cymwysterau addysg uwch mewn: ecoleg maes a chadwraeth · y cynllun astudio dyfernir tystysgrif...
TRANSCRIPT
![Page 1: Cymwysterau Addysg Uwch mewn: Ecoleg Maes a Chadwraeth · Y Cynllun Astudio Dyfernir Tystysgrif mewn Addysg Uwch: Ecoleg Maes ar ôl cwblhau 120 o gredydau, ac mae’n rhaid cymryd](https://reader034.vdocuments.net/reader034/viewer/2022050314/5f7631b0942d59310e7cd218/html5/thumbnails/1.jpg)
2401
12 -
1625
8
Cymwysterau Addysg Uwch mewn:Ecoleg Maes a Chadwraeth
www.aber.ac.uk/cy/sell
Cymwysterau Addysg Uwch mewn: Ecoleg Maes a Chadwraeth
![Page 2: Cymwysterau Addysg Uwch mewn: Ecoleg Maes a Chadwraeth · Y Cynllun Astudio Dyfernir Tystysgrif mewn Addysg Uwch: Ecoleg Maes ar ôl cwblhau 120 o gredydau, ac mae’n rhaid cymryd](https://reader034.vdocuments.net/reader034/viewer/2022050314/5f7631b0942d59310e7cd218/html5/thumbnails/2.jpg)
Sut i roi cychwyn ar bethau?Os oes gennych ddiddordeb gweithio tuag at ennill Tystysgrif, dylech lenwi ffurflen gofrestru, a hynny heb unrhyw gost ychwanegol.
Sut i gael gafael ar ffurflen gofrestru.Llenwch y ffurflen a geir yn llyfryn Dysgu Gydol Oes ‘Dysgu am Oes’ neu cysylltwch â’r swyddfa ar 01970 621580. Hefyd, gallwch lawrlwytho ac argraffu ffurflen yn uniongyrchol o’r wefan drwy ddilyn y ddolen ganlynol: www.aber.ac.uk/sell/courses/lllearn/index.html
I gael cymorth, cyngor neu gefnogaeth, ffôn swyddfa Dysgu Gydol Oes ar 01970 621580 a gofynnwch am Dr Paula Hughes, y Cydlynydd Gwyddoniaeth neu e-bostiwch eich ymholiad at [email protected]. Rydym yma i sicrhau eich bod yn cael y profiad dysgu gorau.
Manylion CyswlltYsgol Addysg a Dysgu Gydol OesPrifysgol AberystwythP5, Campws PenglaisAberystwythCeredigion SY23 3UX
www.aber.ac.uk/en/sell Ffôn: 01970 621580Ebost: [email protected] [email protected]
Cymwysterau Addysg Uwch mewn:
Ecoleg Maes a Chadwraeth
Ysgol AddYsg A dYsgu gYdol oes
![Page 3: Cymwysterau Addysg Uwch mewn: Ecoleg Maes a Chadwraeth · Y Cynllun Astudio Dyfernir Tystysgrif mewn Addysg Uwch: Ecoleg Maes ar ôl cwblhau 120 o gredydau, ac mae’n rhaid cymryd](https://reader034.vdocuments.net/reader034/viewer/2022050314/5f7631b0942d59310e7cd218/html5/thumbnails/3.jpg)
A yw’n addas i mi?Mae’r cyrsiau a gynigir drwy’r Dystysgrif wedi eu llunio i fod yn llwybr rhan-amser i fynd ymlaen i astudio Ecoleg Cadwraeth. Bydd yr wybodaeth a’r sgiliau a gewch yn rhai hanfodol i unrhyw swydd yn y maes amgylcheddol, ac yn rhoi profiad ymarferol ac yn datblygu sgiliau adnabod nad ydyn nhw’n cael fawr o sylw mewn cyrsiau Addysg Uwch eraill.
Mae’r cyrsiau i gyd wedi eu hachredu gan Brifysgol Aberystwyth a gellir eu ‘crynhoi’ i gael Tystysgrif sy’n arwain at Ddiploma. Mae’r cyrsiau wedi eu teilwra’n arbennig i bobl nad allant ystyried astudiaeth amser-llawn oherwydd ymrwymiadau eraill, ac yn ddelfrydol ar gyfer datblygiad proffesiynol i ehangu eich gwybodaeth a’ch sgiliau. Byddai’r Dystysgrif orffenedig yn cyfoethogi eich CV ac yn rhoi ichi’r sgiliau sydd, yn nhyb y Fforwm Noddwyr Ymchwil Amgylcheddol, eu hangen fwyaf gan weithwyr yn y sector amgylcheddol. Yn y gorffennol, mae myfyrwyr wedi cael gwaith gyda llawer o asiantaethau amgylcheddol ac ymddiriedolaethau elusennol. Fel arall, mae’r cyrsiau’n her diddorol i unrhyw un sydd wedi ei gyfareddu gan y byd naturiol.
Manteision y math yma o astudio:•Nid oes angen cefndir gwyddonol.•Gallwch fynd i’r afael â’ch cyrsiau yn ôl eich
pwysau eich hun.•Mae cost pob cwrs yn isel.•Rydych yn talu am bob cwrs yn unigol – felly, nid
oes ffi i’w thalu o flaen llaw.•Mae gan bob cwrs 20 o oriau cyswllt â thiwtor
(cyrsiau 10 credyd).•Fel rheol, mae’r asesiadau yn rhan o’r cwrs ei hun.
Maent wedi eu llunio ar gyfer dysgwyr hŷn ac nid oes unrhyw arholiadau.
•Mae’r asesiadau wedi eu llunio i ychwanegu at eich profiad dysgu.
•Mae’n gwella eich cyflogadwyedd o fewn y sector amgylcheddol.
Y Cynllun AstudioDyfernir Tystysgrif mewn Addysg Uwch: Ecoleg Maes ar ôl cwblhau 120 o gredydau, ac mae’n rhaid cymryd 40 o’r credydau hynny o’r cyrsiau craidd.
Gallwch wedyn ddewis lleiafswm o 50 credyd o’r cyrsiau allweddol sy’n sicrhau eich bod yn gallu cynllunio ac ymgymryd â gwaith maes a gwaith arolwg, ac yn gallu adnabod rhywogaethau allweddol yn hyderus. Ar gyfer y 30 credyd sy’n weddill, gallwch ddewis rhagor o gyrsiau o’r cyrsiau allweddol neu ddewis o’r cyrsiau dewisol i ehangu eich profiad dysgu.
Mae’r Dystysgrif mewn Addysg Uwch: Ecoleg y Maes yn cyfateb i lefel 1 gradd tair blynedd neu lefel 4 yn y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol (FfCC).
Mae’r cyrsiau sydd ar gael yn ein Tystysgrif Addysgu Uwch i’w gweld isod. Ni fydd pob un ohonynt ar gael bob blwyddyn. Cliciwch ar y llyfryn: ‘Dysgu am Oes’.
Cyrsiau CraiddMae’r cyrsiau craidd yn darparu’r sgiliau ymchwil a’r wybodaeth sylfaenol sydd eu hangen arnoch i fynd yn eich blaen a chael y gorau o’r cyrsiau allweddol. Fe’ch cynghorir i fynd i’r afael â’r cyrsiau craidd yn gynnar yn eich astudiaethau gan eu bod yn darparu sylfaen ecolegol gadarn i chi adeiladu arnynt.
Tystysgrif Addysg Uwch:
Ecoleg Maes
Ecoleg Maes a Chadwraeth
![Page 4: Cymwysterau Addysg Uwch mewn: Ecoleg Maes a Chadwraeth · Y Cynllun Astudio Dyfernir Tystysgrif mewn Addysg Uwch: Ecoleg Maes ar ôl cwblhau 120 o gredydau, ac mae’n rhaid cymryd](https://reader034.vdocuments.net/reader034/viewer/2022050314/5f7631b0942d59310e7cd218/html5/thumbnails/4.jpg)
CYRSIAU CRAIDD
Rhaid dilyn y 4 cwrs canlynol:
Ecology 1 – An IntroductionAnimal DiversityPlant DiversityIdentifying Flowering Plants
TysTysgrif Addysg Uwch: EcolEg MAEs
CYFANSWM O 120 CREDYDMae’r dystysgrif yn cwmpasu 120 credyd, a rhaid cymryd lleiafswm o 50 credyd o’r cyrsiau allweddol. Er mwyn ennill y
Dystysgrif, mae’n rhaid i ymgeiswyr ennill o leiaf 40% ar gyfartaledd, rhwng popeth. Ni chaiff myfyrwyr gymryd mwy nag 20 credyd ar lefel 0. Modiwl 10 credyd yw pob un oni nodir fel arall.
CYRSIAU ALLWEDDOL CYRSIAU DEWISOL LEfEL 1 LEfEL 1 LEfEL 0
Rhaid dewis 50 credyd o’r rhestr hwn. Uchafswm o 2 fodiwl gyda *
Ni fedr myfyrwyr gymryd mwy nag 20 credyd ar lefel 0
* Bird Identification* Woodland Birds* Birds from the North * Migrant Breeding Birds * Breeding Birds of Coast and Estuary * Territory and Habitat Preferences of
Autumn BirdsButterflies of Various Habitats Field Survey TechniquesDiversity of Invertebrates in West Wales Dragonflies of Various HabitatsEntomology - The Larger Insects of Wales Identification and Ecology of Fungi Identifying Grasses, Sedges and RushesIdentifying Mosses, Liverworts and LichensLife in the SeasPlants in their HabitatsPond and Stream Invertebrate LifeUnderstanding AmphibiansUnderstanding British Bats 1 Understanding British Mammals 1 - the
gnawers, nibblers and insect crunchers Understanding British Mammals 2 -
predators and hunters Understanding British Marine Mammals Mae cyrsiau ar adnabod ffyngau a
gwyfynod yn cael eu hystyried
Biospheres and the Dyfi UNESCO Designation
Birds of Local Nature ReservesCoastlines - Form and Function Conservation of Britain’s Biological
Resources Dealing with Data: producing
projects or reportsForestry and the Environment Introduction to GeologyIssues in ConservationSoil, Climate and TopographyTown and CountryTiwtorialau 1/1 ac 1/2 Why do they do that? An
Introduction to Animal Behaviour
Botany for GardeningEarth and Water Flower painting (20 credyd) Fur, Feather, Scale: Natural History
Illustration (5 credyd) Going GreenIT Skills to help you learn Introduction to Outdoor Digital
Photography More IT Skills Organic gardeningPeople and the Planet PermacultureStudy SkillsStudy Science SuccessfullyWildlife Digital Photography
YSgOL ADDYSg A DYSgU gYDOL OES
![Page 5: Cymwysterau Addysg Uwch mewn: Ecoleg Maes a Chadwraeth · Y Cynllun Astudio Dyfernir Tystysgrif mewn Addysg Uwch: Ecoleg Maes ar ôl cwblhau 120 o gredydau, ac mae’n rhaid cymryd](https://reader034.vdocuments.net/reader034/viewer/2022050314/5f7631b0942d59310e7cd218/html5/thumbnails/5.jpg)
A yw’n addas i mi?Mae’r cyrsiau a gynigir drwy’r Dystysgrif wedi eu llunio i fod yn llwybr rhan-amser i fynd ymlaen i astudio Ecoleg Cadwraeth. Bydd yr wybodaeth a’r sgiliau a gewch yn rhai hanfodol i unrhyw swydd yn y maes amgylcheddol, ac yn rhoi profiad ymarferol ac yn datblygu sgiliau adnabod nad ydyn nhw’n cael fawr o sylw mewn cyrsiau Addysg Uwch eraill.
Mae’r cyrsiau i gyd wedi eu hachredu gan Brifysgol Aberystwyth a gellir eu ‘crynhoi’ i gael Tystysgrif sy’n arwain at Ddiploma. Mae’r cyrsiau wedi eu teilwra’n arbennig i bobl nad allant ystyried astudiaeth amser-llawn oherwydd ymrwymiadau eraill, ac yn ddelfrydol ar gyfer datblygiad proffesiynol i ehangu eich gwybodaeth a’ch sgiliau. Byddai’r Dystysgrif orffenedig yn cyfoethogi eich CV ac yn rhoi ichi’r sgiliau sydd, yn nhyb y Fforwm Noddwyr Ymchwil Amgylcheddol, eu hangen fwyaf gan weithwyr yn y sector amgylcheddol. Yn y gorffennol, mae myfyrwyr wedi cael gwaith gyda llawer o asiantaethau amgylcheddol ac ymddiriedolaethau elusennol. Fel arall, mae’r cyrsiau’n her diddorol i unrhyw un sydd wedi ei gyfareddu gan y byd naturiol.
Manteision y math yma o astudio:
•Nid oes angen cefndir gwyddonol.•Gallwch fynd i’r afael â’ch cyrsiau yn ôl eich
pwysau eich hun.•Mae cost pob cwrs yn isel.•Rydych yn talu am bob cwrs yn unigol felly, nid
oes ffi i’w thalu o flaen llaw.
•Mae gan bob cwrs 20 o oriau cyswllt â thiwtor (cyrsiau 10 credyd).
•Fel rheol, mae’r asesiadau yn rhan o’r cwrs ei hun. Maent wedi eu llunio ar gyfer dysgwyr hŷn ac nid oes unrhyw arholiadau.
•Mae’r asesiadau wedi eu llunio i ychwanegu at eich profiad dysgu.
•Mae’n gwella eich cyflogadwyedd o fewn y sector amgylcheddol.
Y Cynllun AstudioDyfernir Tystysgrif mewn Addysg Uwch: Ecoleg Cadwraeth ar ôl cwblhau 120 o gredydau, ac y mae’n rhaid cymryd 40 o’r credydau hynny o’r cyrsiau craidd.
Gallwch wedyn ddewis lleiafswm o 50 credyd o’r cyrsiau allweddol sy’n sicrhau eich bod yn gallu cynllunio ac ymgymryd â gwaith maes a gwaith arolwg, ac yn gallu adnabod rhywogaethau allweddol yn hyderus. Ar gyfer y 30 credyd sy’n weddill, gallwch ddewis rhagor o gyrsiau o’r cyrsiau allweddol neu ddewis o’r cyrsiau dewisol i ehangu eich profiad dysgu.
Mae’r Dystysgrif mewn Addysg Uwch: Ecoleg Cadwraeth yn cyfateb i lefel 1 cynllun gradd tair blynedd neu lefel 4 yn y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol (FfCC).
Mae’r cyrsiau sydd ar gael o fewn ein Tystysgrif Addysgu Uwch i’w gweld isod. Ni fydd pob un ohonynt ar gael bob blwyddyn. Byddwch gystal â chlicio ar y llyfryn: ‘Dysgu am Oes’.
Tystysgrif Addysg Uwch:
Ecoleg Cadwraeth
Ecoleg Maes a Chadwraeth
![Page 6: Cymwysterau Addysg Uwch mewn: Ecoleg Maes a Chadwraeth · Y Cynllun Astudio Dyfernir Tystysgrif mewn Addysg Uwch: Ecoleg Maes ar ôl cwblhau 120 o gredydau, ac mae’n rhaid cymryd](https://reader034.vdocuments.net/reader034/viewer/2022050314/5f7631b0942d59310e7cd218/html5/thumbnails/6.jpg)
Cyrsiau CraiddMae’r cyrsiau craidd yn darparu’r sgiliau ymchwil a’r wybodaeth sylfaenol sydd eu hangen arnoch i fynd yn eich blaen a chael y gorau o’r cyrsiau allweddol. Fe’ch cynghorir i fynd i’r afael â’r cyrsiau craidd yn gynnar yn eich astudiaethau gan eu bod yn darparu sylfaen ecolegol gadarn i chi adeiladu arnynt.
CYRSIAU CRAIDD
Rhaid dilyn y 4 cwrs canlynol:
Ecology 1 – An IntroductionAnimal DiversityPlant DiversityIdentifying Flowering Plants
TysTysgrif Addysg Uwch: EcolEg cAdwrAETh
CYFANSWM O 120 CREDYDMae’r dystysgrif yn cwmpasu 120 credyd, a rhaid cymryd lleiafswm o 50 credyd o’r cyrsiau allweddol. Er mwyn ennill y
Dystysgrif, mae’n rhaid i ymgeiswyr ennill o leiaf 40% ar gyfartaledd, rhwng popeth. Ni chaiff myfyrwyr gymryd mwy nag 20 credyd ar lefel 0. Modiwl 10 credyd yw pob un oni nodir fel arall.
CYRSIAU ALLWEDDOL LEfEL 1Rhaid dewis 50 credyd o’r rhestr hwn.
Biospheres and the Dyfi UNESCO designation Birds of Local Nature ReservesConservation of Britain’s Biological ResourcesForestry and the Environment
Issues in ConservationTown and Country
CYRSIAU DEWISOL LEfEL 1 LEfEL 0
Ni fedr myfyrwyr gymryd mwy nag 20 credyd ar lefel 0
Birds from the NorthBird IdentificationBreeding Birds of Coast and EstuaryButterflies of Various HabitatsCoastlines - Form and FunctionDealing with Data: producing
projects or reportsDiversity of invertebrates in west
Wales Dragonflies of Various HabitatsEntomology - The Larger Insects of
WalesField survey techniquesIdentification and Ecology of Fungi Identifying Grasses Sedges and
RushesIdentifying Mosses Liverworts and
LichensIntroduction to Geology
Life in the SeasMigrant Breeding birdsPlants in their HabitatsPond and Stream Invertebrate LifeSoil, Climate and TopographyTerritory and Habitat Preferences of
Autumn BirdsUnderstanding AmphibiansUnderstanding British Bats 1 Understanding British Mammals
1 - the gnawers, nibblers and insect crunchers
Understanding British Mammals 2 - predators and hunters
Understanding British Marine Mammals
Why do they do that? An Introduction to Animal Behaviour
Woodland birds Tiwtorialau
Botany for GardeningEarth and Water Flower painting (20 credits)Fur, Feather, Scale: Natural History
Illustration (5 credits) Going Green IT Skills to help you learnIntroduction to Outdoor Digital
Photography More IT SkillsOrganic gardeningPeople and the PlanetPermacultureStudy SkillsStudy Science SuccessfullyWildlife Digital Photography
YSgOL ADDYSg A DYSgU gYDOL OES
![Page 7: Cymwysterau Addysg Uwch mewn: Ecoleg Maes a Chadwraeth · Y Cynllun Astudio Dyfernir Tystysgrif mewn Addysg Uwch: Ecoleg Maes ar ôl cwblhau 120 o gredydau, ac mae’n rhaid cymryd](https://reader034.vdocuments.net/reader034/viewer/2022050314/5f7631b0942d59310e7cd218/html5/thumbnails/7.jpg)
A yw’n addas i mi?Mae’r diploma’n caniatáu i chi fynd yn eich blaen ar ôl ennill Tystysgrif Addysgu Uwch naill ai mewn Ecoleg Maes neu Ecoleg Cadwraeth. Mae’r cyrsiau a gynigir drwy’r Diploma wedi eu llunio i ehangu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau mewn ecoleg maes a chadwraeth.
Bydd yr wybodaeth a’r sgiliau y byddwch yn eu magu yn rhai hanfodol i unrhyw swydd yn y maes amgylcheddol, ac yn rhoi profiad ymarferol ac yn datblygu sgiliau adnabod nad ydyn nhw’n cael fawr o sylw mewn cyrsiau Addysg Uwch eraill.
Mae’r cyrsiau wedi eu teilwra’n arbennig ar gyfer pobl na all ystyried astudiaeth amser-llawn oherwydd ymrwymiadau eraill, ac maen nhw’n ddelfrydol ar gyfer datblygiad proffesiynol i ehangu eich gwybodaeth a’ch sgiliau. Byddai’r Diploma gorffenedig yn cyfoethogi eich CV ac yn rhoi ichi’r sgiliau sydd, yn nhyb y Fforwm Noddwyr Ymchwil Amgylcheddol, eu hangen fwyaf gan weithwyr yn y sector amgylcheddol. Yn y gorffennol, mae myfyrwyr wedi cael gwaith gyda llawer o asiantaethau amgylcheddol ac ymddiriedolaethau elusennol. Fel arall, mae’r cyrsiau’n cynnig her ddiddorol i unrhyw un sydd wedi ei gyfareddu gan y byd naturiol.
Manteision y math yma o astudiaeth:
•Gallwch fynd i’r afael â’ch cyrsiau yn ôl eich pwysau eich hun.
•Mae cost pob cwrs yn isel.•Rydych yn talu am bob cwrs yn unigol – felly, nid
oes ffi i’w thalu o flaen llaw.•Mae gan bob cwrs 20 o oriau cyswllt â thiwtor
(cyrsiau 10 credyd).•Fel rheol, mae’r asesiadau yn rhan o’r cwrs ei hun.
Maent wedi eu llunio ar gyfer dysgwyr hŷn ac nid oes unrhyw arholiadau.
•Mae’r asesiadau wedi eu llunio i ychwanegu at eich profiad dysgu.
•Mae’n eich gwneud yn fwy cyflogadwy yn y sector amgylcheddol.
Y Cynllun AstudioDyfernir i chi’r Diploma mewn Addysg Uwch: Ecoleg Maes a Chadwraeth ar ôl i chi gwblhau naill ai’r Dystysgrif Ecoleg Maes NEU’R Dystysgrif Ecoleg Cadwraeth, ac yna fynd ymlaen i ennill 120 yn rhagor o gredydau lefel 2.
Ar gyfer y Diploma, mae’n rhaid dewis 50 credyd o’r cyrsiau craidd sy’n cynnwys prosiect 30 credyd, a 70 credyd o’r cyrsiau dewisol; gall hyn gynnwys uchafswm o 20 credyd o’r cyrsiau dewisol lefel 1 a gynigir yn y Tystysgrifau Ecoleg Maes ac Ecoleg Cadwraeth. Mae’r cyrsiau dewisol yn rhoi dewis ichi o bynciau maes a chadwraeth.
Mae’r Diploma mewn Ecoleg Maes a Chadwraeth yn cyfateb i lefel 2 gradd tair blynedd neu lefel 5 yn y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol (FfCC).
Tystysgrif Addysg Uwch:
Ecoleg Maes a Chadwraeth
Ecoleg Maes a Chadwraeth
![Page 8: Cymwysterau Addysg Uwch mewn: Ecoleg Maes a Chadwraeth · Y Cynllun Astudio Dyfernir Tystysgrif mewn Addysg Uwch: Ecoleg Maes ar ôl cwblhau 120 o gredydau, ac mae’n rhaid cymryd](https://reader034.vdocuments.net/reader034/viewer/2022050314/5f7631b0942d59310e7cd218/html5/thumbnails/8.jpg)
Mae’r cyrsiau sydd ar gael yn ein Diploma Addysg Uwch i’w gweld isod. Ni fydd pob un ohonynt ar gael bob blwyddyn. Cliciwch ar y llyfryn: ‘Dysgu am Oes’.
Diploma aDDysg Uwch: EcolEg maEs a chaDwraEth
CYFANSWM O 240 CREDYD I GYD
Mae’r diploma yn cwmpasu 240 credyd, 120 ohonynt eisoes wedi eu caffael drwy gwblhau Tystysgrif Addysg Uwch: Ecoleg Maes NEU Ecoleg Cadwraeth. Mae’n rhaid cymryd lleiafswm o 50 credyd o’r modiwlau craidd. Er mwyn ennill y
diploma, mae’n rhaid i ymgeiswyr ennill ar gyfartaledd o leiaf 40%, rhwng popeth. Modiwl 10 credyd yw pob un oni nodir fel arall.
CYRSIAU CRAIDD LefeL 2
CYRSIAU DeWISOL LefeL 2
Rhaid dewis 50 credyd o’r rhestr hon. Mae’n rhaid dewis 70 credyd o’r rhestr hon
Ecology 2 – Further Ecology Conservation Strategies – Principles and
PracticeField and Conservation Ecology Project (30
credyd) (Dealing with Data – producing projects and reports (level 1) is a pre-requisite for the project)
A Guide to Environmental Impact Assessment
Bird Survey Butterfly Survey Freshwater Habitats – their
Ecology and ConservationFurther Plant IdentificationHabitat Reconstruction and
Creation Landscapes and their
ConservationLand Use History and Recording
Marine Life and Conservation in Cardigan Bay
Our Countryside: Change and Community
Pollution Monitoring Soil Interpretation and
Ecosystem Management Terrestrial Ecology: Field Course
- Ireland The Geological History of Wales:
Geology Field Course Tutorials 2/1 and 2/2 (5 credyd
yr un)Vegetation Analysis (20 credyd )
CYRSIAU DeWISOL LefeL 1
Gellir dewis uchafswm o 20 credyd o gyrsiau Lefel 1 a gynigir yn y Tystysgrifau Ecoleg Maes ac Ecoleg Cadwraeth (gweler taflenni ar wahân i gael gwybodaeth am y cyrsiau hyn)
YSgOL ADDYSg A DYSgU gYDOL OeS