Dewis, os gweli di’n dda: fi neu Alex . Penderfyna di ac fe benderfyna

innau.

ALEX yn dod o’r gornel y bu’n llechu ynddi.

Clywch, clywch. Mae o’n iawn, Selina. All hyn ddim dal i lusgo mlaen. Er tegwch i Oscar ac i minnau, mae’n ddyletswydd arnat ti i ddewis, a rhoi gwybod inni le’n union rydym ni’n

sefyll.04/12/2009

Page 43: Cariad Mr Bustle

43

OSCAROs taw ti fydd y dyn ffodus, wna’i ddim ymyrryd â dy lawenydd di.

ALEXOs mai ti ddewisith hi, mi daga i nghenfigen a dymuno pob lwc iti.

OSCAROs gwell ganddi ti na fi...

ALEXOs oes ganddi’r mymryn lleia o serch atat ti...

OSCAR...rwyn addo torri pob cysylltiad â hi.

ALEX...rydw innau’n tyngu na wela’i fyth moni eto.

OSCARNawr te, Selina. Yn ddi-flewyn-ar-dafod, yn ddi-dderbyn-wyneb, a heb hel dail, os gweli

di’n dda...

ALEXFo neu fi.

OSCAR...dwed p’un ohonom ni rwyt ti’n ei garu. Dyna i gyd.

ALEXTorra’r ddadl a dewis Oscar neu fi. Mi fydd un gair yn ddigon.

OSCARYdi’r dasg yn un mor anodd?

ALEXWyt ti’n dal i anwadalu?

SELINA Nac ydw, Alex. Wn i’n iawn pwy rydw i’n ei garu. Ond a wyt ti, a tithau, Oscar, yn disgwyl imi ddatgelu hynny yn eich gwydd chi’ch dau? Gall y galon ddangos ei theimladau heb waeddi o bennau’r tai. A ddylai neb fyth lefaru geiriau all achosi poen i rywun arall tra bo trydydd person yn bresennol. Yn dyner iawn mae torri newydd drwg i ddyn sydd mewn

cariad.

OSCAR Clyw, Selina: does arnaf i, o leiaf, ddim mymryn o ofn datganiad clir a phendant.

ALEX Na finnau. Rwyt ti’n un dda am droi pob nant i dy felin dy hun a chadw pawb dan dy fawd

Llai o glyfrwch geiriol, ‘merch i. Os nad atebi di’n cwestiwn ni, bydd dy fudandod yn cadarnhau pob dim annymunol glywais i amdanat ti’n ddiweddar.

04/12/2009

Page 44: Cariad Mr Bustle

44

SELINAMae’ch mympwyon gwirion ac annheg chi’n mynd ar fy nerfau i. Rydw i wedi dweud

wrthych chi pam mod i’n gwrthod ateb. Caiff ‘nghyfnither i farnu.

Golygfa 3. ELIANNA, PHILIPPE, SELINA, OSCAR, ALEX

SELINAElianna! Helpa fi!. Rydw i’n cael fy erlid gan ddau wallgofddyn sy’n mynnu mod i’n cyfaddef

mod i’n caru’r naill ac yn esgymuno’r llall am byth. Glywaist ti’r fath hurtrwydd yn dy ddydd?

ELIANNAPaid â gofyn i mi ddatrys dy broblemau di - beryg iti ddrwgleicio’r cyngor. Rwy’n meddwl y

dylai pobol ddweud beth maen nhw’n feddwl a meddwl beth maen nhw’n ddweud.

OSCARDoes gen ti ddim troed i sefyll arni.

ALEXDydi Elianna ddim yn dy gefnogi di.

OSCARRho’r gorau i geisio cadw’r ddysgl yn wastad a dweud y gwir am unwaith.

ALEXUn gair. Dyna i gyd.

OSCARA dyna ben ar y taeru

ALEXOs na ddwedi di ddim, mi fydda i’n deall i’r dim.

Golygfa 4. ARCASTO, COLIMANDRO, ARTENNA. PHILIPPE, ELIANNA, OSCAR, SELINA, ALEX

ARCASTOGyda’th gennad, Selina, cariad, ryn ni wedi mentro galw i setlo rhyw fusnes fach.

COLIMANDROOscar ac Alex! Dyna lwc eich bod chi yma! Rych chi’ch dau ar yr agenda.

ARCASTONeu’r fwydlen!

ARTENNA

04/12/2009

Page 45: Cariad Mr Bustle

45

Mae’n debyg dy fod ti’n synnu ngweld i, cariad, ond y bonheddwyr hyn fynnodd mod i’n dod gyda nhw. Fe alwon nhw acw gyda chwynion gwarthus amdanat ti. Rhai hollol di-sail, rwyn siwr. Alla’i yn fy myw dderbyn bod cyhuddiadau mor atgas, ffiaidd a gwrthun yn wir.

Mae gen i ormod o feddwl ohonot ti, cariad. Gormod o barch atat ti i feddwl y gallet ti iselhau dy hun i’r fath raddau - er bod y dystiolaeth yn d’erbyn di mor gadarn. Wel. Gan fod

rhwymau cyfeillgarwch yn drech na’r mân gecru fu rhyngom ni gynnau, fe ddes i gyda’r cyfeillion i dy glywed di’n golchi pob diferyn o’r enllibion ffiaidd hyn oddi ar dy gymeriad.

ARCASTORwyf innau’n edrych ymlaen yn eiddgar at dy glywed di’n amddiffyn dy hun, Selina annwyl.

Y brawd Colimandro dderbyniodd y truth traserchus hwn.

COLIMANDROAc fe anfonaist ti at y brawd ARCASTO neges sydd yr un mor nwyfus.

ARCASTO, wrth Oscar ac Alex Rwyn siwr eich bod chi, foneddigion, yn gyfarwydd â’r arddull a’r llawysgrifen, ond tae

waeth am hynny, fe ddarllena i’r llith:Rwyt ti’n ddyn od iawn i ‘nghollfarnu i am hoffi dipyn o hwyl a mwynhau fy hun gan edliw

nad ydw i fyth yn hapusach na phan nad wyt ti ar fy nghyfyl i. Mae hynny’n gyhuddiad hollol annheg ac os na ddeui di yma i ymbil am faddeuant, wna’i fyth faddau i ti tra byddaf i

byw. Mae’r idiot mawr, trwsgwl hwnnw, y barwnig boldew... Gwrthododd y cyfaill corffol hwnnw ein gwahoddiad i ddod gyda ni...

Mae’r idiot mawr, trwsgwl hwnnw, y barwnig boldew, rwyt ti wedi bod yn cwyno gymaint yn ei gylch, yn ddyn tu hwnt o anniddorol, yn fy marn i, ac er pan welais i ef yn poeri i mewn i

ffownten am dri-chwarter awr i wneud cylchoedd yn y dwr, mae gen i lai fyth o feddwl ohono. Parthed y marcwis bach...

Fi yw hwnnw, foneddigion a boneddigesau, os maddeuwch chi fy hyfdra...Parthed y marcwis bach, sy’n mynnu treulio cymaint o amser yn fy nghwmni, rwy’n

meddwl ei fod yn greadur disylwedd iawn, heb fawr ddim ar ei elw ond ei deitl. A dyna Mr Bustl...

(Wrth Alex)Dy dro di nawr...

A dyna Mr Bustl. Er fod hwnnw’n fy niddannu i ar adegau â’i herio chwyrn a’i chwyrnu surbwch, gall fod yn greadur annymunol iawn. Un arall fydd yn mynd ar fy nerfau yw’r

Bardd Mawr...(Wrth Oscar)

Gwae ti!Y Bardd Mawr, tew, sy’n meddwl ei fod yn athrylith, er gwaethaf barn pawb sy’n meddu gronyn o ddiwylliant. Mae ei frygowthan egotistaidd yn fy syrffedu a’i lên mor lwm ac

anniddorol â’i rigymau di-awen. Fe weli di, felly, nad wyf i’n mwynhau fy hun bob amser lawn gymaint ag yr wyt ti’n meddwl fy mod. Rwy’n dy golli di’n ofnadwy yn y parïion y caf i

fy llusgo iddyn nhw. Does dim yn y byd yn fwy dymunol na chwmni cyfeillion cywir....

COLIMANDROFy nhro i nawr..

Y Colimandro yma rwyt ti’n mynnu sôn amdano byth a hefyd ac sydd dros ei ben a’i glustiau mewn cariad â mi yw’r dyn olaf y gallwn i ei garu. Sut yn y byd y gall e dybio fy mod i yn ei garu ef ac nid yn dy garu di? Callia, wnei di, a newid dy agwedd di ataf i am agwedd debycach i un dy ffrind. Galw i ngweld i cyn amled ag y bo modd, er mwyn fy

helpu i oddef ymweliadau’r bwbach.(Wrth Selina)

04/12/2009

Page 46: Cariad Mr Bustle

46

Hyfryd iawn, ynte? Ond dyna hen ddigon o dystiolaeth, rwy’n meddwl. Fe awn ni i gyd oddi yma yn awr i gyhoeddi i’r byd a’r betws menyw mor ofnadwy wyt ti.

ARCASTOIe. Mae ’na lond gwlad o gyhuddiadau eraill ond dwyt ti ddim yn deilwng o’n dicter ni. Fe drown ni i fannau eraill, mwy unplyg am gysur. Ac fe’i cawn ni e. Yn ddigon hawdd. Fel y

cei di weld, Selina.

OSCARFel hyn rwyt ti’n darn-ladd fy enw da i? A hynny ar ôl sgrifennu geiriau mor gariadus ata’i?

Ac at ugeiniau o ddynion eraill, debyg iawn. Bûm i’n ffwl ond fydda’i ddim rhagor. Diolch byth am gael d’adnabod di fel yr wyt ti. Fe gynigiaf i nghalon i rywun fwy teilwng ohoni a’th

golled di fydd fy nial. (Wrth Alex)

Wnaf i ddim sefyll yn dy ffordd di. Mwynha ei chwmni a’i chyfathrach heb unrhyw wrthwynebiad gen i.

ARTENNARhag dy gywilydd di, Selina! Fe wnes i ngorau i frathu nhafod, ond rwy i wedi cynhyrfu

gymaint fel na alla’i ymatal. Chlywais i erioed am ymddygiad mwy gwaradwyddus. Ddweda i run gair o blaid nag yn erbyn y boneddigion eraill ond mae’n rhaid imi gadw part y dyn

annwyl yma. Gwr bonheddig roedd ei gariad atat ti mor bur ac mor ddiffuant. Gwr talentog, athrylithgar oedd yn d’addoli di.

ALEXAllwn i fyth, Artenna, dy dalu di’n ôl, fel rwyt ti’n ddymuno, am y geiriau caredig yna, felly gad imi siarad drosof i fy hun os gweli di’n dda.. Paid â meddwl am eiliad y gofynnwn i ti

leddfu fy siom.

ARTENNAAm ddyn haerllug! Am dwpsyn hunan-dybus! Beth wnaeth iti feddwl y byddai unrhyw fenyw yn ei llawn bwyll am dy fachu di? Pwy fyddai’n dy gymryd di a hon wedi gwneud ffwl ohonot ti? Callia, da ti, a phaid â bod yn gymaint o wr mawr. Nid menyw rinweddol fel fi sydd ei hangen arnat ti ond sarff fel Selina. Dos ar dy liniau o’i blaen hi eto. Ymbil am faddeuant dan ochneidio ac wylo. Mi fyddwn i wrth fy modd petaech chi’ch dau yn priodi. Rydych chi’n haeddu eich gilydd.

Exit Artenna

ALEXMi gaeais i ngheg, er gwaetha pob dim glywais i, a gadael i bawb arall siarad o fy mlaen i.

Fûm i’n ddigon disgybledig? Gaf i ddweud gair neu ddau nawr?

SELINACei, Alex, a mwy. Mae gen ti le i gwyno ac i edliw. Rydw i’n dirmygu’r lleill, ond mi wnes i dro gwael â thi. Roeddwn i ar fai. Dyna’r gwir. Mae beth wnes i i ti yn anfaddeuol. Mae gen ti bob hawl i nghasáu i.

ALEXAlla’i ddim, er fy ngwaetha. Pe medrwn i lethu nghariad a dy ffieiddio di, mi ‘nawn. Ond

mae nghalon i’n gwrthod ufuddhau.(Wrth Elianna a PHILIPPE)

04/12/2009

Page 47: Cariad Mr Bustle

47

Welwch chi peth mor ddifaol ydi cariad? Welwch chi fel y mae o wedi ngwanio i? Dydw i’n greadur truenus, fel pob dyn arall?

(Wrth Selina)Er mor anonest wyt ti, rydw i’n barod i anghofio beth wnest ti a beio dy wendidau a dy

ffaeleddau ar dy ienctid, a’r oes ddirywiedig rydym ni’n byw ynddi. Ond ar un amod. Un amod, Selina. Rydw i wedi cymryd llw i dorri pob cysylltiad â’r ddynolryw a mynd i fyw i fan diarffordd na ddaw’r un o’r giwed ar ei gyfyl. Rydw i am i ti ddod efo mi. Dyna dy benyd. Yr unig fodd iti wneud iawn am y llythyrau gwarthus yna. Wedyn, rhywbryd yn y dyfodol, fel

bydd y cof am y sgandal yn pylu, mi alla’i dy garu di unwaith eto.

SELINARwyt ti am imi alltudio fy hun o’r byd? Cefnu am byth ar fy nheulu a’m ffrindiau? Claddu fy

hun ynghanol rhyw anialwch gwledig?

ALEXBeth ydi’r ots am hynny os wyt ti’n fy ngharu i fel rwy’n dy garu di? Fydda’i ddim yn bodloni

pob angen a phob dyhead sydd gen ti?

SELINAMae unigrwydd yn ddychryn i ferch ugain oed. Allwn i ddim dygymod â thynged mor enbyd. Dydw i ddim yn ddigon cryf. Ond pe byddai priodi yn ddigon i dy fodloni di, mi

fyddwn i’n fwy na balch o wneud hynny, Alex.

ALEXNa. Rwy’n dy gasáu di’n fwy nag erioed am wrthod y waredigaeth gynigiais i iti. Dyma’r bradychiad gwaethaf un. Gan na elli di ngweld i fel unig ffynhonnell dy lawenydd, fel y

byddwn i’n dy weld di, mae’n well gen i fyw hebddot ti. Mae pob dim ar ben rhyngom ni, Selina. Am byth.

Exit Selina. Mae Alex yn cyfarch Elianna.

Rwyt ti mor wahanol iddi hi, Elianna. Yr un mor hardd, harddach, os rhywbeth, ond yn onest a didwyll. Ac er fod gen i’r parch mwyaf atat ti, wnei di faddau imi, os gweli di’n dda, am beidio â gofyn iti mhriodi i? Dydw i ddim yn deilwng ohonot ti. A beth bynnag, rydw i’n dechrau meddwl nad ydw i’n gymwys i fod yn wr priod i’r un ddynes. Paid â bod yn rhy

siomedig. Byddet ti’n iselhau dy hun wrth fy mhriodi i Yn enwedig a minnau newydd gael fy ngwrthod ganddi hi.

ELIANNAGwna di fel y mynni di, Alex bach, heb boeni amdanaf i. Dwyf i ddim ar dân i briodi neb, ond petai’r bywyd sengl yn mynd yn ormod o benyd imi, efallai y byddai di ffrind di’n ei

liniaru...?

PHILIPPEByddai hynny’n gwireddu dyhead dyfnaf fy nghalon, Elianna.

ALEXGobeithio y teimlwch chi fel hyn at eich gilydd hyd byth. Welwch chi mona i eto. Mae pawb yn fy nghasáu i. Pawb yn f’erbyn i. Rydw i’n mynd. Yn mynd o bydew aflan cymdeithas a baich aruthrol o anghyfiawnder a gorthrwm ar fy nghefn, i chwilio am loches yn unigrwydd

04/12/2009

Page 48: Cariad Mr Bustle

48

bwthyn anghysbell lle gall dyn fyw’n rhydd ac yn anrhydeddus, heb lychwino ei gydwybod na’i egwyddorion.

Exit Alex

PHILIPPETyrd, Elianna. Mae’n rhaid inni wneud popeth allwn ni i’w achub o rhag ei

ynfydrwydd diweddara.

Derfydd comedi Molière yma eithr yn nghynhyrchiad diweddar Theatr Genedlaethol Cymru, a gyfarwyddwyd gan Judith Roberts, gwelwyd Alex yn dychwelyd i’r llwyfan ac yn curo ar ddrws salon Selina. Roedd hynny’n meirioli yr hyn a alwodd Saunders Lewis yn ‘weledigaeth go chwerw’ Molière ond o ddiweddaru’r gomedi i’r ugeinfed ganrif credaf fod diweddglo mwy gwamal yn fwy cydnaws â’r cyfnod.

04/12/2009

Page 49: Cariad Mr Bustle

04/12/2009

Page 50: Cariad Mr Bustle

04/12/2009