cyngor sir ynys mÔndemocratiaeth.ynysmon.gov.uk/documents/s500000234...23 gorffennaf, 2012 yr...

13
1 CYNGOR SIR YNYS MÔN Adroddiad i PWYLLGOR GWAITH Dyddiad 3 RHAGFYR 2012 Pwnc DIWEDDARIAD STRATEGAETH CYLLID A DRAFFT CYCHWYNNOL O’R GYLLIDEB REFENIW AR GYFER 2013-14 Deilydd Portffolio Y CYNGHORYDD J. CHORLTON (DEILYDD PORTFFOLIO CYLLID) Swyddog(ion) Arweiniol PENNAETH SWYDDOGAETH (ADNODDAU) A SWYDDOG ADRAN 151 DROS DRO Swyddog Cyswllt GILL LEWIS/EINIR THOMAS Rheswm am yr adroddiad: I alluogi’r Pwyllgor Gwaith i gymeradwyo rhagdybiaethau’r gyllideb ac effaith y setliad dros dro. A - Rhagarweiniad / Cefndir / Materion B Ystyriaethau C Goblygiadau ac Effaith 1 Cyllid / Adran 151 Awdur yr adroddiad. 2 Swyddog Cyfreithiol / Monitro 3 Adnoddau Dynol 4 Gwasanaethau Eiddo (Gweler y nodiadau dogfen ar wahân) 5 Technoleg Cyfathrebu a Gwybodaeth 6 Cydraddoldeb (Gweler y nodiadau dogfen ar wahân) 7 Gwrthdlodi a Chymdeithasol (Gweler y nodiadau dogfen ar wahân) 8 Cyfathrebu (Gweler y nodiadau dogfen ar wahân) 9 Ymgynghori (Gweler y nodiadau dogfen ar wahân) 10 Economaidd 11 Amgylcheddol (Gweler y nodiadau dogfen ar wahân) 12 Trosedd ac Anhrefn (Gweler y nodiadau dogfen ar wahân) 13 Cytundebau Canlyniadau

Upload: others

Post on 18-Feb-2021

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • 1

    CYNGOR SIR YNYS MÔN

    Adroddiad i PWYLLGOR GWAITH

    Dyddiad 3 RHAGFYR 2012

    Pwnc DIWEDDARIAD STRATEGAETH CYLLID A DRAFFT CYCHWYNNOL O’R GYLLIDEB REFENIW AR GYFER 2013-14

    Deilydd Portffolio Y CYNGHORYDD J. CHORLTON (DEILYDD PORTFFOLIO CYLLID)

    Swyddog(ion) Arweiniol PENNAETH SWYDDOGAETH (ADNODDAU) A SWYDDOG ADRAN 151 DROS DRO

    Swyddog Cyswllt GILL LEWIS/EINIR THOMAS

    Rheswm am yr adroddiad:

    I alluogi’r Pwyllgor Gwaith i gymeradwyo rhagdybiaethau’r gyllideb ac effaith y setliad dros dro.

    A - Rhagarweiniad / Cefndir / Materion

    B – Ystyriaethau

    C – Goblygiadau ac Effaith

    1 Cyllid / Adran 151 Awdur yr adroddiad.

    2 Swyddog Cyfreithiol / Monitro

    3 Adnoddau Dynol

    4 Gwasanaethau Eiddo

    (Gweler y nodiadau – dogfen ar wahân)

    5 Technoleg Cyfathrebu a Gwybodaeth

    6 Cydraddoldeb

    (Gweler y nodiadau – dogfen ar wahân)

    7 Gwrthdlodi a Chymdeithasol

    (Gweler y nodiadau – dogfen ar wahân)

    8 Cyfathrebu

    (Gweler y nodiadau – dogfen ar wahân)

    9 Ymgynghori

    (Gweler y nodiadau – dogfen ar wahân)

    10 Economaidd

    11 Amgylcheddol

    (Gweler y nodiadau – dogfen ar wahân)

    12 Trosedd ac Anhrefn

    (Gweler y nodiadau – dogfen ar wahân)

    13 Cytundebau Canlyniadau

  • 2

    CH – Crynodeb

    D – Argymhelliad

    Y dylai'r gyllideb ddisymud ddrafft gael ei mabwysiadu gan y Pwyllgor Gwaith fel sail ar gyfer cyllideb refeniw 2013-14.

    Y dylai'r Pwyllgor Gwaith geisio gwneud arbedion digonol yn 2013-14 i gydbwyso'r gyllideb refeniw heb ddefnyddio cronfeydd wrth gefn;

    Y dylai'r Pwyllgor Gwaith gynllunio i gynnwys costau diswyddo na ellir eu hosgoi neu gostau unwaith-ac-am-byth eraill i sicrhau arbedion heb ddefnyddio cronfeydd wrth gefn.

    Enw awdur yr adroddiad:

    Gill Lewis, Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 Dros Dro

    Dyddiad: 26 Tachwedd 2012

    Atodiadau:

    Atodiad A: Cyllideb disymud drafft.

    Papurau Cefndirol:

  • 3

    1. CEFNDIR

    1.2 Penderfyniadau cynharach

    1.2.1 Roedd yr adroddiad ar y Gyllideb i’r Comisiynwyr ym mis Gorffennaf yn diweddaru'r Strategaeth Refeniw Ariannol tymor Canolig a'r rhagdybiaethau ar gyfer cyllideb 2013/14. Amlinellodd yr adroddiad y bwlch yn y gyllideb yn seiliedig ar setliad tebygol LlC ac amddiffyn gwasanaethau. Cymeradwyodd y Comisiynwyr y cyfeiriad teithio a’r argymhelliad i fodelu effeithlonrwydd o 7% ar draws y Cyngor er mwyn cwrdd â'r bwlch yn y gyllideb. Yn dilyn hynny, gofynnwyd i bob Cyfarwyddiaeth ddatblygu cynigion i ddod o hyd i opsiynau arbedion o 7% yn barod ar gyfer y broses o osod y gyllideb yn 2013-14, ar y sail y byddai'r Cyllid Allanol Cyfun (AEF) 2013-14 fel y rhagwelwyd.

    1.2.2 Gosododd y Datganiad Cyllideb a Strategaeth a gyflwynwyd i’r Comisiynwyr ar

    23 Gorffennaf, 2012 yr egwyddorion sylfaenol canlynol wrth sefydlu'r gyllideb ddisymud:-

    Mabwysiadu bwriad i gynyddu'r Dreth Gyngor o 5%;

    Tybio hyd at 3% ar gyfer codiadau cyflog ‘dal i fyny’ posibl;

    Cynnydd i bensiynau;

    Cynnydd chwyddiannol gwirioneddol lle mae'r rhain yn ofynnol yn ôl y gyfraith neu drwy gontract, ar gyfer trethi annomestig ayb.;

    Chwyddiant cyfleustodau o 10%;

    Chwyddiant cyfredol ar gyfer cyflenwadau a gwasanaethau eraill o 2%;

    Newidiadau eraill yr ymrwymwyd iddynt o ganlyniad i benderfyniadau a wnaed eisoes.

    Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys disgwyliad y byddai trydedd flwyddyn y Rhaglen Blaenoriaethau Fforddiadwy yn cael ei chyflawni.

    1.2.3 Defnyddio cronfeydd wrth gefn. Tybiwyd na fydd unrhyw ddefnydd o gronfeydd wrth gefn i ariannu'r gyllideb refeniw yn 2013-14 gan fod angen cyffredinol i gynyddu yn hytrach na lleihau cronfeydd wrth gefn cyffredinol.

    1.3 Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol

    1.3.1 Cyhoeddodd y Gweinidog dros Lywodraeth Leol a Chymunedau y setliad

    llywodraeth leol dros dro ar 16 Hydref. Mae’r ymgynghoriad wedi cau erbyn hyn ac anfonwyd ymateb gan yr Arweinydd erbyn y dyddiad cau.

    1.3.2 Mae’r setliad dros dro yn rhoi gwybod i ni am ein AEF tebygol o £99.96m sy'n

    cynnwys Grant Cynnal Refeniw (RSG) o £78.92m ac Ardreth Annomestig Genedlaethol wedi’i Hailddosbarthu (NNDR) o £21.04m. Disgwylir y bydd newidiadau pellach i'r rhaniad rhwng yr RSG ac NNDR, ond heb unrhyw newidiadau sylweddol yn yr AEF yn gyffredinol.

    1.3.3 Mae’r setliad dros dro yn cadarnhau nifer o 'drosglwyddiadau i mewn' i'r

    setliad o gyllid grantiau penodol fel yr amlygir isod.

    1.3.4 Yn ogystal â'r rhain, mae swm ychwanegol sylweddol ar gyfer baich ychwanegol Cymorth Dreth Gyngor. Mae Cymorth Dreth Gyngor yn gynllun newydd i gymryd lle’r Budd-dal Dreth Gyngor. Mae’r swm a gynhwysir yn yr RSG (£4.468 miliwn ar gyfer Ynys Môn) wedi cael ei gyfrifo ar sail costau yn y gorffennol, wedi’u gostwng o 10%, ac oherwydd fod ffigyrau ceisiadau Budd-dal Dreth Gyngor yn amrywio dros amser, rydym yn credu nad yw’r dosbarthiad yn gyfredol. Mae sylwadau wedi eu gwneud i'r Gweinidog i wyrdroi’r driniaeth hon a darparu grant penodol y gellir ei addasu yn ystod y flwyddyn.

  • 4

    1.3.5 Mae'r 'trosglwyddiadau i mewn' eraill wedi disodli grantiau penodol yn ôl fformiwlâu a gytunwyd. Bu Swyddogion Cyllid yn bryderus ers nifer o flynyddoedd am yr effaith andwyol ar y gyllideb o drosglwyddiad i mewn o’r Grant Adsefydlu Anableddau Dysgu. Fel mae'n digwydd, mae'r ffigyrau wedi eu trosglwyddo ar sail sydd fwy neu lai’n debyg ac felly mae eu heffaith gyffredinol ar gyllideb a gwasanaethau’r Cyngor yn niwtral. Ar gyfer y Grant Adsefydlu Anableddau Dysgu a rhai achosion eraill, mae hyn yn ganlyniad i gyflwyno’r newid fesul cam dros amser. Disgwylir y bydd y symiau hyn yn newid yn y setliad terfynol wrth i’r data gael ei ddiweddaru.

    Trosglwyddiadau Allan:

    Dim

    Trosglwyddiadau i mewn:

    Cynllun Grant Bathodyn Glas - £9k;

    Grant Blas am Oes - £62k;

    Grant Cwnsela mewn Ysgolion - £90k;

    Grant Menter Benthyca Llywodraeth Leol - £124k;

    Ôl 16 - AAA mewn Ysgolion Prif Ffrwd £98k;

    Ôl-16 - Ysgolion Arbennig AAA ac Allsirol - £411k;

    Grant Adsefydlu Anableddau Dysgu £976k.

    1.3.6 Awgryma’r setliad dros dro gynnydd o 1.07% yn yr AEF ar gyfer Ynys Môn, y cynnydd chweched isaf yng Nghymru ac, fel y llynedd, ni fydd unrhyw fecanwaith llawr. Mae'r cynnydd yn yr AEF yn £1.007m ar ôl caniatáu ar gyfer y trosglwyddiadau i mewn uchod.

    Achosir y newidiadau yn y setliad gan newidiadau data yn y fformiwla. Mae diweddaru’r ffigyrau o fewn y fformiwla hefyd yn cynnwys niferoedd pobl a data arall sy'n mesur y galw am wasanaethau’r Awdurdod. I’r ystadegau hyn, yn y pen draw cyfran yr Awdurdod o gyfanswm Cymru sy'n penderfynu p’un a yw wedi gwneud yn well neu'n waeth na gweddill Cymru.

    . 1.4 Datganiad Hydref y Canghellor

    1.4.1 Bydd y Canghellor yn cyflwyno ei Ddatganiad Hydref ar 6 Rhagfyr 2012. Bydd

    hyn yn rhoi diweddariad ar gyllid cyhoeddus a'r economi.

    1.4.2 Er nad oes disgwyl i hyn gael effaith sylweddol ar y cyhoeddiadau ariannu terfynol ar gyfer 2013-14, bydd yn rhoi syniad o’r cyfeiriad teithio.

    1.5 Y Setliad Terfynol

    1.5.1 Mae’r Setliad Terfynol i fod i ddigwydd ar 11 Rhagfyr. Bydd newidiadau i

    adlewyrchu newidiadau data yn y fformiwla. Y prif faterion ar gyfer ymgynghoriad yw'r Cynllun Cymorth Dreth Gyngor a brigdorri ar gyfer Cydweithredu.

    2. CYLLIDEB REFENIW 2013-14

    2.1 Y Gyllideb Ddisymud

    2.1.1 Mae Atodiad A yn cyflwyno drafft cychwynnol y gyllideb refeniw ddisymud lefel

    uchel ar gyfer 2013-14. Mae hyn yn cymryd y gyllideb 2012-13 derfynol fel man cychwyn ac yn adlewyrchu symudiadau cyllidebol drwy gydol y flwyddyn, trosglwyddiadau grant, symudiadau staffio, chwyddiant a newidiadau yr ymrwymwyd iddynt.

  • 5

    2.1.2 Mae'r gyllideb ddisymud wedi ystyried y ffactorau a ddisgrifir yn 1.1.2 yn unol â Datganiad Strategaeth Gyllideb y Comisiynwyr:

    Gostyngodd chwyddiant yn ystod 2011-12, gan ddiweddu’r flwyddyn yn is na 3%. Mae wedi gostwng ymhellach eleni. Awgrymodd rhagamcan Banc Lloegr ar gyfer mis Awst y byddai chwyddiant yn 2% yn ystod 2013-14. Mae rhagamcan Tachwedd yn dangos cyfradd ychydig yn uwch. Dylid hefyd nodi bod rhai ffactorau megis ynni wedi bod yn gyson uwch na chwyddiant cyffredinol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Rhoddwyd lwfans o 10% yn y gyllideb 2013-14 oherwydd bod ynni wedi cyhoeddi cylch newydd o gynnydd mewn prisiau. Bydd angen i hyn unwaith eto gael ei fonitro yn ofalus oherwydd ei gyfnewidioldeb a’i natur anrhagweladwy.

    2.1.3 Y prif newid o'r Datganiad Cyllideb yw gostyngiad yn y cynnydd a ragwelir ar

    gyfer cyflog am y flwyddyn o 3% i 1%, yn seiliedig ar y camau cychwynnol o’r trafodaethau cyflog a chymariaethau gydag awdurdodau eraill ledled Cymru a'r DU. Caiff hyn effaith sylweddol ar y strategaeth.

    2.1.4 Mae'r gyllideb ddisymud hefyd wedi caniatáu ar gyfer:

    Colli incwm Grant Penodol. Mae'r grantiau penodol a ychwanegwyd at y setliad RSG o £2.155m yn golygu colled incwm grant penodol o £2.149m o gyllidebau gwasanaethau. Mae'r grantiau unigol yn cael eu rhestru ym mharagraff 1.2.4. Codiadau Staff. Mae cynnydd cost o £514k o ganlyniad i gynnydd cynyddranol staff. Arbedion trosiant staff. Staff newydd yn dechrau ar waelod y raddfa o £350k. Blwydd-dal Cyflogwyr yn cynyddu. Amcangyfrifir y bydd cynnydd yn y cyfraddau blwydd-dal o 22% i 22.5% yn costio £145k yn ychwanegol y flwyddyn. Cynnydd mewn ariannu cyfalaf. Mae cynnydd net o £107m mewn costau oherwydd y lefel gynyddol gymeradwy o ddyled allanol.

    Cynhyrchu nwy Penhesgyn. Gostyngiad yn y gyllideb incwm o £45k oherwydd nad yw’r prosiect cynhyrchu trydan yn cynhyrchu gymaint dros ben ag y rhagwelwyd ym mhrosiect 2009-10 - er ei fod yn parhau i fod yn brosiect dichonadwy.

    2.1.5 Defnyddiwyd newidiadau demograffig cyfyngedig. Nid oes fawr o newid yn

    nifer y disgyblion ar gyfer y flwyddyn. Mae trafodaethau yn parhau gyda'r Gwasanaethau Cymdeithasol ar eu ffigyrau demograffig a galw ac mae'r rhain yn cael eu trafod fel pwysau yn ddiweddarach yn yr adroddiad.

    2.1.6 Mae'r gyllideb ddisymud yn tybio bod arbedion y flwyddyn gyfredol o dan y Rhaglen Blaenoriaethau Fforddiadwy yn cael eu cyflawni yn achos y prosiectau hynny sydd eisoes ar y gweill, ond gyda nifer fach o newidiadau i adlewyrchu newidiadau hysbys a llithriant. Mae'r arbedion tymor hwy, yn bennaf o fentrau cydweithio, wedi cael eu tynu ymaith, ond maent yn debygol o gael eu cynnwys yn y Strategaeth Effeithlonrwydd mewn blynyddoedd i ddod.

  • 6

    2.2 Risg ac Argyfyngau

    2.2.1 Mae nifer o risgiau allweddol y mae'r Awdurdod yn eu hwynebu yn 2013-14 a allai gael effaith ar ei gyllid wrth i’r flwyddyn fynd rhagddi. Ni all rhai o'r risgiau hyn gael eu mesur ar hyn o bryd, ac maent yn cynnwys ond nid yn gyfyngedig i:

    Lleoleiddio Cymorth Dreth Gyngor yw’r risg ariannol mwyaf arwyddocaol yn y blynyddoedd i ddod. Mae'r maes cyfnewidiol hwn yn anodd ei ragweld ac mae ansicrwydd ynghylch y lefel o gefnogaeth y dylid ei dyfarnu; y tebygolrwydd o gasglu (mae’r gyfradd gasglu ddisgwyliedig wedi gostwng o 1% y flwyddyn yma); a'r gost barhaus o gasglu ac adennill;

    Newidiadau mewn budd-daliadau o ganlyniad i ddiwygiadau budd-daliadau tai’r llywodraeth. O 1af Ionawr 2012 cyflwynwyd rheolau budd-daliadau newydd ac mae'r cynlluniau ar gyfer Credyd Cyffredinol yn mynd rhagddynt yn dda. Mae newidiadau hyd yma yn cynnwys capio swm y budd-daliadau y gall unigolion eu hawlio a bydd yn sicr yn golygu pwysau ar ein swyddogaethau budd-daliadau a thai; Dyfarniad Cyflog - Fel yr amlygwyd ym mharagraff 1.1.2, roedd y papur strategaeth gyllideb yn tybio y gallai dyfarniad cyflog ddigwydd yn 2013-14 a chydnabuwyd y gallai hyn fod rhwng 0-3%. Yng ngoleuni cyhoeddiadau mwy diweddar a chysylltu â sefydliadau eraill, mae hyn wedi cael ei ddiwygio i lawr i 1%, bydd hyn yn parhau i fod yn risg;

    Grantiau Penodol - Fel mae'r adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno, ar hyn o bryd ychydig iawn o wybodaeth fanwl ar ddyraniadau grant sydd ar gael ar gyfer 2013-14. Mae’r sefyllfa ddisymud ar hyn o bryd yn adlewyrchu rhai grantiau sydd ar lefel 2012-13. Bydd rhaid rheoli unrhyw ostyngiadau mewn lefelau grant yn 2013-14 trwy ostyngiadau cyfatebol mewn gwariant, sydd naill ai’n uniongyrchol gysylltiedig â'r grant neu mewn meysydd eraill o'r gyllideb. Mae'r cyllidebau incwm mewn perthynas â grantiau sydd wedi cael eu trosglwyddo i mewn fel rhan o'r setliad dros dro wedi cael eu tynnu allan o'r gyllideb, fodd bynnag mae hyn wedi cael effaith niwtral i raddau helaeth fel y crybwyllwyd yn adran 1.2 uchod;

    Cost Ymyrraeth - Erys ansicrwydd ynghylch costau’r ymyrraeth yn y dyfodol. Mae nifer y Comisiynwyr wedi gostwng o 5 i 3 ac maent wedi ymgymryd â rôl wahanol. Fodd bynnag, mae'r Pwyllgor Gwaith wedi ailafael mewn rheolaeth erbyn hyn ers 1 Hydref 2012 a bydd angen adeiladu i mewn effaith blwyddyn lawn i gyllideb 2013-14. Yn ogystal, yn dilyn adolygiad Estyn yn gynharach yn y flwyddyn, sefydlwyd Bwrdd Adfer er mwyn asesu’r gwelliannau wedi’u mesur yn erbyn cynllun gweithredu'r Cyngor. Mae'r costau hyn yn cael eu pennu ar hyn o bryd, a bydd angen eu cynnwys yng nghyllideb 2013-14. Bydd angen cymryd barn ar hyn cyn i’r gyllideb gael ei gosod;

    Cynhwyswyd gweithgareddau presennol mewn perthynas â'r orsaf ynni niwclear bosibl a'r Rhaglen Ynys Menter mewn cyllidebau blaenorol. Efallai y bydd angen eu diwygio o bryd i'w gilydd ac mae'r pwysau ar y cyllidebau yn cael eu hadolygu.

    2.2.2 Yn aml, mae'r ansicrwydd ynghylch cyllidebau arfaethedig yn bodoli oherwydd contractau mawr sydd allan i dendr. Mae hyn oherwydd na wyddys beth fydd y gwerth terfynol hyd nes bo’r ymarfer tendro wedi ei gwblhau. Dim ond nifer fach o gontractau mawr sydd angen eu hail dendro yn 2013-14 ac mae hyn yn lleihau’r ansicrwydd.

  • 7

    2.2.3 Mae'r gyllideb wrth gefn flynyddol ar gyfer Arfarnu Swyddi a Chostau Cyflogaeth bellach yn £900k, h.y. 2% o'r bil cyflog perthnasol. Dyma fu’r gyfradd am y 3 blynedd ariannol ddiwethaf. Mae hyn yn adlewyrchu penderfyniad yn 2010-11 i fwrw ymlaen ag adolygiad o weithwyr cyflogedig is, yn bennaf ar gyflog sbot. Mae mwy o waith wedi cael ei wneud yn awr ar Arfarnu Swyddi a hawliadau cyflog cyfartal posibl ac mae’r Panel Tâl a Graddfeydd wedi penderfynu bwrw ymlaen â'r Cyngor cyfan ar Arfarnu Swyddi, nid ar ran yn unig. Ffurfiwyd Cynllun Prosiect gydag amserlen ddisgwyliedig a bydd y gwaith yn dechrau'n fuan i adeiladu ar y gwaith sylfaenol a wnaed yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae hon yn risg ariannol allweddol, a fydd angen ei hadolygu’n barhaus wrth i'r broses Arfarnu Swyddi gael ei datblygu a chytuno ar fethodoleg. Mae'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn cynnwys £400k ychwanegol o 2013-14, a £400k pellach yn y flwyddyn ganlynol. Er bod cronfeydd wrth gefn wedi cael eu hadeiladu dros nifer o flynyddoedd, ni wyddys beth fydd canlyniad yr ymarfer hwn ar hyn o bryd ac o gofio profiadau amrywiol Awdurdodau eraill o fewn y DU, mae’n anodd ei asesu. Fodd bynnag, wrth adolygu cynlluniau a chostau eraill, mae'n debygol nad oes digon yn y gronfa wrth gefn ar hyn o bryd i’w weithredu yn llawn.

    2.2.4 Mae'r gronfa wrth gefn 'broses' yn cynnwys £500k ychwanegol sy'n cael ei

    ddal i gynnwys ansicrwydd wrth i'r broses o bennu'r gyllideb fynd rhagddi. Dylai fod yn bosibl cael gwared â phrif ran y gronfa wrth gefn hon yn ystod y camau nesaf o gylch y gyllideb. Nid oes angen cronfa wrth gefn gontract sylweddol, ond bydd angen cronfa wrth gefn gyffredinol i ddelio â digwyddiadau annisgwyl yn ystod y flwyddyn.

    2.2.5 Mae'r gyllideb hefyd yn cynnwys cronfa wrth gefn o £190k ar gyfer gwariant

    unwaith-ac-am-byth yn bennaf i gefnogi’r gweithgareddau perfformiad a gweithredu. Mae'r cyllidebau gwasanaeth yn tybio Grant Cytundeb Canlyniadau o £355k. Mae a wnelo'r ansicrwydd mwyaf â’r defnydd o gronfa wrth gefn i ariannu'r costau ymyrraeth a hefyd y posibilrwydd o gyfran yn cael ei dal yn ôl os nad yw'r canlyniadau y cytunwyd arnynt yn cael eu cyflawni.

    2.3 Bwlch Cyllidebol

    2.3.1 Argymhellir y dylai'r gyllideb ddisymud ddrafft gael ei mabwysiadu gan y

    Pwyllgor Gwaith fel sail ar gyfer cyllideb refeniw 2013-14.

    2.3.2 O ystyried y ffigyrau Setliad Dros Dro a thybio bod y Cyngor yn cynyddu'r Dreth Gyngor o 5%, byddai lleihad yn y sylfaen drethi o 0. 65% (fel y cymeradwywyd gan y Pwyllgor Gwaith), yn rhoi cyfanswm cynnydd refeniw’r dreth gyngor o 4.32%. Felly, y gofyniad cyfanswm cyllideb fforddiadwy yw:-

    £000

    Cyllid Crynswth Allanol Y Dreth Gyngor

    99,961 27,867 127,828

    2.3.3 Ystyrir y gyllideb ddisymud, h.y. y gyllideb cyn unrhyw dwf ychwanegol. Mae'r bwlch cyllidebol ar y sefyllfa ddisymud drafft gychwynnol yn £2.3 miliwn.

  • 8

    2.3.4 Roedd y Strategaeth Gyllideb yn cynnwys rhagolwg lefel uchaf yn dangos bwlch ariannu posibl o £4.3m ar gyfer 2013-14. Roedd hyn yn cynnwys rhagamcaniad twf o £0.7m y tu hwnt a thu draw i dwf demograffig a diogelwch i gyllidebau ysgolion. Mae'r sefyllfa ddisymud bellach yn £3.45m. Y prif newidiadau yw:

    gostyngiad yn y rhagdybiaeth ar gyfer y dyfarniad cyflog o 3% i 1% - llai cost o £1.4m;

    gostyngiad o £0.8m mewn arbedion tybiedig o drydedd flwyddyn y Rhaglen Blaenoriaethau Fforddiadwy;

    cynnydd mewn cyllid net allanol o £0.2m.

    3. STRATEGAETH Y GYLLIDEB

    3.1 Strategaeth Effeithlonrwydd

    Fel rhan o'r fframwaith cynllunio’r gyllideb a gwasanaethau, mae strategaeth effeithlonrwydd yn awr yn cael ei pharatoi, yn seiliedig ar adolygiadau Gwasanaeth Blynyddol ac wedi'i chynllunio i sicrhau arbedion effeithlonrwydd cynaliadwy dros oes y Cyngor newydd. Mae'r arbedion tymor canolig hyn yn debygol o gynnwys:

    Gwell defnydd o dechnoleg;

    Safoni systemau;

    Caffael a chomisiynu;

    Cydweithio a chanoli mewnol;

    Cydweithio;

    Gwell defnydd o asedau.

    3.2 Rhagamcanion Cyllidebol Diwygiedig o 2013-14 ymlaen

    3.2.1 Gan ystyried yr uchod, mae'r tabl canlynol yn dangos rhagamcan cyllidebol tair blynedd wedi’i ddiweddaru:-

    Cyllid ar gael:

    2012-13 2013-14 2014-15 2015-16

    £m £m £m £m

    Llywodraeth Cymru 92.3 100.0 100.7 100.7

    Y Dreth Gyngor 26.7 27.9 29.3 30.8

    Cyfanswm 119.0 127.9 130.0 131.5

    Cyllideb blaenorol 119.0 125.6 127.9 130.0

    Twf/ Chwyddiant cyllidebau ysgol 0.5 0.8 0.5 0.5

    Cynnydd cost net arall 1.9 1.3 2.6 2.6

    Newidiadau demograffic 0.3 0.6 0.5 0.5

    Cyllido Cyfalaf a Llog -0.1 0.1 0.1 0.1

    Cyllido benthyca digefnogaeth 0.1 0.2 0.4 0.4

    Adolygiad Tal a Graddio 0.0 0.4 0.4 0.0

    Buddsoddi mewn newid / diswyddo 0.0 1.5 0.0 0.0

    Pwysau n/a 1.3 isod isod

    Twf arall 1.3 n/a 0.7 0.7

    Arbedion Rh B Ff n/a -0.5 n/a n/a

    Bwlch Cyllido -3.7 -3.5 -3.1 -3.3

    Cyllideb 119.2 127.9 130.0 131.5

    Newid i'r sail 6.4

  • 9

    Mae'r ffigwr cyllido yn deillio o setliad dros dro LlC. Fodd bynnag, gallai hyn newid ymhellach gyda'r setliad terfynol a newidiadau data yn y dyfodol a'r amgylchedd economaidd presennol. Yn y tabl hwn, mae 2012-13 yn grynodeb o'r hyn a wnaed y flwyddyn honno ac mae 2013-14 wedi cael ei gymryd o’r ffigyrau cyllideb ddisymud ddiweddaraf fel yr amlinellwyd yn adran 2 uchod. Mae'r rhagamcanion am 2014-15 a 2015-16 wedi cael eu cymryd o'r rhai a gyflwynwyd yn y datganiad Strategaeth Gyllideb, wedi ei ddiweddaru â’r ffigyrau AEF diweddaraf o’r setliad terfynol. Mae'r rhagamcanion Dreth Gyngor yn rhagdybio cynnydd blynyddol mewn cynnyrch o 5%, er, yn ymarferol, gallai hyn gynnwys cynnydd yn y sylfaen drethi o 1% dyweder, a chynnydd yn y gyfradd Dreth Gyngor o 4% petai’r farchnad/sector dai yn cynyddu yn y dyfodol.

    3.2.2 Mae'r gofyniad arbedion wedi cael ei drin fel ffigwr cydbwyso yn y dadansoddiad hwn. Mae'n gyson â'r dadansoddiad lefel uchaf yn adroddiad strategaeth y Gyllideb a gyflwynwyd ym mis Gorffennaf, sef y bydd angen gwneud arbedion gwerth tua £144 miliwn dros y tair blynedd nesaf, er bod y ffigyrau wedi gostwng ychydig yn y rhagdybiaethau diwygiedig.

    3.3 Cynigion Arbedion

    3.3.1 Wrth gwrs, y mater pennaf yn y strategaeth gyllideb yw’r angen i wneud arbedion refeniw ar raddfa nas gwelwyd o'r blaen, nid yn unig ar gyfer 2013-14 ond ar gyfer y dyfodol rhagweladwy. Mae'r cynigion sydd wedi'u cyflwyno hyd yma gan gyfarwyddiaethau yn gymysgedd o Arbedion, Effeithlonrwydd a Lleihau Gwasanaethau.

    3.3.2 Roedd yr adroddiad i Fwrdd y Comisiynwyr ym mis Gorffennaf 2012 yn

    amlygu lefel yr arbedion sydd eu hangen i gydbwyso'r gyllideb. Os bydd Aelodau yn dewis diogelu addysg a gofal cymdeithasol yn unol â disgwyliadau Llywodraeth Cymru, yna bydd angen i'r Cyngor ddod o hyd i arbedion o leiaf 7% heb bwysau twf.

    3.3.3 Ni fydd y targedau arbedion o reidrwydd yn cael eu defnyddio mewn patrwm

    gwastad ar draws yr holl wasanaethau, ond byddant yn adlewyrchu’r dewisiadau a blaenoriaethau fel y nodir hwy gan y Pwyllgor Gwaith. Er mwyn hwyluso’r dewisiadau hynny, mae pob gwasanaeth ar hyn o bryd yn gweithio drwy gynigion ar gyfer 2013-14 a'r ddwy flynedd ddilynol i ailfodelu cyflenwad gwasanaethau yn unol ag amlen ariannol sy’n lleihau.

    3.3.4 Bydd canlyniad y trafodaethau hyn yn cael eu trafod mewn gweithdy i’r holl

    Aelodau ar 4ydd Rhagfyr ac yn cael eu mireinio ymhellach wrth baratoi ar gyfer ymgynghori ar gynigion.

    3.3.5 Nid yw'r cynigion arbedion sydd wedi'u cyflwyno hyd yma yn cynnwys unrhyw

    lwfans ar gyfer unrhyw ddiswyddiadau a ragwelir.

    3.3.6 Bydd y rhan fwyaf o'r cynigion arbedion sydd wedi eu cyflwyno hyd yn hyn yn anochel yn cael effaith ar ddarparu gwasanaeth i wahanol raddau, a bydd angen ystyried y rhain wrth benderfynu pa opsiynau i’w pecynnu.

    3.3.7 Bydd y cynigion yn dibynnu hefyd ar amcanion y Pwyllgor Gwaith. Mae’n bosibl na fydd pob un o'r cynigion sydd wedi eu cyflwyno yn cael eu gweithredu - mae rhai angen eu dilysu ymhellach, nid yw rhai yn newydd a bydd llawer yn cymryd amser i sicrhau arbedion. Mae'r Cyngor wrthi'n cynnal adolygiadau gwasanaeth ar draws y Cyngor ac, ar yr un pryd, yn datblygu strategaeth effeithlonrwydd er mwyn helpu i symud y Cyngor ymlaen o ran gwireddu'r targedau cyllideb dros y tair blynedd nesaf.

  • 10

    3.3.8 Yn anochel, bydd rhai o'r cynigion arbedion hyn yn cynnwys gostyngiad yn nifer y staff, a gellir cyrraedd rhai ohonynt drwy "wastraff naturiol". Mae'r cynigion arbedion ar hyn o bryd yn tybio blwyddyn gyfan o arbedion yng nghyswllt gostyngiad yn nifer staff. Mae perygl amseru sy'n gysylltiedig â'r rhain, yn yr ystyr os nad yw'r nifer staff wedi ei leihau ar 1af Ebrill, yna ni chyflawnir yr arbediad llawn. Mae hefyd yn debygol y bydd costau diswyddo staff yn gysylltiedig â gwneud arbedion. I’r diben hwn, bydd angen neilltuo arian wrth gefn pellach ar gyfer dileu swyddi ar raddfa debyg i'r hyn a gymeradwywyd yng nghyllideb 2012-13 h.y. £1m.

    3.3.9 Argymhellir:

    (a) y dylai'r Pwyllgor Gwaith geisio gwneud arbedion digonol yn 2013-14 i gydbwyso'r gyllideb refeniw heb ddefnyddio cronfeydd wrth gefn;

    (b) y dylai'r Pwyllgor Gwaith gynllunio i gynnwys costau diswyddo na ellir eu hosgoi neu gostau unwaith-ac-am-byth eraill i sicrhau arbedion heb ddefnyddio cronfeydd wrth gefn.

    3.3.10 Cyfalaf Y setliad dros dro ar gyfer 2013-14 a'r setliadau dangosol ar gyfer y ddwy flynedd ganlynol yw:

    Blwyddyn Ariannol

    Ffigyrau Ariannu Dangosol a setliad dros dro £'m

    2013 - 14 3.446 2014 - 15 2015 - 16

    3.446 Ffigwr dangosol heb ei ddarparu gan

    Lywodraeth Cymru

    Mae hwn yn ostyngiad o 15% ar y £4.050 miliwn sydd wedi'i ddyrannu. Gosodwyd cyllideb cyfalaf 2012-13 trwy dreiglo ymlaen y gyllideb o'r flwyddyn flaenorol a thrwy:

    Adolygu a diweddaru cyllidebau ar gyfer gwaith cynnal a chadw cyfalaf a / neu amnewid asedau sefydlog;

    Gynnwys newidiadau hysbys;

    Gynnwys grantiau newydd pan oeddynt yn hysbys;

    Ddefnyddio cyllid Cyfalaf Cyffredinol Llywodraeth Cymru ynghyd ag asesiad o'r derbyniadau cyfalaf sy'n debygol o fod ar gael;

    Adolygu a diwygio'r cronfeydd wrth gefn cyffredinol (y cronfeydd wrth gefn benthyca di-gefnogaeth a’r cronfeydd wrth gefn heb eu dyrannu) gyda chyllidebau newydd o £1m a £0.8m yn y drefn honno;

    Gynnwys y Cyfrif Refeniw Tai yn unol â’r cynllun 30 mlynedd a ddiwygiwyd ac a ddiweddarwyd.

    Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf bu nifer o brif raglenni yn cael eu hadolygu, roedd rhaglen cartrefi preswyl a'r rhaglen rhesymoli’r canolfannau hamdden angen cyfeiriad newydd ac roedd y polisi adnewyddu tai yn cael ei gwblhau. Mae hyn wedi golygu na chafodd cyllidebau cyfalaf cysylltiedig eu dyrannu ac nad ydynt wedi cael eu dyrannu.

  • 11

    3.3.11 Mae gwaith yn mynd rhagddo ar werthusiad opsiynau i nodi'r ateb priodol i anghenion buddsoddiad yr Awdurdod ar gyfer ei asedau. Mae hyn yn gysylltiedig â'r rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif; moderneiddio gofal cymdeithasol i oedolion; yn ogystal â rhannau allweddol eraill o ystâd yr Awdurdod. Hefyd bydd Strategaeth Buddsoddi Cyfalaf newydd yn cael ei pharatoi. Wrth i’r paratoadau hyn gael eu gwneud, y dull arfaethedig ar gyfer 2013-14 yw:

    I gwblhau'r prosiectau presennol;

    I ddefnyddio’r dyraniadau grant cyfalaf a benthyca â chefnogaeth sydd ar gael;

    I ddyrannu £1m mewn benthyca di-gefnogaeth ar gyfer mentrau gwario i arbed;

    Ystyried dyrannu cyllidebau ar gyfer uwchraddio ysgolion yr Awdurdod, a ariennir gan fenthyca di-gefnogaeth, ac i ategu’r rhaglen Ysgolion yr 21ain

    Ganrif.

    3.5 Cynigion a Phwysau Twf

    3.5.1 Roedd lwfans o £0.7 miliwn ar gyfer twf yn y rhagolwg lefel uchaf a gyflwynwyd yn strategaeth y Comisiynwyr a’r datganiad cyllideb ym mis Gorffennaf.

    3.5.2 Mae hyn bellach wedi cael ei adolygu a'i ddiweddaru a lwfans wedi'i wneud ar

    gyfer sawl pwysau, a'r rhai mwyaf arwyddocaol yw:

    Diwygio lles

    Ailsylfaenu cyllideb gofal maeth

    Diogelwch ar gyfer ysgolion (wedi’i ddangos ar wahân yn y rhagolwg)

    Cofrestru awtomatig ar gyfer cynlluniau pensiwn

    Cronfeydd wrth gefn diswyddo

    Cost newid - i fod yn sail i’r arbedion ac agenda moderneiddio

    3.5.3 Dylid hefyd nodi bod nifer o gynigion twf hefyd wedi cael eu cyflwyno. Mae cyfanswm y cynigion uchod yn dod i £2.1 miliwn. Bydd angen i'r rhain gael eu blaenoriaethu yn erbyn y cynigion arbedion sydd angen naill ai cymryd cynigion arbediad pellach neu i ddynodi cynigion arbed pellach.

    3.5.4 Yn seiliedig ar yr uchod, y bwlch diwygiedig yw £3.45 miliwn fel y dangosir yn yr atodiad. Mae rhai opsiynau ar ddarpariaeth ariannol a chyfraniadau i falansau a chronfeydd wrth gefn sydd angen ystyriaeth ofalus cyn gosod y gyllideb yn derfynol.

    4. CYLLIDEBAU YSGOLION

    4.1 Bydd cyllidebau dangosol yn cael eu rhoi i ysgolion yn ystod mis Rhagfyr 2012 cyn gynted ag y bydd setliad terfynol LlC yn cael ei gadarnhau. Mae'r setliad dros dro yn nodi’r lefel o amddiffyniad i gyllidebau ysgolion a bydd angen ei fodelu gan gymryd i ystyriaeth gontractau a newidiadau demograffig.

    4.2 Mae’r holl ragdybiaethau a ddefnyddiwyd gyda chyllideb ysgolion wedi bod yr un fath â chyfarwyddiaethau eraill o fewn yr Awdurdod. Yr eithriad i hyn yw nad yw'r Awdurdod, ar hyn o bryd, wedi gofyn am lefel arbedion penodol. Bydd y cais yn dibynnu ar y sefyllfa a blaenoriaethau cyffredinol yr Awdurdod. Dylid hefyd nodi bod yr holl argymhellion uchod ac ym mharagraff 7.3 yn berthnasol i gyllidebau ysgolion.

    4.3 Mae ymgynghoriadau pellach i’w cynnal gydag ysgolion, gan gynnwys y fforwm ysgolion, yn ystod y cyfnod ymgynghori.

  • 12

    5. MATERION I'W PENDERFYNU

    5.1 Nid yw cynnwys y Gyllideb wedi'i rhagnodi, ond mae ei hamserlen yn golygu fod angen cydweithrediad y Pwyllgor Gwaith, Sgriwtini a'r Cyngor llawn os yw i gael ei mabwysiadu ym mis Mawrth 2013.

    5.2 Mae gweithdy i bob Aelod wedi ei drefnu ar 4ydd Rhagfyr 2012 i fynd drwy'r opsiynau ar

    gyfer twf ac arbedion.

    5.3 Bydd y cynigion cychwynnol ar gyfer y gyllideb yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith ym mis Ionawr. Yn dilyn y cyfarfod hwnnw, dylai cwblhad y ddogfen ymgynghori ynghylch y strategaeth a materion cyllideb blynyddol ymdrin â gofynion y Cyfansoddiad ac ymgynghoriad cyhoeddus.

    5.4 Mae'r adroddiad hwn wedi argymell:-

    Y dylai'r gyllideb ddisymud ddrafft gael ei mabwysiadu gan y Pwyllgor Gwaith fel sail ar gyfer cyllideb refeniw 2013-14.

    Y dylai'r Pwyllgor Gwaith geisio gwneud arbedion digonol yn 2013-14 i gydbwyso'r gyllideb refeniw heb ddefnyddio cronfeydd wrth gefn;

    Y dylai'r Pwyllgor Gwaith gynllunio i gynnwys costau diswyddo na ellir eu hosgoi neu gostau unwaith-ac-am-byth eraill i sicrhau arbedion heb ddefnyddio cronfeydd wrth gefn.

    GILL LEWIS PENNAETH DROS DRO SWYDDOGAETH (ADNODDAU) A SWYDDOG ADRAN 151 26 TACHWEDD 2012

  • ATODIAD A - Crynodeb o'r gyllideb drafft a'r bwlch cyllido

    Cyllideb

    Disymud

    Adran Drafft

    £000

    Addysg Gydol Oes (yn cynnwys ysgolion) 47,485

    Gwasanaethau Cymunedol 31,883

    Datblygu Cynaliadwy 22,592

    Dirprwy Brif Weithredwr 8,316

    Costau Corfforaethol a Democrataidd 2,269

    Cymorth y Dreth Gyngor (cyfrifoldeb newydd) 4,468

    Ardollau 3,223

    Cyllido Cyfalaf a Llog 7,185

    Ad-daliadau CRT a'r ULlU 358-

    Blaenoriaethau Fforddiadwy (arbedion) 480-

    Cyfanswm 126,583

    Grant Cytundeb Canlyniad 545-

    Darpariaeth Gwella 190

    Darpariaeth Proses 500

    Darpariaeth Cyffredinol -

    Darpariaeth Arfarnu Swyddi 900

    Is Gyfanswm Cyllideb Disymud 127,628

    O'r Cynllun Tymor Canol:

    Darpariaeth Ychwanegol Arfarnu Swyddi 400

    Darpariaeth Ychwanegol Benthyca Digefnogaeth 200

    Pwysau:

    - Plant yr edrychir ar eu hol 600

    - Cofrestru Awtomatig 200

    - Diwygio Lles 200

    - Amddiffyn Ysgolion 500

    Darpariaeth Diswyddo 1,000

    Darpariaeth Cost Newid 500

    Cyfraniad i / o falansau -

    Cyfanswm cyn Arbedion 131,228

    Cyllido Trwy:

    Cyfanswm Cyllid Allanol 99,961

    Y Dreth Gyngor 27,867

    Cymorth Treth Dewisol 50-

    Cyfanswm Cyllideb 127,778

    Bwlch Cyllido 3,450

    Eitem_3_aEitem_3_atodiad_A