jemeima niclas

15
Jemeima Jemeima Niclas CA 1

Upload: job

Post on 11-Jan-2016

81 views

Category:

Documents


5 download

DESCRIPTION

Jemeima Niclas. CA 1. Dynes fawr, dew oedd Jemeima Niclas. Crydd oedd hi. Roedd hi bob amser yn gwisgo siol goch a het ddu uchel. Ym mis Chwefror 1797, roedd Thomas Williams yn cerdded yr arfordir yn chwilio am ei ddefaid pan welodd dair long rhyfel. - PowerPoint PPT Presentation

TRANSCRIPT

Page 1: Jemeima  Niclas

JemeimaJemeima Niclas

CA 1

Page 2: Jemeima  Niclas

Dynes fawr, dew oedd Jemeima Niclas. Crydd oedd hi. Roedd hi bob amser yn gwisgo siol goch a het ddu uchel.

Page 3: Jemeima  Niclas

Ym mis Chwefror 1797, roedd Thomas Williams yn cerdded yr arfordir yn chwilio am ei ddefaid pan welodd dair long rhyfel.

Page 4: Jemeima  Niclas

Glaniodd y Ffrancod wrth ymyl Garn Fawr, Pencaer.

Page 5: Jemeima  Niclas

Cyn bo hir, roedd y Ffrancod yn rhedeg ar draws gwlad yn lladd ac yn llosgi. Ymosododd nifer o’r milwyr ar ffermdy Trehwyel, a’i wneud yn bencadlys.

Page 6: Jemeima  Niclas

Yn hen ffermdy Brestgarn roedd hen gloc wyth niwrnod. Meddyliodd un Ffrancwr fod rhywun yn cuddio y tu mewn i’r cloc. Saethodd ergyd i mewn i’r cloc, ond doedd neb y tu mewn iddo.

Page 7: Jemeima  Niclas

Doedd dim ofn y Ffrancwyr ar Jemeima Niclas. Daliodd hi dri o’r Ffrancwyr.

Page 8: Jemeima  Niclas

Daliodd Jemeima lawer o Ffrancwyr a’u rhoi yn y carchar yn Abergwaun.

Page 9: Jemeima  Niclas

Daeth Jemeima a merched Abergwaun at ei gilydd i helpu milwyr Cymru. Cerddon nhw yn ol ac ymlaen ar y bryn fel milwyr.

Page 10: Jemeima  Niclas

Wrth weld y siolau coch a’r hetiau du, meddyliodd y Ffrancwyr fod byddin arall o filwyr yn barod i ymosod arnynt. Cafodd y Ffrancwyr tipyn o ofn.

Page 11: Jemeima  Niclas

Ildiodd y Ffrancwyr. Yn y Royal Oak, Abergwaun arwyddwyd cytundeb. Cafodd y Ffrancwyr eu rhoi yn y carchar.

Page 12: Jemeima  Niclas

Mae carreg goffa ym Mhencaer, uwchben y traeth, lle glaniodd y Ffrancwyr ar Chwefror 22, 1797.

Page 13: Jemeima  Niclas

Mae carreg fedd Jemeima Niclas yn mynwent eglwys Abergwaun.

Page 14: Jemeima  Niclas

Atebwch

1. Roedd Jemeima yn ddynes

2. Roedd hi’n gwisgo

3. oedd gwaith Jemeima.

4. Roedd Thomas Williams yn chwilio am ei

5. Gwelodd Thomas Williams

ar y mor.

Page 15: Jemeima  Niclas

Dewisiwch yr ateb cywir

1. Ble wnaeth y Ffrancwyr eu pencadlys?2. Ble roedd y cloc?3. Ble arwyddwyd y cytundeb?4. Pa sir mae Abergwaun?5. Beth yw prifddinas Ffrainc?

Paris Royal Oak Sir Benfro

Brestgarn Trehywel