eglwys bresbyteraidd cymru cariad yr adfent...o gariad y dylai cristnogion ei fynegi tuag at ei...

8
Roedd gan y Groegiaid nifer o wahanol eiriau i fynegi gwahanol fathau o gariad. Geiriau megis ‘philia’, ‘eros’, ‘storge’ a ‘philanthropia’. Gair cwbl unigryw i Gristnogion cynnar yw ‘agape’ sy’n dynodi cariad anhaeddiannol Duw tuag atom a’r math o gariad y dylai Cristnogion ei fynegi tuag at ei gilydd a’u cyd-ddynion yn ddiwahân. Cariad agape yw holi am les pobl eraill ac ymddwyn yn dda tuag atynt beth bynnag yw eu hagwedd tuag atom ni. Hyd yn oed os ydynt yn ddifrïol tuag atom yn dangos trais tuag atom neu yn ein gormesu mewn unrhyw ffordd, nid yw agape yn caniatáu i ni feddwl am ddial neu i feithrin digofaint. Yn ôl y diweddar Barch Ddr. Elfed ap Nefydd Roberts, ‘Nid i fyd teimlad y perthyn y cariad hwn ond i fyd ewyllys a bwriad.’ Wrth inni ddathlu’r Adfent a’r Nadolig, rydym yn ymwybodol iawn o’r lle mae cariad Duw yn ein harwain. Cariad ydyw sy’n dechrau cyn bod preseb o dan y sêr di-rif, ond sydd yn ein harwain, yn anochel, at haul garw canol dydd a ddisgleiria ar y Groes ar adeg y Pasg. Wrth gwrs, mae Duw, yn gwybod hyn, ond nid yw’n ceisio cilio rhag y boen a ddaw. Down i weld mesur cariad Duw yn ei barodrwydd i roi’n hunanaberthol. Derbyniwn, y rhodd werthfawrocaf ganddo, sef ei Fab ei hun, gan wybod na werthfawrogir, nad anrhydeddir, ac na chydnabyddir ei rodd gennym weithiau. Serch hynny, nid yw Duw yn edifarhau nac yn atal ei agape tuag atom, gan fod y cariad rhad a rhydd ganddo yn arwain ei blant i’w cartref tragwyddol. Pris enfawr yw maint ei gariad, pris sydd y tu hwnt i bob mesur. Rhodd y Nadolig yw bod Duw yn gwybod y gost a ddaw oherwydd ei gariad ond nid yw’n meddwl ddwywaith. Poena Duw gymaint am ei bobl. Mae’n anfon y rhodd orau sydd ganddo. A’r rhodd orau yw Crist, y sypyn o gariad wedi’i rwymo, nid mewn cewyn glân, gloyw ond mewn cadachau; nid mewn plasty crand ond mewn stabl ym Methlehem. Dyma’r rhodd a wna i’r angylion ganu, y bugeiliaid i adael eu praidd, y doethion i deithio o bell i’w addoli a’i glodfori. Dyma rodd sy’n parhau i’n bendithio ni hyd heddiw. Cariad diddiwedd a diatal yw cariad Duw. Cawn ein sicrhau gan y Salmydd bod Duw yn ddiysgog yn ei ddefosiwn a’i ffyddlondeb. Mae’r cyfamod hwn yn ein hatgoffa o adduned priodas. Mae’r addewid dwyfol yn berffaith ac yn ddigyfnewid i fod yn ffyddlon ‘hyd oni wahaner ni gan angau.’ Nid cariad amodol na gofalus mo hwn. ‘does dim Pre-nuptual contract’ yma. Cariad diddiwedd, heb ffiniau, na ellir mo’i rwystro na’i wahardd yw cariad Duw. Mae Duw yn barod i aberthu’i hun yn Iesu Grist dros fyd anwadal a di-werth. Dyma’r hyn a wna Duw yn ei gariad tuag atom: sef cynnig yr hyn sydd fwyaf gwerthfawr. Dylai ffyrnigrwydd a chryfder y cariad hwn ddwyn i gof addewid rhieni ledled y byd- os ydynt yn ei fynegi ar lafar neu beidio- pan gânt y cipolwg cyntaf ar eu CYFROL CXLVIII RHIF 50 DYDD GWENER, RHAGFYR 11, 2020 Pris 50c yn calonogi yn ysbrydoli yn adeiladu y G O LEU AD EGLWYS BRESBYTERAIDD CYMRU Sylw o’r Seidin … t. 2 • Y silff lyfrau … t. 7 • Dyma gyfarfod hyfryd iawn … t. 8 Cariad yr Adfent Gobaith Tangnefedd Cariad Llawenydd ‘dyma'r ARGLWYDD y buom yn disgwyl amdano, gorfoleddwn a llawenychwn yn ei iachawdwriaeth ...' (parhad ar y dudalen nesaf)

Upload: others

Post on 29-Jan-2021

3 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • Roedd gan y Groegiaid nifer o wahanoleiriau i fynegi gwahanol fathau o gariad.Geiriau megis ‘philia’, ‘eros’, ‘storge’ a‘philanthropia’.

    Gair cwbl unigryw i Gristnogion cynnaryw ‘agape’ sy’n dynodi cariadanhaeddiannol Duw tuag atom a’r matho gariad y dylai Cristnogion ei fynegituag at ei gilydd a’u cyd-ddynion ynddiwahân.

    Cariad agape yw holi am les pobl eraillac ymddwyn yn dda tuag atynt bethbynnag yw eu hagwedd tuag atom ni.Hyd yn oed os ydynt yn ddifrïol tuagatom yn dangos trais tuag atom neu ynein gormesu mewn unrhyw ffordd, nidyw agape yn caniatáu i ni feddwl amddial neu i feithrin digofaint. Yn ôl ydiweddar Barch Ddr. Elfed ap NefyddRoberts, ‘Nid i fyd teimlad y perthyn ycariad hwn ond i fyd ewyllys a bwriad.’

    Wrth inni ddathlu’r Adfent a’r Nadolig,rydym yn ymwybodol iawn o’r lle maecariad Duw yn ein harwain. Cariadydyw sy’n dechrau cyn bod preseb odan y sêr di-rif, ond sydd yn einharwain, yn anochel, at haul garw canol

    dydd a ddisgleiria ar y Groes ar adeg yPasg.

    Wrth gwrs, mae Duw, yn gwybod hyn,ond nid yw’n ceisio cilio rhag y boen addaw. Down i weld mesur cariad Duwyn ei barodrwydd i roi’n hunanaberthol.Derbyniwn, y rhodd werthfawrocafganddo, sef ei Fab ei hun, gan wybodna werthfawrogir, nad anrhydeddir, acna chydnabyddir ei rodd gennymweithiau. Serch hynny, nid yw Duw ynedifarhau nac yn atal ei agape tuagatom, gan fod y cariad rhad a rhyddganddo yn arwain ei blant i’w cartreftragwyddol.

    Pris enfawr yw maint ei gariad, prissydd y tu hwnt i bob mesur. Rhodd y Nadolig yw bod Duw yngwybod y gost a ddaw oherwydd eigariad ond nid yw’n meddwl ddwywaith.Poena Duw gymaint am ei bobl. Mae’nanfon y rhodd orau sydd ganddo. A’rrhodd orau yw Crist, y sypyn o gariadwedi’i rwymo, nid mewn cewyn glân,gloyw ond mewn cadachau; nid mewnplasty crand ond mewn stabl ymMethlehem. Dyma’r rhodd a wna i’r

    angylion ganu, y bugeiliaid i adael eupraidd, y doethion i deithio o bell i’waddoli a’i glodfori. Dyma rodd sy’nparhau i’n bendithio ni hyd heddiw.

    Cariad diddiwedd a diatal yw cariadDuw. Cawn ein sicrhau gan y Salmyddbod Duw yn ddiysgog yn ei ddefosiwna’i ffyddlondeb. Mae’r cyfamod hwn ynein hatgoffa o adduned priodas. Mae’raddewid dwyfol yn berffaith ac ynddigyfnewid i fod yn ffyddlon ‘hyd oniwahaner ni gan angau.’ Nid cariadamodol na gofalus mo hwn. ‘does dim‘Pre-nuptual contract’ yma. Cariaddiddiwedd, heb ffiniau, na ellir mo’irwystro na’i wahardd yw cariad Duw.Mae Duw yn barod i aberthu’i hun ynIesu Grist dros fyd anwadal a di-werth.Dyma’r hyn a wna Duw yn ei gariadtuag atom: sef cynnig yr hyn sydd fwyafgwerthfawr.

    Dylai ffyrnigrwydd a chryfder y cariadhwn ddwyn i gof addewid rhieni ledled ybyd- os ydynt yn ei fynegi ar lafar neubeidio- pan gânt y cipolwg cyntaf ar eu

    CYFROL CXLVIII RHIF 50 DYDD GWENER, RHAGFYR 11, 2020 Pris 50c

    yn calonogi

    yn ysbrydoli

    yn adeiladu

    yGOLEUADE G LW Y S B R E S B Y T E R A I D D C Y M R U

    Sylw o’r Seidin … t. 2 • Y silff lyfrau … t. 7 • Dyma gyfarfod hyfryd iawn … t. 8

    Cariad yr AdfentGobaith Tangnefedd Cariad Llawenydd

    ‘dyma'r ARGLWYDD y buom yn disgwyl amdano,gorfoleddwn a llawenychwn yn ei iachawdwriaeth ...'

    (parhad ar y dudalen nesaf)

  • Mae’n dod, mae’n dod, mae’r ’Dolig yndod!

    Hosan ’Dolig

    Tybed beth ydych chi’n cofioo’ch Nadoligau cyntaf – yr atgofcynharaf sydd gen i yw derbyncopi o record Decca, ‘Peter andthe wolf/Young person’s guideto the orchestra’, ac y mae gen io hyd mewn cyflwr ardderchog.Byddaf yn dal i wrando arnobob hyn a hyn. Yr atgof nesafsydd gen i yw newid aelwyd arnoswyl Nadolig o Delph Laneyn Leeds i Gae Esgob, ar ymynydd uwchlaw Llanberis.Roedd Delph Lane yn llecysurus, gyda gwres canologgolosg oedd yn arfer berwi achreu sfin mawr yn y peipiau obryd i’w gilydd. Roedd Cae Esgobwedyn, yn hen dª ffarm ar osod ganystâd y Faenol: lle oer ofnadwy, ac er imam fod wrthi’n ddygn yn gosod tânymhob ystafell gan gynnwys yrystafelloedd gwely roedd yna ryw iasannaearol yn gafael yn lle, a’r rhew yndrwch y tu mewn i’r ffenestri’r gaeafhwnnw. Methu cysgu, methu setlo,methu cynhesu! Ond diolch amymweliad Siôn Corn y noson honno, wiri chi, a’r arfer wedyn o osod hosan arwaelod y gwely i dderbyn afal ac oren,

    peth da i gnoi a phisyn tair neu bisynchwech wedi lapio mewn papur Doligyng ngwaelod yr hosan.

    Bydd y Dolig yn wahanol ‘lenni decini –os byw ac iach, ac os bydd Covid yncadw yn ei le cawn ryw lun o gwrddgyda’n gilydd fel teuluoedd. Ond ni fyddyr hosan eleni yn cynnwys o bosib naPhlygain, Gwasanaethau Nadolig yPlant, Cymanfa garolau na Chanu wrth

    y Goeden yng nghwmni’r band pres achyfeillion eraill. Bydd, fe fyddamrywiaeth eang o ganu carolau amyfyrdodau’r fiyl i’w cael ar y we a’rcyfryngau cymdeithasol i’n diddanu a’nhelpu i addoli wrth gofio dyfodiad Cristi’n byd. Bydd yn gyfle inni hoelio’nmeddyliau ar hanes geni’r Iesu yn yrEfengylau a chofio gwir ystyr y Nadolig.Boed i’ch hosan ‘lenni fod yn llawnaddewidion Duw, ffydd yn ei arfaeth,gobaith yn eich cerddediad a chariadanfesuradwy i’ch cynnal yn y flwyddynsy’n dod.

    ‘Ffôr Absent ffrends’

    “I ble mae Jâms ym mynd gyda hyntybed?” chwedl fy nhad yng nghyfraithgynt. Wel mi ddweda’i wrthych chi.Wedi ymweliad Sion Corn ar noswylNadolig, ac ymweld â’r Dolbadarnamser cinio Nadolig am lemonêd yngnghwmni’n nhad a f’ewyrth Frank (sefSion Corn teulu ni) byddai pawb ynymlwybro i fyny lôn Waterfall View amadre lle byddai mam wedi paratoigwledd anhygoel i bawb ohonom. Wedieistedd wrth y bwrdd mi fyddai fymodryb yn codi ei gwydr gwin ac yncynnig llwnc destun, ‘Ffôr absentffrends’. Bu hyn yn ddigwyddiadblynyddol yn tª ni er cyn co, a chyn einbod ni blant yn llawn ddeall arwyddocâdy ddefod. Ond bu’r orig yn un hyfryd oystyrlawn wedi inni ddeall am yr arfer ogofio’r rhai wrth fwrdd yr fiyl oedd ynabsennol o’n plith oherwyddprofedigaethau neu alwadau gwaith acyn y blaen. Bydd hynny yn hynod wir ynhanes llu mawr o deuluoedd ein gwladeleni wrth i’r pandemig gipio rhai o’nplith heb na chyfle i gynnig ymgeledd,cysur na ffarwel mewn pryd. Bydd yNadolig iddynt hwy yn wahanol iawn

    eleni decini, ond fe all myfyrio ar y Gair,a geiriad ambell garol ddwyn cysur yneu colled a chynhesrwydd atgofion nôli’r galon.

    Un o’m hoff garolau yw ‘Tua BethlehemDref’ a’r fersiwn ohono a gyflwynir gangorau Ysgol Glan Clwyd. Mae’n garolhyfryd, ac y mae’r sain berffaith yn fynghludo yn fy meddwl yn ôl i Fethlem, iryfeddod mangre stori’r geni sy’n

    cyffwrdd fy nghalon, yn llenwify hosan Nadolig ac ynf’atgoffa er i’r Iesu gael eigymryd i fyny i’r nef ar yDyrchafael, iddo addo ybyddai’n dod nôl rhyw ddydd.

    ‘Mae’n dod, mae’n dod mae’rbrenin yn dod!’ Ydy wir fel y buyn ein doe, fel y bydd eto’nein hyfory, ac fel y mae ynwastadol yn ein heddiw fel agerioed. Boed frenin yr hollfydddod yn ei holl ogoniant i blithoedfa ein hadfyd – byd yCovid19 er symud ein penyda’n pwn.

    ‘Ei ras, O derbyniwn, ei haeddiantcyhoeddwn

    A throsto ef gweithiwn i gyd!’

    2 Y Goleuad Rhagfyr 11, 2020

    plentyn newydd ei eni. Yn yr eiliadhonno, daw’r adduned nerthol, ‘Byddafyno i ti bob amser, o dan bobamgylchiad, doed a ddelo.’ Ffurfircwlwm na ellir ei dorri. Mae’nffyrnigrwydd sy’n debyg i deigr neu famarth – byddaf yn ymladd drosoch chihyd yr eithaf, os oes angen. Byddaf yneich amddiffyn gyda fy holl ysbryd, fymywyd a’m gwaed.

    Er bod y cariad hwn yn ceisio amddiffynac yn addo na fydd byth yn cefnu, nidyw, ac ni all addo atal unrhyw berygl,colled neu straen. Bydd yna elynion arhai drygionus sydd am niweidio. MaeDuw yn addo na fydd terfyn byth ar eigariad ac ni all unrhyw ddrygioni eidrechu. Nid llwybr euraidd, yn rhydd obob poen neu ofid, yw, ond cyfeiliantffyddlondeb ar hyd taith ansicr. Addewido gariad diysgog, cryf a chywir ydyw.Cariad y medrwn ddibynnu arno doed addelo.

    Parch Ian Sims,Llywydd y Gymdeithasfa yn y De

    Cariad yr Adfent(parhad)

    Sylw o’rSEIDIN

    Llun gan Dan LeFebvre ar Unsplash

    ‘Buom yn disgwyl …’

    ‘Dyma’r ARGLWYDD y buom yn disgwylamdano,

    gorfoleddwn a llawenychwn yn eiiachawdwriaeth.’

    Eseia 25

    Yn nyfodiad cyntaf Crist yr Arglwydd,daeth Mab Duw a’n Duw ni, mewndinodedd disylw. Bydd ei ail[ymddangosiad] yn agored yn weladwyi’r holl fyd. Pan ddaeth mewn dinodedd,nid adnabu neb mohono heblaw am eiweision ei hun. Pan ddaw yn agoredcaiff ei adnabod gan ddau, y da a’rdrwg fel ei gilydd. Awstin Sant

  • Rhagfyr 11, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 3Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

    Gwers 23

    Adfent 2: Y Bugeiliaid

    GweddiArglwydd, byddwn wedi clywed ydarlleniadau Beiblaidd mewn oedfaonNaw Llith a Charol droeon, ac eto dawrhyw air neu frawddeg yn fwy byw nagarfer. Caniatâ i ni wefr debyg eleniwrth wrando ar yr hen, hen stori syddo hyd yn newydd. Diolch am hanesy bugeiliaid, a gweddïwn dros bawbsy’n gweithio dros ddyddiau’r fiyl.Amen

    DarllenLuc 2: 8–15

    CyflwyniadBydd y sawl a astudiodd rywfaint arlenyddiaeth yr Efengylau wedi clywedam yr amrywiol ffynonellau addefnyddiwyd gan yr efengylwyr wrthlunio’u gwaith. Roedd rhai ffynon -ellau’n gyffredin ac eraill oedd ynddefnyddiau personol. Yr hyn sy’nddifyr yw eu bod yn rhoi pwyslaisgwahanol, gyda Luc yn arbennig ynymwybodol o bwysigrwydd gwragedd aphobl werinol. Ef sy’n sôn am ybugeiliaid yn ymweld â Bethlehem, abod pobl y dref yn dathlu genedigaethIesu. Nid y bonedd ond y gwrêng, nid ydysgedig ond y cyffredin, nid y sawl afyddai’n golchi eu hunain yn selog, ondbugeiliaid y llethrau, na fyddai’n caelcyfle i fynychu synagog, heb sôn am ydeml yn Jerwsalem. Byddai’r sôn ymaam weithwyr cyffredin yn help igaethweision Rhufain, ddiwedd y ganrifgyntaf, deimlo eu bod hwythauhefyd yn werthfawr yng nghwmni’rEglwys. Y bugeiliaid glywodd y geiriau

    mawreddog a llachar (ar gân o ganolgoleuni yn yr awyr): ‘Ganwyd i chwiheddiw Geidwad yn ninas Dafydd, yrhwn yw Crist yr Arglwydd’ (Luc 2:11BWM). Eu hymateb hwy oedd gadaeleu praidd a mynd i weld y baban. Niwnaethant bwyllo a gofyn a oeddent ynbreuddwydio neu wedi gorflino, ondderbyn y neges ac ymateb ar eu hunion.Dyna fyddai Luc am i’r sawl a glywoddbregethu’r Eglwys ei wneud – nidcynnal pwyllgor ac ystyried, ond derbyn

    y datganiad a cheisio Iesu. Yr un yw eingobaith heddiw, sef y bydd pobl yngwerthfawrogi pwysigrwydd ydystiolaeth a derbyn ei bod ynberthnasol iddynt.

    Myfyrdod Arferai Dewi Watcyn Powell ddweudmai diwinyddiaeth oedd brenhines ygwyddorau, ac mae’n wir fod llaweriawn wedi ei ysgrifennu a’i gyhoeddiam yr ystod eang o agweddau argrefyddau yn gyffredinol ac amGristnogaeth yn benodol. Perygl pobcrefydd yw pwysleisio’r deallusol ardraul yr ysbrydol. Newyddion da i’wcyhoeddi a’u credu yw crefydd, nidcyfundrefn academaidd i’w deall a’igosod fel cyfundrefn ddeddfol. Yng nghoridorau academia, ni fyddai

    gan y bugeiliaid llwm, di-addysg fawri’w gynnig, ond ar y llwybr i lawr iFethlehem, dringasant i dir uchelprofiadau ysbrydol. Cawsant brofillawenydd arbennig o weld Iesu aderbyn fod Duw ar waith yn eu hamserhwy. Tri degawd yn ddiweddarach,

    clywodd pysgotwyr cyffredin, garw eudwylo, yn gwisgo dillad ac oglaupysgod drostynt, eiriau yn eu gwahodd ifod yn ‘bysgotwyr dynion’. Degawdauyn ddiweddarach byddai caethweisionfel Onesimus yn dathlu’r newyddion dahyn, ac yn derbyn Iesu fel Arglwydd eifywyd. Felly y bu stori’r eglwys ardraws y cyfandiroedd a’r canrifoedd:fod y werin yn cydnabod Iesu fel‘ffordd, gwirionedd a bywyd’ euheinioes hwy. Nid nad oedd y boblddysgedig yn derbyn yr Efengyl hefyd(roedd Luc ei hun yn feddyg) ac fewnaeth Ymherawdr yr YmerodraethRufeinig droi’n Gristion yn ybedwaredd ganrif. (Cystennin oedd ycyntaf a Theodosius 1 wnaethCristnogaeth yn brif grefydd yrymerodraeth yn 380 OC.)Wrth gwrs bod angen cofleidio’r

    Efengyl â’n deall, ond nid ar draul yrymateb agored a didwyll sy’n rhyfedduat y ffaith fod Duw yn ein caru cymaintfel ei fod yn agor drws gobaith iddynion gael o’i gwmni Ef a derbynbywyd newydd ganddo. Nid oes angendeall ffiseg a mecanwaith car cyn eiyrru, na bod yn feistri ar fywydeg cynbwyta a byw. Nid crefydd sy’n gofynam gof da yw Cristnogaeth, ondymddiriedaeth i droi at Dduw a dilynIesu fel Arglwydd ac arweinydd einbywyd. Cydlawenhawn.

    GweddiDiolchwn, nefol Dad, am dy groeso Di ibawb yn ddiwahân. Gweddïwn y byddpobl o bob llwyth, gwlad ac iaith ynprofi gwefr a llawenydd newydd wrthglywed yr hanes am Iesu yn cael eigyhoeddi eto’r Nadolig hwn, ergwaethaf pob cyfyngiad, a’r carolau’ndal i ddweud amdano er na chawn eucanu yn ôl ein harfer. Amen.

    Trafod ac ymateb

    • Faint o galondid yw cofio mai ifugeiliaid garw, cyffredin, ycyhoeddwyd y Newyddion Dagyntaf am eni Gwaredwr yn nhrefDafydd?

    • Meddyliwch am y sgwrs rhwng ybugeiliaid wedi i’r angylion fynd ynôl i’r nef. Beth oedd y cymhelliadmwyaf i fynd mor sydyn i Fethlehem(adnod 15)?

    • A fyddem ni mor barod i ymateb,tybed, ac a ddisgwyliwn i eraill fodmor barod i ymateb i’r NewyddionDa o’u rhannu efo nhw?

    • A oes mwy o barodrwydd i wrandoar y Newyddion Da y dyddiau hynpan fo cynifer o bobl gyffredin ynchwilio am obaith?

    Adnabod Cymeriadau’r Testament Newydd –Yr Efengylau

    Cyfres o astudiaethau Beiblaidd ar gyfer y cartref neu grfipgan y Parch. Denzil I. John

    Mae testun a chyflwyniad fideo o’r deunydd hwn ar gael ar wefany Cyngor Ysgolion Sul: https://www.ysgolsul.com/?page_id=804

    Y cyhoeddi i’r bugeiliaid.Fresco gan Taddeo Gaddi yn BasilicaSanta Croce, Florence, a beintiwyd

    rhwng 1332 a 1338.(Llun: parth cyhoeddus, Wicipedia)

  • Annwyl Frodyr a Chwiorydd yngNghrist,

    Ynghanol cyfnod ofnus a chythryblus ycoronafeirws, lle mae llawer o eneidiaugwerthfawr wedi ein gadael, mae ynagysur a gobaith i ddilynwyr yr Iesudrwy ddarllen addewidion a thrysorauSalm 23, ‘Yr ARGLWYDD yw fymugail’.Pwrpas y gyfrol newydd hon, “Efe a

    Ddychwel fy Enaid”, yw edrych ynfanwl ar un o’r Salmau mwyafadnabyddus yn yr Hen Destament, acyn sicr un o’r rhai mwyaf cysurus yn yBeibl. Salm weddol fer o chwe adnodyw Salm 23, ac mae wedi eihysgrifennu o safbwynt y ddafad gan yBrenin Dafydd tua thair mil oflynyddoedd yn ôl. Er i Dafyddysgrifennu’r salm amser maith yn ôl,

    mae’n llawn mor berthnasol i’r oes honac yn gallu, drwy iddynt ddod i adnabody Bugail, adfer eneidiau’r rhai sy’nteithio drwy amseroedd tywyll ‘glyncysgod angau’.Dyma ddadansoddiad diwinyddol o’r

    salm gan Gristion sy’n byw mewncymdeithas seciwlar. Trwy fyfyrio ar ychwe adnod yn y salm, a thrwyddefnyddio ffynonellau ysgrythurol,mae’r awdur yn ceisio esbonio’rddiwinyddiaeth sydd ynghlwm â’raddewidion a’r trysorau a geir yn y salmamhrisiadwy yma. Mae’r awdur hefydyn ceisio esbonio sut mae’r geiriau’ngallu bod yn berthnasol i fywyd bobdydd dilynwyr Iesu. Mae’r salm yncynnig dewis arall i feddyginiaethgwrth-bryder, hyd yn oed petai einbywydau’n ddibryder.Mae Salm 23 yn salm ar gyfer yr oes

    hon – oes y ‘Cloi i Lawr’ lle mae pobldrwy gyfnod o ynysu yn byw mewn ofnac ansicrwydd oherwydd ycoronafeirws. Oes ddigynsail, lle mae’rrhan fwyaf o ddrysau addoldai ledled

    tudalen 4 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Rhagfyr 11, 2020Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

    Cynhyrchwyd adnoddnewydd rhyng weith -iol, addas ar gyferplant 5 i 11 oed, ganScripture Union argyfer y Nadolig hwn.Mae ar ffurf helfadrysor ar gyferteuluoedd ac yndefnyddio codau QRy gellir eu sganio arffôn glyfar er mwyncael mynediad atgyfres o fideos syddyn adrodd stori’rNadolig, yn ogystal âdatrys pos.Mae’r gweith -

    garedd wedi eigynllunio er mwyn iblant gael hwyl wrtharchwilio, mynd am dro a rhannu eu syniadau am stori’r Geniwrth fynd. Dewch o hyd i’r codau QR ac yna eu sganio iddarganfod gwir ystyr yr fiyl. Dyma adnodd sy’n hyblyg argyfer ei ddefnyddio mewn cyd-destunau amrywiol: o gwmpaseich cymuned, fel gweithgaredd dosbarth yn yr ysgol, ar gyferychydig o deuluoedd dros Zoom ac ati. Mae’n hawdd i’w osodi fyny yn unrhyw fan: o gwmpas adeilad eglwys neu ysgol, neuallan yn yr awyr agored. Gellir sganio codau QR yn hawddoddi ar y rhan fwyaf o ffonau bellach drwy gymryd llun o’rcod. Mae’r pecyn cyfan ar gael yn Gymraeg o ddilyn y ddolen.

    Hwyl ar y chwilio!

    https://content.scriptureunion.org.uk/resource/search-christmas-welsh-version

    Helen FranklinYsgogydd Cenhadol Gogledd CymruScripture Union

    Chwilio am y NadoligTaith Nadolig Ryngweithiol

    “Efe a Ddychwel fy Enaid”–Astudiaeth o Salm 23

    (parhad ar y dudalen nesaf)

  • Rhagfyr 11, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 5Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

    Mae aelodau tîm Cymorth Cristnogolyng Nghymru yn bwriadu cwblhau herbersonol yn ystod yr Adfent er mwyncodi arian tuag at Apêl Nadolig yrelusen.Yn rhan o’r apêl ceir stori Kawite o

    Ethiopia, gwraig y mae ei bywyd wedi eidrawsnewid gan bwll dfir newydda adeiladwyd yn ei phentref gydachefnogaeth partner CymorthCristnogol. Cyn hynny, roedd yn rhaid iKawite gerdded am bum awr y dydd ichwilio am ddfir – ymdrech galed ermwyn gofalu am ei theulu, ei da byw a’ichnydau.Meddai Cynan Llwyd, Pennaeth

    Gweithredol Cymorth Cristnogol yngNghymru, ‘Mae bywyd pobl yn rhai ogymunedau tlotaf ein byd yn gwaethyguwrth i effaith yr argyfwng hinsawddgynyddu. Maent yn gorfod ymdrechumor galed jest i oroesi. Bydd tîm Cymruyn ymgymryd â her bersonol yn ystod yrAdfent fel arwydd bach o’r ymdrech

    hon. Ry’n ni’n gobeithio y bydd eincefnogwyr yn ein noddi ac y codwn niswm da tuag at Apêl y Nadolig.’Mae pob aelod o’r tîm am gyflawni

    her wahanol. Bydd Llinos Roberts yncerdded pum milltir bob dydd am saithdiwrnod. Ar ei feic y bydd Tom Defiswrthi – a hynny am bum awr drwy’r

    cyfnod. Am redeg 10 km y mae DyfedWyn Roberts, tra bod Helen Roach amgerdded o amgylch ei hardal yngNghaerdydd yn gwneud siapiauNadoligaidd trwy ddefnyddio ap Strava.Hepgor y cyfryngau cymdeithasol ar eiffôn am gyfnod o bythefnos fydd herMiriam Watling. Bydd Cynan ei hun aNathan Munday yn seiclo a rhedeg arhyd Camlas Mynwy a Brycheiniog,35 milltir o hyd.Ychwanegodd Cynan, ‘Ry’n ni i gyd

    yn edrych ymlaen at ein heriau personol.Cofiwch edrych ar ein cyfrif Facebookneu Drydar er mwyn gweld ein cynnydd.Ac wrth gwrs, mae croeso mawr iunrhyw un arall ymuno â ni yn yr her,cyn belled â’ch bod chi’n gwneud hynnyyn unol â’r rheolau Covid sydd ymlaenar y pryd.’Gallwch noddi’r tîm trwy

    dudalen JustGiving yr Antur:https://www.justgiving.com/fundraising-edit/heryradfent

    Antur yr AdfentTîm Cymorth Cristnogol yn codi arian i’w Hapêl Nadolig

    Kawite yn eistedd wrth ymyl y pwllsydd wedi newid cymaint ar ei bywyd

    Cymru wedi eu gorfodi i gau o danorchmynion llywodraeth gwlad. Oeslle’r ymddengys bod ofn mawr yranweledig ar yr Eglwys Gristnogol yngNghymru, ac wedi ei chynhyrfu a’ihaflonyddu, a’i herio cymaint gannewidiadau newydd erchyll fel nawelwyd ers cyfnod erledigaeth cynnaryr Eglwys Fore. Oes lle maecymunedau crefyddol yn canfod euhunain ar yr ymylon oherwydd eucrefydd. Yn wir, mae lle i gredu bodcrefydd yn yr unfed ganrif ar hugain ynrhywbeth i’w oddef a’i anwybyddu ganlawer bellach. Mae’r salm hon yn galluein harwain at borfeydd gwelltog,dyfroedd tawel, a derbyn maeth yn eilawnder i’r corff ac adferiad tragwydoli’r enaid gan y Bugail Da.Gobeithio, ar ôl darllen y gyfrol, y

    byddwch nid yn unig yn dod i adnabody salm yn well, ond hefyd yn dod iadnabod yr Arglwydd fel eich Bugailpersonol.Mae’r gyfrol i’w chael yn

    uniongyrchol gan yr awdur neu siopauCymraeg lleol am bris o £6.95 neu am£8.95 trwy’r post. Fe fydd yr elw o’rgwerthiannau yn mynd tuag at GrfipCristnogol Gofal Canser ArdalConwy. Mawr obeithiaf y byddwch yngallu cefnogi’r astudiaeth hon, a’r un

    pryd yn cefnogi amcanion Cristnogol yGrfip Canser hefyd.Cadwch yn ddiogel, a phob bendith i

    chi i gyd.

    Yn Ei Wasanaeth,

    Owen Robert Morris(Aelod o Gapel Horeb, Bae Colwyn, aChadeirydd Grfip Cristnogol GofalCanser Ardal Conwy)

    Er mwyn archebu yn uniongyrcholgan yr awdur ac am fanylion talu,cysyllter trwy un o’r dulliau hyn:

    e.bost: [email protected]ôn: 075057031105 Heol Oxwich, Mochdre, Bae Colwyn,Conwy, LL28 5AG.

    Astudiaeth o Salm 23(parhad)

    Sul, 13 Rhagfyr

    Dechrau Canu Dechrau Canmolnos Sul, am 7:30yh

    Yr wythnos yma Lisa fydd ym mhentrefPortmeirion yn dysgu mwy amdraddodiadau’r Nadolig. Cawn gydganucarolau o dan arweiniad Pat Jones.––––––––––––––––––––––––––––––

    Oedfa Radio Cymru13 Rhagfyr am 12:00yp

    yng ngofalRhys Llwyd, Caernarfon –

    yn Jerusalem

  • tudalen 6 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Rhagfyr 11, 2020Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

    Mae ffigurau newydd a gyhoeddwyd fis Tachwedd(https://www.trusselltrust.org/news-and-blog/latest-stats/mid-year-stats/) yn datgelu fod banciau bwyd ynrhwydwaith Trussell Trust ar draws Cymru wedidarparu 70,393 o barseli bwyd i bobl yn wynebuargyfwng rhwng Ebrill a Medi eleni. Aeth 25,475 o’rparseli hyn i blant. Mae’r niferoedd hyn yn gynnydd o21% ar yr un cyfnod llynedd. Cawsant eu dosbarthugan 117 o ganolfannau ymhob un o 22 awdurdod lleolCymru. Mae rhwydwaith banciau bwyd Trussell Trust yn

    dwyn ynghyd wirfoddolwyr, staff a chefnogwyr o bobffydd a chred i wneud gwahaniaeth. Mae eglwysi lleolyn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith, trwy roi bwyda darparu lleoliadau, gwirfoddolwyr a chefnogaethariannol i’r banciau bwyd.Tra bod y rhifau’n dangos yr angen cynyddol, mae

    Trussell Trust yn rhybuddio nad ydynt yn cynnwys ybobl a gafodd help gan fudiadau cymunedol newydddi-ri, banciau bwyd annibynnol ac awdurdodau lleol,sydd wedi camu i’r adwy yn ystod y pandemig igefnogi eu cymunedau. Y tri phrif reswm i rywun gaelei gyfeirio at fanc bwyd lleol yn rhwydwaithTrussell Trust yng Nghymru rhwng Ebrill a Medioedd incwm isel (49%), oedi gyda budd-daliadau(10%) a newidiadau i fudd-daliadau (8%).Meddai Susan Lloyd-Selby, Rheolwraig WeithredolCymru gyda Trussell Trust, “Ledled Cymru, maedyfalbarhad ein gwir foddolwyr wedi bod yn gwblragorol. Maent wedi bod yn gweithio’n galed o danamgylchiadau anodd dros ben i sicrhau bodcefnogaeth ar gael i bobl sy’n ei chael hi’n anodd ifforddio hanfodion bywyd, gyda chefnogaeth hael eucymunedau lleol. Ond nid yw’n iawn bod unrhyw unohonom ni’n cael ein gorfodi i fynd at elusen er mwyncael bwyd. “Yn ystod y misoedd diwethaf, rydym wedi

    croesawu’r camau hanfodol a gymerwyd ganLywodraeth Cymru i atal pobl rhag cwympo iamddifadedd megis eu hymrwymiad i ariannu prydauysgol am ddim a chryfhau’r Gronfa Cymorth Dewisol(https:// l lyw.cymru/cronfa-cymorth-dewisol-d a f ? _ g a = 2 . 1 7 2 7 9 7 7 3 1 . 1 2 4 6 9 2 8 8 2 5 . 1 6 0 6 1 3 8 3 3 8 -1091050911.1599566111). Mae’n hanfodol bod cefnogaeth argael i bobl pan fydd ei angen fwyaf arnynt. “Mae’r pandemig hwn wedi taflu goleuni ar y gwahaniaeth a

    wnawn trwy ddod at ein gilydd – rydyn ni wedi gwneudnewidiadau enfawr i’r ffordd rydyn ni’n byw, yn gweithio achefnogi ein gilydd. Gyda’n gilydd, gallwn roi diwedd ar yranghyfiawnder sy’n golygu fod pobl angen banciau bwyd. Gallwnadeiladu dyfodol heb newyn.” Ar draws y Deyrnas Unedig, bu cynnydd mwy nag yng

    Nghymru yn y defnydd o fanciau bwyd Trussell Trust – 47%.Fe all fod hyn yn adlewyrchu polisïau gwahanol yng Nghymrua maintioli’r ymateb cymunedol. Ond mae Trussell Trust yndweud i’r defnydd o fanciau bwyd godi’n gyson yng Nghymru ersmis Awst, ac maent yn poeni y gwelir lefelau uchel o angen drosy gaeaf a’r tu hwnt – yn enwedig gyda diswyddiadau ynuwch nag erioed. Maent yn gofyn i unrhyw un sydd am welddiwedd ar yr anghyfiawnder sy’n peri bod angen banciau bwydar bobl i ymuno â’r ymgyrch Hunger Free Future yn CefnogiTrussell Trust (http://www.trusselltrust.org/hungerfreefuture)Mae’n gofyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig sicrhau cadw

    arian ym mhocedi’r rhai sydd ei angen fwyaf trwy wneud ycanlynol:

    • parhau â’r cynnydd o £20 yr wythnos yn y Credyd Cynhwysola gyflwynwyd ar ddechrau’r pandemig, a sicrhau fod y sawlsydd ar hyn o bryd wedi eu heithrio rhag hynny, megis pobl sy’ndefnyddio’r hen drefn fudd-daliadau, hefyd yn derbyn yr arianhwn; • helpu pobl i ddal gafael ar fwy o’u harian trwy atal didynnudyledion o fudd-daliadau hyd nes y gellir cyflwyno trefn decachar gyfer eu had-dalu.

    Mae clymblaid o fudiadau ar draws Cymru wedi ffurfioSynnwyr Bwyd Cymru (https://www.foodsensewales.org.uk/)sy’n ymgyrchu am well bwyd i bawb ar draws y wlad, yn ystod ypandemig a’r tu hwnt.

    (Datganiad i’r wasg gan Ymddiriedolaeth Trussell.Ymddangosodd yn Bwletin Polisi Cytûn, Rhagfyr 2020)

    Y PANDEMIG YN CYNYDDU’R GOFYN AR FANCIAU BWYD

    NIFER Y PECYNNAUBWYD ARGYFWNGA RANNWYD GAN

    YMDDIRIEDOLAETHTRUSSELL RHWNGEBRILL A MEDI 2020

    Nifer yn y DU

    Cyfeiriad Golygydd Y PEDAIR TUDALENHuw Powell-Davies

    neu Llifor, 60 Ffordd Rhuthun, Yr Wyddgrug, CH7 1QH

    Anfonwch eich erthyglau, hysbysebion a.y.y.b. i’r cyfeiriad uchod.

    [email protected]

    Yr Alban

    Gogledd Iwerddon

    Cymru

    De-orllewin Lloegr

    Dwyrain Lloegr

    De-ddwyrain Lloegr

    Llundain

    Gogledd-ddwyrainLloegr

    Gogledd-orllewinLloegr

    Swydd Efrog aHumberside

    Dwyrain CanolbarthLloegr

    GorllewinCanolbarth Lloegr

  • Deng mlynedd ar hugain yn ôl lansiwydgan Adran Astudiaethau BeiblaiddPrifysgol Sheffield gyfres o gyflwyniadau ilyfrau’r ddau Destament. Eu bwriad oeddcyflwyno rhagarweiniad i gynnwys llyfrarbennig; arolwg cytbwys o’r prifbroblemau beirniadol; rhoi sylw i agweddaullenyddol, hanesyddol, cymdeithasegol adiwinyddol arnynt; cynnig awgrymiadauynglªn â’r modd y gallai’r llyfr fod ynberthnasol i ddarllenwyr cyfoes; ac, yn olaf,eu cyfeirio at weithiau safonol drwy baratoillyfryddiaethau gyda sylwadau arnynt.Erbyn hyn cyhoeddwyd mwy nag un gyfrolar amryw o’r llyfrau Beiblaidd gan fodangen parhaus i baratoi’r wybodaethddiweddaraf ar gyfer y darllenwyr. Un o’rcyfrolau hynny sydd gennym dan sylw y trohwn, sef yr un ar Efengyl Ioan ganFrancisco Lozada, jr.

    Dengys ei his-deitl ei bod wedi’i ysgrifennuo safbwynt arbennig, sef un yn seiliedig arastudiaethau cymdeithasegol ohoni:

    John: An Introduction and Study Guide:History, Community and Ideology, ac fe’icyhoeddir bellach o dan faner gwasgarall fel ‘T.& T. Clark Guides to the NewTestament’ (2020, £16.99).

    Mae’r awdur yn awyddus i ofyn cwestiynauynglªn â’r modd yr ydym yn dehongliEfengyl Ioan a sut yr ydym am ddefnyddio’rcasgliadau y down atynt. Mae’n dechraudrwy drafod ei chefndir hanesyddol gan einrhybuddio bod y modd y gwnawn hynny’naml yn datgelu mwy am y sawl sy’n ceisiogwneud hynny nag am gyd-destun yrEfengyl ei hun. Yna eir ati, fel sy’n arferoliawn erbyn hyn, i’w thrafod fel cyfanwaithllenyddol. Cytuna â rhai ysgolheigionblaenllaw eraill mai’r motif o siwrnai a ryddstrwythur i gynllun y llyfr ac mai’r hyn sy’nei lywio yw’r cwestiwn o adnabod neu fethuadnabod Iesu. Rhennir yr efengyl yn dair:gelwir y gyntaf, sef pennod 1, adn.1-18 (yrhan y byddem yn arfer ei galw yn Brolog),yn ‘Adroddiad am Ansefydlogi’, h.y. wrthgyflwyno’r Gair yn Fab Duw sy’n gorfodi’rbyd i benderfynu o’i blaid neu yn ei erbyn.Deuoliaeth, felly, sy’n ei hamlygu ei hun yny byd.

    Gelwir yr adran a ystyria’r un fwyaf yn yrefengyl (1.19-17.26) yn ‘Adroddiad amDeithio neu Groesi’, ac fe’i dosberthir ibedwar cylch: ynddynt disgrifir Iesu’ntramwyo yn ôl a blaen rhwng Galilea a

    Jerwsalem (1.19-10.42) cyn iddoymgymered â’i daith olaf i Jerwsalem(11.1-17.26). Ar ei hyd cyflwynir nifer oolygfeydd pryd y ceir cyfle i wahanolgymeriadau adweithio i Iesu gyda rhai’n eigydnabod, eraill yn ei wrthod, a rhai yn fwyamwys eu hymateb iddo. ‘Adroddiad amAilsefydlu’ yw’r enw a roddir i benodau olafyr efengyl. Cychwynnodd y daith yn y bydoddi uchod ac yno y mae’n dychwelyd ar ydiwedd.

    Ym mhennod tri estynnir y drafodaeth aragweddau llenyddol yr efengyl drwy roisylw arbennig i’r modd y caiff gwahanolbobl a phethau eu cymeriadu ynddi, ganddechrau gyda’r ‘Iddewon’. Enynnodd yrenw hwn a’r defnydd ohono yn EfengylIoan gryn ddadlau dros y canrifoedd acmae’r awdur hwn yn cydnabod yranawsterau a gaiff ef ei hun gydag ef. Ynarhoddir sylw arbennig i’r gwragedd addarlunia: mam Iesu, y wraig o Samaria, ywraig a ddaliwyd mewn godineb (er naystyrir yr adran hon, 7.53-8.11, yn arferolyn rhan wreiddiol o Efengyl Ioan), Mair aMartha o Fethania, a Mair Magdalen.Tuedda esboniadau Lozada i fod yn rhaipositif ohonynt.

    Ystyrir ‘y byd’ hefyd yn gymeriad ac y maeei adwaith i Iesu’n chwarae rhan bwysig ynyr efengyl hon, ac ym mhenodau olaf ygyfrol rhydd yr awdur sylw arbennig i ddwyadran o’r efengyl: 1.1-18 a’r bennod aalwyd yn ‘Weddi Archoffeiriadol Iesu’(17.1-26). Cred fod y weddi hon yn crynhoiprif themâu’r efengyl: gogoniant, cariad,penderfyniaeth (determinism), ffydd, y byd,a chredinwyr ac anghredinwyr. Pwysleisirhefyd y cysyniad o gymuned sydd wedi’igosod ar wahân i’r byd di-gred.Cenhadaeth credinwyr yw adlewyrchucariad Iesu yn eu perthynas â’u cyd-gredinwyr. Gan mai gfir o gefndir‘Lladinaidd’ (clywsom lawer am y ‘Latinos’adeg yr etholiad arlywyddol yn ddiweddar)ydyw mynega Lozada ei anesmwythydgyda’r darlun hwn o gymuned gaeedig ynhytrach nag un sy’n agored ac allblyg. Ynsicr, cyfrol sy’n aml yn herio ein syniadautraddodiadol am Efengyl Ioan yw hon.

    John Tudno Williams

    Rhagfyr 11, 2020 Y Goleuad 7

    Y Silff Lyfrau

    Bod yn hurt?Darllenais erthygl drawiadol yn ycylchgrawn New Scientist yn ddiweddar.

    Erthygl o’r eiddo Julie Andrews, awdur yllyfr ‘Care Homes. The One-Stop Guide’.

    Prif honiad yr awdur yw bod rheoliadauCartrefi Gofal i arbed lledaeniad Covid-19yn rhy gaeth heb eu seilio ar wyddoniaethddiogel a phendant. Mae pennawd yrerthygl yn datgan ‘Irrational Restrictons’.

    Gan chwilio am ystyron Cymraeg i‘irrational’; dyma nhw: afresymol,afresymegol, anrhesymol, gwrth resymol,direswm. Y gair gorau yn fy nhyb i yw hurt.Wrth edrych ar y gair fel unSaesneg.‘hurt’, mae’n dangos effaithandwyol ac angheuol y math yma oreoliadau ystyfnig – brifo yn ddifrifol!

    Oherwydd y gwaharddiadau hurt,mae llawer o oedolion bregus adiymadferth ynghyd â’u teuluoedd, wedidioddef ac yn dal i ddioddef – unigrwyddcarcharaidd, gofid torcalonnus aceuogrwydd mawr. Ni allant gofleidio nacymgeleddu na hyd yn oed afael yn llaw’rtrueiniaid sydd dan glo yn y Cartrefi Gofal.Misoedd o fod ar wahân ac effaith hynnyar y rhai sydd â dementia yn cyflymucyrraedd diwedd oes.

    Hyd yn oed mewn gwledydd tramor gwâr,megis Canada ac Awstralia, nid oestystiolaeth fod ymwelwyr (â ChartrefiGofal) yn cynyddu’r raddfa heintio o gwbl.Mae’r cwynion am y niwed a achosir ganatal teuluoedd – gfir, gwraig, plant, wyrionac wyresau ac ati rhag ymweld (â’rCartrefi Gofal) yn cynyddu a mwy o’rhenoed bregus yn gwaethygu, gyda rhaiyn galaru mewn gofid erbyn hyn.

    Mae angen gofal mawr i sicrhau nad ywrheoliadau a gweithredoedd hurt yn brifoneb arall. Byddwn ar ein gwyliadwriaeth. YmMathew 25 cawn yr adnodau sy’n sôn amy defaid a’r geifr yn nghfieithiad Beibl.net

    ‘Pryd wnaethom ni dy groesawu di panoeddet ti’n adnabod neb … Pryd welon niti’n sâl … a mynd i dy weld di … awnaethoch chi ddim gofalu amdana i panoeddwn yn sâl ….

    ‘Credwch chi fi, pan wnaethoch chi helpu’rperson lleiaf pwysig sy’n perthyn i mi,gwnaethoch chi fy helpu i,’ meddai Iesu.

    Hwyrach fod y rheoliadau amrwd hyn yneu hanfod., yn amddiffyn iechyd ac yngwarchod diogelwch yr oedolion bregushyn, ond, rhaid bod yn ofalus nad ydynt yngwneud mwy o niwed iddynt hwy a’uteuluoedd ar yr un pryd.

    Geraint Jones, Treffynnon

  • 8 Y Goleuad Rhagfyr 11, 2020

    • Wythnos nesaf – Yr Adfent a’r Nadolig •

    Dyma gyfarfod hyfryd iawn…DARLLENIAD: Eseia 61:1-4, 8-11

    EMYN 432: ‘O Tyred di, Emaniwel, adatod rhwymau Israel’

    GWEDDI

    O Dduw ein Tad Nefol, diolchwn i Tiam ddyfodiad dy Fab Iesu Grist i’nbyd. Diolch y daeth i gyhoeddiblwyddyn dy ffafr tuag atom.Cynorthwya ni i dderbyn y cysur a’rrhyddid na all neb ond Iesu ei roi i ni’rNadolig hwn. Gweddïwn hyn yn eiEnw Ef. Amen.

    Sut fyddech chi yn cofio 2020? Yn sicrbydd nifer yn falch o weld cefn ar eleniac yn gobeithio y daw pethau’n well yn2021. Yn ein darlleniad o lyfr Eseiaheddiw, mae yna hefyd edrych ymlaenat flwyddyn newydd yn hanes Duw a’ibobl, neu ‘blwyddyn ffafr yr Arglwydd’.

    Wrth fyfyrio ar ein darlleniad, mae’nbwysig i ni gofio nad oedd Eseia yngweinidogaethu mewn cyfnod hawddo bell ffordd yn hanes Israel.Proffwyda Eseia i bobl oedd wedi eucaethgludo, at genedl oedd gydaphrofiadau chwerw o gael eudadwreiddio o’u gwlad a’u hamddifaduo deml yr Arglwydd. Roedd hi’ngyfnod lle fysa’n hawdd digalonni acholli gafael ar ffydd yn yr ArglwyddDduw.

    Blwyddyn Ffafr yr Arglwydd?

    Er gwaethed y sefyllfa roedd Israelynddi, mae gan Eseia air o wir obaithi’r genedl sef i gyhoeddi ‘blwyddyn ffafryr Arglwydd’. Ond beth mae hyn yn eiolygu? Beth oedd Eseia yn eiragweld? Beth yn union ydi’r ffafryma? Rhai canrifoedd ynddiweddarach, darllenodd Iesu y rhanyma o lyfr Eseia, mewn synagog ynNasareth, ar ddechrau eiweinidogaeth (Luc 4:16-30). AgoroddIesu y sgrôl a darllenodd y geiriauagoriadol o Eseia 61:

    ‘Y mae Ysbryd yr Arglwydd arnaf,oherwydd iddo f’eneinio ibregethu’r newyddion da i dlodion.Y mae wedi f’anfon i gyhoeddirhyddhad i garcharorion, acadferiad golwg i ddeillion, i beri i’r

    gorthrymedig gerdded yn rhydd, igyhoeddi blwyddyn ffafr yrArglwydd.’

    Mae’n debyg bod y rhai a oedd yngwrando yn y gynulleidfa yno yngyfarwydd iawn â’r darn yma o Eseiaroedd Iesu wedi darllen ohoni. Dymaddarn sydd yn cyfleu yn ei hollwychder beth ydi bwriadau Duw tuagat ei bobl ddarostyngedig. Mae’ndatgan y bydd sefyllfa’r tlodion, ycarcharorion, y deillion a’r rhai toredigyn cael ei thrawsnewid pan ddawblwyddyn ffafr yr Arglwydd.

    Roedd gan blant Israel flwyddyn arallyn eu cyfraith sef ‘blwyddyn y Jiwbilî’ aoedd yn eu galluogi nhw iwerthfawrogi arwyddocâd ‘blwyddynffafr yr Arglwydd’ mae Eseia yn sônamdano. Roedd yn ofynnol ar boblDduw i gadw ‘blwyddyn y Jiwbilî’ llebase caethion yn cael eu rhyddhau,dyledion yn cael eu dileu, a’r tir ynmwynhau gorffwys (Lefiticus 25:10).Mewn geiriau eraill felly, roedd‘blwyddyn y Jiwbilî’ yn rhagflas i’rIsraeliaid o’r hyn y byddai’r Meseia ynei gyflawni ym ‘mlwyddyn ffafr yrArglwydd.’ Roedd gan blant Israelgefndir felly a oedd yn eu helpu nhw iwerthfawrogi’r gobaith mawr roeddEseia yn proffwydo amdano.

    Ond y mae’r hyn mae Iesu yn eiddweud nesaf yn syfrdanu pawb aoedd yn gwrando yn y gynulleidfa ynNasareth: ‘Heddiw yn eich clyw chwi ymae’r Ysgrythur hon wedi eichyflawni.’ (ad 21). Roedd ygynulleidfa yn adnabod Iesu fel mabJoseff, mab y saer. Ai yr Iesu hwnoedd i gyflawni’r hyn y proffwydoddEseia amdano?

    Ac onid yw’r tlawd, carcharorion,deillion a’r briwedig efo ni o hyd yn2020?

    Wrth ystyried sut mae Iesu wedicyflawni proffwydoliaeth Eseia, mae’nbwysig gadael i’r Beibl ei hun herio sutrydym yn deall termau fel tlodion,carcharorion neu ddeillion. Nid ystyrmaterol yn unig sydd i’r geiriau hyn,ond y mae ganddynt ystyr llawer mwycynhwysfawr. Yn y gwynfydau cyfeiriaIesu at y rhai ‘sy’n dlodion yn yr

    Ysbryd’. Nid tlodi materol yn unig syddmewn golwg, ond y mae yna’r fathbeth a thlodi ysbrydol hefyd. Yn wir,wrth gyflawni ei weinidogaeth roeddIesu yn delio gydag unigolion yn eucyfanrwydd fel pobl oedd aganghenion corfforol ac anghenionysbrydol hefyd.

    Ar adegau, mae deall sut mae Iesuwedi cyflawni’r geiriau yma o lyfrEseia dipyn bach fel gweldmynyddoedd o bell i ffwrdd. Wrthedrych ar fynyddoedd o bell nid yw’nhawdd bob tro i ni ddirnad pa gopayw’r un agosaf atom ni. Yn yr unmodd, nid yw’n hawdd gwahaniaethurhwng dyfodiad cyntaf neuailddyfodiad y Meseia maeproffwydoliaethau’r Hen Destament yncyfeirio atyn nhw. Yn nhymor yr Adfent(‘dyfodiad’) rydym yn edrych yn ôl at yNadolig cyntaf. Yn ei ddyfodiad cyntaf,di-rymodd angau a phechod a oeddyn ein caethiwo i anobaith. Ond mae’rAdfent hefyd yn amser o edrychymlaen at ddyfodiad Iesu Gristunwaith eto mewn gogoniant. BraintEglwys Iesu Grist, beth bynnag yw einhamgylchiadau, yw cyhoeddi’rnewyddion da bod blwyddyn ffafr yrArglwydd wedi cyrraedd yn yrArglwydd Iesu Grist. Gadewch i niymroi i ddweud wrth eraill am ynewydd da hwn ac i helpu eraill ynymarferol fel y gwnaeth Iesu. Oes ynarywun y medrwn weddïo gyda nhwdros y ffôn y Nadolig hwn? Sut fedrwnni gefnogi ein cymunedau a’r banciaubwyd eleni?

    GWEDDI

    O Dduw ein Tad, diolchwn i Ti amnewyddion rhyfeddol y Nadolig cyntaf.Diolch fod blwyddyn ffafr yr Arglwyddwedi ei gyflawni yn Iesu Grist. Diolchbod ei waith drosom ni yn golygu bodgennym ni wir ryddid a chysur i’nheneidiau. Cynorthwya ni i ddyheuamdano yn fwyfwy yn ein bywydau aci rannu ei gariad Ef tuag at eraill.Amen.

    EMYN 439:“Peraidd ganodd sêr y bore”

    Dr. Alun Morton Thomas, Llanfair PG

    Os na nodir yn wahanol nid yw barn y cyfranwyr o angenrheidrwydd yn farn y golygydd na’r Gymanfa Gyffredinol.Anfoner pob gohebiaeth, newyddion, ysgrifau, a.y.y.b. at y Parch. Ddr. R. Watcyn James, Eryl, Capel Bangor, Aberystwyth SY23 3LZ. e-bost: [email protected]

    Cyhoeddwyd gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac argraffwyd gan Wasg y Bwthyn, Caernarfon.